Obrazy na stronie
PDF
ePub

Rhoi iawnddwys hyder ynddaw,

A gorphwys ar ei lwys law.

Ni awn i gwsg mewn ennyd,
I farwol ryfeddol fyd.
Hyderwn ar gadwraeth

A gwiw nawdd y Duw a'n gwnaeth. 2020

O'n henaid, yn ein hannedd,
Gweddïwn, hunwn mewn hedd.
Yn isel penliniasant,

I ddifri' daer weddi 'r ânt.
Anwybodaeth caeth fu 'n cau
Dyfnion gŵynion eu genau.
Ingder ac annheilyngdod
Arnynt yn ddwys bwys fu'n bod.
Ond etto, drwy gofio 'n gu
Heddwch oedd heb ei haeddu,
Cariad y Tad attynt hwy,
A'i fyw ofal yn fwyfwy,
Ennynnodd hyn yn unawl
I Dduw mâd weddi a mawl:
Dad anwyl, deued inni
Yn ddilys d' ewyllys Di:
Gwrando ni; Ti yw ein Tad ;-
A dïau bu gwrandawiad.
I'w dau enaid yn dyner
Daeth cariad anwylfad Nêr:
Drwy gu Ior â'i drugaredd
Daeth cryfder, hyder, a hedd.

Dan nawdd Naf, y siccraf Sant,
Hynawsion yr hunasant

Is gwiwdeg lawn gysgodau,
Mewn hedd, o'r diwedd, eu dau.
Weithion y chwern Gethern gau,
Hell wynnias, ddaeth i'w lluniau
Eu hunain, o Seirph anwar
Torchawg, am anferthawg fâr.
Ys etto codawdd Satan
Ddu a dewr, i'w orsedd dân.
Ei hagr olwg drwg a drodd,
Cry' a ffraeth craff areithiodd:
Hyn allai'n Gelyn i gyd
I'n synnu ni dros ennyd.
Dangos yr achos ichwi
Weithian yn fuan wnaf fi.
Myfi'n yr un llun yn llwyr,
Eres sôn! drwy fawr synwyr,
A dwyllais, ddifethais fyd;
I'r Nef mae'n fawr iawn ofyd.
Er y tost drawsffurfiad hwn,
Ennill o hyd mae Annwn.
Trawsffurfier, newidier ni
Ganwaith am ein drygioni,
Etto gelynawl yttym,
A nerthawg, llidiawg a llym,
Yn dradewr mewn dirieidi,
Nid hir y newidir ni;
Wed'yn anghyfnewidiol
Deuwn ni'n ddiawliaid yn ôl.
Creu bydoedd fyrddiynoedd yw
Nwyflawn bleser y Nef-Lyw;

Creed a fynned, myfi

Ei fydoedd a wnaf wedi
Yn addas deyrnas i'r Diawl,
Yn boethwyllt dros byth bythawl.
Finnau a ryddhâf Annwn
O'r Carchar anhawddgar hwn
I dirion ehangderau

Meithion gànt, y meddiant mau.
Weithion chwi brif bennaethiaid
(Pennododd, henwodd ddu haid)
Canlynwch fi'n wisgi'n awr,
Yn dorf, o'r Llyngclyn dirfawr.
A mawr rym yn fflammau'r ânt,
Gwynnias Gedyrn esgynnant
I nèn ffurfafen Annwn

Ddu hell, gyda 'u Llywydd hwn.
Drwy'r dirgel wag-le helaeth
I'r crog ser sefydlog f' aeth.
Gyda'r uffernawl Gedyrn
Safodd, ymchwyddodd yn chwyrn.
Ei dduon gyfeillion fu

Tros ennyd yn taer synnu,
Wrth weled prydferth heulau
Pelydrawl â'u gwawl yn gwau,
A bydoedd laweroedd, lu

2040 Gwych iawn i'w hamgylchynu.
Medd ffyrnig ddieifl dig ar dân,
Wele olwg oleulan!

2060

O baem mal yn nechrau'n byd,
Unfodd y mwynhâem wynfyd,
Hir hedd, yn yr oror hon
A gwynlu y Nef geinlon,

Ennynnodd Satan wynnias,
Gynddeiriawg Lew cuchiawg cas:
Na sonier, na chofier chwaith,
Myn f' enw, am y Nef unwaith.
Ein tynged galed heb gêl,
Uthr ofid, drwy nerth rhyfel
A'n trodd, a'n taflodd i'r Tân,
I'r llidiawg Garchar llydan:
Os Nef yw'r byd hyfryd hwn,
Ninnau drown Nef
yn Annwn.
Dygwn Nerthoedd hedegawg
Annwn, nid arhoswn rhawg,
A thaniwn y faith wiwnef

A ffyrnig rym Uffern gref.

Hed gwynnias dân hyd geinwawr
Derfynau'r Nef olau fawr.

Hyfwaith mwy na hyn hefyd,

Mawr iawn, sy 'n berwi'n fy mryd.
Byr soniwn yn bresennawl
Am hyn, am fyd gwyn y Gwawl.
Mewn ceindda ddirgelfa gaeth
O'r dêg fawr Greadigaeth
Addien iawn y creodd Naf
Wr eiddil elwir Addaf;
A mirain hardd gymmares,
Efa wâr lon, i'w fawr les.
A ffraeth hiliogaeth liwgar
Y rhai'n, heb na bai na bâr,

2080

2100

2120

Olynol oedd i lenwi

Yn Nef ein gorseddau ni.
O hyd y daethum i hwn,
A denais ef hyd Annwn.
Yn hadlyd os cenhedlant,
Mal ninnau gwaeau a gânt:
Gwaeau byth yn dragywydd
I'w holl hil fil-fil a fydd.
Drwy drais er pan hudais hwn,
Ennynnawl yw tân Annwn
Yn ei fynwes, yn fywnerth,
Yn ein delw ni, Diawl â'i nerth.
Gweled eu hanferth g'wilydd
A'u gwg, am fawrddrwg, a fydd
Lawenach na goleuni
Llysoedd y Nefoedd i ni.
Eu trigfan sy'n gyfan gaeth
O'r olwg drwy ehelaeth
Feithder yr ehangder hwn
Heibio 'r ser ni brysurwn
At y seren droellwen draw,
Lawen, sy 'n eu goleuaw;
Ond haul y galwant hwy hi,
Olwynawg fawr oleuni.

Yn gras y Cedyrn â'u grym,
Dywedent, Parod ydym

I'th ddilyn a'th addoli,

Dilynwn hyd Annwn di.

Ymaith ehêd y Cedyrn

2140

2160

Fyrddwaith gynt na chorwynt chwyrn.
Heibio 'r ser hwy brysurant,
Ar ruthr at Sadwrn yr ânt;
Ar fyr dro heibio i'r haul
Terwyn, canolbwynt araul
Blanedau 'n eu cylchau certh;
I'r ryfedd ddaear wiwferth
Ar unwaith, heb ymrannu,
Y daeth y dorf ddilorf ddu.
Fe wylltiodd llu y felldith!
Nid gorfoledd, chwerwedd chwith
I'w hammhur fron, a mawr fraw
Yno rhawg fu 'n eu rhwygaw.

Adda a'i wraig, at Dduw Ri
Yr oeddynt hwy ar weddi;
Y ddau ar liniau ar lawr,
Yn fwynlon, yn nefolwawr.
Iawn afael ar y Nefoedd,
A'u Duw, gan eu henaid oedd.
Oh Dad! cariad, nid cerydd,
A ddaw o'th oreulaw rydd,
A ddaeth i'n helaeth fywhâu
O lwyr ing, o law 'r angau.
I'th waelion weision isel
Dy brid addewid a ddêl!
Hâd Efa 'n drech na'r Diafol
A weler, siger ei siol!
Teilwng gan ein Hâd dilyth
Siger, gorchfyger ef fyth!

Hell daer Sarph dwyllodrus iawn,
Na ddeled i'n meddyliawn

2180

Fyth weniaith ei haraith hi,
Gwilia drosom, Oh Geli!
Os rhed meddwl crwydredig,
Os cyfyd rhyw ddybryd ddig
Annymunol i'n mynwes,

Oh'n Harglwydd! einLlwydd a'n Lles,2200
A'th nawdd cynnorthwya ni,

A dawnus y boed inni
Ddymunol dda amynedd,
I feddu, heb haeddu, hedd.
Yn union, yn ennynnawl
Ddawn fwyn, trodd eu gweddi 'n fawl.
Eu gweddi ddifri' mor dda
Darfodd Satan a'i dyrfa.
Gwae ddifiawg! ni's goddefant
Fawl yr Holl-bresennawl Sant.

Y ddeuddyn oedd ddiweddar
Yn wirion, gyfion, a gwâr,
A budwyd o'u bro hoywdeg,
O'u hardd Baradwys-ardd dêg,
Yn awr, drwy'r cysurfawr SANT,
A gysson orchfygasant

Ddieif Annwn ddu afionydd

A gwaedd hoff iawn gweddi ffydd.
Ffyrnig anweledig lu

Hagr Annwn, dan fawr grynu,
A ffodd; mudanodd y Diawl
Uthr addig yn gythruddawl.
Ei ofer falchder a'i fost
A ddarfu, ei fawr ddewrfost.
C'wilydd llosgedig calon,
Braw du rhag i allu'r Ion
Dywallt allan fuan fwy
O lid annisgwyliadwy,

Ar unwaith a'i trywanodd

A chur mawr, tra chwerw'r modd.
Llygru gwaith Galluogrwydd
Anfeidrol (resynol swydd!)

A wnaeth; mae ofnau weithion
Dieithrawl i'w fradawl fron.
Rhodd orch'mynnion geirwon gànt
I'w ddiawliaid wneud a ddylant:
Yntau o'r Dyfnderau dig
A lawn ddygai fileinig
Fyrddiynoedd, torfoedd Annwn,
I ddryllio, tanio'r byd hwn

A rhifoedd y ser hefyd

Yn wreichion gwylltion i gyd.

Ennynfawr ddychryn anferth

A'i llanwodd, gw'anodd yn gerth.
Yn wyllt eirias follt taran
Ymaith â'r Diffaith ar dân
I'w Lyn dwfn â'i elyniaeth,
Mewn braw i ymguddiaw 'n gaeth.
Rhyw ddisgwyliad ofnadwy
Am haeddol farn farwol fwy
A rwygodd, a frydiodd fron
Euogwyllt Lew'r Llyn Eigion.

Tywysogion geirwon gwrdd,
Didaw buant yn dadwrdd:

2220

2240

[blocks in formation]

Yn Annwn, meddwn, un modd?
Yn llwyr fe ddichon ein llu
O'i ddewr swydd ddïorseddu
Yr anwar brif Arweinydd,
A rhoi holl Annwn yn rhydd.
Mae 'n bur wir, dir i bob Diawl
Ffyrnig ryddid uffernawl.
Myn Annwn, mynnwn ninnau
Yn ddewrion hyfion fwynhâu
Graddau coronawg ryddid
Mal Satan lydan ei lid.
Cyndyn yn erbyn y Nef
Yw'n hantur ni mal yntef.
Annedwydd gyndynrwydd dig
Ennynnawl, hyny 'n unig
Yn llu i'n cyssylltu sydd
Dan boenau duon beunydd.
Drom wae! mae agendor mawr,
Gwynnias, rh'om a'r Nef geinwawr;
Daethom o'i phur gymdeithas
I farwol drag'wyddol gås.
Os llwyddo 'n llawn a wnawn ni,
Fawrion, cawn ein clodfori
Yn enwog iawn yn Annwn
Am danio 'n hyf fyd cryf crwn.
Satan ei hunan, ei hyll
Orchwyl fethodd yn erchyll:
Uthr gynnig wnaeth ddrygioni;
Hynny'n gyflawn a wnawn ni.
Oherwydd fod aflwydd du
Y glân fydoedd yn glynu
Ar Addaf etto 'n wreiddiawl,
Ei ddistaw hudaw o'i hawl
A ddeuai drwy'r addewid,
Hyn dynnai'n llawn dân a llid
I lawr; rhoddai'r haul eirian
Y byd mawr dybryd ar dân.
Gwyliaw yr oedd pob gelyn,
Bob oriau, i gwblhau hyn.
Ond Adda ac Efa gaid
Yn unol, yn un enaid,
Mewn difrif weddi fuddiawl

Ar Nêr, ac mewn mwynder mawl.
Ymddiddanion mwynion, mâd
Oreuddoeth ymarweddiad
Y ddau anwyl ddïenwir
Oedd yn y Nefoedd yn wir.
Wrth goff hâu da radau'r Ion,
Yn glauar eu deigr gloywon
Filoedd heb rif a welid,
A'u calon oedd lon ddi lid.

Ffynnon ffydd ddihysbydd dda
A ddwyfawl nerthodd Efa.
Meddyliai y gwelai'r Gwr,
Ogoneddus gu Noddwr,
A rodd wir gysur iddi,
A'i nerthodd, bywhâodd hi,
Beunydd â'i wyneb anwyl
Yn craffu, dan wenu 'n ŵyl.
Efe y bore yn bêr,

Wiwdda Hâd, oedd ei hyder;
Drwy'r dydd yn Ddiddanydd, Ef
A fyddai hi'n gyfaddef;
Ei diammhur gydymmaith
Gyd â hi, gwedi ei gwaith
Yn yr hwyr, mewn tyner hedd
Fe welid i'w gorfoledd:

Hoff a gwiw argraph a gaid

O honaw yn ei henaid.

2320

Mewn braw câd Annwn draw drodd

Yn fyw addig, ni feiddiodd

Eu rhawd ganfod mawrhydi
Ei hwynebpryd hyfryd hi.

2340

Drwy fawr fendith i'w plith, plant
A lesol genhedlasant.
Plentyn bob blwyddyn i'w plaid,
2280 Hoenus, lonnodd eu henaid.
Yr hynaf, cyntaf, oedd Cain;
A mawrwych fachgen mirain,
Un serchog, bywiog dros ben,
Un chwimmwth iawn a chymmen,
Didaw yn siarad, ydoedd;
Llonni ei rïeni'r oedd.
Abel oedd eu hail obaith,
Un tyner â mwynder maith:
Un gwael iawn yn eu golwg;
Ni wnai'r gwan, druan, ddim drwg.
Mawrfaith eu gobaith o Gain,
Wych wrol fab a chywrain.
Hwy roddynt iddynt addysg
Boreuol, wir dduwiol ddysg.
Gweddïau, dagrau digron,
A'u mawl hyfrydawl o'r fron,
A fu yn argraphu gras
I lwyddo meddwl addas
Eu plant yn ffynniant y ffydd
2300 Drwy gu radau'r Gwaredydd.

Yn ddewrwych Cain oedd arab
Liwgar ymofyngar fab:
Ei dad a holai 'n ddi dawl,
Naws taer ond anystyriawl.
Abel, yn fab tawel têg,
Byw ydoedd, ar bob adeg,
I wrandaw, myfyriaw 'n fwyn
A gweddus, ar ddysg addwyn.
Gweddïau a dagrau 'i dad,
A'i loywlwys nefawl eiliad
O fawl i'r anfeidrawl FOD,
Hoff iawn fu 'r argraph hynod
Ar enaid llawn o rinwedd
Abel wâr mewn hawddgar hedd.

2360

Dewrder, gwrolder, a grym,

A golwg craff a gwiwlym,
Hyn oedd ffrost, mawrfost, a mawl
Yr eryr, Cain arwrawl.
Gorhoffder ei dyner dad
Oedd ef: Abel larieiddfad,
Wedd anwyl, fuchedd ddinam,
Oedd hoffder ei fwynber fam.
Un oedd yn canlyn Adda,

A than bwys llafur dwys da;
A difyr fugail defaid

Fu 'r llall, a mab call ei caid.
Wrth ystyried, gweled gwawr
Glaerferth y nef eglurfawr,
A'r ddaearen, werdd oror,
Mawrwaith yr Holl-berffaith Bôr,
Wrth ystyried haeled hedd
A gwiwras Tad trugaredd
I ddynion anhaeddiannawl,
O'i fron fe rodd fwynlon fawl.
Nefawl, santeiddiawl fu'r tân
Ennynnodd yn ei anian.
I ddiddanu'r teulu têg
Mor odiaeth, amryw adeg,
Cain wiwber fu cân Abel,
Felys a mwyn o flas mêl.
Yn ddistaw tra gwrandawant
Blethedig fiwsig ei fant,
Neu 'n gôr unant yn gywrain,
Pendrymmu, cysgu wnai Cain.
Ai byddar wyt? eb Adda;
Gwrando, deffro, fy mab da;
O Gain, gwrando ar geinwawd,
Ar fawl difrifawl dy frawd.

Cynnennu wnai Cain annoeth,
Trodd ei nattur yn bur boeth.
Mae'r prydydd drwy ffydd yn ffèl,
Yn ddibaid hawdd i Abel
Fugeilio, ac eilio gwawd,
Ei ddifyr ddïog ddefawd.
Myfi'n gweithio am fywyd,
Heb dâl, sy 'ch cynnal chwi i gyd.
Mae'n ddilys fod chwys a chân
Iesinwych o groes anian.
Mwyn hoywfawl minnau hefyd
Yn hawdd a ganwn o hyd,
Oni buasai bai 'n bod,
Wrth hanes, o warth hynod.

Adda fwyn ddwfn-riddfannodd, Ac i wylaw draw fe drodd.

Y ddau, er mwyn amlhâu hâd, Wŷr gwrawl, drwy fawr gariad, Duwiesau brïodasant,

Dwy chwaer gain gywrain a gânt.

Addaf i'w fab hynaf pur,
Hael ofeg, roes o'i lafur
Y parthau gorau i Gain,
Lliwdeg feusydd a llydain.
Abel yn dawel a da,
Gwelwyd ef yn bugeilia.

2380

2400

2420

Yn raddol y trigoliawn
Amlhasant mewn llwyddiant llawn.
Ond etto amryw dro drwg,
Celwydd, a llawer cilwg
Arwchwith, darddodd yn erchyll
O wraidd hagr eu llygredd hyll.
I ddofi eu cyni caeth,

Da oedd nefawl brydyddiaeth.
Gwir-ddiboen gerddi Abel,
Odlau mâd, fal diliau mêl,

A ddiferent ddifyrrwch

2440

Rhag chwerwder, mewn trymder trwch:
Pur oeddent, yn pereiddiaw
Digter, neu brudd-der a braw.
Cariad o anadliad Nef

A oedd ynddynt i'w addef.
Mewn adfyd, mewn hyfryd hedd,
Goreugoeth wŷr a gwragedd,
A'u plant, a ganant heb gêl
Dda wiwber gerddi Abel.
Diddanwch dyddiau einioes
Mewn prudd-der, dan lawer loes.
Ond Cain, drwy filain falais,
Pan glywai, fe lidiai 'i lais.
Uwch pob rhai fe fynnai fod
Ei hunan yn fwy hynod.
Cymmaint ei ddigofaint gau
I'w frawd, a'i ddrwg fwriadau,
Os unwaith ei enw sonid,
Yntau, dan lwythau o lid,
Ennynnwyd gan dân Annwn,
Ddirmygai, fe henwai hwn,
Mor ffèl, nid Abel un dydd,
Na brawd, ond, y mwyn brydydd!
Mewn rhagor nerth corphorawl
Ymchwyddai, fe fynnai fawl.
Yn aml fe fyddai'n ymladd
Ag arthod a llewod, lladd
Y rhai'n a wnai Cain o'u cŵr.
Yn gawr, yn enwog arwr,
Fe'n hyf a fynnai hefyd
Lwyr barch, a rheoli'r byd.
Gwâr olwg Abel gywrain
A gerid, ac ofnid Cain.
Anynad yn ei annedd,

O hyd, yn danllyd ei wedd,
Oedd Cain, a milain un modd
Hyd rynniau'r maes a driniodd.
Heb achos, rhyw fai bychan
A yrrai'r dig ŵr ar dân.

Ei blant ymwylltiant rhag mawr
Chwerw anferth swn dychrynfawr.
Ac eilwaith rhwng eu gilydd
Rhyw dost anghydfod drwy'r dydd.
Tymmer anfad heb rad ras

I weddi nid oedd addas.

Abel dawel a diwyd,

Yn ei annedd hedd o hyd
A welid, a'i anwylion

2460

2480

Hawddgar blant mewn llwyddiant llon.

Gwir grefydd beunydd oedd bêr,
Ffyddlondeb, undeb, iawnder
A hedd yn tarddu o hon,
Lawn culwydd, lenwai'u calon.
Hynaws dymmer eu henaid
Graslon yn gysson a gaid
I foli Celi 'n un côr,

Drwy ras, eu santaidd drysor.
Mawr oedd siampl ymarweddiad
Ragorol eu duwiol dad.

Myfyriai Cain am farwol
Dynged, am ddu weithred ddòl
Adda ac Efa, mor gerth
Eu hynfyd drosedd anferth!
Pa gur, pa lafur, pa loes
A chŵyn sy 'n nychu einioes?
Arw fyd! aneirif ydynt,
Erchylled fu'r golled gynt!
Abel, yn llawn o obaith
Di drai, fyfyriai am faith
Drugaredd ryfedd yr Ion
A'i ddaioni i ddynion.
Purder Cyfiawnder a fyn
Yn Nef ei chyflawn ofyn.
Anfeidrawl yw ei hawl hi;
A dyn, heb ddim daioni,
Ei heddychu ni ddichon,
Rhaid cwblhâu i foddhâu hon.
Duw drefnodd fodd i ddyn fyw,
Odiaeth a rhyfedd ydyw,
Deilwng ddyledus daliad
I burder Cyfiawnder fâd,
Holl rifoedd ei llwyr ofyn,

A'r Rhodd dêg yn rhyddhâu dyn.
Cariad, rhyfeddod fâd fawr,
Llawenydd pur a llonwawr
I'w eglur gysur, a gaid
Yn unawl yn ei enaid.
Y gwr da hawddgar a doeth

A ddysgai'i deulu 'n ddwysgoeth,
Mai buddiol resymmol swydd
Rhoi gwir-glod i'r gwiw Arglwydd.
Rhoddi ni's gallwn ni i Nêr;
O lawndid ei ffyddlonder,
A'i rwydd nawdd, Fe rydd i ni
Galon fywlon i'w foli.

2500

2520

2540

Dduw gwyn, mae 'n Holl-ddigonawl;
I'w Enw mâd nid yw ein mawl

Ni ddim, ond i ni mae'n dda;
Yn ddwys fe 'n cyfaddasa
I dderbyn, gan ofyn, nerth
O law Ion, gwir oleunerth.
Pob bendith, y gwlith a'r gwlaw,
Dda olud, geir o'i ddwylaw:
Pob swydd, pob eiddo lwydda
Dan ei ofal dyfal da.

Ffrwythau 'n meddyliau 'n ddilyth
A lwyddant, ni fethant fyth,
Dan ofal Duw y Nefoedd,

Pob perffaith ddawn gawn ar g'oedd.

[blocks in formation]
[ocr errors]

Cain, â golwg milain mawr,
A dewr allu 'n deryllwawr,
Yn guchiog hyll, erchyll iaith
A therrig, a wnaeth araith
Ddiflas, heb ras, heb reswm,
Mewn drygnaws, â llais traws trwm:
Pwy glywais i'n corddi cerdd,
Erwingoeg, anghywreingerdd,

Ym mrig y goedwig dan gêl,
A thebyg i waith Abel?
Myfi'ch rhybuddiaf chwi 'n chwyrn
I gyd, â'm geiriau 'n gedyrn;

Os un fydd mor ddisynwyr

O'm meibion llymmion, yn llwyr
Heb raid, â throi yn brydydd
Penwag, fe 'n folwag a fydd.
Beunydd aed i chwibanu
At adar lliwgar yn llu.

Nid ffraeth farddoniaeth a ddaw
A theilwng ŷd i'th ddwylaw.
Mae'n rhaid yn ddibaid i ddyn,
Dan awyr, rhag du newyn,
Lafurio a gweithio'n gerth,
Balu, dyrnu, mewn dewrnerth;
Rhaid i ni, mewn difri' da,
Ddioddef am drosedd Adda.

Yn ofalus, yn filain

Rhaid ceibio, dadwreiddio 'r drain
A'r ysgall, rhag goresgyn

Yn dryfrith dir gwenith gwŷn.
Y dyn wnel ddernyn yn dda
O'r ammhur ddaear yma
I ddwyn ydau 'n llwythau llon
Eu gwala i'r trigolion,
Mwy rheidiol, buddiol i'r byd,
Beunydd fydd ei gelfyddyd
Nag a gân wag ogoniant,
Gan ferwi ffol gerddi gant.
Cofier gennyd hefyd hyn,
Fab Adda, bara 'n burwyn
Ni phrofi, ni haeddi, heb
Ei dynnu drwy chwys d' wyneb.
Cofiwch gynghorion cu-fad,
Orchymmyn terwyn eich tad.

2580

2600

« PoprzedniaDalej »