Obrazy na stronie
PDF
ePub

hytrach na bwriadau. Dichon y byddai yr olwg hon ar weinyddiadau Rhagluniaeth tuag at breswylwyr y ddaear, fel gwrthrychau ymrysonfa fawr rhwng Duw a Diafol, yn foddion i daflu goleuni pwysig ar hanes dadblygiadau llywodraeth foesol. Haedda, efallai, fwy o le yn ein Duwinyddiaeth. Nid analledig nad esboniai ambell ddameg ddyrys sydd yn edrych yn dywyll iawn yn awr mewn cysylltiad â'r goruchwyliaethau boreuol, -goruchwyliaeth Moses, goruchwyliaeth Crist, a llywodraeth foesol Duw mewn cysylltiad â gweinidogaeth yr Ysbryd Glan dan yr oruchwyliaeth bresenol. I'n llygad ni nid yw holl hanes y byd o foreu ei gread hyd yr eiliad na bydd amser mwyach ond un darlun anferth o ymryson Duw a Satan am lywodraeth y ddaear ac addoliad ei thrigolion. Beth yw eilunaddoliad pob gwlad ac oes, os ca hamdden i ddisgyn i'w iselder-i ddyfnder ei ddyfnderoedd-ac i iselderau pellaf ei bwll diwaelod, ond addoliad i Ddiafol? Hwn yw yr olaf o'r grisiau duon. yw gwir awydd am adnabod Duw, ac am ymostyngiad i'r Bod anfeidrol, o ymgrymiad gwylaidd y pagan gerbron yr Ysbryd mawr,' hyd Ein cymdeithas ni," yr hon, yn wir sydd gyda'r Tâd, a chyda ei Fab Ef, Iesu Grist," ond addoliad i Dduw? Dyma rís uchaf duwiolfrydedd ar y ddaear,-"Dy adnabod ti, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist." Yr ydym, gan hyny, yn barnu fod Dafydd Ionawr yn gwneud yn iawn wrth ddarlunio pryder a malais Satan: ein cwyn yw ei fod yn gwneud hyny yn anamserol. hanes y byd ond hanes Satan a Duw ; eto ni ddylid eu gwysio i'r maes ar bob amgylchiad. Y mae gan y ddau eu hysbrydion gwasanaethgar, aml eu rhif a chadarn eu gallu.

[ocr errors]
[ocr errors]

Beth

Nid yw

A y caniad yn mlaen i ddarlunio breuddwydion mam Judas a mam Ioan Fedyddiwr; adroddir ymweliad dyhuddol yr angel â Joseph; trethiad y byd dan Augustus Cæsar; genedigaeth yr Iesu; hanes y bugeiliaid a'r doethion; cydgerdd yr angylion;-puredigaeth Mair; llawenydd Simeon ac Anna;-cynddaredd Satan drachefn, a'i araith wrth "Senedd lluaws Annwn" nes y rhont

"Dair bonllef grochgref gras,
Gan rwygo'r oror eirias:
Dibris gawriai'r llu dybryd
Yn erbyn Duw gwŷu i gyd:
Uffernawl greigiau ffyrnig
Ront anfad attebiad dig," &c.

"Pa riddfan, ebr Satan, sydd,
Erchyll, trwy'r gorwyllt geurydd?
Pa ddychryn anhydyn hyll,
A braw du drwy'r wybr dywyll?
Coeliaf dy ddyfod, Celi!

Dduw mawr! rhy ryfedd i mi!"

Wel, beth os daeth, a roddir yr ymgyrch i fyny? Na, mewn eiliad, dyma lam mor feiddiol ag a allasai anobaith Diafol ei anturio, neu athrylith dyn ei wisgo â geiriau :

"Gorwyllt dorf, nid gwiw aros
Ym mroydd annedwydd Nos;
Oferedd in' fyfyriaw
Ymochel; a ddel a ddaw.

"Yn awr torf Uffern fawr faith,
Rai anwar, oll ar unwaith,
O Dân aent ar adenydd,
Chwerw dorf, tua chaerau Dydd.
Uwch ben y troe'r Cadben cas,
Draig arwddig, mewn drwg urddas:
Rhifai, tra'r ehedai hwn,

Dorfoedd byddinoedd Annwn.”

"Rhag ystryw a chyrch cythrau! gwared ni Arglwydd daionus.' Ffrwyth cyntaf yr anturiaeth ddychrynadwy hon ydoedd cyflafan plant Bethlehem. Ond yr oedd y mab bychan a'i rieni yn llechu yn yr Aipht, hyd onid aeth yr aflwydd heibio. Yna dychwelir i Nazareth; a phan yn ddeuddeg oed, achosodd Iesu ddychryn mawr i Satan drachefn drwy ymddyddan â'r doctoriaid yn y deml. Gellid meddwl oddiwrth y darluniad a roddir gan y bardd mai yn awr y dechreuodd meddiant cythreulig gymeryd lle, a bod Satan wedi cael cenad neillduol i boenydio plant dynion drwy gyfrwng y cythreuliaid. Ŏ hyn arweinir ni at Ioan Fedyddiwr, a bedydd Crist. Canfu Satan ei fedydd, ac ail enyna ei gynddaredd. Ar ol rhoddi cyfarwyddiadau i'w ddilynwyr, y mae yn dilyn yr Iesu i'r anialwch, ac y mae awr y brofedigaeth yn dechreu. Yno ymesyd y gelyn ar y Gwaredwr yn gymhwys ar yr un tir ag yr ymosododd ar ein cynriaint, ond fod yr amgylchiadau yn wahanol. Dichon, yn wir, y dylem ystyried y brofedigaeth gyntaf yn eithriad, gan iddo gael allan, drwy holi Efa, yr hyn a ymdrechodd ddeall drwy brofi Mab y dyn. Ei amcan oedd deall y tir mwyaf manteisiol i ymosod arnynt. Sail y brofedigaeth, ac elfenau ei chyfansoddiad yn y ddau amgylchiad oedd hunangarwch. Ond yr amcan cyntaf gydag Efa oedd deall eangder ei rhyddid, -gyda Christ, deall dwyfolder ei allu. Gan iddo aflwyddo drwy gymysgu cywreinrwydd a hunangarwch yn ei ymosodiad cyntaf ar y Gwaredwr, rhoddodd brawf arno ar dir arall. Apeliodd at ofn, un o'r teimiadau grymusaf yn y fynwes ddynol. Beth am osod yr Iesu ar ben pinacl y deml i sangu megys ar ddim? Oni syrthia yn ddiddadl i ddwylaw yr archelyn mewn eiliad mor ofnadwy beryglus? Na, dyna brofedigaeth o ddangos gallu wedi methu, ac ofn wedi methu, ac nid oes bellach yn aros ond esmwythgarwch, hunangariad, a hunanarbediad-y teimladau grymusaf yn nghalon dyn. Cynygiodd y temtiwr holl deyrnasoedd y byd yn eu holl fawredd a'u holl ogoniant, os syrthiai i lawr a'i addoli ef. Hawdd y gallasai wneud y cynyg hwn yn eithaf diragrith, oblegid yr oedd eu llywyddiaeth foesol yn ei law, a buasai y rhodd yn ychwanegu un at ei ddeiliaid, a hwnw yn un mwy pwysig na hwynt oll. Ond trodd y cyfan yn fethiant; nid oedd yr un argraff yn cael ei gwneud ar feddwl yr Iesu. Gorfu i'r gelyn ymadael, a daeth angelion a gweiniasant i'r Gwar

edwr. Ar ol canu mawl i Orchfygwr Satan, y mae yr angelion yn esgyn at "lu'r Nef lân," a'r lesu yn dychwelyd at ei swydd bwysig. Ac yma y terfyna y chweched ran.

Cenfydd y darllenwyr na ddilynasom y bardd yn ei amseriad o brofedigaethau Crist. Dilynasom Matthew; a lled debyg fod Dafydd Ionawr wedi cyfnewid y ddwy brofedigaeth olaf, fel y darfu Milton o'i flaen. Gan y cawn son eto am wreiddioldeb Cywydd y Drindod, ni ychwanegwn ar hyn yn bresenol.

Y Seithfed Ran.

Nid ydyw y caniad hwn yn yr argraffiad presenol ond deuddeg llinell yn hwy nag ydoedd yn y cyntaf. Rhifedi y llinellau ydyw 1072. Y mae amryw fân gyfnewidiadau geiriol wedi eu gwneud yn hwn fel y caniadau eraill, ond nid oes yma ddim o bwys wedi ei ychwanegu. Yn y caniad hwn brasddarlunir gweinidogaeth Crist o'i dechreuad hyd holiad y Gwaredwr gerbron Pilat. Y prif amgylchiadau a nodir ydynt,-galwad y pedwar dysgybl,-y briodas yn Cana,troi y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml,-iachau y cleifion,-pregethu yn Galilea,-y bregeth ar y mynydd, dewisiad y deuddeg dysgybl,-gostegiad y dymhestl,-y Gadareniaid,-darluniad pellach o iachâd y cleifion, a gwyrthiau eraill,-porthi y torfeydd â'r pum torth a'r ddau bysgodyn,-y bobl am ei wneud yn frenin,-Crist yn rhoddi addysg am natur ei deyrnas,-Satan yn ymgynddeiriogi yn ei erbyn,-y gweddnewidiad ar fynydd Tabor,-yr Iesu yn rhagddywedyd ei farwolaeth a dinystr Jerusalem,yn marchogaeth i'r ddinas,-Satan yn ymgynhyrfu, a'i elynion yn ymgynghreirio yn ei erbyn,-y cytundeb a Judas,bwyta y pasg, a sefydliad y swper santaidd,-ymddyddanion â'r dysgyblion, -yr ing yn ngardd Gethsemane,-cymeryd yr Iesu yn garcharor,-ei arwain i lys Annas, y dygwyddiadau yno,-Pedr yn gwadu ei Arglwydd,-ymgynulliad y Ilys i holi yr lesu,-eu parodrwydd i'w gyhoeddi yn euog, a

"Suddas, ar ol troseddu,

Mewn garw boen, mewn gwewyr bu."

O ran ei nodwedd barddonol, cynwys y rhan hon fwy o hanes nag o ddysgrifiad. Eto y mae ynddi rai darluniadau nodedig o dyner ac effeithiol. Onid oes dyfnder teimlad yn y llinellau canlynol?

"Ior hael, edrychodd, ar hyn,
Ar olwg ei chwerw elyn:
Iesu Grist yn drist a drodd,
Duw Fodur, du ofidiodd;
Un o honoch wna heno,
Ddrygionus druenns dro,
A dichell fy mradychu
I'm chwerwon elynion lu."

Gellir cymeryd y llinellau o 647-920 fel profion o wirionedd y sylw blaenorol.

Yr Wythfed Ran.

Hyd y rhan hon yw 1110 o linellau, a'i thestun ydyw hanes Crist o'i ddygiad i lys Annas hyd ei esgyniad gogoneddus i'r Nef. Darlunia y bardd anfoniad y Gwarbron Pilat,-ymddygiadau y rhaglaw, edwr i lys Herod,-ei ddychweliad ger "cynnwrf, a thwrf, a therfysg" y dyrfa, -y collfarniad,-y croeshoeliad,-yr holl amgylchiadau arswydus cydfynedol âg ef, y claddedigaeth,-angel yn ymddangos i gysuro y bardd, ac yn adrodd iddo dan lâs balmwydden Iwyswawr," yr holl wyrthiau nerthol a gymerasant le ar farwolaeth y Cyfryngwr. Meddyliem fod y bardd yn y fan hon yn dangos llawer o ffredin, ac, yn wir, mewn pob amgylchwir fawredd. Mewn amgylchiadau cyiad hyd yn hyn, yr oedd ei awen yn ddigon iddo, a'i ddeheulaw ei hun yn ei achub. Ond yn awr yr oedd wedi ymddyrysu mewn galar a syndod a dychryn o herwydd marwolaeth ei Arglwydd. Ond rhag i'w antur fethu, y mae angel yn ymddangos, ac yn ei nerthu ef. Ystyriwn adroddiad yr angel yn un o'r darnau rhagoraf yn yr holl gyfrol o ran bywiogrwydd dysgrifiadau, a gallu darluniadol. Ceir ef yn llin. 551-724; y mae yn rhy faith i'w ddyfynu; rhaid i ni, gan hyny, ei adael heb wneud dim ond cyfeirio at rai o'r llinellau cryfaf o'i fewn; megys ymrwygiad y creigiau

"Y creigiau drwy barthau'r byd,
Yn ei gur, wnaen' egoryd."

Y bydoedd wybrenol:

"Crynodd caerau y wiwnef,
A'r ser yn uchder y nef,
Pan godwyd Ef ar gref grog,
Wareiddiaf Ior mawreddog," &c.

Yna rhoddir dysgrifiad grymus nodedig o ddychryn a ffoad Satan, a drylliad y "dirfawr gylch" uwchben "ffurfafen fawr " y llyn uffernol, (gwel t. d. 147, 11. 633-66.)-yr effeithiau canlynol, (11. 681-88,) Ar ol cyrhaedd o Satan a'i ddilynwyr i gartref y cynhwrf dychrynllyd a ddysgrifiwyd, cawn y darluniad uffernol o honynt yno a geir o 11. 699-726. Mae yr holl ddernyn yn rymus a barddonol dros ben. Ond buasai yn well genym ni amserau braw a "gwyniesol " ing y cythreuliaid ar adgyfodiad Crist, yn hytrach nag ar ei farwolaeth. Ein rheswm am hyny yw, mai yr adgyfodiad oedd yr amlygiad cyhoeddus o gwblhad ei waith. Hyd hyny, gan fod y Cadarn yn y bedd, mwy naturiol ydyw darlunio Satan a'i luoedd yn mwynhau eu buddugoliaeth.

Wedi canu yn iach i'w athraw angylaidd, â y bardd yn mlaen i ddarlunio yr amgylchiadau blaenorol i'r adgyfodiad,y gwragedd a'r dysgyblion yn myned at y bedd,-y saint yn ymddangos yn y ddinas, y gwylwyr yn myned i'r ddinas, -ymddangosiad yr Iesu i Mair,-ymgynulliad yr henuriaid, a'u cytundeb â'r gwylwyr,-yr Iesu yn ymddangos ar yr

36

ATHRYLITH A GWEITHIAU

wythfed dydd, ac yn argyhoeddi Thomas, -addysg y Gwaredwr i'w ddysgyblion,a'i esgyniad i'r Nef. Terfynir y caniad â diolchgarwch y bardd am esgyniad ei Arglwydd i wynfyd.

Y Nawfed Ran.

Yr ydym wedi dilyn y bardd i ddiwedd yr ail ran o gynllun Cywydd y Drindod. Y mae wedi darlunio goruchwyliaethau y Tad a'r Mab, ac y mae yn awr ar droi i dalu ei warogaeth i'r Ysbryd Glan. Ond nid ymddengys iddo gael llawer o hwyl ar y gwaith, gan nad oes ond rhan fechan o'r nawfed ganiad wedi ei gyflwyno i'w weithrediadau. Yn yr argraffiad cyntaf hyd y caniad hwn oedd 708 o linellau; yn y presenol mae wedi ymestyn i 762. Gellid meddwl oddiwrth ei nodwedd nad oedd yr awdwr ar y telerau goreu â rhai boneddigion pan oedd yn ei gyfansoddi. Y mae yn lled debyg o ran ei arddull i rai darnau yn Nghywydd y Mil Blynyddau. Yr athrawiaeth dduwinyddol a geir yn y rhan hon, ac yn wir drwy holl weithiau yr awdwr, ydyw Calfiniaeth, fel ei heglurir yn erthyglau Eglwys Loegr. Nid yw yn debyg fod un blaid yn Ngogledd Cymru yn ei amser ef yn credu yn wahanol. Yr oedd Ariaeth os nad Sociniaeth yn lled gyffredin o amgylch Caerfyrddin, lle y cyfansoddodd y bardd y rhan fwyaf o'r Cywydd, yr hyn a esbonia y llymder â'r hwn yr ymesyd ar y cyfryw athrawiaethau. Lled debyg hefyd fod amryw Offeiriaid yn esbonio yr erthyglau mewn dull Arminaidd, ond yr oedd Dafydd Ionawr yn meddwl mor isel am danynt hwy o ran eu hymarweddiadau, fel nad oedd yn gofalu llawer pa beth a ddywedent. Nid oedd yr ychydig wreichion Socinaidd a welwyd ar ol hyny yn Nolgellau wedi eu taro hyd yma o'r graig gallestr, a phan y daethant allan, yr oedd yn gryn gyfaill i ddau o'r frawdoliaeth, oblegid eu bod yn ddynion call a gwybodus, er hyny fflangella Sociniaeth ac Anffyddiaeth yn ddidrugaredd. Y mae ei wawdiaeth yn llem a miniog. Tywallta hefyd phiolau ei lid ar gyfundrefn athronyddol yr Esgob Berkeley. Dengys y caniad hwn ei fod yn talu sylw i arwydd ion yr amserau, a'i fod fel prophwyd a gwyliedydd ffyddlon yn rhybuddio y wlad rhag dyfod y cleddyf arni. Gwneir y rhanau cyntaf o'r caniad yma i fyny âg anerchiad y bardd i'w ddarllenwyr, yn yr hwn y diffyna ei hun a'i brydyddiaeth grefyddol, ac yr ergydia drachefn ar bagangerddi,"-darluniad o ddydd y Pentecost,-dinystr Jerusalem,-cyfyngder mamau yn ystod y gwarchae,-llosgiad y deml, llwyddiant gweinidogaeth yr apostolion, erledigaethau y Cristionogion, a'u tawel ddyoddefaint hwythau. Yr olwg ar hyn a arweinia yr awdwr i alaru uwchben ei oes ei hunan, (gwel o 11. 305-40.) Ar ol gosod y troseddwyr hyn mewn digofaint eir yn mlaen at y rhieni a fagant eu plant yn offeiriaid,esgobion cybyddlyd;-yna cynghorir yr ieuainc i ochel twyll pechod, ac i

ymgysegru i Dduw. Wedi hyn ymosoda y bardd yn ddiymarbed ar y Sociniaid, yr Anffyddwyr, a'r "awdwyr difoes" hyny a ddywedant nad oes

("Oh ddyrys ryfedd araith!)
Na chorph, nag enaid ychwaith,
Na môr maith, na daear laith las,
Na hoyw loer, na haul eirias.
Ban'd eres y mawrles maith

A geir yn eu rhagorwaith!"

Yr oedd y fath wadiad o fodolaeth defnydd yn annyoddefol i deimladau y bardd. Nis gallai meddwl creadigol edrych ar y fath ddinystr trwyadl ar holl elfenau y byd naturiol. Yn eithafion ei

ddirmyg, dynesa at y boneddigion diddefnydd dan sylw, gan eu hanerch yn yr iaith dosturiol a geir o ll. 511-552. Wrth ddarllen y dernyn crybwylledig, bron na adgofir ni o wawdiaith ddidrugaredd Awdl yr Adebau, cynyrch awen ffrewyllog yr hyglod DEWI WYN.

Y gweddill o'r caniad a gynwys fyfyrdodau yr awdwr ar ddrwg pechod,prydferthwch rhinwedd,-cariad y Gwaredwr, a chydweddiad y greadigaeth a threfn iachawdwriaeth. Gwelir oddiwrth y brasluniad uchod mai ychydig a ddywedodd y bardd am "ddoniau a grasusau yr Ysbryd Glan" yn ol ei addewid yn nechreu y llyfr. Meddyliem nad oedd gan bwnc mor arddansoddol lawer o swynion i'w feddwl. Yr oedd yn credu yn nylanwadau yr Ysbryd Glan fel Cristion ffyddiog, ac ymfoddlonai ar hyny.

Y Ddegfed Ran.

am

Y rhan hon a'n dwg i derfyn Cywydd y Drindod, a chynwysir hi mewn 782 o linellau; y nifer yn yr argraffiad cyntaf oedd 704. Dechreua y bardd drwy fynegu ei hyder am attaliad y gaethfasnach, a'i lawenydd wrth weled y Groegiaid yn ymdrechu am eu rhyddid, a chyferbyna eu serch hwy at eu gwlad i serch yr "hen dadau dedwydd" "deyrnas a dinas Duw." Yna y mae yn blino ar y byd, ac yn dymuno dianc o hono. Ar hyn esgyna i'r Nef, er nas gwyddom yn iawn i ba ddyben, gan ei fod yn dychwelyd oddiyno yn fuan. Tra yn y wlad ddedwydd, cymer olwg ar ei hëangder, ei gogoniant, a dedwyddwch ei phreswylwyr. Wedi offrymu teyrnged o fawl i'r Gwaredwr, y mae yn dychwelyd i'r ddaear gyda diolchgarwch am ei hir arbediad er ei anmherffeithderau.

Wedi hyn y mae yn casglu ei holl nerth i ddarlunio dydd y Farn. Testun anhawdd ei drafod ydyw hwn, ond nid oedd ei anhawsder yn ddigon i luddias Dafydd Ionawr rhag ymaflyd ynddo. Dywedir i Milton orphen "Adfeddiant Gwynfa" gyda themtiad Crist, am nad oedd yn chwenych darlunio golygfa mor ofnadwy â marwolaeth y Cyfryngwr. Anturiodd Dafydd Ionawr y dychryn feydd arswydus. Prin y llwyddodd, ond gydag adroddiad yr angel, er fod hwnw yn rhoddi golwg annaturiol (o herwydd ei bod mor sylweddaidd) ar fodau

Wele ni yn awr yn gorphen ein_brasddarluniad o Gywydd y Drindod. Ystyriwn ein bod bellach wedi cael golwg led gyflawn ar Dafydd Ionawr, ac ar y gwaith a drosglwydda ei enw i oesoedd dyfodol. Adwaenir ef fel bardd y "Drindod." Hwn oedd gorchestwaith anfarwol ei fywyd. Hwn yw môr ei athrylith, i ba un y rhed ei holl weithiau eraill fel afonydd adgyflenwol. Byddwn yn meddwl weithiau y dylasai doddi ei_holl weithiau, a gwneud un Cywydd y Drindod o honynt. Nid ydynt oll ond cydganiadau a berthynant i'r testun mawr. Nid yw ei "Farddoniaeth Gristionogawl" ond ychwanegiadau eglur at y Cywydd yn ei ffurf gyntefig, yn y dull canlynol:-At y Rhan I. ychwanegir, Cy--Ymddyddanion hwyrol Adda ac Efa yn Mharadwys, 150 o linellau; Ymddyddanion boreuol Adda ac Efa yn Mharadwys, 172. At Rhan IV. ychwanegwyd,-Cân gyntaf, ac ail gân Moses, 348; Araith ddiweddaf Moses, 492; Marwolaeth Moses, 588; Buddugoliaethau Josuah, 1000; Buddugoliaeth Samuel, 440; Cywydd Dafydd a Goliath, 1034. At hanes Crist yn Rhan VI. ychwanegwyd,-Iesu o Nazareth, 1092. At Rhan VIII. ychwanegwyd,-Cywydd ar Dderchafael y Messia, 424. Nid ydyw Cywydd y Diluw a Chywydd Joseph, ond helaethiad o Ran III. neu Ranau yr II. a'r III. o'r argraffiad cyntaf; na Chywydd y Mil Blynyddau ond ychwanegiad at Rhan IX. o Gywydd y Drindod. Fel hyn gwelir fod y bardd wedi codi Gwyddfa auferth ei maint a gwerthfawr ei defnyddiau i'w Iachawdwr. Cynwysa

ysbrydol. Gwnaethom ninau gynyg yn ddiweddar i ddarlunio "Brwydr y Groes," ond meddyliwn wedi y cyfan mai y dysgrifiad gorau o ingoedd dirdynol Mab y dyn yw dystawrwydd. Efallai hefyd y gellir dweyd yr un peth am y Farn. Mae y testun mor ogoneddus yn ei natur, mor ddychrynllyd yn ei olygfeydd, mor luosog yn ei weithrediadau, mor ddisymwth a tharawiad-amrantol, ac mor ofnadwy yn ei ganlyniadau, fel mai prin y gall darfelydd wneud mwy na ledu ei adenydd o dân, a marw yn ei ymgodiad cyntaf er eu darlunio. Mae y Bibl wedi taflu ei ffugyrau melltenawg fel darlunleni symudol o'r olygfa, ond ni's gallwn ddwyn tân o'r nefoedd heb gymysgu gormod o elfenau daearol âg ef. Yr ydym yn teimlo hyn wrth ddarllen wydd Goronwy Owen, ac ni's gallwn ymryddhau oddiwrth yr un teimlad pan yn edrych ar ddysgrifiadau Dafydd Ionawr. Yr ydym yn meddwl y cadarnha ei gyflead o'r golygfeydd o ran amser eu dygwyddiad yr hyn y cyfeiriwn ato. Rhestra amseryddiaeth y Farn, os goddefir yr ymadrodd, fel y canlyn,-Agoriad y nef fel mellten-Duad yr haul-Diwedd amser-Caniad yr udgorn-Adgyfodiad y meirw-Gorfoledd yr angylion-Gwysiad y cythreuliaid-Eangder a gogoniant y Llys-Lleoedd cyferbyniol y gwyddfodolion-Gwynfyd y cyfiawnion-Dychryn yr annuwiolion-Dinystr y ddaear-Dyfodiad y Barnwr-Y cyfiawnion a'r annghyfiawnion drachefn-Dystawrwydd yn dyfod o wyddfod y Barnwr-Y cyfiawn a'r anghyfiawn-Agoriad y llyfrau-Y didoliad-Barn a llawenydd y saint, a'r nefoedd yn cydganu gyda hwy-Dychryn yr annuwiolion-Gosteg-Barnu yr annuwiolion-Eu dymchweliad i uffernLlawenydd yr angylion-Rhoddiad y deyrnas i Dduw a'r Tad.

Ymddengys i ni fod y rhesiad uchod braidd yn debyg i waith dyn mewn niwl. Onid yw diwedd amser yn rhy fuan? Meddyliem y buasai yn fwy priodol yn rhywle tua dinystr y ddaear. Hefyd, dinystrir y ddaear cyn dyfodiad y Barnwr, yr hyn a ymddengys yn gamamseriad.

Tra mynychir dysgrifiadau o'r un cyflyrau neu deimladau, yn enwedig llawenydd y cyfiawnion a dychryn yr annuwiolion. Nid ydym yn nodi y pethau hyn er diraddio y bardd, ond er mwyn dangos fod rhwystrau o'r bron anorfod ar ffordd athrylith ddynol i ymwneud â'r fath destun. Gwnaeth Dafydd Ionawr gymaint âg a allai ef, ac efallai yn agos gymaint âg a allai dyn anysbrydoledig; er hyn oll yr ydym yn gorfod troi ymaith o dan y teimlad dwysaf o wirionedd y mynegiad ysbrydoledig, "Y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy: oes; ond gwnaeth hen fardd Dolgellau ei orau i'w ddysgrifio, a phery ei ddarlun yn gofiedig tra pery Cader Idris i ddal hèr f'r tymhestloedd, a thra y pery Abermawddach i oferymdrechu llanw y môr i'r hwn yr ymdywallta. (Gwel 11. 459482.)

[ocr errors]
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

1821, pan oedd yr awdwr wedi cyrhaedd ei ddeg mlwydd a thriugain oed. Bernir fod y Cywydd hwn, fel y crybwyllasom yn flaenorol, y rhagoraf o weithiau yr awdwr. Efallai fod ei fyrder yn un achos o'r farn ffafriol hon. Ond yn annibynol ar hyd a llêd, y mae yn waith o'r teilyngdod uwchaf. Nid oes eisiau dadchwiliad eang o hono, am ei fod mor fyr a darllenadwy. "Nerthol anfarwol fawrwaith" ydyw yn ddiau, ac nid ydym yn synu fod sicrwydd o anfarwoldeb ei weithiau wedi dyfod yn gred led sefydlog yn meddwl y bardd. Ystyriai hwn ar y pryd fel ei dystiolaeth olaf dros y "Drindod," a'i ymosodiad olaf ar bechod a llygredigaeth. Yr oedd ynddo lawer o ysbryd Mohamet, a gallasaí ddywedyd ar ol y dyn rhyfeddol hwnw, "Yr Arglwydd sydd Dduw, a Dafydd Ionawr yw ei brophwyd." oedd ynddo y cydymdeimlad lleiaf â llygredigaeth, ac efallai mai cryn drugaredd i'r byd oedd mai bardd ac nid Duw y Diluw ydoedd. Ond diau fod llymder ymddangosiadol ei deimladau yn effaith ei awydd i weled dynion yn dianc o afaelion pechod, yr achos o bob drwg a thrueni. I'r dyben hwnw darluniai holl elynion y Duwdod yn cael eu goddiweddyd gan gosb ofnadwy ac echryslon. Gyda yr un bwriad y tywalltodd allan fel ffrydlif olaf ei enaid ddysgrifiadau dychrynllyd a mawreddus Cywydd y Diluw. Gan nad yw yr ail ran ond bèr, tröed y darllenydd ati, ac os dechreua ei darllen, nid oes berygl iddo roddi y llyfr heibio cyn gorphen.

ADRAN IV.

CYNLLUN A CHYNWYSIAD CYWYDD JOSEPH.

Nid

Cân arallegol ydyw hon. Golyga y bardd Joseph fel cysgod o Grist, ac fel person yn yr hwn y dangoswyd gofal neillduol y Drindod am ddynion. Y mae y Cywydd wedi ei ranu i saith caniad. Yn y cyntaf ceir hanes Joseph a'i deulu hyd y newyn, a mynediad y brodyr i'r Aipht; yn yr ail dilynir yr hanes hyd ddychweliad y naw yn ol; yn y drydedd, ceir eu helyntion hyd eu hail fynediad i'r Aipht; yn y bedwaredd, dilynir hwy hyd eu hymadawiad, a chwpan arian Joseph yn sach Benjamin; yn y bumed, darlunir adfyd yr hen wr eu tad wrth glywed am eu helbul, eu gofid wrth ymddangos ger bron Joseph, a'i amlygiad yntau o hono ei hun iddynt; yn y chweched, y maent yn dychwelyd at eu tad mewn llawenydd, yn adrodd iddo fod Joseph yn fyw, mynediad Israel i'r Aipht, a'i hanes hyd ei farwolaeth; ac yn y seithfed gorphenir yr hanes gyda marwolaeth Joseph.

Yr ydym yn ystyried y Cywydd hwn yn werthfawr iawn am ei fod yn dangos, fel y crybwyllasom, fwy o ddarfelydd y bardd nag un arall o'i weithiau. Ychydig o ddarfelydd a geir yn Nghywydd y Drindod. Grymusder dysgrifiadau drachefn sydd yn hynodi Cywydd y Diluw. Ond yn Nghywydd Joseph mae y cymer

iadau a ddarlunir, a'r sefyllfaoedd y maent ynddynt, yn cadw y dychymyg ar lawn waith yn wastadol." Ni wyddom paham na dderbyniodd y gwaith hwn fwy o sylw. Efallai fod ei feithder ef a Chywydd y Drindod wedi peri i lawer roddi y flaenoriaeth i Gywydd y Diluw ar holl gyfansoddiadau eraill yr awdwr. Ceir yn Nghywydd Joseph luaws o ddarnau ysblenydd, llawnion o natur a theimlad. Y darluniad o Israel yn ymadael â Benjamin ar ei fynediad i'r Aipht sydd yn diws a naturiol dros ben (gwel tudal. 202, 11. 581-604). Yn y rhanau cyntaf o'r Rhan V. cawn ddarluniad meistrolgar iawn o deimladau yr hen wr wrth ddysgwyl ei feibion yn ol o'r Aipht. Yr ymddyddanion drwy y Cywydd hwn ydynt, ar y cyfan, yn orchestol. Gellid meddwl wrth ddarllen holiadau Joseph i'w frodyr, a'u hatebion hwythau, ein bod yn gwrandaw ar ddadleuydd cyfreithiol yn dirdynu tystiolaeth allan o res o dystion lled anewyllysgar. Cedwir cymeriad Reuben i fyny yn dda drwy y cyfan, a gwneir yr un modd â Juda, yn yr hwn y mae llawer nodwedd hoffadwy. Nid diffygiol ychwaith ydyw y darluniadau o Lefi a Simeon. Y mae yr hen Israel yn batriarch trwyadl, llawn o dynerwch a serch tadol, ac o ymroddiad duwiolfrydig i ewyllys Duw. (Gwel 11. 249-268.) Daeth boreu hyfryd i Jacob ar ol nos o dywyllwch teimladwy. Cafodd ei ddau fab yn fyw, a chafodd ei galon ei hadlawenhau yn hiliogaeth Rahel. Machludodd ei haul yn araf ac esmwyth, ac ni chauodd yr hen wr ei lygaid yn angau, i huno hûn yr oesoedd, nes gweled y Seren ddydd yn codi.

Joseph oedd brydferth o ran person, serchog fel mab, caredig fel brawd, doeth fel llywydd, a llwyddianus yn ei holl ffyrdd. Ni allasai bardd ddymuno arwr amgenach, ac nid llawer bardd a allasai wneud arwr amgenach nag a greodd Dafydd Ionawr. Rhwymir ni i'w garu yn mhob amgylchiad, am ei fod bob amser yn dda ac yn ddoeth. Y mae pob peth yn deffro y teimlad o'i blaid. Bachgen amddifad oedd, wedi colli ei fam, ac un nodedig o ufudd i'w dad. Os breuddwydio a wnai, gwnai hyny yn well na neb arall; os caethwas, nid oedd neb mor ffyddlon; os llywydd, nid oedd neb mor ddoeth. Yr oedd goleuni bywiog a dysglaer yn hofran o'i amgylch yn mhob sefyllfa. Yr oedd yn mhob lle fel pe buasai wedi ei wneud iddo. I ba gylch bynag yr arweinid ef gan Ragluniaeth, yr ydoedd yn ei lanw. Er ei eni a'i addysgu yn y babell, yr oedd yn meddu pob cymhwysderau i lanw yr orsedd. Arwr diwydrwydd a heddwch oedd ef; ni seiliodd ei awdurdod mewn gwaed, ac ni chadwodd ef drwy gelanedd. Enillodd ef ei fawredd drwy fwyhau dedwyddwch ei gyd-ddynion. Deallai hen fardd Dolgellau hyn yn dda; ac er ei fod yn byw mewn adeg lawn o wallgofrwydd rhyfel, dwg ei dystiolaeth brophwydol yn ei erbyn. Yr oedd Cywydd Joseph wedi ei

« PoprzedniaDalej »