Anfonodd attynt fwynwawr Gennad, y gwr mwynfad mawr, I'w tywys i'w geinlys gwyn; Hwy ddelwant wrth ei ddilyn. Mae 'n syn; mae rhywbeth fŷn fod; E'n rhuthrir, gwae ni 'r athrod, Am arian fe'n cymmerir Yn gaethion weision yn wir. Pwy ddodawdd, pa ddu adyn, Y'ngenau 'n sachau, mae 'n syn. A hir yr ymgynghorant, Gan ammhau, p' un orau wnant, Ai peidio, neu feiddio 'n fwyn Gu roddi i'r gwr addwyn Eu rhodd?-on'd ofer yw hyn? Yn wawd ni fyddwn wed'yn.
Pa fael yw rhodd wael o werth? Oferedd yw rhodd fawrwerth, A hyf ei chynnig hefyd
I ben rheolwr y byd.
Mor enwog am ei rinwedd A meibion rhadlon yr Hedd! Mae enw y llywydd mwynwawr Drwy gaerau'r Nef olau fawr. Y dydd daw'r gwr dedwyddawl I 'splennydd geurydd y Gwawl, Ion ei ddirgelion yn gu Oleugain wna amlygu;
Ein Ior hael ddatguddia 'n rhwydd Ei arfaeth helaeth hylwydd. Egored nefawl geurydd!
1440 Brysied a deued y dydd!
Mae 'n wir, medd brawd mwyn arall, Ond er hyn y ceinddyn call,
Yn ei bêr wyneb eirian
Mae mwynder a gloywder glân. Ei chwimmwth drwm orchymmyn Wnaethom, ufuddhasom hyn: Yn hylaw pan ein holir, Y llywydd genfydd y gwir. Er helaeth lywodraeth wych, Er geiriau'r gwr rhagorwych, Fe, wr eurfawr, o'i wirfodd Fe dderbyn, er hyn, ein rhodd.
Hwy aen', hwy wnaen' yn anhy' Neshâu at gynteddau'r tŷ. Taranai'r gwr tirionwych Trwy'r lawen ddinas wèn wych; Trwy heolydd tra helaeth Memphis fawr areulwawr aeth. Ei olwynion ceinion cu Rywfaint pan wnaent arafu, Gwrawl wŷr a egorant Ddrysau trysorau y sant: E ddyglyw pawb, modd eglur, Drwst barrau a'r dorau dur. I'r ddinas ai myrddiynoedd, I'r holl fyd amlder ŷd oedd. Mynych drwy'r wlad ddymunol, Oddiwrtho, neu atto 'n ôl, Cenhadon cain ehedynt Ar led mor gynted â'r gwynt: E gadwai'r llywydd gwiwdeg Drefn addas drwy'r deyrnas dêg. Fry mae'n y wèn wybren wawl Yn nofio 'n gwmmwl nefawl; Awyrawl gerbyd eirian Yn cynnwys tyrfa lwys lân: Yn gwenu o'r Nef gannaid Angylion gwynnion a gaid; Ryfedded yw gweled gwr, Hoff anwyl amddiffynwr,
Tra 'r oeddynt hwy, wŷr addwyn, Yn gwneuthur, mewn cur, eu cwyn, Mewn gofid, yn mwyn gyfarch, Gwas ffraeth y pennaeth mewn parch, Y rheolwr mawr hylwydd
A ddaeth o'i lwys odiaeth swydd. Hwy, ger bron y gwr breiniol, A blygant, nesant yn ôl. Fe safodd; edrychodd dro Yn anwyl arnyn' yno: Ebe'r gwr, o bur gariad,
Ai byw hyd heddyw yw 'ch tad? Ai hylwydd, ai iach helynt
Y gwr henwasoch chwi gynt?
Byw yw 'n tâd, f' arglwydd mâd mau Odiaethol, dy was dithau.
Gwaraidd o'i flaen y gwyrant,
Ymgrymmu 'n fwyneiddlu wnant.
Juda wareiddia' â'i rodd
Yn isel a ddynesodd:
Dy was, ein tad, sy'n deisyf,
F' arglwydd gwŷn, na boed hyn hyf, It' fwyn dderbyn hyn mewn hedd, Fe wyla gan orfoledd.
Y llywydd arni'n llawen Drodd serchog drugarog wên. Wr mâd, ei gennad a gânt, A'i weision dderbyniasant. Sylwodd, golygodd gu lân Bryd araul eu brawd eirian. Ai dyma'r ie'nga'?-ei ras Duw r'o iddo yn dra addas! Orhoenus wr, ar hynny Fe drodd, 'madawodd i'w dŷ. Meddant, can's hwy welsant wedd Y gwr yn llawn trugaredd, Yn rhyddion oll fe 'n rhoddir; Fe 'n profodd, gwelodd y gwir, Duw anwyl, Tad y wiwnef, A'i trodd, a'i meddalodd ef. Oddiyno, tra 'mddiddenynt, Galwyd, a gwahoddwyd hwynt. Clywant, rhyfeddant yn fawr, Y dorau harddbryd eurwawr Yn egawr mewn mwyn hoywgain Felysawl gyssonawl sain. Dwys eglurder disgleirdeg, A helaeth faintiolaeth têg
Y neuadd fawr yn awr wnaeth Y dynion mewn mudaniaeth. Byrddau a dysglau disglair, Gweision parodion ar air, Ag yno mewn gogoniant
Wŷr mawrion a gwychion gànt. Dedwydd hardd lywydd y wlad, Llon, gwrol, llawn o gariad, Fe ydoedd ddyrchafadwy Oddiar eu hawddgar lu hwy. Gwelant e'n rhoi, o'i galon, Fendith glau ar radau'r Ion. A'i law amneidiaw a wnaeth, A'r gwŷr yn ol rhagoriaeth (Rhyfeddan'!) eu hoedran hwynt, Naws diddan, a eisteddynt. A lluniaeth fe a'u llonnodd; Mwyaf i'r ie'ngaf a rodd. Y glyw drodd yn gu lawen Ar Juda anwyldda wên: Cu hynod yw iaith Canaan, Groyw a glwys, eb y gwr glân. Dysgais innau ryw dwysg-iaith Anghywraint, rywfaint o'r iaith: Mae'n brifiaith, mae 'n bêr hefyd, Mae 'n berffaith geiniaith i gyd, Bu'r brodyr mewn myfyr maith Pan glywsan' eirian araith Y llywydd hardd a llawen, Iaith eglur, iaith bur dros ben!
Newydd ddarfod ciniawa, Rinweddol wr duwiol da, Gorch'mynodd, o'r rhodd, gael rhan
O ffrwythydd ceinwydd Canaan.
Dygawdd ei weinidogion Ar frys y rhai 'n ger ei fron. Golygodd, fe drodd drwyddynt Ei law hardd i'w teimlo hwynt. Ar y gwâr eurawg wron Gwnai'r Aiphtiaid, â llygaid llon, Olygu i fynu 'n fwynwawr; Troe 'r lleill eu golwg tu 'r llawr, Un o'r rhai 'n i'w enau rhodd, A melys y canmolodd:
Mae yng Nghanaan loywlan lwys, Brodir ail i Baradwys, Brif-wŷdd, mi wn wrth brofiad Aeron melysion y wlad; Anrheg eich tâd mâd i mi, Fawrwerth, iawn im' glodfori. Y ceinfwyn lywydd, canfu Orfoledd yn eu gwedd gu. Ar Juda iawndda fwynddyn Edrychodd, holodd fal hyn; Bu gwr glân o Ganaan gynt, Hwnnw Abra'm yr henwynt, Dros fyr dro 'n teithio'r wlad hon; Ni wyddir ddim newyddion Teilwng o'i fywyd dilyth; Holwyd, ni chlybuwyd byth:
Fedrwn, f' arglwydd mawrlwydd mau, Dd'wedyd o ryfeddodau.
Y llywydd arno 'n llawen
Drodd fwynaidd anwylaidd wên. Adroddodd Juda drwyddynt Eu heres hanes a'u hynt.
Bôr dewr, ar eu brawd eirian Craffai, golygai'n gu lân: A pha fodd na ddeuodd ef, Eb'r rhwyddlon wr pereiddlef, I'r daith ychwaith gyd â chwi? Oedd achos c'wilydd ichwi Rhag ar led weled ei wawr, A glaned ei gu lonwawr?
Y bachgen â'r talcen têg A wridodd yn oreudeg.
Eb Juda, wr gwiwdda gwâr, A golwg yn llawn galar: Fy arglwydd, o herwydd hyn, Gwir unig yw bob gronyn, I'n tad ni, 'th was di, bu dau
O'i hygaraf wraig orau;
A hwn yw un o honynt:
Yr hynaf, hawddgaraf gynt,
I'w ofid tost, yn ifange,
I'w frwyn llwyr, a fu farw 'n llangc. Un adeg hwnnw ydoedd
Ei lygaid, ei enaid oedd; A hwnnw, f' arglwydd hynod, I'w gof sydd beunydd yn bod: Dros ei dad aeth i draws daith, Ni welodd mo'no eilwaith.
Ai felly fu, gyfeilliawn? Yn wir ni wyddir yn iawn Yr awr'on, mewn rhyw orawr,
Nad yw 'n fyw, mae'r byd yn fawr. Gwyddom, f' arglwydd eurlwydd iawn, Mwyn bôr, gwyddom yn buriawn. Yn buriawn! drwy ba arwydd? Ein Ior hael, wrth hyn yn rhwydd; 1660 O elynol alanas
Ei wisg a ddygwyd i'th was; Ei wiwdlos wisg yn waedlyd; Ganddo mae honno o hyd. Geir-dwys, gan fwystfil gwarrdew Rhwygwyd, fe larpiwyd gan lew. Fodrwyawg wr, fe d'rawodd Ei fron hoff radlon, cyffrôdd:
Echrydus angau chwerwdost! Gwir yw, y distryw oedd dost! Wylai'r brodyr gan alaeth; Pob grudd dan gystudd yn gaeth. Oes, ebe 'r coeth wr doeth da, Nemawr pan fu hyn yma?
Mae blwyddau maith, tri saith sydd, O leiaf, f' arglwydd lywydd.
A'i dad, yr y'ch yn d'wedyd Fod ganddo'r wisg honno o hyd? Ydyw, fy arglwydd odiaeth; Yr oedd honno ganddo 'n gaeth I'w fynwes pan anfonawdd Dy waelion weision i'th nawdd. Tra bynaws wr tirionhael! Duw 'n ei ran, wr gwan a gwael! Ei eiriau'r lleill a wiriant, Eu siccrhâu 'n un enau wnant; Didwyll, f' arglwydd, mae 'n d'wedyd Y gwir yn gywir i gyd.
Gwaraidd wyd, f' arglwydd geirwir, A mwyn iawn wyd i mi 'n wir: Ein gwaelion hanesion ni Yn dawel os gwrandewi, Os caf, adroddaf drwyddynt Ein bywyd a'n gofyd gynt. Bob odfa, drwy bob adfyd, Mewn ofnus ofalus fyd, Duwiolaf ddysg i'w deulu A roddai'n tad ceinfad cu: I'w hil adroddai helynt
Ei dadau, a'r gwyrthiau gynt; Eu dedwydd warediadau Rhag creulon wŷr geirwon gau; Y manwl bur orch'mynion O oes i oes ro'es yr Ion; Ar hyn y gwnai'n dichlyn dad Ei ddoeth bur goeth bregethiad. Gweddi ar Dduw trag'wyddawl A roddai, arferai fawl. Diwyd ein brawd wrandawai, Gwrando yn effro a wnai: Holai, ail holai helynt Ein tadau, a'r gwyrthiau gynt. O herwydd, f' arglwydd, ei fod Wrth nattur yn bur barod I 'mofyn a derbyn dysg, Cynnyddodd mewn cain addysg. I'w dad rhyfeddod ydoedd ; Mab glân ei hen oedran oedd. Mae cronfoel, mae cywreinfad Oleufryn gerllaw tŷ 'n tad. Fel y gwnai'th isel weision Ddyfod i'r wlad hyglod hon,
Ein brawd oedd dan ofnau'n brudd, Rhedai ddwr hyd ei ddeurudd ; Yr ydoedd yn gariadol Yn mynych edrych o'i ôl. Gwelodd ei dad yn gwyliaw, A bron drist, ar y bryn draw;
Fe 'n ol troi fynnai eilwaith; Nid hawdd y deuawdd i'r daith. Danodd, tua'r dwyrain dyner, Rhodfa sydd rhwng palmwydd pêr. Dda wr, amser a dderyw, A'i lon fab anwyl yn fyw,
Yn fynych, ddau fwyn enaid, Hwy yno 'n ymgommio gaid. Hynod y canent glod glau Eu deuwedd i Dduw 'r duwiau. Ar ol ei ryfeddol fab,
I gofio am ei gu-fab, F'ae'r un fan yn wan ei wedd, Mawr flinau amryw flynedd: Meddyliai y gwelai'n gu Ei geinwawr fab yn gwenu. Deuai yr hen wr duwiol Oddiyno dan wylo 'n ôl.
Ei dra chwerw a'i drwch hiraeth I'n bronnau ninnau fu 'n aeth. Meddym, Pa le mae addysg Sylweddol dy dduwiol ddysg? Cofia, wiwddyn, cyfaddef, Ufudd-dod yw nôd Ꭹ Nef. Angau, er dagrau, ni's dyd Garwr i neb o'r gweryd. Dy odiaeth fab clodadwy
Ni ddychwel, ni'th ymwêl mwy. Gwir, meddai'n hael dad gwael gwan, Hynny mi wn fy hunan;
Hynny, a'i dost ddihenydd,
I'm bron sy 'n bwys dwys bob dydd.1760 I mi tra pery 'mywyd,
Hyn yw 'm pur gysur i gyd; Er ei gur, drwy drugaredd, Ei yspryd, mewn hyfryd hedd, Sydd, o fewn ceurydd cariad, Ym monwes Nêr, dyner Dad.
Gu lywydd glân goleuwawr, Gwridiodd, newidiodd ei wawr; Torrodd ffynnon natturiaeth, I'w ruddiau'n ddagrau hi ddaeth. Deufab, dau fachgen difyr, Dau sydd gen' innau, gain wŷr; Rhag aflwydd, rhag tramgwydd traws I'r rhei'ny, fy rhai hynaws, Rhag hynny, y gwŷr ceinwawr, I'm gruddiau mae 'nagrau 'n awr. Yn awr fe fawr fyfyriawdd, Addwyn wr, am Dduw a'i nawdd. Sylwi wnai'r urddasolion
Ei gystudd, yn brudd eu bron; 1780 Pa eres hanes hynod
Eill hon gan ynfydion fod?
Pa ryw adfyd, wr prydferth? Ei holl nattur mewn cur certh! Pa fodd y dygodd i'w dŷ Fyth weiniaid o'r fath hynny? A gwir, mae 'nt fwy o gariad Na ni arglwyddi pob gwlad.
Ar ol i'r duwiol wr doeth Roddi da weddi wiwddoeth, Cododd, bendithiodd ei Dwŵr, Nefol radol Waredwr!
Y difyr frodyr dofion Roent fawl o hyfrydawl fron : Mor diriawn, wr mawr dewrwych! Mor dyner, wr geirber gwych! I'm lor pwy a gymmarwn? Pa gâr mor hawddgar a Hwn? Duw a welodd ein duloes, A rhyddhâd, o'i râd, a roes. Dan groesau dïau fod Ion Yn cofiaw hâd y cyfion: Tŵr gwiwdda, y Trag'wyddol Fydd Dâd i'w hâd ar eu hôl. Eu glân frawd bychan yn bêr, Dan wenu, dd'wedai'n dyner; Ni welais o un alwad
Fath lariaidd wr mwynaidd mâd. Bryd, meddwn, deuwn i'r daith I'w weled ef yr eilwaith?
Carodd y llywydd cywrain, Pan ganfu, y cu lange cain : Ei galon fwynlon, ryw fodd, Haelionus, wrtho lynodd. Dirgelaidd draw y galwai Addas ufuddwas di fai: Gwelaist y brodyr gwaelion
Ar giniaw, a braw i'w bron:
Daw 'th feibion gwiwlon i gyd Yma 'n union, mewn ennyd. Cafwyd y llywydd cyfiawn Yn serchus groesawus iawn: Yn ei annedd, dan wenu, Tynerol ryfeddol fu.
Ior glân! mae 'th deyrnas fawr glod Yn amryw oddiwrth un Nimrod. O addien lawen lywydd!
Is haul pa gymmar it' sydd! Ei deyrnas, lawn cadernid, 1800 Sydd rydd o aflonydd lid: Gorawr lawn o drugaredd, Heb arfau, yn mwynhâu hedd. Cariad i'r mwynfad wr mawr A gyrraedd drwy bob gorawr. Mwy ei urddas na myrddiwn, Pob graddau'n ufuddhâu hwn. Seirian yw ei drysorau, Amledd yn rhyfedd barhâu. Mae auaf a haf hefyd Groesaw rhydd beunydd i'r byd. Ni wyddir, mae'n syn addef, P' un yw ei wlad wiwfad ef. Gwelir pob tebygoliaeth,
O hon, fro dirion, y daeth.
Yn rhwydd i bawb mae'n rhoddi, Fwyn wr, ond cyntaf i ni. Am rannu mor fwyngu fwyd Un ail erioed ni welwyd; Ni welir, wr anwyla', Fyth un dyn o'r fath enw da: Ei glod aeth drwy bob gwledydd, Ei fawl yn anfeidrawl fydd. Daw 'th feibion, hoywlon helynt, Yn ôl, wŷr haeddol, ar hynt: Maen' eisioes ym min nesu; Bydd lon, y cyfion wr cu.
Y gwladyddion mwynion mau, Yn iach weithion i chwithau! Rhag cyni, i chwi a'ch hâd, Yn gadarn, Duw fo'n Geidwad!
Myfyriaw 'n ddistaw, yn ddwys, Gwâr galon, wnai'r gwr gwiwlwys: O hael odiaeth lywiawdwr! Trugarog ac enwog wr! Doethwr, Duw a'i bendithio! Ei heppil yn fil a fo! Mawreddog wr, am roddi Fy meibion mwynion i mi. Gwelai'n ol ei ddisgwyliad, O draw lu'n dyfod i'r wlad: Yn union ei galon gu
A'i wyneb wnai lawenu: Fy meibion hoywlon helynt!
Af trwy serch i'w hannerch hwynt. Brysiodd eu mâd haeldad hen,
Cyfarfu y llu'n llawen.
Ond fe aeth, ysywaeth son,
I ganol dirfawr gwynion.
Gofynodd, Oh gwae finnau!
P' le weithion mae 'r meibion mau? Gelyn llawn gwenwyn gwynnias, Un perffaith mewn gweniaith gas, (Diras ynfydwas y fall,
Purion ganddo gwymp arall,) Och'neidiodd; gwae'r modd i mi Roi'u hanes i'w rhïeni! Daliodd y llywydd dilyth Yn gaethion dy feibion fyth: A'r ie'ngaf, gwaith rhy anghall A wnaeth drwy fariaeth y fall; Hwnnw ddaeth i rygaeth rwyd; I farw hwnnw a fwriwyd. Ofnadwy gyfnewidiad! Hanesion tostion i'w tad! Fe ddelwodd, syrthiodd yn syn A'i dàl wrth draed ei elyn, Fal mellten gyflym wyllt-daith, I lawr ar y llawr oer llaith. Gwr yno 'n teimlo fel tad Lefarodd o hael fwriad, Gw'radwydd! ac nid gwir ydyw, Mae'th gyfion feibion yn fyw! Ac wed'yn fe a'i cododd Mewn ofnus gwynfannus fodd. Clywen' ei ddi lawen lais, Duw Abra'm! pa'm dadebrais! Ni wyddai'r gwr rhinweddol Beth a wnai dros byth yn ôl.
Rhai 'n gwatwor, rhai ae 'n gyttun Ag ef i'w haddef ei hun.
Golygai, gwelai ogylch
Ei feibion gwaelion o'i gylch:
Ei brudd wynebu'r oeddynt:
Fe 'u galwodd, fe 'u henwodd hwynt. Wrth weled ei galed gur,
Ei ddu alaeth a'i ddolur,
Ei ddagrau hallt, y gwallt gwỳn Yn gaerawg ar ei goryn,
Ei fynych ddwfn riddfannau, Ac archollion ei fron frau, Gelynion chwerwon eu chwant Maleisus, a deimlasant.
Pan y daeth mewn poen i'w dŷ, Galar a'i rhodd mewn gwely. E wêl, mewn cwsg, i'w alaeth, Ei feibion mewn cyffion caeth: Fe wêl ddeufab nefolwawr Yn waedlyd ar lychlyd lawr: Tirion eu dwyfron eu dau,
Ond pan gawd y cwppan certh, Gwae fron y dynion dinerth! Modd astrus! Oh am ddistryw I'w llyngcu hwy i fynu'n fyw! Garw gur ar ol gwir gariad! Chwerwder ar ol mwynder mâd! Haws teimlo 'u cyffro a'u cur Na dilys ddweyd eu dolur. E ddygodd y swyddogiawn Y gwŷr ar frys i'r llys llawn. Yr ynad mawr eirianwych Wnai eistedd ar orsedd wych: Haccru, ennynnu wnai 'i wedd Diriawn, yn llawn digllonedd. Yn swrth o'i flaen y syrthiant, Crynu, prin anadlu, wnant. Codwch,-attebwch,-ai têg Am bêr fwynder hufendeg Yw lledrad?-gwaeth na lladron Wnai galed hocced fel hon! I'ch cibddall ddeall ni ddaeth Fod ynnof ddawn dewiniaeth?
Gwae inni rai drwg annoeth! Wrth f' arglwydd dedwydd a doeth Beth dd'wedwn? lefarwn? f' ŵyr Rodiad pob drwgweithredwyr. Gw'radwydd, euogrwydd hagrwawr, Ein drygau sy 'n olau'n awr. Gwarthus, poenus yw 'n penyd; I'n harglwydd hylwydd o hyd, Cur chwerw! oll fe 'n carcharir Yn gaethion weision yn wir. Urddasol dynerol nawdd, Ei loyw rudd a lareiddiawdd, Na atto Duw i mi wneud hyn: Ef, ef wyf fi 'n ei ofyn, Y llengcyn penfelyn,-fo A ddaliwyd yn ei ddwylo A'r cwppan arian yn wir, A rhyddion chwi y rhoddir: Ewch i'ch gwlad at eich tad da, Yn ôl i'ch gwlad anwyla': Rhyddion mi wnaf eich rhoddi, Mewn heddwch dychwelwch chwi. Juda wnai gu nesu'n awr At yr ynad tirionwawr: Gwelodd ei bêr dymmer da Yn ei olwg anwyla'; Mawreddog enwog ynad! Dïau tydithau sydd dad: Gwel adyn dan galedi,
Wr mawr mâd, can's tad wyt ti: D'amynedd yw'm dymuniad; Adolwyn, f' arglwydd mwyn mâd, D'amynedd dod im' ennyd, A'r gwir egorir i gyd:
Y gwas tau yn feichiau f' aeth I'w dad am ei frawd odiaeth.
Am hyn, du elyn dilyth, Oni's dygaf, fyddaf fyth.
« PoprzedniaDalej » |