A'r ser yn uchder y nef A wnaent ger ei fron yntef, Diweirfab, mewn parch dirfawr Ymgrymmu, lon lu, i lawr.
A Satan weithian a wnaeth Lenwi rhai'n â gelyniaeth: Gwynfyd y Sarph ddybryd ddig Yw brâd a llid berwedig. Wŷr gweddus golygus glân, Daethant i fangre Dothan. A'u tad un galwad a gânt, Ddydd bwygilydd bugeiliant. D'wedodd Israel, wr hael hen, Fy lliwus fwyn fab llawen, Joseph, fy mab dewisaf,
Yn nydd a nos dan nawdd Naf, Dos a dychwel, gwel y gwŷr Hyfrydawl, sef dy frodyr, Da 'mab, a gad im' wybod Ba wedd sydd arnynt yn bod. Y gwr ifange goreufad Ae i'r daith ar air ei dad. Fe holai, pan welai wŷr Ar adeg, am ei frodyr. Heini' chwiliodd yn hynaws, Gan grwydro hir dro ar draws Y wlad, a daeth i liwdeg A llydan fryn Dothan dêg. Ei frodyr, gwŷr di gariad, Gwelent hwy galon eu tad:
Simeon, âg arf greulon groch, Hagr, ar ei frawd gwrid-hoywgoch Y geuflaidd ruthrai 'n gyflym, A'i wedd mewn digllonedd llym. A'r lleill yno'n gawrio gaid, Trywaner ef trwy 'i enaid! Reuben yn addien a aeth, Hefyd a Juda hyfaeth, Hwy lesol attaliasant
Greulonder chwerwder eu chwant. Gwiliwch, ni bydd ddirgelwaed;
840 Ofnwch, na thywelltwch waed: Bwriwn, mae pydew 'n barod, Ef i hwn fwriwn i fod: Ni welir mewn anialwch; Am draha fe drenga 'n drwch. Hwythau, ar ol geiriau gànt, At hynny a gyttunant.
Hwy dd'wedent, Draw 'r breuddwydiwr!
Edrychwch, gwelwch y gwr!
Haul ydyw o hoyw loywder!
Frithed ei siacced o ser! Lladdwn ef, lluddio a wnawn Ei ddadwrdd a'i freuddwydiawn. Cawn weled ryfedded fydd Wed'yn rwysg y breuddwydydd. Eu gwridog frawd gwâr odiaeth, Dan wenu, nesu a wnaeth: O 'mrodyr! yma'r ydych I gyd mewn iechyd yn wych? Gwelodd y bachgen gwiwlwys Eu chwerwder a'u digter dwys: Diweirfab, mewn ofn dirfawr, Cyffrôdd, rhyfeddodd yn fawr. A phan ddaeth i rygaeth rwyd, O'i dda wisg e ddïosgwyd. Ymbiliodd, ceisiodd, fab cu, Tan orian, eu tyneru: Dywedai, Eich brawd ydwyf; Cywir iawn eich caru'r wyf. O'th ddeiliaid! fe 'th addolir! Tydi a deyrnesi'n wir!
Fi ro'i ddedwydd freuddwydion I'r gwynt, ar hynt, yr awr hon; Gwnaf, cred, mor siccred â'r ser, Ymostwng i ti, meister!
I bydew, heb na bwydydd, Na dwr, na goleuni dydd, Ei lusgo, dan wawdio, wnant; Ffyrnig a dieflig daflant
Eu brawd i'r gwaelawd yn gaeth I wylo dan farwolaeth. Gawr filain mewn gorfoledd
A roisant, arlwyant wledd.
Ac ef at Dduw Nef, dda Nawdd, Ei weddi gyfarwyddawdd.
Reuben yn ddïarwybod,
Yn awr, heb feddwl fawr fod Eirias ac ail fradwriaeth, Draw i areiliaw yr aeth. Dychwelyd oedd fryd ei fron, A gwared ei frawd gwirion, A rhoddi hwnnw 'n rhwyddfad Yn ol i'w odiaethol dad. Ond Oh! yr oedd yno ddig Lywiawdwr anweledig. Ni âd Satan annedwydd, Erchyll, i sefyll mo'i swydd: Och! bellach os gwnewch ballu, Gresynawl! ebr y Diawl du, A'ch gelyn yn eich golwg! Fe lwydda ei draha drwg! Llanwodd fron y gweision gau A gwŷn, â chynfigennau. Yr eilun! fe reoli!
Gw'radwydd! fe 'n arglwydd i ni! Rhoddwn e'n awr mewn rhuddwaed, Lladdwn, tywalltwn ei waed.
Juda, â grudd brudd a bron,
Y tonnog wŷr gyttunant, Os arian gwiwlan a gânt. I'r geulan fry, o'r gwaelawd, Yn brudd codasan' eu brawd: Eu didwyll frawd clodadwy Am arian gynhygian' hwy.
Y maelwyr, oll am olud,
A'i prynan', fab mwynlan mud: Am arian nid ymeiriant, Hyn oedd eu gofyn a gânt.
Na boed it' rudd brudd na bron; Tyred, fy machgen tirion.
Haelionus a serchus wŷr! Medd ei hyfrydwedd frodyr, Gwr mawr yw, ac Ior mor wych A fydd, chwi a ryfeddych! Rheolwr mawr a bylaw! Brenin a fydd ddydd a ddaw! Juda ragora a gaid, Mwynwr, yn drwm ei enaid: Iach, dawelach, fab dilyth,
Ac yn iach, fy mrawd bach, byth! Yn ei wyneb diweniaith Cur oedd dros nattur un iaith. Ei frodyr fuant fradawg; Tynerol ar eu hol rhawg Hiraethodd, edrychodd draw; Trwy alar torrai i wylaw.
Ei fradwyr ymhyfrydant, O hyd eu gwynfyd a gânt. Y fraith siacced, y gêd gu Unwaith oedd yn serennu, Mewn cochlyn o waed mynn mâd Ei harddwch ga'dd drwch drochiad. Hwy ddaethant yn hawdd weithion At eu mâd haeldad â hon.
Gwel hon: mae'n calon mewn cur Am Joseph dros bob mesur; Ai gwisg dy fab arab yw? Annedwydd, os hon ydyw! Canfu,-adnabu,-Duw Naf! Gwae'r olwg arw a welaf! Chwerw ofid! Och, wr ifange! Lladdwyd, a llarpiwyd y llange! Drylliawdd ei wisg gan drallod, A'i fron fwyn, am i'r farn fod. Galarai, 'mofidiai 'n fawr, Am ei anwyl fab mwynwawr. Ei deulu o'i ddeutu ddaeth, Gan weled ei ddygn alaeth. Diles ydoedd ei deulu A'u geiriau call i'r gwr cu. Oediog, digysur ydwy', Fy mab ni welaf fi mwy. Ei derfyn ddaeth, diweirfab; Af i 'medd ar ol fy mab.
Llawer blwyddyn wed'yn aeth; Yn hwyr derfydd blin hiraeth: Ei fab a godwyd yn fawr; Ni wyddai'i dad mwyneiddwawr:
Chwerw fe ga'dd ei garcharu, Heb son i'r cyfion wr cu. Ei Dduw fyth fu iddo fo, Duw anwyl fu'n Dad yno.
Anfonwyd gan Naf union, Ar hyd yr holl ddaear hon, Newyn ar fyd annuwiol Am falchder diffeithder ffol. E losgwyd Asia lwysgu, Ac Affrig dawddedig ddu, Ac Ewrop dêg ei gorawr, Gan ffwrnwres y moeldes mawr. 1020 Ond i'r Aipht mawr lawnder oedd ; Yr ŷd yn hon yr ydoedd. I'r wlad hon yn dirion daeth Miliynau'r byd am luniaeth. Llawen y rhannai'r llywydd Lawnder yn dyner bob dydd. Canaan ydoedd mewn cyni; Gyd â'i meibion hoywon hi Daeth Juda fwyndda ar fyr, A'i fradawg euog frodyr:
Y gloywddoeth wr goleuddawn A'u canfu yn y llu llawn. Dywedwch, o ba dudwedd Yr ydych? oes haelwych hedd? O Ganaan, eb y gweiniaid, Dy weision gwaelion a gaid: Am luniaeth, y gwr ffraeth ffraw, Y daethom yma i deithiaw. Moesawl hwy ymgrymmasan'
980 Hyd lawr i'r gwr gloyw-wawr glân. 1040 Llidiawg, megis llew ydoedd,
A garw ei air y gwr oedd : Da 'r adwaen eich dirieidi, Amlwg yw 'ch mawrddrwg i mi. Gwelaf, mal y dydd golau, Eich dyfnion ddirgelion gau. Bradwyr, yspïwyr ydynt, Carcharaf, ail holaf hwynt. Adeg alarus ydoedd! Syndod i'w cydwybod oedd! D'wedent eu hanes didwyll Yn bur dêg, heb air o dwyll. Mwyn iawn ymgrymmu a wnant, Du alar! hwy gyd-wylant. Ond hyn i'w herbyn o hyd Yn ddidawl a wnai dd'wedyd: Galon, meddai'r gwron gwych, Bradwyr, yspïwyr ydych. Yn wyneb dynion enwir Mae drwg yn amlwg yn wir. Dagrau, a du euogrwydd,
Terfysg sy 'n gymmysg i'm gŵydd. Bradwyr, yspïwyr ydynt! Rhwymwch, a charcharwch hwynt. Gan drymmed, dosted y dydd, Wŷr gwaelion, ar eu gilydd Edrychent, cofient eu caeth A'u dyrys hen fradwriaeth:
Mai perffaith gwyddai 'u hiaith hwynt, O herwydd cyfieithydd fu, Gwiw hybarch, yn gohebu. Teilwng wr, ymattaliodd,
Ac bellach mewn mwynach modd Dychwelawdd, holawdd helynt Eu gwlad; ai byw eu tad hwynt? Byw yw 'n tad, attebent hwy, Gwan o nerth, digynnorthwy. Oes yng Nghanaan wenlan wych Frodyr? pa nifer ydych?
Deuddeg ar un pryd oeddym, Unarddeg yn awr ydd ym. Un sydd, bob dydd, gyd â'i dad, A marw o ddryglam irad, Ein hynaws Ior brenhinol, F' un o'r ddau flynyddau 'n ôl. Y seilion wŷr iselwawr Ymgrymment, llyfent y llawr. Os perffaith araith eirwir, Gaf wybod gwaelod y gwir; Anfonwch un i fynu, Prysured, cyrched eich cu Frawd anwyl:-e fu'r dynion Yn ddistaw, a braw i'w bron.
Gwelwch, mae yn eu golwg Arwyddion o droion drwg. Carcharwch, rhwymwch y rhai'n! Ymaelwch mewn modd milain!
Tridiau rho'i 'r gwr tra odiaeth Hwynt mewn heiyrn cedyrn caeth. Bu 'u henaid, drueiniaid, dro Ym mhell wedi ammhwyllo. Naf anwyl y Nef wenwawr! Oh Geli! gwae ni yn awr! Gweithredoedd fu gaeth rydost Gânt gaeth gospedigaeth dost. Distryw a braw 'n brydiaw 'n bron!
A distryw y'ngwlad estron!
Ob 'n tad! beth ddaw honot ti?
Gwna 'th galon dirion dorri!
Hyd yn awr, wedi'r awr drom.
Ein drygnaws fu 'n draws, fu'n drom, Wrth Joseph, pan werthasom.
Garw yw 'n braw! ac oer yw 'n brawd Joseph yn y bedd isawd!
Dialedd gan waed a elwir,
Can's gwaed a fŷn waed yn wir. Yn ol ein bai, ni welwn,
Mae 'n penyd, mae'n hadfyd hwn.
I ddïeithriaid, modd athrist,
Ein brawd gwan, druan, yn drist, Werthasom; trom fu 'n trais, A milain dost fu 'n malais: E ddeuodd unrhyw ddïal,
Can's plaid dïeithriaid ddyd dâl. Gwae inni, rai drwg enwir! Gwae 'n tad anwylfad yn wir! Ein hanes fâg anhunedd, A'i gyrr ar fŷr i'r oer fedd.
Danfon wnaeth y gwron gwâr I'w cyrchu hwynt o'u carchar. Yr oeddynt hwy, wŷr eiddil, Mewn dagrau griddfannau fil. Gwelodd, teimlodd eu galar; Yna, medd, â mwyn wedd war; Ofni Celi o'm calon
Yr wyf, a moliannu 'r Ion.
Yn ddïau chwithau gwnewch hyn; Aed naw 'n ôl rhag bod newyn Yn gwasgu teulu eich tad, Erys un mewn carchariad.
Dan gerydd du anguriol Aeth naw dan wylaw yn ôl. Eu tad amddifad, medd ef, Yn enw mawr Ion y wiwnef! Yn enw Duw! ai chwi'n unig O'r dyrfa ga'dd ddalfa ddig! Dyma ryfeddod immi, Holwyd a charcharwyd chwi! Mae'n hynod ryfeddod fawr, A'r enwog wr eirianwawr, Egored ei drugaredd, I'r byd yn rhoi hyfryd hedd. Am y llywydd clodrydd clau Fe dd'wedir rhyfeddodau; Ei godi ef yn geidwad,
O garchar du, ar lu 'r wlad.
Ei glod a'i awdurdod aeth
Yn hynod drwy 'r frenhiniaeth.
A farno ef, a fernir;
Os nawdd, fe fydd nawdd yn wir!
Eu tad, amddifad am ddau, A ddelwodd gan feddyliau:
E ddyrysodd ei reswm
O herwydd y tramgwydd trwm. Pan ddarfu 'r yd, poen ddirfawr, Mewn gofid gwelid eu gwawr:
Drwy'r hirddydd mae draw 'r hardd wisg, Y glaswyn newyn a wnaeth
O hyd y mae'r waedlyd wisg
Ganddo er cofio 'r cyfion,
A gwaedlyd o hyd yw hon.
Lewygu eu hiliogaeth,
Eu plant ofynnant am fwyd,
Wylant o ddeutu 'r aelwyd:
Y rhai'n, gyd â'u rhïeni, Druain, fu 'n llefain yn lli'.
Pa'm, medd eu hael dad gwael gwan, Ba ham 'r y'ch yn bwhwmman?
A pha'm edrychwch, heb ffydd, A'ch golwg ar eich gilydd? Ai oedi etto 'r ydych?
Ai marw a wnawn mewn mawr nych? Cyfodwch, a chyrchwch ŷd,
A buan am eich bywyd.
Ni feiddiwn, mae'n anfuddiol,
Os saf yr ie'ngaf ar ôl.
Dïau, os awn ninnau 'n awr, Myned raid i'n brawd mwynwawr: Hebddo ni wnawn ddigio'n ddwys Galon llywydd gwiwlwys; Hebddo ni's gwnawn feiddio fyth Adweled y gwr dilyth. Na lidiwn lân lywiawdwr, Rhaid ufuddhâu geiriau 'r gwr.
Pa fodd digwyddodd y gwall Diriaid, son am frawd arall?
Haelwych wr, fe a'n holawdd ; A'r gwir, pan holir, ddaw 'n hawdd. Iawn wyddem fryd y noddwr? Ddirgelion geirwon y gwr? I'r noddwr mawr rhinweddawl Mae'r anwir a'r gwir mal gwawl. Ei helaeth wybodaeth bur A'i nododd yn bennadur. Pan welir y gwir i gyd,
Fu 'n brudd-der i'w dyner dad.
A hyn fu 'n fron-wahaniad,
Ni'm gwyrir mwy â geiriau; Gwae 'mron! onid digon dau? Ni feiddient ei anfoddiaw; Och'neidiant, hwy droant draw. Gwelwch dirionwch ei rudd, A'i gyfiawn olwg ufudd, On'd yw ef, mwyn ei dafawd, Un fron â'i hyfrydlon frawd?
Eu golwg rhagddo gelant; Gofidio, och'neidio wnant. Ddyddiau wedi hir ddïoddef, Etto aent o'i ddeutu ef: Eb Reuben; Trwy bur obaith Awn yn wŷr dewriawn i'r daith. Deled ein brawd, adolwyn, A'r llywydd a fydd yn fwyn: Etto oni ddygaf itti, Lladd fy neufab arab i.
Juda 'r hygara' o'r gwŷr, A moes iawn, â mwy synwyr, A dd'wedodd yn ddïoedi, Fy nhad anwylfad, gan i, Gan i gofynni 'th gu fab, Dy eirian enaid arab: Dïogel mi a'i dygaf; Am dano mechnïo wnaf. Wr goruchel, pan wêl ni, Ni wnawn ei lawn foddloni: Yna fe newidia wedd Y gwr yn llawn trugaredd. Cei Simeon gyfion ac ef, Cei d'edryd i gyd adref. Ai myned yn wŷr mwyniawn, Ai'n unllu newynu wnawn?
Yn oediog, yn annedwydd,
Ei ddagrau 'n rhestrau, yn rhwydd, A lifent yn loyw afon.
Aml d'rawodd ei freufodd fron:
Rhag braw, rhag tramgwyddaw 'n gaeth, Du arnaf ydyw 'r diwrnod!
Mawr alar, rhag marwolaeth!
Gyrrais fy mab hawddgaraf,
(Ei gofio dan wylo wnaf,)
Ei frawd o dref i rodiaw,
Fe aeth, ni ddaeth, ac ni ddaw: A'i frawd ym mhell o'i frodir Anfonaf? na wnaf yn wir! Os ti ni ollyngi'r llange, Ofer heb ein brawd ifangc In' feddwl, ni wnawn feiddiaw Myn'd i'r Aipht at Simeon draw.
Drwy loes f' einioes a fynnwch,
Ni'ch dyddawr, i'r llawr, i'r llwch. 1240 Dirwynwch, mae'n drueni,
I fedd fy mhenwynnedd i. Joseph, y cariadusaf
Ei lon wedd ddaeth o law Naf,
Nodedig fab, nid ydyw, A Simeon dirion nid yw: I hyll ing, pe gollyngwn, Mae 'ch bryd fyn'd hefyd â hwn.
Duw fry! a raid felly fod! Gwae finnau dy gyfiawnwas! Diblentir yn wir dy was! Poenus ydyw 'ch tad penwyn; Gwrandewch, ac ufuddhewch hyn: I'r gwr gwnewch anrheg euraid O'r ffrwythau gorau a gaid,
O fyrr a balm diferawl, O lysiau, teganau 'r gwawl, O gnau, almonau, a mêl,
A neswch atto 'n isel;
Ac eled eich brawd gwiwlwys
I'ch canlyn:-rhag dychryn dwys, 1300 Rhag pob rhyw ddrwg, Duw, dwg di,
Heb nam, fy meibion immi! O'r Nef fawr hyfrydwawr fry Duw Abra'm gweled obry! Duw Isaac a'm dewisawdd, Duw nefol fo 'ch nerthol Nawdd! A rhoed, er cariad Ior Hedd, Y gwr i chwi drugaredd.
Rhag pob drwg, Duw, dwg o'r daith Yn ol fy meibion eilwaith!
Heb uno'n, 'n ol derbyniad Bendithion tirion eu tad, I'r daith yr eilwaith yr ân'. E wnaeth y newyn weithian I lawer iawn o luoedd,
I'r holl fyd i gyd ar g'oedd, Dyrru i'r deyrnas diriawn, Helaeth, lle 'r oedd lluniaeth llawn. Dedwydd dorfoedd alltudion, Wrth ddod i'r wlad hyglod hon, Yn siriol a wnaen' siarad Beunydd am lywydd y wlad. Dïeithriaid a gweiniaid gànt, Wr hael, am dano'r holant: Mawl y llywydd clodrydd clau, Mwyn enwog, glywsom ninnau: Son mae dynion am danaw, Pob gwan, drwy'r pedryfan draw. Chwi fu gynt, meddynt, am ŷd Tewfrig yn y wlad hyfryd, Adwaenoch, welsoch chwi wedd Yr enwog wr o rinwedd?
Do'n wir; do, ei wên eirian, A'i lais a glywais, wr glân. Gwroldeb, hawddgar wylder, Nawdd i bawb sy 'n ei wedd bêr: Gwr ar fyrdd yn rhagori, Perffaith oddiar ein iaith ni. Mal mawrion gwiwlon eu gwedd Y gweiniaid gânt ddigonedd. Unwedd o'i flaen, bob ennyd, Mawrion a gwaelion i gyd.
Pan ddaethan' i'r loywlan wlad
Y gwŷr i gyd â'r un gariad Gwresog a'i mawr garasant, Fal beirddion a gweinion gànt
Mawrwych od y meirch ydynt, A blodau'r wlad werddfad ŷnt. Caerog addurnwaith cywrain O aur coeth yw 'r offer cain. Ymlonnant mewn melynaur, A'r cerbyd sydd danllyd aur: Eres ei loywder araul, Mal cerbyd hyfryd yr haul. Ei olwynion ëon ânt, Hoywon y tro'n', taranant. O'i ddeutu golygu i lawr O'i dirion gerbyd eurwawr, Mewn brawdol a nefol naws, Wna'r llywydd ar y llïaws: Cannoedd o dorfoedd dirfawr Ymgrymmant, llyfant y llawr. Fel pan fydd ym meusydd Mon Y gwenith yn frig-wynnion, A'r gwynt o'r gogleddbwynt glân, Y blagur oll a blygan'; Trwy ganol ei faenol fawr, Ar fore o haf eurwawr, Ardderchog farchog o Fon, Hyd araul rodfa dirion,
A wêl bob grawn ffrwythlawn ffraw Yn gweddus gyd-ogwyddaw: Bendithia 'n llon, o'i fron frau, Roddwr pob trugareddau.
Yr un modd, pan drodd drwyddynt Y llywydd ei hoywrydd hynt, I'r hynod wr brenhinwawr
1340 Plygu wna pob rhyw lu i lawr. Pawb yno 'n llon, pob enaid, Wr mwyngu'n ei garu gaid; Gwenu ar ei ogoniant,
Ddyffryn gwyrddwawr clodfawr Clwyd, Lawnaf Dyffryn a luniwyd; Hylwydd ddyffryn ehelaeth Yn llawn ymenyn a llaeth;
Ac yno mae gwin a mêdd, Gwenith a haidd ddigonedd; Aml lysoedd cyhoedd eu cêd, Ac eirian byrth egored.
Wrth wel'd gwedd, mawredd a maint
Y gaerog ddinas gywraint, Medd rhai, y trysordai sydd Amryw fil mal mawr foelydd. Rhyfedd, dan un gwr hefyd Mae'r deyrnas geinlas i gyd! Mynor ei lys dymunawl, Disgleirbryd i gyd fel gwawl!
Y gloywrudd haul eglurwawr Wnai gu belydru i lawr. O'i gywraint lys mawrfraint mâd Y gwron mawr ei gariad, Rhwng harddlu o'r ddeutu, ddaeth I'w hoywliw gerbyd helaeth.
Hir graffu 'n anwylgu wnant. Dyma'r mwynwawr wr mawr mâd, Rhagorol:-ar ei gariad,
Ei ryfedd drugaredd gu,
A'i rinwedd yn cyfrannu,
Yn gwbl ar hyn mae 'n gobaith, Mae bywyd y mawrfyd maith. Difyr rho'i pob rhyw dafod Ei fawl a'i ryglyddawl glod: Y mae'r gwr mawr ac eirioes Ym mlodau ei olau oes;
« PoprzedniaDalej » |