Os na wêl e'n dychwelyd, Swrth i'r bedd y syrth o'r byd. Minnau'n brudd, mewn cystudd caeth A welaf ei farwolaeth.
Os cyll, gloes erchyll yw son, Y ddeufrawd, tyrr ei ddwyfron. Oh deilwng Lywydd dilyth! I ti y byddwyf fi fyth
Gaethwas! gwna gymmwynas mâd O fwynder i'm cyfiawndad; Oh f'ynad! derbyn finnef Anwyl Ior! yn ei le ef. P'odd yr âf? ni feiddiaf fi Droi unwaith, gan drueni, Adref, rhag braw anfeidrol, A'm tlawd anwylfrawd yn ôl. Dygaf, os âf, gwae fi son, Dygaf fy nhad i eigion Trueni,-wr tirionwawr, Tosturiwch!-i'r llwch, i'r llawr: Yn union ei benwynnedd A'n llawn gofidiawn i fedd.
Ond Oh! 'r oedd yno wâr ddyn Hynaws dros bawb o honyn'; Trodd olygon cyfion cu Yn fwynion arno i fynu; Dygn oedd ei grynedigaeth; Heb eiriau, ei ddagrau ddaeth I'w gu ruddiau gwareiddwawr, O'i ruddiau'n llynnau i'r llawr.
Golwg a wanodd galon Yr ynad harddfad oedd hon; Ydd ydoedd ry doddadwy, Ry feddal i 'mattal mwy. Llefodd, fe 'u soddodd mewn sàn, Bellach eled pawb allan!
Gwae i'w bron! eu di lon lu Oedd o'i flaen ar ddiflannu.
Na 'mddigiwch, na fernwch fod Y camwedd dros bob cymmod. Nid chwi, ond Celi, coelier, Nid chwi, ond ein Tad ni, Nêr, Ein grasol, ein nefol Nawdd, Duw 'n fwyn yma 'm danfonawdd: A bu er mwyn cadw bywyd Myrddiynau drwy barthau'r byd. Chwithau na 'mddigiwch weithion: 2040 Moler, mawryger yr Ion.
Mewn mawr sàn, pawb allan aeth: Odidawg ynad odiaeth, Chwerw oedd ofn ei garcharwyr, Gwnai graffu 'n gu ar y gwŷr. Wr ffraw, â'i ddwy law ar led, A'i wyneb mor dirioned, Hyd entyrch codai yntef Wylofus alarus lef; Myfi yw Joseph!-mae f' ais Ar dorri tra 'r hir daerais. Ai byw hefyd hyd yn hyn Yw 'nhad mewn byd anhydyn? Hyn a holltodd eu henaid! Y gwŷr mewn gwewyr a gaid. Gwylder, mawr brudd-der a braw Trwyddynt oeddynt yn treiddiaw. 2080 Eu dygn ddwfn synnedigaeth Barodd gau pob genau 'n gaeth.
Y muner mawr orch'mynodd, Mewn hawddgar gyfeillgar fodd, Chwithau dyneswch weithian: Dan grynu dynesu wnan'. Mi wn na 'dwaenoch mo'nwyf; Eich brawd llwyd a werthwyd wyf.
Eu poenau ganfu'r pennaeth ; O'i orsedd eurwedd e ddaeth: Cusanai, cofleidiai 'n lân Ei hynaws frawd ei hunan. Y gwaraidd lange ro'i ddwy law Yn dyner iawn am danaw: Yna, etto, trodd nattur Yn ddagrau, mal perlau pur. I'w frodyr, wr hyfrydwedd, E rodd hael arwydd o hedd. Cofleidiodd a hoffodd hwynt, Ior addwyn, fel yr oeddynt. Yn fwyn arnyn' fe wenai, Hael iawn wr, a'u holi wnai: Fy nhad diddan hyd heddyw, Fathro, mae ef etto 'n fyw?
Y gwŷr, rhwng brawdol gariad, Rhwng gwylder a mwynder mâd, Rhwng hynod ryfeddod fawr Yn derfysg, ac ofn dirfawr, A ddelwant rhwng ei ddwylaw; Ymgrymmant, brysiant mewn braw. Y nefolwawr penfelyn,
Mewn mwyn fodd, waharddodd hyn. Mor ddedwydd fy mreuddwydiawn! Hwy ddaethant â llwyddiant llawn! Duw 'n tadau, Fe 'n ddïau ddaeth I hylwydd freintiau helaeth A'i was yr hwn ddewisawdd; Bob amser Nêr a fo 'm nawdd. Ar ol, wŷr moesol, o'u mysg Darfod eu dyfnfawr derfysg, Nawsaidd ymddiddanasant Felysion hen gofion gànt. Yn llon eu danfon i'r daith Wnai'n ol i Ganaan eilwaith. Yn llawnwych anfon lluniaeth I'w dad anwylfad a wnaeth. Dewrwyllt gerbydau eurwawr Wnaeth anfon, wr mwynlon mawr. 2140 Ei frodyr, dan hyfrydu,
A ddaethan' i Ganaan gu.
Ac Israel, fu'n wael ei wedd, Ef eilwaith ga'dd orfoledd: Ei radlon galon, fu 'n gaeth, Mawr alar! 'min marwolaeth, Tannau eurlwys, tynerlon Delynau wnaen' fywhâu hon.
Canfod, adnabod a wnaeth Y loyw dêg weledigaeth, Angylion gwynnion yn gor Anfarwol drwy nef oror.
Ym maes Lus, wr moesol iawn, Y gwelodd y llu gwiwlawn: Yr un wedd eirian oeddynt, F' adnabu, a ganfu gynt. Hyd ysgol, wele 'n disgyn
Un gloywbryd, i gyd mewn gwyn!
Ei lwynau mewn melynaur Wisgwyd, wregyswyd âg aur. Y mawr Ion a'm danfonawdd
A mâd fynegiad o'i nawdd: Israel, fy ngwas hael hylwydd, Wr cyfiawn, daw it' lawn lwydd: Ti'm boddiaist, cerddaist bob cam Hyd lwybrau duwiol Abra'm: Fel Abra'm, nefol wobrwy Fydd dy ran, Tarian it' wyf. Etto 'r wyf yn Dduw itti; Israel, ni wnaf d' adael di. O'th annedd, wr doeth union, Na ddos, wedi'r hagr-nos hon: Di gei lon dêg lawenydd, A hynny efory fydd.
Clywodd y geiriau clauar, Clywodd, a gwelodd y Gwâr, At y pêr nifer nefol
Claerwyn, yn esgyn yn ôl. Wed'yn, yn llawen odiaeth, Dadebru, dan wenu, wnaeth.
Mal gwynt o'r deheubwynt hyll, Naws arwchwyrn, ar nos erchyll, O fry a dery y dòn, Rwyga fynwes yr eigion, Y mawrwynt yrr armorau, Yrr draw fyrdd o arw dyrfâu: Yr ewyn yn frigwyn fry, O'r wybren ruthra obry; A'r corwynt ym mron curo 'r Creigydd a'r moelydd i'r môr. Gyd â'r dydd daw tywydd têg; Gloywder yr haul goleudeg A wasgar y terfysgoedd A'u hanwar gref-lafar floedd; Gwed'yn bydd miwsig adar Yn llawen drwy'r wybren wâr; Bydd nef a daear hefyd Yn gwenu yn gu i gyd:
Yr un modd, wedi'r ofn mawr, Enaid y gwr tirionwawr.
Yn lle prudd-der trymder trwch, Duwiolaf lon dawelwch.
Mor hawdd, yn llawn mor rhwydded A throi'n ddiddym grym ei grêd, I isel awel o wynt
Droi yr haul draw o'i helynt. Pur odiaeth wr, heb bryder, Gwnai orphwys ei bwys yn bêr
Ar sail o werthfawr sylwedd, Y Duwdod, mewn hynod hedd. Y prydnhâwn, y prydnhâwn hwyr, Hoyw lewych, a haul awyr O'r ddeutu 'n gwenu 'n geinwawr Yn ei ddyfr-ddrych meithwych mawr, Galwai'r bychan gwiwlan gwyl Yn dyner, Fy nhad anwyl! Fy machgen!-ei lawen lais Yn glauar iawn a glywais. Ar ol i'w ddedwyddol dad Gwar-fwyn wasgu 'i fab gwir-fad, Wed'yn, yn llawen odiaeth, Simeon i'w ddwyfron a ddaeth. I'w annedd daeth mewn ennyd Ei feibion gwiwlon i gyd. Ar ol cyfarch, mewn parch pêr, Eu dawnus dad yn dyner, Distaw hwy wnaent gyd-eistedd O'r ddeutu yn gu eu gwedd. Hwy ar eu tad, hoyw wŷr têg, A wenant â mwyn waneg: Yn fâd, yn annhraethadwy, E wenai 'u tad arnynt hwy. D'wedent, Ba'nd hynod ydyw, Mae d' arab fwyn-fab yn fyw! Joseph! dy fab dewisawl! Byw dy fab, mewn byd o fawl! Ei lawen wedd oleuai, Rhyfeddu, dan wenu, wnai! Ac ar yr Aipht, gwir air yw, Odiaeth reolwr ydyw!
Llewygodd, ni feiddiodd fo Yn ei galon iawn goelio. Er hyn, pan ganfu y rhodd, Efe a lon adfywiodd: Goleunef a Rhagluniaeth!
Digon yw! a Duw a'i gwnaeth! Byw yw fy mab, ceinfab cu, Cariadus, yr wy'n credu! Yn ddïau cyn angau âf I'w weled, fab anwylaf.
Ae 'i feibion a'i ŵyrion ef Ar antur lle 'r ae yntef. Gyd â'u tâd, wr mâd, mudant, I'r Aipht o Ganaan yr ânt. Byr seibiant yn Beerseba, Ar ei daith, gymm'rai'r gwr da. Gwirfodd aberth rhagorfad Rodd i'w Dŵr, i Dduw ei dad. Eirian wr, tra bu 'n aros,
Duw Nêr yn nyfnder y nos A dd'wedodd, Jacob ddidwyll, Duw 'r hedd, heb duedd i dwyll, Duw ydwyf dy holl dadau, A Duw'r meibion tirion tau; Fwynwr, na ofna fyned,
Cei wèn wlad Gosen yn gêd; Cei gyflawn dêg iawn gynnydd, Tydi heb rifedi fydd.
I'r Aipht gyd â thi yr âf; A dïogel y dygaf Di oddiyno etto 'n ôl Yn fyddin fawr ryfeddol.
Pan ddeffrôdd, addolodd ef Hael enwog lor y loywnef: Wr cu, gyd â'i deulu daeth Yn llon i wlad y lluniaeth. Ei fab, yr hwn o'i febyd Mwyneiddgu, ni's canfu c'yd, Cywirfab fe'i cyfarfu, A hynod gyfarfod fu! Bywiogodd, d'wedodd ei dad, Fy manwl ddwys ddymuniad A gefais! fy mab gwiwfwyn Tydi a welaf fi'n fwyn! Da ragorol drugaredd! Boddlon âf weithion i fedd! Ei ffyddlon fab cyfion cu Fwriadodd, dan hyfrydu, Pa ran ro'i o'r lydan wlad Yn haeldeg i'w anwyldad. Y noddwr geisiai 'n addwyn Gennad y brenin mâd mwyn: Y gwr mawr, hawddgar i mi Olynol fu 'th haelioni:
Hwy 'n gain wedd wnaen' gynnyddu Yn llawen yn Gosen gu.
Ior glân, yn ei lydan lys, Nefolaidd, yno 'n felys I'w dad a'i frawd y d'wedawdd Waith gwyrthiol ei nerthol Nawdd. Addolent Dduw yn ddilyth Mewn siccrwydd o fawrlwydd fyth. Y liwgar ddaear pan ddaeth I gnydio yn gain odiaeth, Tadau, wrth eu byrddau 'n bêr, I'w dawnus blant yn dyner Adroddynt helynt eu hoes, A'r enwog wr ei einioes, Nawdd odiaeth yn nydd adfyd, A gynhaliodd, o'i fodd, fyd. O ei wên hoff lawen fflwch! Têr wyneb llawn tirionwch! Eu plant, pan glywsant hwy glod A rhinwedd yr Ior hynod, Hiraethent na welent wedd Y gwron llawn trugaredd.
Aeth Israel, wr hael hylaw, Parchus, yn oedrannus draw. Ond cyn y dyfyn i'r daith Na welid mo'no eilwaith,
Wr hael addwyn, rho'i lwyddiant A bendith i blith ei blant. Gwelodd, pennododd yn awr Derfyn yr amser dirfawr, Yr amgylchiad mawrfad maith, Goreuber, a'r gwir obaith. Wedi iddo am Siloh son, Deryw ei araith dirion A'i daith yn yr un dwthwn; Addolodd, a hunodd hwn.
Pa alar dwys? pa wylaw? Pa gystudd llwyr brudd, a braw? Ubain drwy lydain wledydd! Tristâu, hyd angau, mae'r dydd! Oh alarwisg haul eurwawr!
Mae 'n brudd dan orchudd yn awr! Cwynaw y mae pob cenedl Wrth glywed chwerwed y chwedl: Mae ein noddwr mwyneiddiaf, Gwae'r byd! o glefyd yn glaf!
Yr hwn i bawb fu'n rhannu Sydd dan bwys dwys angau du! Joseph anrhydeddusawl, Hir y rhyfeddir ei fawl! Ior anwyl, dod hir einioes! Oh Dduw gwyn! estyn ei oes! Yn Awdwr annewidiawl Pob rhadau, doniau di dawl, A'i ddedwydd addewidiawn, Mae ffydd y llywydd yn llawn: Ar Dduw Ior, mawr Bor y byd, Efe rodd bwys ei fywyd; Rhodd bwys ei gulwys galon, Yn awr ing, ar ei Nêr Ion.
O hedd ar adanedd daeth Gwynnion genhadon odiaeth: Y gwr cu, darfu d' yrfa, Ti, wr Duw! haeddaist air da: Ymddattod! mae hedd itti! A ffawd, ein hanwylfrawd ni.
Ei galon glyw'r ddirgeliaith, O nefol ddedwyddol daith! Ei enaid aeth yn union, Dan wenu, at y llu llon.
Oerlef sydd drwy'r ddaearlawr, A llawen yw'r Nef wèn fawr. Oddiar wybrennydd eirian Mae ceinfad oleuwlad lân; Is law 'r Nef wèn, ysplennydd Orseddau y seintiau sydd. Wedi alaeth y dulawr Eistedd, mewn gorfoledd fawr, Gwynnion luoedd gogoniant, Yn ol eu rhinwedd a wnant. Wr dawnus, ar adanedd, Fe aeth i fyd hyfryd hedd.
Pan ddêl gwr uchel o ryw I'w oedran, gwŷr diledryw O fawrddysg ddeuant fyrddiwn I eurwawr lys rhoddfawr hwn. Mewn llwyni gerddi gwyrddiawn Y bonedd a gânt wledd lawn. Fe welir, mewn gorfoledd, Yn t'w'nnu yn gu eu gwedd, Lampau ar gangau y gwŷdd, Ail i ser, ar las irwydd: I'w plith clywir yn plethu Gerddorion felyslon lu: Fe welir yn Nef wiwlan Y lleuad oleufad lân; Y ser mewn anfesurawl Bellder, ac amlder eu gwawl: Lampau glân nef eirian fawr, Ennynnwyd oll mewn unawr: T'w'nnant, goleuant bob gwlad, Hyd fore 'r mawr adferiad. Fel mae'r wèn ffurfafen fawr, Di weli, 'n fwy na 'r dulawr A'i hynod rwysg brenhinawl, Felly mâd geinwlad y gwawl Paradwys yr ysprydion, Ragora 'r gaer harddglaer hon. Llon wlad yn llawn o loywder Heb huan seirian na ser: Tywynniad eglurfad glân O Lys Ior, yn lwys eirian, Belydra, oleua'r wlad Lon gywrain, lawn o gariad. Fe welai'r sant Nefoliawn Yn serchus groesawus iawn: Ei fwynwedd drodd i fynu, Gwnai ganfod (rhyfeddod fu) Helaeth, uchel, a heulwawr Gynteddau'r Nef olau fawr: Angylion gwynnion gannoedd Yn amlwg i'w olwg oedd; Haelionus lu 'r oleunef, Seraphiaid, pennaethiaid Nef, Câd siriol felysol iawn, Aneirif delynoriawn! O gaerau y Nef gywrain Hedent, disgynnent yn gain. Gwenodd meibion gogoniant, A gwir serch, ar y gwâr sant, Laned, medd plant goleunef, Wynned yw ei enaid ef!
Croesaw, ein câr mwynwar mâd,
I geurydd nefawl gariad!
Y gwr mawr ei drugaredd,
Croesaw i fyd hyfryd hedd!
Ei lu yr Ion oleuodd
Eu hawen lon, hoyw iawn lef,
A lanwodd yr oleunef. Ysprydion cyfion fil cànt A lïosog eiliasant.
Raphael, seraph hael seirian, Oedd flaenor y gloywgor glân; Moler y mawr Nêr a wnaeth Gaer deg y Greadigaeth,
Yr haul glân, a'r seirian ser, A'r nefoedd â'u mawr nifer; E dd'wettodd, ac o'r ddeutu 2400 Myrddiynoedd o fydoedd fu! O'i gariad, o'i râd a'i rym, Hynodawl, ninnau ydym. Galwodd Ion i'r golau ddydd Ddynion o ddiddym ddeunydd; Ymwêl â hwynt i'w hamlhâu A graddol drugareddau. Didolodd Duw o'i deulu, Ac o'i wlad, wr ceinfad cu, Gan addo mawr gynnyddiad I Abraham a'i bur hâd. Y dêg addewid wiwgerth Gyflawnir, yn wir, mewn nerth, I Ganaan lon etto 'n ôl
I wel'd ei waith, maith yw 'r modd:
Duw Yspryd goleubryd glân Wawriodd ynddynt yn eirian.
E ddaw y genedl dduwiol. Yr eigion mawr a egyr; Trwyddo, heb gyffro, â'r gwŷr; A'u holwynawg elynion Dan nerthoedd dyfroedd y dồn. Ym mhob tir lle clywir clod A hanes y dorf hynod, Dychryn i bob gelyn gau A gwewyr fydd a gwaeau. Cyfryngwr a deddfwr da Eirianwedd a'u harweinia; Fe ddwg Ion, er troion trwch, 'I anwyliaid trwy'r anialwch I Ganaan, gwlad y gwinwŷdd, Helaeth etifeddiaeth fydd. Gwiwfawr frenin a gyfyd O fugail, heb ail drwy'r byd; E bryda fwyn barod fawl Yn ufudd i Dduw nefawl. Ar ei eursail, glaer orsedd Daw Iesu, cu D'wysog hedd, O'i ogoniant, Ion gwiwnef,
I lawr, Dduw noddfawr, o Nef; E ddaw o'r Nef i'r ddaear, Ysprydol dra'gwyddol Gâr; Fe gyfyd oleubryd lu O ddynion i feddiannu Gorseddau golau bu gynt Deyrnawl gerubiaid arnynt. Dan fâd arweiniad yr Ion Dygir y gwaredigion Fyrddiynau drwy barthau'r byd, I lonfawr nefol wynfyd;
I Ganaan y Gogoniant
D'od o nerth i nerth a wnant.
Duw 'n Tad, a'n Llywydd mâd mawr! Grymmus haelionus Flaenawr! Uchel wyd, anchwiliadwy!
Dy ffyrdd sy gàn' myrdd a mwy! Pa fawl attebawl i Ti
A luniwn, Dduw 'r Goleuni! Am râd gariad rhagorawl Gweddus a melus yw mawl. Dyrchafu, dan ganu 'n gain,
I Lys Ior wnai'r côr cywrain; Croyw nifer, ae'r côr nefol I Nef y nefoedd yn ôl.
Eu mawl rhagorawl ar g'oedd Aeth hefyd i'r eithafoedd. Ysprydion gwiwlon i gyd Y cyfiawn accw hefyd, Lu eirian, drwy'r loyw orawr, A ddyblant y moliant mawr.
AR ol Joseph oreulwys, Llywydd y wlad loywfad lwys, Daeth yn ol bendith eu Nêr I'w llu gynnyddu'n llawer: Dan dêg aden Duw Geidwad Weithian hiliasan' y wlad. Ar ol i'r duwiol wr da Ddarfod ei hylwydd yrfa, Cododd brenin gerwin gwyllt Gwynnias a chynfigenwyllt, Gorthrymmydd hagr a thramawr Gweision mwynion y Duw mawr. Er garw boen, er egr benyd, Amlhâu wnaen' hwythau o hyd." Y brenin gerwin, mewn gwg, A'u gwel âg eiddig olwg: Wr gaufryd a rhy gyfrwys, Rhodd orchymmyn dichlyn dwys I ladd y bechgyn, o lid,
Y gweinion pan eu genid.
Yn amser y trymder traws, Gwraig enwog wr gwiwnaws Esgorodd y Waisg eirian, Oreulwys, ar fab glwys glân. Trimis, mewn ofnau tramawr, Cuddiodd y gwan eirian wawr. Yn hwy pan na's gallai hon Gelu ei maban gwiwlon, Gwnai'n fwyn, o'r llafrwyn, er lles, Gywrain gawell cain cynnes. Dan gudd, hi ae 'n brudd ei bron, Oreuferch, at yr afon.
Bu 'chenaid a llygaid llaith I'w fam tra dug ef ymaith At y lan, ei maban tlws Anwylwedd, at fin Nilws. Yn awr egoryd a wnaeth Y llwydwawr gawell odiaeth,
Fel y ca'i, cyn b'ai o'r byd, Un olwg o'i hanwylyd. Yno 'r gwirion cyfion cu, Y gwan, a gaid yn gwenu. Hi'n wael yno a wylodd; Yn llesg yn yr hesg hi 'rhodd. Diweirfam, mewn cur dirfawr, Gwnai 'mado dan wylo 'n awr. Ei fwyn chwaer, fun wych eirian, O draw gaid yn gwyliaw 'r gwan. Merch y brenin gerwin gau, Llawn cysur, a'i llangcesau, D'ai ar fyr y dorf eres Yn llon at yr afon res. Y Wawr hoenus wâr hynod Golygodd, canfyddodd fod Rhyfedd gawell yn 'r afon, O fewn hesg yn y fan hon. Gwnai 'i morwynion hoywon hi Ei ddwyn e'n addwyn iddi: Egorodd, gwelodd y gwan, Têg wawr, yn awr yn orian. Tosturiodd, cynhesodd hon O gariad at y gwirion: D'wedodd, Hebread ydyw; Druan oedd, mor dirion yw! Y feinael harddwiw fanon Roes ei rudd ar ei grudd gron.
Ei chwaer (taer yw natturiaeth) Pan ganfu, dynesu wnaeth: Ebe'r feingain bur fwyngu, Fy arglwyddes gynnes gu, Dêg anwyl, roi di gennad I geisio ffraeth fammaeth fâd? Y radlawn ferch oreudlos Attebodd a d'wedodd, Dos. Yn hoywlon, yn union aeth, (Gwel anwyl drefn Rhagluniaeth)
« PoprzedniaDalej » |