Obrazy na stronie
PDF
ePub

Anfonodd attynt fwynwawr

Mor enwog am ei rinwedd Gennad, y gwr mwynfad mawr,

A meibion rhadlon yr Hedd! I'w tywys i'w geinlys gwŷn ;

Mae enw y llywydd mwynwawr Hwy ddelwant wrth ei ddilyn.

Drwy gaerau 'r Nef olau fawr. Mae 'n sýn; mae rhywbeth fyn fod; Y dydd daw 'r gwr dedwyddawl E'n rhuthrir, gwae ni'r athrod,

I ’splennydd geurydd y Gwawl, Am arian fe'n cymmerir

Ion ei ddirgelion yn gu Yn gaethion weision yn wir.

Oleagain wna amlygu ; Pwy ddodawdd, pa ddu adyn,

Ein Ior hael ddatguddia 'n rhwydd Y’ngenau ’n sachau, mae 'n syn.

Ei arfaeth helaeth hylwydd. A hir yr ymgynghorant,

Egored nefawl geurydd! Gan ammhau, p' un orau wnant, 1440 Brysied a deued y dydd!

1500 Ai peidio, neu feiddio 'n fwyn

Tra 'r oeddynt hwy, wyr addwyn, Gu roddi i'r gwr addwyn

Yn gwneuthur, mewn cur, eu cwyn, Eu rhodd ?-on'd ofer yw hyn?

Mewn gofid, yn mwyn gyfarch, Yn wawd ni fyddwn wed'yn.

Gwas ffraeth y pennaeth mewn parch, Pa fael yw rhodd wael o werth?

Y rheolwr mawr hylwydd Oferedd yw rhodd fawrwerth,

A ddaeth o'i lwys odiaeth swydd. A hyf ei chynnig hefyd

Hwy, ger bron y gwr breiniol, I ben rheolwr y byd.

A blygant, nesant yn ôl. Mae'n wir, medd brawd mwyn arall,

Fe safodd; edrychodd dro Ond er hyn y ceinddyn call,

Yn anwyl arnyn' yno: Yn ei bêr wyneb eirian

Ebe 'r gwr, o bur gariad, Mae mwynder a gloywder glân.

Ai by heddyw yw 'ch tad? Ei chwimmwth drwm orchymmyn Ai hylwydd, ai iach helynt Wnaethom, ufuddhasom hyn:

Y gwr henwasoch chwi gynt? Yn hylaw pan ein holir,

Byw yw'n tâd, f'arglwydd mad mau Y llywydd genfydd y gwir.

Odiaethol, dy was dithau. Er helaeth lywodraeth wych,

Gwaraidd o'i flaen y gwyrant, Er geiriau 'r gwr rhagorwych,

Ymgrymmu 'n fwyneiddlu wnant. Fe, wr eurfawr, o'i wirfodd

Juda wareiddia' â'i rodd Fe dderbyn, er hyn, ein rhodd. 1460 Yn isel a ddynesodd:

1520 Hwy aen', hwy wnaen' yn anhy' Dy was, ein tad, sy'n deisyf, Neshâu at gynteddau 'r tŷ.

F' arglwydd gwŷn, na boed hyn lyf, Taranai'r gwr tirionwych

It' fwyn dderbyn hyn mewn hedd,
Trwy'r lawen ddinas wèn wych; Fe wyla gan orfoledd.
Trwy heolydd tra helaeth

Y llywydd arni'n llawen
Memphis fawr areulwawr aeth.

Drodd serchog drugarog wên. Ei olwynion ceinion cu

Wr mâd, ei gennad a gânt, Rywfaint pan wnaent arafu,

A'i weision dderbyniasant. Gwrawl wyr a egorant

Sylwodd, golygodd gu lân Ddrysau trysorau y sant:

Bryd araul eu brawd eirian. E ddyglyw pawb, modd eglur,

Ai dyma'r ie’nga'?-ei ras Drwst barrau a'r dorau dur.

Duw r'o iddo yn dra addas ! I'r ddinas ai myrddiynoedd,

Orhoenus wr, ar hynny I'r holl fyd amlder yd oedd.

Fe drodd, 'madawodd i'w dy. Mynych drwy'r wlad ddymunol,

Meddant, can's hwy welsant wedd Oddiwrtho, neu atto 'n ôl,

Y gwr yn llawn trugaredd, Cenhadon cain ehedynt

Yn rhyddion oll fe'n rhoddir; Ar led mor gynted â'r gwynt:

Fe'n profodd, gwelodd y gwir, E gadwai'r llywydd gwiwdeg

Duw anwyl, Tad y wiwnef, Drefn addas drwy'r deyrnas dêg. 1480 A'i trodd, a'i meddalodd ef.

1540 Fry mae 'n y wen wybren wawl Oddiyno, tra 'mddiddenynt, Yn nofio 'n gwmmwl nefawl;

Galwyd, a gwahoddwyd hwynt. Awyrawl gerbyd eirian

Clywant, rhyfeddant yn fawr, Yn cynnwys tyrfa lwys lân:

Y dorau harddbryd eurwawr Yn gwenu o'r Nel gannaid

Yn egawr mewn mwyn hoywgain Angylion gwynnion a gaid;

Felysawl gyssonawl sain. Ryfedded yw gweled gwr,

Dwys eglurder disgleirdeg, Hoff anwyl amddiffynwr,

A helaeth faintiolaeth têg

Y neuadd fawr yn awr wnaeth
Y dynion mewn mudaniaeth.
Byrddau a dysglau disglair,
Gweision parodlon ar air,
Ag yno mewn gogoniant
Wýr mawrion a gwychion gànt.
Dedwydd hardd lywydd y wlad,
Llon, gwrol, llawn o gariad,
Fe ydoedd ddyrchafadwy
Oddiar eu hawddgar lu hwy.
Gwelant e'n rhoi, o'i galon,
Fendith glau ar radau'r Ion. 1560
A'i law amneidiaw a wnaeth,
A'r gwyr yn ol rhagoriaeth
(Rhyfeddan'!) eu hoedran hwynt,
Naws diddan, a eisteddynt.
A lluniaeth fe a'u llonnodd;
Mwyaf i'r ie'ngaf a rodd.
Y glyw drodd yn gu lawen
Ar Juda anwyldda wên:
Cu hynod yw iaith Canaan,
Groyw a glwys, eb y gwr glân.
Dysgais innau ryw dwysg-iaith
Anghywraint, rywfaint o'r iaith:
Mae'n brifiaith, mae 'n bêr hefyd,
Mae 'n berffaith geiniaith i gyd,

Bu'r brodyr mewn myfyr maith
Pan glywsan' eirian araith
Y llywydd hardd a llawen,
Iaith eglur, iaith bur dros ben!

Newydd ddarfod ciniawa,
Rinweddol wr duwiol da,

1580 Gorch’mynodd, o'r rhodd, gael rhan O ffrwythydd ceinwydd Canaan. Dygawdd ei weinidogion Ar frys y rhai ’n ger ei fron. Golygodd, fe drodd drwyddynt Ei law hardd i'w teimlo hwynt. Ar y gwâr eurawg wron Gwnai'r Aiphtiaid, â llygaid llon, Olygu i fynu 'n fwynwawr; Troe 'r lleill eu golwg tu 'r llawr, Un o'r rhai 'n i'w enau rhodd, A melys y canmolodd: Mae yng Nghanaan loywlan lwys, Brodir ail i Baradwys, Brif-wydd, mi wn wrth brofiad Aeron melysion y wlad; Anrheg eich tâd mâd i mi, Fawrwerth, iawn im' glodfori. Y ceinfwyn lywydd, canfu Orfoledd yn eu gwedd gu.

1600 Ar Juda iawndda fwynddyn Edrychodd, holodd fal hyn; Bu gwr glân o Ganaan gynt, Hwnnw Abra'm yr henwynt, Dros lŷr dro 'n teithio'r wlad hon; Ni wyddir ddim newyddion Teilwng o'i fywyd dilyth; Holwyd, ni chlybuwyd byth :

A wyddoch, glywsoch, wyr glân,
Y cu enw yngwlad Canaan ?

Abra'm yw'r tad mawrfad mau;
Haelionus wr, o'i lwynau,
O hwnnw, f' arglwydd hynod,
Yr ým ni, 'th weision di, 'n d’od.

Aie 'n wir!--gwr cywir coeth,
Gwr oedd addwyn goreuddoeth.

Wron duwiol, wrandewi Ein ffyddlon hanesion ni? Mwyfwy am Abra'm wiwfad, Ein henwog odidog dad,

1620 Fedrwn, f' arglwydd mawrlwydd mau, Dd’wedyd o ryfeddodau.

Y llywydd arno 'n llawen Drodd fwynaidd anwylaidd wên.

Adroddodd Juda drwyddynt
Eu heres hanes a'u hynt.

Bôr dewr, ar eu brawd eirian
Craffai, golygai’n gu lân :
A pha fodd na ddeuodd ef,
Eb'r rhwyddlon wr pereiddlef,
I'r daith ychwaith gyd â chwi?
Oedd achos c'wilydd ichwi
Rhag ar led weled ei wawr,
A glaned ei gu lonwawr?

Y bachgen â'r talcen têg
A wridodd yn oreudeg.

Eb Juda, wr gwiwdda gwâr,
A golwg yn llawn galar:
Fy arglwydd, o herwydd hyn,
Gwir unig yw bob gronyn,

1640
In tag ni, oth was di, bu dau
O’i hygaraf wraig orau;
A hwn yw un o honynt:
Yr hynaf, hawddgaraf gynt,
I'w ofid tost, yn ifangc,
I'w frwyn llwyr, a fu farw 'n llangc.
Un adeg hwnnw ydoedd
Ei lygaid, ei enaid oedd;
A hwnnw, f'arglwydd hynod,
I'w gof sydd beunydd yn bod:
Dros ei dad aeth i draws daith,
Ni welodd mo'no eilwaith.

Ai felly fu, gyfeilliawn?
Yn wir ni wyddir yn iawn
Yr awr'on, mewn rhyw orawr,
Nad yw 'n fyw, mae'r byd yn fawr.

Gwyddom, f' arglwydd eurlwydd iawn, Mwyn bôr, gwyddom yn buriawn.

Yn buriawn! drwy ba arwydd?

Ein Ior hael, wrth hyn yn rhwydd; 1660 O elynol alanas Ei wisg a ddygwyd i'th was; Ei wiwdios wisg yn waedlyd; Ganddo mae honno o hyd. Geir-dwys, gan fwystfil gwarrdew Rhwygwyd, fe larpiwyd gan lew.

Fodrwyawg wr, fe d’rawodd Ei fron hoff radlon, cyffrôdd :

Echrydus angau chwerwdost!
Gwir yw, y distryw oedd dost!

Wylai 'r brodyr gan alaeth;
Pob grudd dan gystudd yn gaeth.

Oes, ebe'r coeth wr doeth da,
Nemawr pan fu hyn yma ?

Mae blwyddau maith, tri saith sydd, O leiaf, f' arglwydd lywydd.

A'i dad, yr y'ch yn d’wedyd Fod ganddo 'r wisg honno o byd ?

Ydyw, fy arglwydd odiaeth;
Yr oedd honno ganddo ’n gaeth 1680
I'w fynwes pan anfonawdd
Dy waelion weision i'th nawdd.

Tra bynaws wr tirionhael!
Duw 'n ei ran, wr gwan a gwael!

Ei eiriau 'r lleill a wiriant,
Eu siccrhâu 'n un enau wnant;
Didwyll, f' arglwydd, mae 'n d’wedyd
Y gwir yn gywir i gyd.

Gwaraidd wyd, f' arglwydd geirwir, A mwyn iawn wyd i mi'n wir: Ein gwaelion hanesion ni Yn dawel os gwrandewi, Os caf, adroddaf drwyddynt Ein bywyd a'n gofyd gynt. Bob odfa, drwy bob adfyd, Mewn ofnus ofalus fyd, Duwiolaf ddysg i'w deulu A roddai'n tad ceinfad cu: I'w hîl adroddai helynt Ei dadau, a'r gwyrthiau gynt;

1700 Eu dedwydd warediadau Rhag creulon wyr geirwon gau; Y manwl bur orch'mynion O oes i oes ro'es yr Ion; Ar hyn y gwnai'n dichlyn dad Ei ddoeth bur goeth bregethiad. Gweddi ar Dduw trag'wyddawl A roddai, arferai fawl. Diwyd ein brawd wrandawai, Gwrando yn effro a wnai: Holai, ail holai helynt Ein tadau, a'r gwyrthiau gynt. O herwydd, f' arglwydd, ei fod Wrth nattur yn bur barod I 'mofyn a derbyn dysg, Cynnyddodd mewn cain addysg. I'w dad rhyfeddod ydoedd ; Mab glân ei hen oedran oedd. Mae cronfoel, mae cywreinfad Oleufryn gerllaw ty ’n tad.

1720 Fel y gwnai'th isel weision Ddyfod i'r wlad hyglod hon, Ein brawd oedd dan ofnau 'n brudd, Rhedai ddwr hyd ei ddeurudd ; Yr ydoedd yn gariadol Yn mynych edrych o'i ôl. Gwelodd ei dad yn gwyliaw, A bron drist, ar y bryn draw;

Fe’n ol troi fynnai eilwaith ;
Nid hawdd y deuawdd i'r daith.
Danodd, tua 'r dwyrain dyner,
Rhodfa sydd rhwng palm wŷdd pêr.
Dda wr, amser a dderyw,
A'i lon fab anwyl yn fyw,
Yn fynych, ddau fwyn enaid,
Hwy yno ’n ymgommio gaid.
Hynod y canent glod glau
Eu deuwedd i Dduw 'r duwiau.
Ar ol ei ryfeddol fab,
I gofio am ei gu-fab,

1740
F'ae'r un fan yn wan ei wedd,
Mawr finau amryw flynedd:
Meddyliai y gwelai ’n gu
Ei geinwawr fab yn gwenu.
Deuai yr hen wr duwiol
Oddiyno dan wylo ’n ôl.
Ei dra chwerw a'i drwch hiraeth
I'n bronnau ninnau fu 'n aeth.
Meddym, Pa le mae addysg
Sylweddol dy dduwiol ddysg ?
Cofia, wiwddyn, cyfaddef,
Ufudd-dod yw pôd y Nef.
Angau, er dagrau, ni's dyd
Garwr i neb o'r gweryd.
Dy odiaeth fab clodadwy
Ni ddychwel, ni'th ymwel mwy.
Gwir, meddai'n hael dad gwael gwan,
Hynny mi wn fy hunan;
Hynny, a'i dost ddibenydd,
I'm bron sy 'n bwys dwys bob dydd.1760
I mi tra pery 'mywyd,
Hyn yw 'm pur gysur i gyd;
Er ei gur, drwy drugaredd,
Ei yspryd, mewn hyfryd hedd,
Sydd, o fewn ceurydd cariad,
Ym monwes Nêr, dyner Dad.

Gu lywydd glân goleuwawr,
Gwridiodd, newidiodd ei wawr;
Torrodd ffynnon natturiaeth,
I'w ruddiau 'n ddagrau hi ddaeth.
Deufab, dau fachgen difyr,
Dau sydd gen' innau, gain wyr;
Rhag aflwydd, rhag tramgwydd traws
I'r rhei'ny, fy rhai hynaws,
Rhag hynny, y gwŷr ceinwawr,
I'm gruddiau mae 'nagrau ’n awr.

Yn awr fe fawr fyfyriawdd,
Addwyn wr, am Dduw a'i nawdd.
Sylwi wnai'r urddasolion
Ei gystudd, yn brudd eu bron; . 1780
Pa eres hanes hynod
Eill hon gan ynfydion fod?
Pa ryw adfyd, wr prydferth?
Ei holl nattur mewn cur certh!
Pa fodd y dygodd i'w dý
Fyth weiniaid o'r fath hynny?
A gwir, mae 'nt fwy o gariad
Na ni arglwyddi pob gwlad.

Ar ol i'r duwiol wr doeth Roddi da weddi wiwddoeth, Cododd, bendithiodd ei Dwr, Nefol radol Waredwr!

Y difyr frodyr dofion
Roent fawl o hyfrydawl fron:
Mor diriawn, wr mawr dewrwych!
Mor dyner, wr geirber gwych!
I'm lor pwy a gymmarwn?
Pa gâr mor hawddgar a Hwn?
Duw a welodd ein duloes,
A rhyddhâd, o'i râd, a roes.
Dan groesau dïau fod Ion
Yn cofiaw bâd y cyfion:
Tŵr gwiwdda, y Trag'wyddol
Fydd Dad i'w hâd ar eu bôl.
Eu glân frawd bychan yn bêr,
Dan wenu, dd'wedai'n dyner;
Ni welais o un alwad
Fath lariaidd wr mwynaidd mad.
Bryd, meddwn, deuwn i'r daith
I'w weled ef yr eilwaith?

Carodd y llywydd cywr
Pan ganfu, y cu langc cain :
Ei galon fwynlon, ryw fodd,
Haelionus, wrtho lynodd.
Dirgelaidd draw y galwai
Addas ufuddwas di fai:
Gwelaist y brodyr gwaelion
Ar giniaw, a braw i'w bron:
Y cu fâd was, cofia di,
Olynol pan wnei lenwi,
Ddodi, a gwnaf di'n ddedwydd,
Yn sach y brawd bach y bydd,
Cu fwynddyn, cofia, ynddi
Dod fy nghwppan arian i.

Y da ystig was distaw Ymgrymmodd, ac fe drodd draw.

I Israel, eu diwael dad, A'i galon mewn disgwyliad, A'i boenau'n amlhâu beunydd, Pob awr oedd yn ddirfawr ddydd. Ae'r gwaraidd hen wr gwiwras Yn syn i'r goleufryn glas: Ei feibion mwynlon eu modd Yn olaf yno welodd. Golygai, disgwyliai'n gu Adweled ei fwyn deulu. Yno oriau gwnai aros, Hên wr gwael, hyd yn ael nos; Heb sôn, heb arwydd ronyn O fod yn dyfod un dyn. Ae'r gwâr hen wr rhagorol Yn glaf, yn araf, yn ôl. Pan ddaeth torf belaeth hylwydd, Y rhai'n fe wnai holi'n rhwydd. Fwynion gydwladyddion da, Chwimmwth y daethoch yma. Oes hanes, wýr naws heini', O’m meibion anwylion i?

Daw'th feibion gwiwlon i gyd
Yma 'n union, mewn ennyd.
Cafwyd y llywydd cyfiawn
Yn serchus groesawus iawn:
Yn ei annedd, dan wenu,
Tynerol ryfeddol fu.
Ior glân! mae'th deyrnas fawr glod
Yn amryw oddiwrth un Nimrod.
O addien lawen lywydd!
Is haul pa gymmar it'sydd!

Ei deyrnas, lawn cadernid, 1800 Sydd rydd o aflonydd lid:

1860
Gorawr lawn o drugaredd,
Heb arfau, yn mwynhâu hedd.
Cariad i'r mwynfad wr mawr
A gyrraedd drwy bob gorawr.
Mwy ei urddas na myrddiwn,
Pob graddau'n ufuddhâu hwn.
Seirian yw ei drysorau,
Amledd yn rhyfedd barhâu.
Mae auaf a haf hefyd
Groesaw rhydd beunydd i'r byd.
Ni wyddir, mae'n sýn addef,
P’un yw ei wlad wiwfad ef.
Gwelir pob tebygoliaeth,
O hon, fro dirion, y daeth.
Yn rhwydd i bawb mae'n rhoddi,
Fwyn wr, ond cyntaf i ni.
Am rannu mor fwyngu fwyd
Un ail erioed ni welwyd;

Ni welir, wr anwyla', 1820 Fyth un dyn o'r fath enw da: 1880

Ei glod aeth drwy bob gwledydd,
Ei fawl yn anfeidrawl fydd.
Daw'th feibion, hoywlon helynt,
Yn ôl, wyr haeddol, ar hynt:
Maen' eisioes ym min nesu;
Bydd lon, y cyfion wr cu.

Y gwladyddion mwynion mau,
Yn iach weithion i chwithau!
Rhag cyni, i chwi a'ch hâd,
Yn gadarn, Duw fo 'n Geidwad!

Myfyriaw 'n ddistaw, yn ddwys,
Gwâr galon, wnai'r gwr gwiwlwys:
O hael odiaeth lywiawdwr!
Trugarog ac enwog wr!
Doethwr, Duw a'i bendithio!
Ei heppil yn fil a fo!
Mawreddog wr, am roddi
Fy meibion mwynion i mi.

Gwelai'n ol ei ddisgwyliad, 1840 O draw lu 'n dyfod i'r wlad : 1900

Yn union ei galon gu
A'i wyneb wnai lawenu:
Fy meibion hoywlon helynt!
Af trwy serch i'w hannerch hwynt.

Brysiodd eu mâd haeldad hen,
Cyfarfu y llu 'n llawen.
Ond fe aeth, ysywaeth son,
I ganol dirfawr gwynion.

I

Gofynodd, Oh gwae finnau!
P' le weithion mae'r meibion mau?

Gelyn llawn gwenwyn gwynnias,
Un perffaith mewn gweniaith gas,
(Diras ynfydwas y fall,
Purion ganddo gwymp arall,)
Och'neidiodd; gwae 'r modd i mi
Roi'u hanes i'w rhieni!
Daliodd y llywydd dilyth
Yn gaethion dy feibion fyth :
A'r ie’ngaf, gwaith rhy angball
A wnaeth drwy fariaeth y fall;

1920 Hwnnw ddaeth i rygaeth rwyd; I farw hwnnw a fwriwyd.

Ofnadwy gyfnewidiad !
Hanesion tostion i'w tad!
Fe ddelwodd, syrthiodd yn syn
A'i dàl wrth draed ei elyn,
Fal mellten gyflym wyllt-daith,
I lawr ar y llawr oer llaith.

Gwr yno 'n teimlo fel tad
Lefarodd o hael fwriad,
Gw'radwydd ! ac nid gwir ydyw,
Mae'th gyfion feibion yn fyw!
Ac wed’yn fe a'i cododd
Mewn ofnus gwynfannus fodd.
Clywen' ei ddi lawen lais,
Duw Abra'm! pa’m dadebrais !
Ni wyddai 'r gwr rhinweddol
Beth a wnai dros byth yn ôl.
Rhai ’n gwatwor, rhai ae 'n gyttun
Ag ef i'w haddef ei hun.

1940
Golygai, gwelai ogylch
Ei feibion gwaelion o'i gylch :
Ei brudd wynebu'r oeddynt:
Fe'u galwodd, fe 'u henwodd hwynt.

Wrth weled ei galed gur,
Ei ddu alaeth a'i ddolur,
Ei ddagrau hallt, y gwallt gwŷn
Yn gaerawg ar ei goryn,
Ei fynych ddwfn riddfannau,
Ac archollion ei fron frau,
Gelynion chwerwon eu chwant
Maleisus, a deimlasant.

Pan y daeth mewn poen i'w dy,
Galar a'i rhodd mewn gwely.
E wêl, mewn cwsg, i'w alaeth,
Ei feibion mewn cyffion caeth:
Fe wêl ddeufab nefolwawr
Yn waedlyd ar lychlyd lawr:
Tirion eu dwyfron eu dau,
Engyl hawddgar, yn angau.

1960
Dan gystudd, yn brudd mewn braw,
Rachel a wêl yn wylaw:
Clafychodd, f’edrychodd dro,
A'i enaid fu farw yno.

Pa dafod gwiwglud a gân
Gyni 'r brodyr o Ganaan?
Pa derfysgoedd oedd iddynt
Pan ddaliwyd, pan holwyd hwynt ?

Ond pan gawd y cwppan certh,
Gwae fron y dynion dinerth!
Modd astrus! Oh am ddistryw
I'w llyngcu hwy i fynu'n fyw !
Garw gur ar ol gwir gariad!
Chwerwder ar ol mwynder mâd !
Haws teimlo'u cyffro a'u cur
Na dilys ddweyd eu dolur.
E ddygodd y swyddogiawn
Y gwyr ar frys i'r llys llawn.
Yr ynad mawr eirianwych
Wnai eistedd ar orsedd wych: 1980
Haccru, ennynnu wnai'i wedd
Diriawn, yn llawn digllonedd.
Yn swrth o'i flaen y syrthiant,
Crynu, prin anadlu, wnant.

Codwch,-attebwch,-ai têg
Am bêr fwynder hufendeg
Yw lledrad ?-gwaeth na lladron
Wnai galed hocced fel hon!
I'ch cibddall ddeall ni ddaeth
Fod ynnof ddawn dewiniaeth ?

Gwae inni rai drwg annoeth !
Wrth f' arglwydd dedwydd a doeth
Beth dd'wedwn? lefarwn? f' wyr
Rodiad pob drwgweithredwyr.
Gw'radwydd, euogrwydd hagrwawr,
Ein drygau sy 'n olau 'n awr.
Gwarthus, poenus yw 'n penyd;
I'n harglwydd hylwydd o hyd,
Cur chwerw ! oll fe 'n carcharir
Yn gaethion weision yn wir. 2000

Urddasol dynerol nawdd,
Ei loyw rudd a lareiddiawdd,
Na atto Duw i mi wneud hyn:
Ef, ef wyf fi’n ei ofyn,
Y llengcyn penfelyn,-fo
A ddaliwyd yn ei ddwylo
A'r cwppan arian yn wir,
A rhyddion chwi y rhoddir:
Ewch i'ch gwlad at eich tad da,
Yn ôl i'ch gwlad anwyla':
Rbyddion mi wnaf eich rhoddi,
Mewn heddwch dychwelwch chwi.

Juda wnai gu nesu 'n awr
At yr ynad tirionwawr:
Gwelodd ei bêr dymmer da
Yn ei olwg anwyla';
Mawreddog enwog ynad!
Drau tydithau sydd dad:
Gwel adyn dan galedi,
Wr mawr mâd, can's tad wyt ti: 2020
D'amynedd yw'm dymuniad;
Adolwyn, f'arglwydd mwyn mâd,
D'amynedd dod im' ennyd,
A'r gwir egorir i gyd :
Y gwas tau yn feichiau f' aeth
I'w dad am ei frawd odiaeth.
Am hyn, du elyn dilyth,
Oni's dygaf, fyddaf fyth.

« PoprzedniaDalej »