Clywsant, pan nesasant, sain Corau o adar cywrain.
Clyw, Adda, eb Efa, bur Fiwsig, a phob rhyw fesur. Mwynion adar y mynydd Yn llu i'n croesawu sydd. Nage, Efa, i'n gofid,
Llais cwyn sy 'n y llwyn, a llid. Yn drist, gyd âg aden drom, I'w trigias ffoisant rhagom. Yn dawel beth wrandewi? Tyred, canlyn, fwynddyn, fi. I'r bryn da hyd rodfa 'r ânt, Gwiwlwys olwg a welant: Gwastadedd glaswedd fal glyn, Dirfawr goedydd yn derfyn.
Adda, ennyd, feddiannodd Hedd nefawl, wiw rasawl rodd. Gwel, Efa, le goleuferth, Le hyfryd, i gyd yn gerth, Dilys mai nid i alon Trefnwyd y gaer harddglaer hon. Gwir, Addaf, hygar wiwddyn, Mae'n llesol hyfrydol fryn, Odiaeth annisgwyliadwy; On'd heirdd o goedydd ynt hwy! A gwiwrwydd o graig eirian
Y rhed croyw a gloyw ddwr glân. Ail anneddle newyddlon
I fyw 'n hardd ydyw 'r fan hon. Pêr lais cân, o'n pur lys cu, A fwyn esgyn i fynu. Addolwn, molwn Dduw mâd, Y mŷg lor, am ei gariad.
Yma a thraw dan rodiaw 'r ânt; Hwy ddilon fud-feddyliant O hyd am eu gwynfyd gynt; Gwall oer oedd golli 'r eiddynt. Cydwybod barod ddi bôl, Trugaredd, hedd anhaeddol, Didawl groes-fyfyrdodau Rhyddion a gwylltion yn gwau Drywanant, hyd yr enaid, Y ddau dan boenau di baid. Ar unwaith, bâr eirianwawr, Syrthiant, llewygant i'r llawr. Gwae ni gan ddwys bwys ein bâr Ddigio ein Tad maddeugar. Dieithriaid, mewn byd athrist, Ym ni, mewn trueni trist.
D' addewidion, dirion Dad, Yn hylwydd fo 'n cynhaliad. Yn dyner, weinion dinawdd, Cymmer ni, Nêr, dan dy nawdd. Yn awr o'r gwyrddlawr yn gu Fwynion, codant i fynu. Edrychant, hwy welant wig Yn y goedfron gauadfrig. Araf yno cyfeiriant,
Yno dan oer wylo 'r ânt.
Gwel yma, Efa, le mâd,
Werdd dewlwys hardd adeilad, Gedyrn goedydd cysgodawl
Rhag gwlaw, rhag hynt gwynt a gwawl. Arwydd o gariad eres
Ein Harglwydd, i'n llwydd a'n lles. 1480 Rhoed Ior yn hawddgar dirion Nawdd hael yn yr annedd hon. Y goedwig dewfrig a da Ddifyr olygodd Efa:
Mewn hedd y cyfanneddwn, Adda, 'n y lle hoywdda hwn: Lle helaeth odiaeth ydyw, Cysgodlwyn inni fwyn fyw. Gwel heirdd flodau brau eu brig Ydd ydynt ogwyddedig,
Ar wasgar, mewn galar, gwel, Yn ysig, yn ben isel.
Yn rhes ni godwn y rhai'n O'r llawr gyd â'u gwawr gywrain. At Efa trodd Adda wâr Olwg gyflawn o alar:
Oh Efa, mae gwasgfa gaeth, Mae ofn llwyr, mae hwyr hiraeth, Ing lidiawg fy ngholledion,
Yn treiddiaw, yn briwaw 'm bron. 1500 Oferedd pob difyrrwch
Heb hedd, ac mewn tristedd trwch; Ni wna 'n swydd ni'n ddedwyddach Heb hyglod gydwybod iach.
Efa wèn a riddfannodd, Yn fudan, druan, hi drodd. Eisteddant yn gystuddiawl Eu dau mewn dagrau di dawl. Buddiol i mi, eb Addaf, Yw cwsg, mewn trymder, os caf; I edrych o'm nych ddaw nerth I'm marwaidd enaid mawrwerth, A baid meddwl gwibiedig A'm drylliaw 'n ei ddiddaw ddig. Fy un Tŵr, fy Nhad tiriawn, Gwel fi, yr wyf yn glaf iawn.
Adda, dan oreudda Ri, Ogwyddodd ar ol gweddi. Trwmgwsg ar ol y tramgwydd,
Ddaeth atto 'n rhadlon a rhwydd. 1520
Yn unfryd Efa wenfron
Orweddodd, ni hunodd hon.
Gweled, am ei gweithred gau, Annedwydd ganlyniadau,
Ei gwr yno yn gorwedd
Yn welw iawn, yn wael ei wedd, Dan gystudd garw yn farw fud, I Efa fu'n flîn ofud,
Wrth gofio ei ffalsdro ffol, Ddyfod yr anoddefol Fawr-aflwydd o'i herwydd hi, Toddodd, hi wylodd heli; A brwd dywalltodd heb rif Hidlawg ddagrau yn hedlif
Hyd ei wyneb yn dyner, A buan yn burlan, bêr Ddiwydwaith, sychodd wed'yn Y dagrau hallt â'i gwallt gwyn. Mewn gweddi bu hi o hyd, O'i chalon, i ddychwelyd Hedd, rhinwedd, a hir einioes I'w gwr myg, heb lewyg loes. O'r uchelder, Nêr, dy Nawdd, Yn wyrthiol iawn a'm nèrthawdd. O Nef lon, fyw Oleuni, Deuaist, ymwelaist â mi.
Yn brydlon danfon, Oh Dad, Gerub i draethu 'th gariad I'th was, ac i'w nerthu ef A glân gymmorth goleunef. Mwynhâed, pan ddeffry, mewn hedd, Gysur, heb ddim dygasedd, Ysprydol fuddiol feddiant O lon gysuron y SANT.
Mewn hawddgar ufuddwar fodd, Diwair oedd, mud-orweddodd Ei goflaid, mewn gwael gyflwr, Wrth fynwes gynnes ei gwr.
Adda mewn anwyldda naws Ddihunodd â gwedd hynaws.
F' anwyl gariadus fwynwr, Ein Naf fo 'th gadarnaf Dŵr! Ydd ydwyt, Adda wiwdeg, A delw Duw yn dy ael dêg.
Adda ddistaw oedd astud Yno yn myfyrio 'n fud. Gwelodd, a rhyfeddodd fod Canwyll ei golwg hynod Yn ddi-awgrym gan ddagrau, Chwyddedig fawddedig ddau. Yn wan attebai'n uniawn, A'i lais yn dosturiol iawn: Clod i'n Harglwydd dedwydd da, Yr wyf fi'n well, wâr Efa. O nattur wan etto 'r wyf, A newidiol iawn ydwyf. Efa, na wyla; mae nawdd Llonwych y Duw a'n lluniawdd Etto yn cyrraedd attom;
Boed tangnefedd Ior Hedd rh'om. 1580 Mae'n brydnhâwn: weithion awn ni Allan; culan nawdd Celi
A'n llaweno â lluniaeth,
Mae'n bryd, fy Myd, in' gael maeth. Yna cododd yn union
A'i law am ddeheulaw hon. Ac weithian allan pan ânt, Gwên ael nef gain a welant Yn gysur eglur, wrth raid Rhag poen, yn hoen i'w henaid. Tra rhodiant, canfyddant ferth Liwgar olwg oleugerth; Torfoedd o goedydd tirfiawn, A ffrwythau yn llwythau llawn.
Amrywiol ŷnt, nid mor lwys Eu pryd a choed Paradwys.
Ni ddaw o'r rhai'n ddamwain ddig, Rhydd ydynt, anw'arddedig.
Y dinerth Adda dynnodd
O'r ffrwyth llon esmwyth llawn nôdd.1600 E safodd y lwys Efa
Tu ol i'r doniol wr da.
Profodd, ni lyngcodd; i lawr
Bwriodd y ffrwyth oedd burwawr. Dwys deimlad o'i anfad waith Wanodd ei fron ar unwaith. Gwiwlwyr achos galaru
I Efa fwyn fwyfwy fu: Ow Addaf, f' anwylaf wr! Cywir ydyw 'n Creawdwr: Yn iawnddwys credwn ynddaw, Cysur o ddolur a ddaw.
Llidiodd ef gan drallodiawn Yn ffyrnig ac addig iawn: Na chais i mi na chysur- Oh am anghofio fy nghur! Efa, ystyria dy 'stâd; A geir ynnot ti gariad? Na nesha yma, ammhur Wyf fi, mewn cyni, mewn cur! Cur Annwn sydd yn cronni, A mawr nerth, yn fy mron i! Enbydus anwybodaeth
O ddyfndwr ein cyflwr caeth Yn awr sy'n ein lluddiaw ni Rhag Annwn â'i hagr gyni.
Ennynnawg ffodd yn union A garw fraw dan guro 'i fron: Troi'n ddistaw, mewn braw 'n brudd, A wnai Efa yn ufudd:
Y fwyndda buraf wenddyn, Syrthiodd, lle safodd, yn syn.
Draw Addaf fud-orweddawdd, Addien wr, yn llwyr ddi nawdd. Toddwyd ef gan gystuddiau Chwerwon drwy 'i galon yn gwau. Er hyn, wrth fyfyrio rhawg, Weithiau 'n ei fron hiraethawg Hyfryd y cyfyd cofion O rad addewid yr Ion. Yn nyfnder ei flinderau E fu hyn yn ei fywhâu.
Pan oedd haul hoyw'n ei loyw lwybr, A'i dawel gerbyd ewybr
Draw 'n gerth, a'i belydr yn gwau, Yn gwyro 'm min ei gaerau, Gwâr Addaf, mewn gwir heddwch, Wr llon, a gododd o'r llwch. Gwelodd, prysurodd mewn serch, Ei glafaidd wraig oleuferch Yn ddinawdd, yn ddïenaid; Ar lawr ei thêg wawr a gaid. Adda lân ddïelyniaeth, At ei wraig etto yr aeth.
Efa, f' anwylyd aufwyn, Cefais bur gysur o gŵyn. Cyfod, f' anwylyd, cofia Y brid addewid mor dda. Yn gulwys, er ein gwaeledd, Dy Hâd a'n cyfyd i hedd. Yn hael ei wraig ddiwael dda, Eiddil, fe gododd Adda. Ffynnon dagrau orphennodd, Yn sych hi drwyddi a drodd. Yn daer rhodd Adda 'n dirion Ei dêg rudd ar ei grudd gron. Y doniol wr yn dyner Gusanodd, bwysodd yn bêr A'i wefusau wiw fysedd
Ei wraig gu, mewn rhywiog hedd. Llefara, Efa aufwyn, Efa, llefara yn fwyn; Didlawd i mi yw d'adlais, Gad glywed lonned dy lais.
Ufuddfwyn Efa feddfaeth,
Yn ddidaw och'neidiaw wnaeth. Mae heddwch rhyngom, Adda, Os daeth hedd, daw diwedd da. Ti'n gyfion, o fron ddi frâd,
A gerais â gwir gariad:
O'm henaid, er fy mhoeni,
Caraf, anrhydeddaf di.
Ein Duw sy 'n maddeu i ni 'n dau, O'n henaid felly ninnau.
Addaf, mewn ffyddlonaf les, Yn fwyn iawn yn ei fynwes Gofleidiodd, gwasgodd yn gu Ei dyner wraig dan wenu.
Law-law yr ânt i loywlwyn Cysgodawg, i'w deiliawg dŵyn. Safant, golygant y lwys Werddfad adeilad wiwlwys. Yn unol, yn un enau,
Yn ddwys, medd y ffyddlon ddau, Rhodded Ior ei hedd dirion, Ddawn hael tangnefedd yn hon. Y ddau anwyl a dd' unant, I'w hannedd i eistedd ânt.
Efa, eb Adda yn bêr,
A llon ddawn Duw y'n llanwer. Dan gyfyngder a dunych Cyfaill pur sydd gysur gwych. Mwyn gyfaill wyt mewn gofid I minnau, er lleihâu 'r llid, I ddatgan yn ddiddan dda Lafur fy meddwl, Efa.
Eirian Addaf rinweddawl, Gwell i mi golli gwawl Y Nef na'th felyslef lon, Dda ddawnus ymddiddanion. O dra anwar drueni
Fy mywhâu wna d' eiriau di. Efa wèn, eb ef, fwynwr, Ti gydymdeimli â d' wr,
Ar ol anoddefol ddig
Ein codwm trwm trangcedig, Gofid calon a gefais,
A llwyr ddistawodd fy llais.
F' enaid prudd yn griddfannu
Yn nyfnder cyfyngder fu. Cofiais fy Marnwr cyfion,
Fod hedd yn ei lwyswedd lon.
Tra bu 'n iawn draethu 'r farn drom, Ddewrnerth, ei serch oedd arnom. Fe deimlodd, mewn dwysfodd da, Fy ngofid, fy ing, Efa.
Ei nawdd a godawdd yn gu Fy enaid atto i fynu.
Gan w'radwydd, euogrwydd, ofn, Yn waeawg, yn annëofn,
Ni feiddiai f' anufuddwedd Mo'r edrych yn ei wych wedd. Wrth roi'r brid addewid dda A dwyfawl o'th Hâd, Efa, Yn y modd addawodd Ef, Yn ei rwyddlon wareiddlef, Didawl bur gariad ydoedd, A mâd gydymdeimlad oedd. Goreudlos rodd gariadlon Y Tad, yw'r addewid hon, A'r unig gysur enaid,
Mewn llwyr brudd gystudd, a gaid. Gweddi at y Trag'wyddawl
O hyd a gyfyd i'r Gwawl: Drwy hon, o law Awdwr hedd, Yr enaid dderbyn rinwedd. Buddiawl fwy adnabyddiaeth O Dduw a'n calon a ddaeth I'n henaid, drwy ein hanaf; Mae 'n mynwes yn nes i Naf. Yr ydym, drwy 'n Gwaredydd, A ffyniant diffuant ffydd, Yn fwy teimladwy o les Ei dirion gariad eres
Nag yn Eden gain odiaeth; Ein cwymp ni 'n ddaioni ddaeth. Hyd fyth ein henaid a fawl Ddaioni anhaeddiannawl.
Wen dawel, wyt ti'n deall Y pur ymadrodd, heb ball? Efa, gad immi ofyn,
Wyt ti'n teimlo heno hyn? Ydwyf, Addaf, yn odiaeth; Goleuni mi a maeth Yw'th resymmau gorau gaid I fwyn adfywio f' enaid. Tydi, os teilyngi 'n lwys Ga'lyn d' ymadrodd gwiwlwys, Dedwydd i'th wrando ydwyf, I'th wrando ymrwymo'r wyf. Addaf, ystyriol wiwddyn, A hoff lefarodd fal hyn: Mae'r Tad yn anchwiliadwy, A'i ryfedd fawredd yn fwy
Anfeidrawl nag a fedrir Ddatgan yn gyfan mewn gwir. Drwy ddaioni ein Rhi'n rhad I fawredd cawn adferiad; Glwys hil, o gu law y SANT A gawn i'w fawr ogoniant. Doethineb odiaeth hynod Fu 'n trefnu yn fwyngu fod I'th Hâd, o'i oreufad rym, Ddyddio, a gwneud yn ddiddym Holl allu yr Ellyllon,
A llwyr iachâu briwiau 'n bron. Mae'n gysur i'n nattur ni, Tra anwyl, mewn trueni, Wybod y daw Cymmod cain O honom ni ein hunain; Wybod fod i ddyfod DDYN Gwiwlwys orchfyga'r Gelyn. Moler, bendithier y dydd Y genir Ef ar gynnydd: Y dydd cyferfydd â'r Fall Ddewrwyllt, uwch pob dydd arall, Ddalier mewn cof yn ddilyth, Fendithier, glodforer fyth. Drwy'r Nef gyfunllef, ei fawl A ganer uwch ser siriawl.
Efa, 'r wy'n rhydd o ofid Yn awr, a chreulonfawr lid. Gwiw a mâd wraig im' ydwyt, Diddig, bendigedig wyt, A dedwydd, herwydd dy Hâd, A gwir haeddawl o gariad.
Ei araith ddilediaith lân Fywiogodd Efa egwan. Gu wiwferch, wedi'r gofid, Gloywon olygon di lid
Ar ei gwr llawn trugaredd
A drodd hon, mewn hoywlon hedd. Dagrau pur garedigrwydd
O'i chalon rhywioglon rwydd, Dduwiol Efa, ddylifai
Yn ddistaw, mal mwynwlaw Mai. Yn deilwng beth a dalaf
Am ei nawdd i'm Duw a'm Naf? Ac i ti, wr difri' doeth,
Purgu, am gariad pergoeth?
Ystyried Tad tosturi
Feddylion fy nwyfron i.
Gwir ffydd sydd yn graff, Adda; F' ewyllys sydd ddilys dda.
Y mirain wr gymmerodd
Ei wraig fwyn, mewn rhywiog fodd, I'w fynwes, a'r wèn Feinir Gofleidiodd, wasgodd yn wir. Dwysaidd ymgofleidiasant, Heddychu 'n anwylgu wnant. Wedi'r gwâr ddau gymmar gu Fuddiawl ymdangnefeddu, Efa eirian lefarodd;
Pe cawn bêr fwynder dy fodd,
Adroddwn, Addaf, drwyddi, Yn lwys iawn a welais i; Y loyw dêg weledigaeth O'r Nef olau'n ddïau ddaeth: Hon, o'r Nefoedd a hanyw,
1780 A gofiaf tra byddaf byw.
Llefara, eb Adda bur, Fwyn wiwglod Efa, 'n eglur; Llefara'n hoywdda hyf, Mae'n eres gynnes genyf, Efa wylaidd ddi falais, Dyner felysder dy lais.
Y fwynlon Efe wenlwys
A ddofn o'chneidiodd yn ddwys: Yn y twrdd agwrdd ei ddig, Aflonydd 'storm fileinig,
Poen swrth, mewn cwsg pan syrthiais, Gwae fi, yr oedd gwayw i f' ais. Tywyllwch tewdrwch a'm todd, Caddug anferth a'm cuddiodd. Chwyrn iawn yr awn ar unwaith I lawr i ddyfnder mawr maith; I ddyfnder îs dyfnder dig, Dudew, diwaelodedig. Didaw groch ruad ydoedd Yn y tywyll, erchyll oedd! Weithiau golygiadau gawn Gorwyllt wynebau geirwawn. Dychlemmais, gwaeddais o gur, A f'ais mewn ofn difesur. Ar hyn dychryn yw 'r hanes, Dihuno'n union a wnes. Yr oeddit ti, wâr Adda, Mewn trymgwsg a dyfngwsg da. Efa odiaeth, d'ofidiawn Yn wir fuant drymmion iawn. Yn ddïau'r farn ddaeth arnom, Ag anferth o drafferth drom. Ni chlywais dy lais di lon, A du gynnwrf dy gwynion.
Addaf, ni's gwn a waeddais Allan yn llydan â'm llais; F' enaid, mewn poen, fuanwir Ddychlammodd, waeddodd yn wir. Efa, na chwanega 'n awr;
Y breuddwyd, mewn dofn brudd-awr 1880 A'th flinodd, darddodd o'n dwys Bryder, nid o Baradwys. Heb lonydd, byth i'n blinaw O hyn mawr ddychryn a ddaw. Caniatta, fy ngwr da doeth, Rywiog wên i'th wraig annoeth. Yr Ion a ddichon sy dda, A'i ddawn Efe 'n diddana; Cyfamserol nefol nawdd I f' enaid a ddanfonawdd. Dod dawel glust a diwyd I'r hyn a ganlyn i gyd: Y man y deffroisym i, A gwiwddwys yspryd gweddi
A'm llais y gelwais yn gerth Ar fy Marnwr, Ior mawrnerth. Ar hynt tymhestlwynt mawr, Cryglef, ddrylliodd y creiglawr. Nattur oedd oll o 'neutu
Mewn gwŷn, ac mewn dychryn du. 1900 Ofn eres i'r fynwes fau Gododd y terfysgiadau. Dwfn yttoedd du ofn nattur, Ofn cwsg oedd y dyfnaf cur. Hunaw 'n ddistaw dan ddwl Drwm addig flinder meddwl A wnaethum eilwaith neithwyr, A bu'n lles, o boenau llwyr. Gweledigaeth odiaeth iawn A welais o'r nef wiwlawn: Gwawr goruwch-natturiawl têg O wlad y dwyrain liwdeg Yn lwys iawn a welais; O Dduw anwyl o'r wedd yno! Neshâu'r oedd y golau gwych A'i ogoniant yn geinwých: Deuodd yn hyfryd ëon,
Yn ddistaw, ger fy llaw 'n llon. Gwên pelydrawl ogonedd,
A Gwr trugarog ei wedd,
Ar faes, mewn gwisg laes hyd lawr,
A welwn, O'i anwylwawr!
Y rhieiddwawr Wr harddwiw, Gwrol oedd, hawddgar ei liw. Cyn llefaru 'n gu un gair Dwysglod, estynnai 'r Disglair Ei lwys gynnorthwyol law A da hedd i'm dyhuddaw. Efa, na ofna; fy Nawdd Tawel ragbarottoawdd Nefol nerthol gynnorthwy; Myfi iachâf dy glâf glwy'. Yn wiwferth mi wnaf, Efa, Rhag llid, f' addewid yn dda. Dy Elyn mewn diwaelawd Ddyfnderau, ei Ffau ddi ffawd, Fe'n awr sydd yn ofni nerth Parodfawr dy Hâd prydferth. Mewn braw mae'n teimlaw y tâl Garw a ddaw, a'r hagr ddïal. Mal nifer y ser seirian,
Dy odiaeth hiliogaeth lân, Lwys agwrdd, lïosogant, Bydd bendith i blith dy blant. I'th ffraeth hiliogaeth liwgar, Yn forau, mewn geiriau gwâr, Yn burfwyn dysg yn berferth Mor ammhur nattur ddi nerth: Dysg iddynt, mae'n dasg addas, Mor gyflym ydyw grym gras. Cei nerth ffydd beunydd ddi baid Yn dyner iawn yn d' enaid; Yn ddinag cei feddiannu Cysuron i'th galon gu.
Cofia fy ngeiriau cyfiawn,
A'th blant, y' mhob llwyddiant llawn, Y' mhob cwyn, y' mhob cyni, Cu Efa fwyn, cofia Fi. Golygodd fi 'n ddifri' ddwys A gwâr olwg oreulwys. Yn fyw haul i'r Nef helaeth Yn ol, yn raddol, yr aeth. Mewn awydd minnau 'n ëon A'm henaid, â'm llygaid llon, Dilynais hyd y loywnef,
I'r entrych, ei wedd wych Ef. Ac i'r Arglwydd mawrlwydd mau Egorodd nefol gaerau! Drwy'r têr uchelder gwych iawn Hoywfawr odlau hyfrydlawn A glywais, gwelais ar g'oedd Lïaws nefolion leoedd
Yn gwau caniadau â'u nerth, Parodfawl, i'r Ior prydferth. Etto 'r wy 'n cofio eu cân, Honno gofiaf yn gyfan. Mawl a ganer i'n Nêr, Nawdd Gwir wiw pob peth a greawdd; Lywiawdwr anweledig,
Gwel myrddiwn y Trwn lle trig, Yn glaerfad, yn eglurferth; Yn llawn dirion iawn, drwy nerth Culwydd weithredoedd, Celi, Y gwelir, adwaenir Di. Deilliawdd y byd o d' allu, Nef wèn â'i hardd lawen lu. Dy ddoniau di i ddyniawn, O Dduw! sydd yn rhyfedd iawn. Dirfawr Ior Nef ddiderfyn A ddaeth yn Gyfaill i ddyn! Heddwch, diogelwch, gwir Ryddid i'r byd a roddir. Hil Adda 'n orfoleddawl, O oes hyd oes yn ddi dawl, Yn unawl geir yn ennyn Mewn mawl yn haeddawl am hyn. Amlhâer, clywer eu clod
Ddirfawr, ac byth heb ddarfod. Nef wèn ei hun wna fwynhâu Hir ddedwydd ryfeddodau. Ar hyn, yn fwynber heini', Hynaws iawn dihunais i.
Eb Addaf, mewn siccraf serch, Efa addfwyn ufuddferch,
Dwyfawl yw 'th freuddwyd, Efa,
Mae 'n beraidd iawn, mae 'n bur dda. Ein darostwng i dristwch
All y llaw fu 'n lluniaw 'n llwch. Yn neffro, neu'n huno, hawdd I'n cadarn Ior a'n codawdd O'r llwch roddi heddwch hael I'r enaid, o ryw anwael: A hyn a dyn yn dyner Lefau 'n heneidiau at Nêr;
« PoprzedniaDalej » |