Obrazy na stronie
PDF
ePub

Tra bu fe 'n gorhybu rhawg,
A'i ruad mor afrywiawg,
Ynfyd fygythiai 'n anferth

A'i ddwrn llawn asgwrn a nerth:
Ei dawel feibion diwair
Ddelwent, nid attebent air.

Eb ei wraig, er mwyn cael bri
Ei ddwl wên, a'i foddloni;
Boed i mi braff wr craff cryf;
Da gwn na bu 'rioed gennyf
Dueddiad at brydyddiaeth,
Ysmaldod a ffregod ffraeth.
Diles anfuddiol deulu

Yw beirddion llymmion yn llu.
Dyna, eb Cain frwd annoeth,
Dyna reswm dyfndrwm doeth.
Anfynych i ti, f' enaid,

Roi'r fath drwm reswm wrth raid.
Deuwch, fy meibion diwyd,
Prysurwn, gweithiwn i gyd.
Terfysg y' nghanol tyrfa,
Dirmyg dau ddyblyg ar ddâ,
Hyn, neu ddim, ro'i ar ddamwain
Ryw ammhur gysur i Gain.

Dilwydd oedd yn ei deulu;
Hyd ei feusydd beunydd bu

2620

2640

Rhyw aflwydd, rhyw dramgwydd drwg,

Ddu alar i'w ddau olwg.

Praidd Abel, pur dda obaith,

Hyd borfa fras loywlas, laith,
Ar gynnydd beunydd y bu,
A dilesg, mal ei deulu.

I Nef fâd offrymmai 'n ferth
Loywbur, flynyddawl aberth,
O'i wynnion ddofion ddefaid,
Yn ddïau y gorau gaid.

Ar fryn heulwawr allawr oedd
I Naf daear a Nefoedd,
Gwaith dïogel Abel wâr,
O ddewis bridd y ddaear.
Yn ol ei bêr arfer aeth

I'r heulawg fryn tra helaeth,
A'i feibion rhadlon yn rhes,
A'i fyw oen yn ei fynwes.

[blocks in formation]

Y gwirion, am ddrwg arall,

I farw 'n wir, am fawr iawn wall.
Duw Ynad a ordeiniawdd

Hyn i ni; hwn yw ein nawdd.
Trwy waed mae 'n portreiadu
Rhyw fawr Aberth ceinwerth cu
Sydd i lanhâu beiau'r byd,
Holl faich ein hyll afiechyd.
I'm Naf aberthaf yn bur,
Drwy grêd, ei wâr greadur.
Yr oen, wedi'r farwboen fawr,
Oedd oll ar yr hardd allawr.
Yn union tân ennynnawl,
Fflammau o gaerau y Gwawl,
O'r rywiog eglur awyr
Ddisgynnodd, llosgodd e'n llwyr.
Ac Abel, yn llawn gwiwbarch,
A'i deulu, o burgu barch,
Ar y glwys fryndir glaswawr
Syrthiodd y cu lu i lawr.
Codant, a molant Dduw mâd
Yn llon gôr llawn o gariad.

Cain yntau 'n ddïau a ddaeth
O'i halog faes ehelaeth
Yn hwyrdrwm âg offrwm gwael,
Anhynaws galon anhael.
Mawr oedd ei ddig ffyrnig ffol
(Gresyn!) at ei frawd grasol.
Y Byw-Ner ni dderbyniodd
Ei ddigllawn anraslawn rodd.
Bu llidiawgrwydd, herwydd hyn,
Annwnawl ynddo 'n ennyn,
Anneddu'n ei fron addig
Bu chwerwon flinderon dig.
Ei freuddwydion gwylltion gànt
Y nos a'i dychrynasant.
Gan frawychu canfu Cain
Ddrwg orthrwm olwg milain,
Ei feibiawn, garw-iawn y gwaith,
Yn ubain mewn anobaith,

Yn waelion gaethion fe 'u gwel
Dan greulon feibion Abel.

Ei lafur fe wêl hefyd,
Erchyll hynt! ganddynt i gyd.
Fe glybu, dan synnu, swn
Gerwinawl o hagr Annwn.
Tydi a oddefi 'n ddwys
I'th erbyn y fath arwbwys?
Yn wir-deilwng ar d'elyn
Tydi ni ddïeli, ddyn?
Ymwylltio, dan ddeffro 'n ddig
Iawn ei wedd, wnaeth Cain eiddig.
Y nos sydd, a'r dydd heb dawl
Yn ddeufwy anoddefawl.
Penyd yw 'mywyd i mi;
Beunydd raid im' ymboeni?

Digter, blinder, chwerwder chwyrn,
Terfysgu maent trwy f' esgyrn.
Myn Annwn, ai mi'n unig

Dan Nef raid oddef y dig?

2680

2700

2720

Oes eraill gânt drysori

Bendith, a melldith i mi?

Myn Nef fry! nid felly fydd;

Galar gânt fel eu gilydd.

Eu mwyn brydydd ni bydd byw

Yn hawdd ddim hwy na heddyw. 2740
A dyngais â'm llais, fy llaw
Hynod a'i gwna cyn hunaw.

Gyd â'r wawr f' aeth y cawr Cain
Gryf olwg, âg arf filain
Farwol, dan y Nef eirian,
Yn ffyrnig wr dig ar dân.
Abel â'i dawel wên dêg
Ydoedd, ar hyn o adeg,

Yn rhodiaw, 'n myfyriaw 'n ferth,
Gu lwysfab, dan goed glasferth.
Rhyfeddai, myfyriai 'n fud
A manwl, ar bob munud,
Ar degwch caredigawl,
Ar eglur gysur o'r Gwawl
Gafodd ef o Nef yn wir
Gan Gerub gwŷn a geirwir.
Yn ei gwsg, y mwynddyn gwâr
Heddgoeth, gwelodd yn hawddgar,
Gwelodd wych a gloywdda wedd
Nwyfus Angel tangnefedd.

Clywodd ei lais cu-lawen,

Nefolaidd ei waraidd wên.

Dy yrfa, wr diweirfad,

A ddarfu 'n ufuddgu fâd.

Tydi derfyni ar fŷr,

Yn Nuw, dy oes dan awyr;
Tydi a dderbyni 'n bêr
Fendith Duw dy Gyfiawnder.
Seirian Gerub prysurawdd

I'r entrych hoyw-wych yn hawdd:
Ar edyn, dan esgyn, aeth
Yn heulawg i'r Nef helaeth.

Lle'r oedd y gwr llarieidda',
Abel, mewn man ddirgel dda,
Cain, mal ar ddamwain, a ddaeth
A'i lawn danllyd elyniaeth.
Yna Abel wynebodd
Arno fe mewn eirian fodd,
Gan barablu, nesu 'n ŵyl,
Mor dyner,-fy mrawd anwyl!

Ennynnodd Cain yn wynnias,
Addig iawn oedd ei wedd gas.
Ai brawd wyf fi i brydydd
Penffol? ba'nd ffol yw dy ffydd!
A'i anferth arf erwinfawr
Tarawodd, lladdodd i'r llawr!
Ei dêg waed ffrydiawg ydoedd;
Yn loesau angau pan oedd,
Fe iolodd dros fai 'i elyn,
Yn hygar faddeugar ddyn.

Felly bu farw, modd garw! gwel
Dda obaith diwedd Abel.
F' aeth angylion, loywlon lu,
A'i fyw enaid i fynu.

2760

2780

[blocks in formation]

Cain yno, mewn cwyn annoeth, Afraid cur, am ei frawd coeth, Ei law, mewn tynerawl ofn, A godawdd, ac mewn gwaedofn : Ei dda luniaidd law wenwawr A syrthiodd, llithrodd i'r llawr. Fy mrawd! fy mrawd! marw ydwyt! Gwae o'r dydd! ac oered wyt! Gorwyllt â'i draed fe gurodd Y ddaear ddig; ffyrnig ffodd Ymaith mewn tanbaid ammhwyll, Rhegodd Annwfn â'i dwfn dwyll. Cly wai, meddyliai'n ddilys Clyw ef hyfrydlef ar frys. Gobeithiol droi 'n ôl a wnaeth Yr herwr, mewn mawr hiraeth. Ond Oh! nid oedd yno ddyn

Oll i alw yr hyll elyn;

Neb, wae arw! ond y marw mud,
Anafus, i'w flin ofud;

A'r fyddar werdd ddaear ddig
O'i drwch waed yn drochedig!
Crych wylodd, mewn croch alaeth
Y llofrudd mewn cystudd caeth:
Daear! Uffern hyll drafferth!
Crynwch, agorwch yn gerth!
Agorwch, llyngcwch fi'n llwyr,
Fi'r euog! o'r fawr awyr!
Ymwylltiodd, rhedodd ar hynt
Chwerw, mor gyflym a chorwynt.
Syrthiodd, llewygodd i'r llawr;
Yno 'n dorf ofnau dirfawr
A fu'n ei amgylchu 'n gaeth,
Wr addig, am lawruddiaeth.
Gerwinboeth ei gur enbyd!
Nid llai na phe byddai'r byd
Yn wreichion gwylltion o'i gylch,
A'r agwrdd nef fawr ogylch
A'i siriol luoedd seirian
A hwythau'r dyfnderau 'n dân!
Clywodd ef hydrlef ar hyn
I'w gyfarch, ac yn gofyn
O fry,-Mae Abel dy frawd?

2820

2840

Yn unffagl, mewn chwyrn anffawd, Neidiodd yn ddychrynedig, Attebodd, d'wedodd mewn dig, Ni's gwn; ai fi fyddwn, fâd Gadarn! i'm brawd yn geidwad? Cudeg Archangel cadarn Oedd yno i bwyso barn.

[blocks in formation]

Annoethwr, beth a wnaethost?
Lofrudd, clyw, on'd ydyw 'n dost,
Mae gwaed dy frawd, gwiwfrawd gwâr,
Ar Dduw 'n gwaeddi o'r ddaear!
Fab anwar y ddaear ddig,
Ac adyn melldigedig,

Mawr fydd d' aflwydd herwydd hyn,
O'th ôl dïal a'th ddilyn.

Y ddaear, am dy fâr, fydd
I'th boeni'n ddiffrwyth beunydd.
Crwydrad, gwibiad gwag obaith,
Fyddi 'n hir gwedi 'r drwg waith.

Y llofrudd, mewn cystudd, cur,
Ddolefodd gan ddu lafur;

Mae 'mhechod, gwae im' ganfod gwawl! Yn ddïau 'n anfaddeuawl.

Af, rhedaf yn rhuadwyllt,

Yn grwydrad a gwibiad gwyllt!
A'm deil, wedi'm didoli,
Hyllddu waith, fe a'm lladd i.

Adeiniawg fab nerthawg Nef

2880

Heulwawr, dd'wedodd mewn hoywlef:
Saith ddyblyg ddirmyg a ddaw
O fol Annwn i flinaw
A laddo Gain, aflwydd gwyllt
A'i gyrr i ddistryw gorwyllt.
Y mawr Archangel mirain
A rodd gerth arwydd i Gain,
Yn groywdeg i'r hagr adyn,
I'w ddïau gadarnhâu 'n hyn.
Eb wed'yn fab gwyn y Gwawl,
Gan edrych yn gain hydrawl,

Pwn o dân, poenau d' enaid
A'th losgant, poenant heb baid.
I'r nefawl orseddawl SANT,
I Dduw perthyn maddeuant:
I'r Arglwydd hylwydd, i'r hael
Ion didwyll yr wy 'n d' adael.
Y Gennad hardd esgynnawdd
Yn union yn hoywlon hawdd.
Ef ar hynt aeth fry i hedd
At nifer gwlad tangnefedd.
Gwedi'r llofruddiawg adyn
Erchyll hir sefyll yn syn,
Cynddeiriawg aeth Cain ddiriaid,
Mewn gwyniau poenau heb baid,
I blith ei dylwyth, a'i blant
A nawswyllt ddychrynasant.
O degwch cymmydogaeth
Anwylion yr Ion yr aeth
Y llawrudd hyll a lloerig
Heb ffîn, ond trablin! lle trig.
Ei dylwyth ymddidolant,
A mudaw, dan udaw, wnant.
Yn ddig, mewn crwydredigaeth,
I dir Nod, i'r dwyrain aeth.
Gofidiai, ni feiddiai fod
Ei hunan, gan ofn hynod:
Gan hyn, yr adyn di ras
A seiliodd yno ddinas,

I ddofi'r anoddefawl

Boen a gwŷn derwyn ddi dawl,
I ddiriaid fud-fyddaru
Cydwybod mewn llawnglod llu.
Adda ac Efa gafodd

Fab cyfiawn, yn raslawn rodd
Am Abel, ac o'u meibion
Y mwyaf, Seth lwysaf lon.
Anwyl gan Dduw ei enaid,
Fe'n ddifri' mewn gweddi gaid.

2900

2920

Y DRYDEDD RAN.

AMLHAU drwy barthau 'r byd Wnai dynion wedi ennyd; Gormod malldod a melldith, Amlhâu wnai pechodau chwith. O fysg terfysg eu torfoedd Ammhrydferth, yn gerth, ar g'oedd, Gwâr Enoc, y gwr union, Gan gu oreulu yr Ion Cyfodwyd, a dygwyd ef Ar olwynion i'r loywnef, Oddiar wybrennydd eirian, Mewn cerbyd eurbryd o dân. Er canfod, i'w trallod trwch, Fyw arwydd edifeirwch, Hagr gedyrn gawri gwaedwyllt, Cawri mewn drygioni gwyllt, Ni throant, er athrawiaeth, O'u llygredd, o'u camwedd caeth. Waethwaeth aeth y byd weithian, Llygrodd y' mhob modd a man. O'r Gwynfyd Ior a ganfu Eu holl ddrygwaith diffaith du. Ior Nef edifaru wnaeth Greu dynion digrediniaeth. Ei gâs a gyffröasant;

[ocr errors]

Pob byw i ddistryw ydd ânt.

Un oedd a gaid yn addas
O flaen y Tad, drwy rad ras;
Ac ef, sef Nöa gyfion,
Fwynaidd wr, anfonawdd Ion,
Bura gwaith, i bregethu
At greulon elynion lu.

Y gau weision a gawsant,
Gan wych Ion, ugain a chànt
O flwyddau, er troiau trwch,
I gyrhaeddyd gwir heddwch.
O'u trawsedd hwy ni's troisant,
Eithr oll yn waethwaeth yr ânt.
Anfad-weis, gwnaent ynfydu
A gwatwor pob cyngor cu.
Y byd i gyd mor gadarn,
Lygrodd, addfedodd i farn.

Naf Awdwr y Nef odiaeth,

20

Uwch y byd ynfyd anferth
Lanwent, ymgasglent yn gerth:
Miloedd o ddu gymmylau
Ynt o hyd yn tewhâu:
Du y wybren a dybryd,
A du yw'r ddaear gu i gyd:
Torrai'n ferw-wlaw, troe'n fawrlef
Genlli' o ffenestri nef.

Gan amlder, llawnder, a llid
Y gwlaw, yn syn e glywid,
Ar gyhoedd, drwy gymmoedd gànt,
Arw hyll ferw y llifeiriant.
Afonydd, â'u holl-rydd hynt,
A chynnwrf mawr, gwreichionynt.
Yr awyr wnai adruaw,

A mawr drwst wnai 'r môr draw:
Dygyfor wnai'r môr merydd
Drwy safnau y sugnau sydd
O'i fewn, a berwi i fynu
O'r llyngelyn diderfyn du.

Draw e giliai'r trigolion,
A braw yn brydiaw eu bron:
Pan glywsant, ffoisant yn ffol,
A mawrwaedd, i ymorol
A cheisio lle i lochesu
Rhag digter y dyfnder du.
Eu 'mddiffyn yn erbyn Nêr
A gafwyd yn wag ofer:
Mawrddwys oedd grym y morddwr
Yn llenwi, 'n torri pob twr.
Ffrydiaw yn gyffröedig
Yr oedd y dyfnderoedd dig.
Soddawdd y dinasyddion
Dan gryfder dyfnder y dòn.
Eraill, mewn amryw oror,
Rhag dyfroedd mawrfloedd y môr,
Yr ynfydion gwylltion gau
Am nawdd ffoent i'r mynyddau :
Rhedai'r môr mawr rhuadwy

40. Ar fyrder i'w huchder hwy.

F' all wneud, f'eill ddadwneud a wnaeth:
Anfeidrawl ollawl allu!
Dyweded, Bydded-a bu.

Duw o gaerau'r dêg eirian
Oleunef, a rodd lef lân;

Chwi ddyfroedd yn lluoedd llawn,
Dyfnderoedd moroedd mawriawn,
Duw Awdwr, Fi sy 'n d'wedyd,
Dylifwch, boddwch y byd.

Y dyfroedd â'u lluoedd llawn,
Ar air Ion, yr Ior uniawn,

P' le 'r ânt? p' le safant? p' le sydd?

Ba gaer lle na bo gerydd?
Duw Nêr! ei ddigter a ddaeth,

A dygn yw'r gospedigaeth!

60

80

Chwyrn derfysg! dychryn dirfawr! ́
Goleuo mellt drwy'r gwlaw mawr! 100
Daear hen, drwy wahanu,
Yn dadmer i'r dyfnder du:
Hi, wrth esgor ar foroedd
Llïosog iawn, yn llesg oedd.
Gan ofn, y ddaear ddofn ddig
Gron ydoedd yn grynedig:
Gan fôr gwyllt gwynferwawg wedd
Yn torri rhwng y tiredd,

Ynysoedd ymrannasant,
Trymmion i'r eigion yr ânt.
Gwnai'r tonnau, cadau cedyrn,
Dan ruaw, ymchwyddaw 'n chwyrn.
Dinystr bloedd fawr ymdaenodd,
A'r crwnfyd ynfyd amdôdd;
Pob glàn, pob eirian oror,
Pob mynydd îs moelydd môr!
Byddar i bob rhybuddion

Rodd Ior Hedd, fu'r ddaear hon:
Hyd eigion damnedigaeth

Barn Duw yn ddiluw a ddaeth.
Distryw dirfawr, bloeddfawr bla!
Diweddiad ar hâd Adda!
Hyll iawn bu, ar ol y llif,
Arw-waedd gan dorf aneirif.
Echrydus arswydus swn,
Crechweniad croch o Annwn:
I'r Diawl ac i'w arw deulu
Rhyfedd orfoledd a fu.

[ocr errors]

120

Pa wrthddrych mor drefnwych draw Dan nefoedd sy'n dynofiaw Goruwch bloedd dyfroedd y dòn, Ar ogwydd hyd yr eigion? Ai llong ddi hwyl anwyl yw, Wych adail, neu arch ydyw? Oes neb daionus yn ôl Trwy foddion tra rhyfeddol? O Nöa ragora' gwr! Credaist air y Creawdwr; Cedwaist hefyd fyd yn fyw

O ddwystrwm ddyfnfawr ddistryw: 140

Dedwydd trwy ras Duw ydwyt;
I'r byd, wr mâd, eildad wyt.
Ion a gofiodd No gyfiawn,
Dduwiol wr dedwyddol iawn,
A gyrrawdd o bob goror,
Trwy nerthoedd gwyntoedd yn gor,
Y moroedd mawrfloedd a maith
Yn ol i'r llyngclyn eilwaith;
Eilwaith hwy wnaent ddychwelyd
I'w hannedd, i berfedd byd.
Ac o'r moroedd garw floedd gant
Ynysoedd esgynnasant.
Daeth y crwnfyd hyfryd hwn
Yn ol i'r drefn a welwn.
Ar dop, ar uchelder da
Mynydd mawr yn Armenia,
Yr arch lwys a orphwysawdd,
Dros amser, dan Nêr a'i nawdd.
Hefyd ar air Iehofa,

Ym mhen blwyddyn, y dyn da
A ddaeth â'i hiliogaeth lân,
Wych ollawl, yn iach allan
I'r ddaear oedd liwgar lwys
Buredig ail Baradwys.
Aberthu wna Nöa 'n awr,
Dda 'wyllys, ar hardd allawr,
Ar Ararat fawr eres,

I Arglwydd pob llwydd a lles.

160

Yr Arglwydd Ion cyfion cu
Ei fwriad wnai lefaru,

Na fwriai lif nef fry i lawr
I'r lesol ddaear laswawr.
Tymmerus fydd tymmorau
Drwy'r byd i hyfryd barhâu :
Pryd hau a phryd cynhauaf,
Pryd oerni, pryd heini' haf,
Nos a dydd ni's diweddan'
Tra bo 'r ddaear liwgar lân.
Yn Nuw fe gredodd Nöa;
Y gwr cu a'i deulu da
Diwagedd a fendigwyd

Mal plant dilysiant Duw lwyd.
Rheolant, byddant yn ben
Obry, dan yr holl wybren.
Drwy fendith Duw Ior fwyn-Dad
Y gwnaent hwythau amlhâu hâd.
Y dynion wrth ymdaenu
O'r dwyrain, oror gain gu,
Teithient, deuent o'r diwedd
I wlad dêg wastad ei gwedd.
Nid oedd, drwy eu lluoedd llawn,
Ond uniaith rhwng y dyniawn.
Dywedent, Gwnawn odidawg
Ddinas dda a barhâ rhawg;
A Thŵr o fawrwaith eurwych,
A'i nèn hyd y nef wèn wych.
O'n caerau ni 'n gwascerir;
Gwnawn i'n henwau barhâu'n hir.

180

O'r wenfawr Nef dirionfaith
Gwnai'r Duwdod ganfod eu gwaith. 200
Dirym iddynt hyderu,

Can's Ion yn anfoddlon fu.
Y lydan adeiladaeth,

Ar fyrder, llwyr ofer aeth:
Rhwng gau dduwiau y ddaear
Anghydfod fu 'n bod a bâr.
O'u ceurydd hwy wascarwyd
Yma a thraw gan law Duw lwyd.
Y dynion wnaent ymdaenu,
Ar led ymrannai'r mawr lu.
Dewisodd, galwodd Duw gwỳn
Un hynod iawn o honyn'
O dŷ ei dad, o'i wlad lwys,
I gael gwlad oedd fwy gwiw-lwys.
Diweirfab, ebr Ion dirfawr,
Tydi a fyddi yn fawr:
Hynod ryfeddod fyddi;
Amlhâf a bendithiaf di.
Bendithiaf, rhoddaf wir hedd
I'r gwŷr wnan' it' drugaredd:
Doethion fydd dy fendithwyr;
Ond gwae eneidiau y gwŷr
Taeogion a'th felltigant;
Melldithion geirwon a gânt.
Dïau teuluoedd daear,
Ynod, y gwr gwiwglod gwâr,
Yn odiaethol fendithir;
Ior y Nef wna 'i air yn wir.

220

« PoprzedniaDalej »