Rhoi iawnddwys hyder ynddaw,
A gorphwys ar ei lwys law.
Ni awn i gwsg mewn ennyd, I farwol ryfeddol fyd. Hyderwn ar gadwraeth
A gwiw nawdd y Duw a'n gwnaeth. 2020
O'n henaid, yn ein hannedd, Gweddïwn, hunwn mewn hedd. Yn isel penliniasant,
I ddifri' daer weddi 'r ânt. Anwybodaeth caeth fu 'n cau Dyfnion gŵynion eu genau. Ingder ac annheilyngdod Arnynt yn ddwys bwys fu'n bod. Ond etto, drwy gofio 'n gu Heddwch oedd heb ei haeddu, Cariad y Tad attynt hwy, A'i fyw ofal yn fwyfwy, Ennynnodd hyn yn unawl I Dduw mâd weddi a mawl: Dad anwyl, deued inni Yn ddilys d' ewyllys Di: Gwrando ni; Ti yw ein Tad ;- A dïau bu gwrandawiad. I'w dau enaid yn dyner Daeth cariad anwylfad Nêr: Drwy gu Ior â'i drugaredd Daeth cryfder, hyder, a hedd.
Dan nawdd Naf, y siccraf Sant, Hynawsion yr hunasant
Is gwiwdeg lawn gysgodau, Mewn hedd, o'r diwedd, eu dau. Weithion y chwern Gethern gau, Hell wynnias, ddaeth i'w lluniau Eu hunain, o Seirph anwar Torchawg, am anferthawg fâr. Ys etto codawdd Satan Ddu a dewr, i'w orsedd dân. Ei hagr olwg drwg a drodd, Cry' a ffraeth craff areithiodd: Hyn allai'n Gelyn i gyd I'n synnu ni dros ennyd. Dangos yr achos ichwi Weithian yn fuan wnaf fi. Myfi'n yr un llun yn llwyr, Eres sôn! drwy fawr synwyr, A dwyllais, ddifethais fyd; I'r Nef mae'n fawr iawn ofyd. Er y tost drawsffurfiad hwn, Ennill o hyd mae Annwn. Trawsffurfier, newidier ni Ganwaith am ein drygioni, Etto gelynawl yttym, A nerthawg, llidiawg a llym, Yn dradewr mewn dirieidi, Nid hir y newidir ni; Wed'yn anghyfnewidiol Deuwn ni'n ddiawliaid yn ôl. Creu bydoedd fyrddiynoedd yw Nwyflawn bleser y Nef-Lyw;
Creed a fynned, myfi
Ei fydoedd a wnaf wedi Yn addas deyrnas i'r Diawl, Yn boethwyllt dros byth bythawl. Finnau a ryddhâf Annwn O'r Carchar anhawddgar hwn I dirion ehangderau
Meithion gànt, y meddiant mau. Weithion chwi brif bennaethiaid (Pennododd, henwodd ddu haid) Canlynwch fi'n wisgi'n awr, Yn dorf, o'r Llyngclyn dirfawr. A mawr rym yn fflammau'r ânt, Gwynnias Gedyrn esgynnant I nèn ffurfafen Annwn
Ddu hell, gyda 'u Llywydd hwn. Drwy'r dirgel wag-le helaeth I'r crog ser sefydlog f' aeth. Gyda'r uffernawl Gedyrn Safodd, ymchwyddodd yn chwyrn. Ei dduon gyfeillion fu
Tros ennyd yn taer synnu, Wrth weled prydferth heulau Pelydrawl â'u gwawl yn gwau, A bydoedd laweroedd, lu
2040 Gwych iawn i'w hamgylchynu. Medd ffyrnig ddieifl dig ar dân, Wele olwg oleulan!
O baem mal yn nechrau'n byd, Unfodd y mwynhâem wynfyd, Hir hedd, yn yr oror hon A gwynlu y Nef geinlon,
Ennynnodd Satan wynnias, Gynddeiriawg Lew cuchiawg cas: Na sonier, na chofier chwaith, Myn f' enw, am y Nef unwaith. Ein tynged galed heb gêl, Uthr ofid, drwy nerth rhyfel A'n trodd, a'n taflodd i'r Tân, I'r llidiawg Garchar llydan: Os Nef yw'r byd hyfryd hwn, Ninnau drown Nef yn Annwn. Dygwn Nerthoedd hedegawg Annwn, nid arhoswn rhawg, A thaniwn y faith wiwnef
A ffyrnig rym Uffern gref.
Hed gwynnias dân hyd geinwawr Derfynau'r Nef olau fawr.
Hyfwaith mwy na hyn hefyd,
Mawr iawn, sy 'n berwi'n fy mryd. Byr soniwn yn bresennawl Am hyn, am fyd gwyn y Gwawl. Mewn ceindda ddirgelfa gaeth O'r dêg fawr Greadigaeth Addien iawn y creodd Naf Wr eiddil elwir Addaf; A mirain hardd gymmares, Efa wâr lon, i'w fawr les. A ffraeth hiliogaeth liwgar Y rhai'n, heb na bai na bâr,
Olynol oedd i lenwi
Yn Nef ein gorseddau ni. O hyd y daethum i hwn, A denais ef hyd Annwn. Yn hadlyd os cenhedlant, Mal ninnau gwaeau a gânt: Gwaeau byth yn dragywydd I'w holl hil fil-fil a fydd. Drwy drais er pan hudais hwn, Ennynnawl yw tân Annwn Yn ei fynwes, yn fywnerth, Yn ein delw ni, Diawl â'i nerth. Gweled eu hanferth g'wilydd A'u gwg, am fawrddrwg, a fydd Lawenach na goleuni Llysoedd y Nefoedd i ni. Eu trigfan sy'n gyfan gaeth O'r olwg drwy ehelaeth Feithder yr ehangder hwn Heibio 'r ser ni brysurwn At y seren droellwen draw, Lawen, sy 'n eu goleuaw; Ond haul y galwant hwy hi, Olwynawg fawr oleuni.
Yn gras y Cedyrn â'u grym, Dywedent, Parod ydym
I'th ddilyn a'th addoli,
Dilynwn hyd Annwn di.
Ymaith ehêd y Cedyrn
Fyrddwaith gynt na chorwynt chwyrn. Heibio 'r ser hwy brysurant, Ar ruthr at Sadwrn yr ânt; Ar fyr dro heibio i'r haul Terwyn, canolbwynt araul Blanedau 'n eu cylchau certh; I'r ryfedd ddaear wiwferth Ar unwaith, heb ymrannu, Y daeth y dorf ddilorf ddu. Fe wylltiodd llu y felldith! Nid gorfoledd, chwerwedd chwith I'w hammhur fron, a mawr fraw Yno rhawg fu 'n eu rhwygaw.
Adda a'i wraig, at Dduw Ri Yr oeddynt hwy ar weddi; Y ddau ar liniau ar lawr, Yn fwynlon, yn nefolwawr. Iawn afael ar y Nefoedd, A'u Duw, gan eu henaid oedd. Oh Dad! cariad, nid cerydd, A ddaw o'th oreulaw rydd, A ddaeth i'n helaeth fywhâu O lwyr ing, o law 'r angau. I'th waelion weision isel Dy brid addewid a ddêl! Hâd Efa 'n drech na'r Diafol A weler, siger ei siol! Teilwng gan ein Hâd dilyth Siger, gorchfyger ef fyth!
Hell daer Sarph dwyllodrus iawn, Na ddeled i'n meddyliawn
Fyth weniaith ei haraith hi, Gwilia drosom, Oh Geli! Os rhed meddwl crwydredig, Os cyfyd rhyw ddybryd ddig Annymunol i'n mynwes,
Oh'n Harglwydd! einLlwydd a'n Lles,2200 A'th nawdd cynnorthwya ni,
A dawnus y boed inni Ddymunol dda amynedd, I feddu, heb haeddu, hedd. Yn union, yn ennynnawl Ddawn fwyn, trodd eu gweddi 'n fawl. Eu gweddi ddifri' mor dda Darfodd Satan a'i dyrfa. Gwae ddifiawg! ni's goddefant Fawl yr Holl-bresennawl Sant.
Y ddeuddyn oedd ddiweddar Yn wirion, gyfion, a gwâr, A budwyd o'u bro hoywdeg, O'u hardd Baradwys-ardd dêg, Yn awr, drwy'r cysurfawr SANT, A gysson orchfygasant
Ddieif Annwn ddu afionydd
A gwaedd hoff iawn gweddi ffydd. Ffyrnig anweledig lu
Hagr Annwn, dan fawr grynu, A ffodd; mudanodd y Diawl Uthr addig yn gythruddawl. Ei ofer falchder a'i fost A ddarfu, ei fawr ddewrfost. C'wilydd llosgedig calon, Braw du rhag i allu'r Ion Dywallt allan fuan fwy O lid annisgwyliadwy,
Ar unwaith a'i trywanodd
A chur mawr, tra chwerw'r modd. Llygru gwaith Galluogrwydd Anfeidrol (resynol swydd!)
A wnaeth; mae ofnau weithion Dieithrawl i'w fradawl fron. Rhodd orch'mynnion geirwon gànt I'w ddiawliaid wneud a ddylant: Yntau o'r Dyfnderau dig A lawn ddygai fileinig Fyrddiynoedd, torfoedd Annwn, I ddryllio, tanio'r byd hwn
A rhifoedd y ser hefyd
Yn wreichion gwylltion i gyd.
Ennynfawr ddychryn anferth
A'i llanwodd, gw'anodd yn gerth. Yn wyllt eirias follt taran Ymaith â'r Diffaith ar dân I'w Lyn dwfn â'i elyniaeth, Mewn braw i ymguddiaw 'n gaeth. Rhyw ddisgwyliad ofnadwy Am haeddol farn farwol fwy A rwygodd, a frydiodd fron Euogwyllt Lew'r Llyn Eigion.
Tywysogion geirwon gwrdd, Didaw buant yn dadwrdd:
Yn Annwn, meddwn, un modd? Yn llwyr fe ddichon ein llu O'i ddewr swydd ddïorseddu Yr anwar brif Arweinydd, A rhoi holl Annwn yn rhydd. Mae 'n bur wir, dir i bob Diawl Ffyrnig ryddid uffernawl. Myn Annwn, mynnwn ninnau Yn ddewrion hyfion fwynhâu Graddau coronawg ryddid Mal Satan lydan ei lid. Cyndyn yn erbyn y Nef Yw'n hantur ni mal yntef. Annedwydd gyndynrwydd dig Ennynnawl, hyny 'n unig Yn llu i'n cyssylltu sydd Dan boenau duon beunydd. Drom wae! mae agendor mawr, Gwynnias, rh'om a'r Nef geinwawr; Daethom o'i phur gymdeithas I farwol drag'wyddol gås. Os llwyddo 'n llawn a wnawn ni, Fawrion, cawn ein clodfori Yn enwog iawn yn Annwn Am danio 'n hyf fyd cryf crwn. Satan ei hunan, ei hyll Orchwyl fethodd yn erchyll: Uthr gynnig wnaeth ddrygioni; Hynny'n gyflawn a wnawn ni. Oherwydd fod aflwydd du Y glân fydoedd yn glynu Ar Addaf etto 'n wreiddiawl, Ei ddistaw hudaw o'i hawl A ddeuai drwy'r addewid, Hyn dynnai'n llawn dân a llid I lawr; rhoddai'r haul eirian Y byd mawr dybryd ar dân. Gwyliaw yr oedd pob gelyn, Bob oriau, i gwblhau hyn. Ond Adda ac Efa gaid Yn unol, yn un enaid, Mewn difrif weddi fuddiawl
Ar Nêr, ac mewn mwynder mawl. Ymddiddanion mwynion, mâd Oreuddoeth ymarweddiad Y ddau anwyl ddïenwir Oedd yn y Nefoedd yn wir. Wrth goff hâu da radau'r Ion, Yn glauar eu deigr gloywon Filoedd heb rif a welid, A'u calon oedd lon ddi lid.
Ffynnon ffydd ddihysbydd dda A ddwyfawl nerthodd Efa. Meddyliai y gwelai'r Gwr, Ogoneddus gu Noddwr, A rodd wir gysur iddi, A'i nerthodd, bywhâodd hi, Beunydd â'i wyneb anwyl Yn craffu, dan wenu 'n ŵyl. Efe y bore yn bêr,
Wiwdda Hâd, oedd ei hyder; Drwy'r dydd yn Ddiddanydd, Ef A fyddai hi'n gyfaddef; Ei diammhur gydymmaith Gyd â hi, gwedi ei gwaith Yn yr hwyr, mewn tyner hedd Fe welid i'w gorfoledd:
Hoff a gwiw argraph a gaid
O honaw yn ei henaid.
Mewn braw câd Annwn draw drodd
Yn fyw addig, ni feiddiodd
Eu rhawd ganfod mawrhydi Ei hwynebpryd hyfryd hi.
Drwy fawr fendith i'w plith, plant A lesol genhedlasant. Plentyn bob blwyddyn i'w plaid, 2280 Hoenus, lonnodd eu henaid. Yr hynaf, cyntaf, oedd Cain; A mawrwych fachgen mirain, Un serchog, bywiog dros ben, Un chwimmwth iawn a chymmen, Didaw yn siarad, ydoedd; Llonni ei rïeni'r oedd. Abel oedd eu hail obaith, Un tyner â mwynder maith: Un gwael iawn yn eu golwg; Ni wnai'r gwan, druan, ddim drwg. Mawrfaith eu gobaith o Gain, Wych wrol fab a chywrain. Hwy roddynt iddynt addysg Boreuol, wir dduwiol ddysg. Gweddïau, dagrau digron, A'u mawl hyfrydawl o'r fron, A fu yn argraphu gras I lwyddo meddwl addas Eu plant yn ffynniant y ffydd 2300 Drwy gu radau'r Gwaredydd.
Yn ddewrwych Cain oedd arab Liwgar ymofyngar fab: Ei dad a holai 'n ddi dawl, Naws taer ond anystyriawl. Abel, yn fab tawel têg, Byw ydoedd, ar bob adeg, I wrandaw, myfyriaw 'n fwyn A gweddus, ar ddysg addwyn. Gweddïau a dagrau 'i dad, A'i loywlwys nefawl eiliad O fawl i'r anfeidrawl FOD, Hoff iawn fu 'r argraph hynod Ar enaid llawn o rinwedd Abel wâr mewn hawddgar hedd.
Dewrder, gwrolder, a grym,
A golwg craff a gwiwlym, Hyn oedd ffrost, mawrfost, a mawl Yr eryr, Cain arwrawl. Gorhoffder ei dyner dad Oedd ef: Abel larieiddfad, Wedd anwyl, fuchedd ddinam, Oedd hoffder ei fwynber fam. Un oedd yn canlyn Adda,
A than bwys llafur dwys da; A difyr fugail defaid
Fu 'r llall, a mab call ei caid. Wrth ystyried, gweled gwawr Glaerferth y nef eglurfawr, A'r ddaearen, werdd oror, Mawrwaith yr Holl-berffaith Bôr, Wrth ystyried haeled hedd A gwiwras Tad trugaredd I ddynion anhaeddiannawl, O'i fron fe rodd fwynlon fawl. Nefawl, santeiddiawl fu'r tân Ennynnodd yn ei anian. I ddiddanu'r teulu têg Mor odiaeth, amryw adeg, Cain wiwber fu cân Abel, Felys a mwyn o flas mêl. Yn ddistaw tra gwrandawant Blethedig fiwsig ei fant, Neu 'n gôr unant yn gywrain, Pendrymmu, cysgu wnai Cain. Ai byddar wyt? eb Adda; Gwrando, deffro, fy mab da; O Gain, gwrando ar geinwawd, Ar fawl difrifawl dy frawd.
Cynnennu wnai Cain annoeth, Trodd ei nattur yn bur boeth. Mae'r prydydd drwy ffydd yn ffèl, Yn ddibaid hawdd i Abel Fugeilio, ac eilio gwawd, Ei ddifyr ddïog ddefawd. Myfi'n gweithio am fywyd, Heb dâl, sy 'ch cynnal chwi i gyd. Mae'n ddilys fod chwys a chân Iesinwych o groes anian. Mwyn hoywfawl minnau hefyd Yn hawdd a ganwn o hyd, Oni buasai bai 'n bod, Wrth hanes, o warth hynod.
Adda fwyn ddwfn-riddfannodd, Ac i wylaw draw fe drodd.
Y ddau, er mwyn amlhâu hâd, Wŷr gwrawl, drwy fawr gariad, Duwiesau brïodasant,
Dwy chwaer gain gywrain a gânt.
Addaf i'w fab hynaf pur, Hael ofeg, roes o'i lafur Y parthau gorau i Gain, Lliwdeg feusydd a llydain. Abel yn dawel a da, Gwelwyd ef yn bugeilia.
Yn raddol y trigoliawn Amlhasant mewn llwyddiant llawn. Ond etto amryw dro drwg, Celwydd, a llawer cilwg Arwchwith, darddodd yn erchyll O wraidd hagr eu llygredd hyll. I ddofi eu cyni caeth,
Da oedd nefawl brydyddiaeth. Gwir-ddiboen gerddi Abel, Odlau mâd, fal diliau mêl,
A ddiferent ddifyrrwch
Rhag chwerwder, mewn trymder trwch: Pur oeddent, yn pereiddiaw Digter, neu brudd-der a braw. Cariad o anadliad Nef
A oedd ynddynt i'w addef. Mewn adfyd, mewn hyfryd hedd, Goreugoeth wŷr a gwragedd, A'u plant, a ganant heb gêl Dda wiwber gerddi Abel. Diddanwch dyddiau einioes Mewn prudd-der, dan lawer loes. Ond Cain, drwy filain falais, Pan glywai, fe lidiai 'i lais. Uwch pob rhai fe fynnai fod Ei hunan yn fwy hynod. Cymmaint ei ddigofaint gau I'w frawd, a'i ddrwg fwriadau, Os unwaith ei enw sonid, Yntau, dan lwythau o lid, Ennynnwyd gan dân Annwn, Ddirmygai, fe henwai hwn, Mor ffèl, nid Abel un dydd, Na brawd, ond, y mwyn brydydd! Mewn rhagor nerth corphorawl Ymchwyddai, fe fynnai fawl. Yn aml fe fyddai'n ymladd Ag arthod a llewod, lladd Y rhai'n a wnai Cain o'u cŵr. Yn gawr, yn enwog arwr, Fe'n hyf a fynnai hefyd Lwyr barch, a rheoli'r byd. Gwâr olwg Abel gywrain A gerid, ac ofnid Cain. Anynad yn ei annedd,
O hyd, yn danllyd ei wedd, Oedd Cain, a milain un modd Hyd rynniau'r maes a driniodd. Heb achos, rhyw fai bychan A yrrai'r dig ŵr ar dân.
Ei blant ymwylltiant rhag mawr Chwerw anferth swn dychrynfawr. Ac eilwaith rhwng eu gilydd Rhyw dost anghydfod drwy'r dydd. Tymmer anfad heb rad ras
I weddi nid oedd addas.
Abel dawel a diwyd,
Yn ei annedd hedd o hyd A welid, a'i anwylion
Hawddgar blant mewn llwyddiant llon.
Gwir grefydd beunydd oedd bêr, Ffyddlondeb, undeb, iawnder A hedd yn tarddu o hon, Lawn culwydd, lenwai'u calon. Hynaws dymmer eu henaid Graslon yn gysson a gaid I foli Celi 'n un côr,
Drwy ras, eu santaidd drysor. Mawr oedd siampl ymarweddiad Ragorol eu duwiol dad.
Myfyriai Cain am farwol Dynged, am ddu weithred ddòl Adda ac Efa, mor gerth Eu hynfyd drosedd anferth! Pa gur, pa lafur, pa loes A chŵyn sy 'n nychu einioes? Arw fyd! aneirif ydynt, Erchylled fu'r golled gynt! Abel, yn llawn o obaith Di drai, fyfyriai am faith Drugaredd ryfedd yr Ion A'i ddaioni i ddynion. Purder Cyfiawnder a fyn Yn Nef ei chyflawn ofyn. Anfeidrawl yw ei hawl hi; A dyn, heb ddim daioni, Ei heddychu ni ddichon, Rhaid cwblhâu i foddhâu hon. Duw drefnodd fodd i ddyn fyw, Odiaeth a rhyfedd ydyw, Deilwng ddyledus daliad I burder Cyfiawnder fâd, Holl rifoedd ei llwyr ofyn,
A'r Rhodd dêg yn rhyddhâu dyn. Cariad, rhyfeddod fâd fawr, Llawenydd pur a llonwawr I'w eglur gysur, a gaid Yn unawl yn ei enaid. Y gwr da hawddgar a doeth
A ddysgai'i deulu 'n ddwysgoeth, Mai buddiol resymmol swydd Rhoi gwir-glod i'r gwiw Arglwydd. Rhoddi ni's gallwn ni i Nêr; O lawndid ei ffyddlonder, A'i rwydd nawdd, Fe rydd i ni Galon fywlon i'w foli.
Dduw gwyn, mae 'n Holl-ddigonawl; I'w Enw mâd nid yw ein mawl
Ni ddim, ond i ni mae'n dda; Yn ddwys fe 'n cyfaddasa I dderbyn, gan ofyn, nerth O law Ion, gwir oleunerth. Pob bendith, y gwlith a'r gwlaw, Dda olud, geir o'i ddwylaw: Pob swydd, pob eiddo lwydda Dan ei ofal dyfal da.
Ffrwythau 'n meddyliau 'n ddilyth A lwyddant, ni fethant fyth, Dan ofal Duw y Nefoedd,
Pob perffaith ddawn gawn ar g'oedd.
Cain, â golwg milain mawr, A dewr allu 'n deryllwawr, Yn guchiog hyll, erchyll iaith A therrig, a wnaeth araith Ddiflas, heb ras, heb reswm, Mewn drygnaws, â llais traws trwm: Pwy glywais i'n corddi cerdd, Erwingoeg, anghywreingerdd,
Ym mrig y goedwig dan gêl, A thebyg i waith Abel? Myfi'ch rhybuddiaf chwi 'n chwyrn I gyd, â'm geiriau 'n gedyrn;
Os un fydd mor ddisynwyr
O'm meibion llymmion, yn llwyr Heb raid, â throi yn brydydd Penwag, fe 'n folwag a fydd. Beunydd aed i chwibanu At adar lliwgar yn llu.
Nid ffraeth farddoniaeth a ddaw A theilwng ŷd i'th ddwylaw. Mae'n rhaid yn ddibaid i ddyn, Dan awyr, rhag du newyn, Lafurio a gweithio'n gerth, Balu, dyrnu, mewn dewrnerth; Rhaid i ni, mewn difri' da, Ddioddef am drosedd Adda.
Yn ofalus, yn filain
Rhaid ceibio, dadwreiddio 'r drain A'r ysgall, rhag goresgyn
Yn dryfrith dir gwenith gwŷn. Y dyn wnel ddernyn yn dda O'r ammhur ddaear yma I ddwyn ydau 'n llwythau llon Eu gwala i'r trigolion, Mwy rheidiol, buddiol i'r byd, Beunydd fydd ei gelfyddyd Nag a gân wag ogoniant, Gan ferwi ffol gerddi gant. Cofier gennyd hefyd hyn, Fab Adda, bara 'n burwyn Ni phrofi, ni haeddi, heb Ei dynnu drwy chwys d' wyneb. Cofiwch gynghorion cu-fad, Orchymmyn terwyn eich tad.
« PoprzedniaDalej » |