Obrazy na stronie
PDF
ePub

-G RHAGYMADRODD Y CYHOEDDWR.

feledd yn ein Dryd ar y cyntaf achub y cyfleusdra a roddai rhagymadrodd i ni i gael ychydig o ymdithildan & d cydwladwyr ar Feirdd a Barddoniaeth ein gwlad; ond erbyn hyn yr ydym yn gweled "uad eiddo gwr ei ffordd." Y mae afiechyd yn ein gorfodi i gloi yr holl waith i fyny yn ddioed, ac i adael allan luaws o bethau a fwriadem eu cynnwys ynddo. Y cwbl a allwn wneud yn awr ydyw cyflwyno ein diolchgarwch dyladwy i'n cydwladwyr gwladgarol a'n cynnorthwyasant mewn gwahanol ranan o'n hanturiaeth lafurfawr.

Yn gyntaf, ar bob cyfrif, dylem gydnabod ein rhwymau mawrion i'r Golygydd talentog a gwir garedig. Teimlwn yu ddedwydd i ni lwyddo i sicrhau gwasanaeth Bardd mor ddyagedig a phrofiadol a'r Parch. Morris Williams-y mwyaf profiadol yn Nghymru, yn ddiddadl, yn y gangen olygyddol o lenyddiaeth-i ddwyn allan argraffiad cyflawn o Waith ein hoff Fardd. Am y modd y cyflawnodd ei ei waith, y gwaith ei hun a dystia hyony orea. Gallwn ddweyd mai yr unig gyfnewidiadau a wnaed yn yr argraffiad presennol oedd diwygio y gwallau a'r apnghyssopderau lluosog yn llythyreniad, sillebiad, a podiad yr argraffiadau blaenorol, na's gallent fod yn effaith dim ond diofalwch neu fyrbwylldra anfwriadol yr Awdwr neu y gwahanol argraffwyr, ac felly ni phetruswyd eu dewid tuag at wneud yr orgraff yn upffurf, a'r Awdwr i ymddangos yn gysson âg ef ei hun, a dim mwy. A chredu yr ydym y ceir yr holl waith yn awr mor unffurf a chywir ag yr oedd yn ddichonadwy gwneud gwaith mor helaeth mewn llythyren mor fån mewn amser mor fyr, ac ystyried hefyd i bob llythyren a nodyn gael eu cyssodi yn nghanol tiriogaeth ac yn dannedd profedigaethau blinion “d-lyr argraffwasg." Derbynjed Mr. Williams ddiolch calon onest genym am ei wasanaeth gwerthfawr.

Dymunem hefyd gydnabod caredigrwydd Edward Parry, Ysw. o Gaer, gan yr hwn y cawsom y rhan fwyaf o'r ysgrifau gwreiddiol a gynnwysant yr ychwanegiadau gwerthfawr a geir yn yr argraffiad presennol o Gywydd y Drindod, a hynny am bris tra rhesymol. Pe gofynasai Mr. Parry ganwaith mwy am danynt, buasai raid i ni ei roddi, neu roddi heibio bob meddwl am gyhoeddi Gwaith y Bardd yn aamberffaith.

Y mae y Beirdd athrylithgar hefyd a ymaflasant yn eu telynau i gann caniadau o groesawiad i'r Prif-fardd clodwiw ar ei ailymddangosiad yn ein mysg yn ei waith, yn teilyngu ein diolchgarwch gwresocaf. Ein gwaith ni ydyw diolch iddynt; gofala eraill am benderfynu "puy a gurodd."

Ychwanega traethawd manwl a gorchestol Ieuan Gwynedd lawer at ddyddordeb y gyfrol. Yr ydym yn ei gyfrif yn un o'r dygwyddiadau mwyaf ffodus mewn cyssylltiad â'n hanturiaeth i'r bardd syrthio i ddwylaw mor brofiadol a chymmwys i'r gwaith o dypu ei ddarlun llenyddol ger bron ei gydwladwyr. Addefa y cyffredin o'n darllenwyr na's gallem gael neb yn Ngbymru yn meddu ar gynnifer o gymhwysderau a manteision i'r rhan hon o'r gwaith & Ieuan Gwynedd, ac nid y lleiaf o'r rhai hyn ydyw iddo gael ei edi a'i fagu yn y gymmydogaeth hon, a'i fod mor gydnabyddus & hanes y Bardd, ac a'i Weithiau, ac yo hoffwr brwdfrydig o hono o'i ieuenctyd. Mypych yr arferai, pan yn byw yma yn ei "deg wlad enedigol” yo fachgen ieuanc hollol apadnabyddus i'r “cyhoedd," ymweled â bedd yr hen Fardd, pryd nad oedd dim ond llawryfen fechan, a blanesid yno gan un a fawr barchai ei goffadwriaeth, yn dynodi y fan y gorweddai. Safai yn synfyfyriol uwchben y bedd, a rhoddasem fwy na “cheiniog am ei feddwl" ar yr adegau hynny. Ond gofalodd Rbagluniaeth am i'r myfyriwr ieuanc ac aiddgar o'r diwedd gael cyfleustra i ddweyd ei feddyliau am ei hoff Fardd ger bron y byd.

Yn ddiweddaf oll, oblegid " diwedd y gân yw y geiniog" yn wastad, derbynied yr" ardderchog lu" o danysgrifwyr o bob gradd ein diolchgarwch cywiraf am eu cefnogaeth gwladgarol i'r Gwaith. Heb eu cynnorthwy hwy ofer fuasai caredigrwydd a thrafferth pawb eraill, oblegid heb hynny ni chyhoeddesid y gwaith byth. Ond trwy eu cefnogaeth prydlon hwy, dyma y gwaith wedi ei gyhoeddi, ac yn cael ei gyflwyno i genedl y Cymry. Cymro o waed coch cyfan oedd y Bardd; Cymraeg glân ydyw pob bill o'r caniadau meithion a gyfansoddodd, a hyony yn ol rheolau caethion y gyoghanedd Gymreig; a'r cyfan i'r dyben gwladgarol a chlod wiw o buro a dyrchafu chwaeth grefyddol a barddonol y Cymry. Ni ddymunodd Cymro erioed yn well i'w wlad, pid amcanodd un erioed yn well, ni weithiodd un erioed yn well yn ei lwybr ei hun er mwyn ei wlad, ac ni lwyddodd un Bardd Cymreig erioed i effeithio diwygiad mwy eglur, helaeth, a daiopus, yn chwaeth farddonol ein Beirdd, a nodweddiad moesol ein barddoniaeth, na'r bybarch Fardd yr ydym yn awr yn ceisio nawdd ei wlad i'w Waith.

Costiodd lawer o arian, lawer o lafur, lawer o bryder blin i'n meddwl, a llawer o iechyd i'n corpb, i ddwyn y gwaith yn ei ffurf gryno, gynhwysfawr, a rhadlon bresennol i gyrhaedd ein cydgenedl, ond nid ydym yn ceisio na mwy na llai o'u nawdd iddo nag y barnant ei deilyngdod cynhenid ef ei hun yn ei haeddu, ac y mae ystyried y croesaw gwresog annysgwyliadwy a gafodd eisoes gan dros 600 o'r dosbarth mwyaf goleuedig a pharchus o bonyot fel tanysgrifwyr tuag atto yn ein gwnend ya dra thawel a byderus am ganlyniadau ein hanturiaeth.

HANES BYWYD DAFYDD IONAWR.

Wrth droed bryn uchel a theg ar làn afon Dysyni, gerllaw pentref bychan Bryncrug, tua dwy filldir o Dowyn Meirionydd, y mae ffarm o'r enw Glanymorfa. Amgylchir hi gan un o'r cymmydogaethau llawnaf o olygfeydd mawreddog a barddonol, ac o adfeilion hynafiaethol trwy yr holl Dywysogaeth. Ond nid ydym yn gwybod fod unrhyw ddyddoriant hynafiaethol nac hanesiol yn gyssylltiedig a Glanymorfa ei hunan heblaw mai yno y ganwyd ac y magwyd bardd Cristionogol mawr Cymru, yr hyglod Ddafydd Ionawr. Can' mlynedd i'r flwyddyn hon (1851) yr oedd gwr a gwraig yn byw yno o'r enw

Richards, neu, fel y gelwid hi gan ei chymmydogion, Anne Dafydd. Ganwyd John Richards yn Nghaerffynnon, ffarm fechan yn Nyffryn Ardudwy. Efe oedd etifedd y ffarm honno, a rhyw nifer o dai heblaw hynny. Dyn lled dal, gwarsyth, o ystum boneddigaidd, tymer lawen, parablus, nodedig o gall a llygadog, oedd John Richards,-dyn i'r dim i weithio ei ffordd trwy helyntion y byd presennol. Un prawf a roddodd o'i gallineb ydoedd yn y pwnc dyddorol o ddewisiad gwraig. Yr oedd y ferch ieuanc hon yn feddiannol ar ddau beth ag y. mae “plant y byd hwn” yn naturiol yn llygadu am danynt uwchlaw pob peth arall yn yr amgylchiad hwnnw, sef arian a phrydferthwch. Anne Dafydd oedd aeres Glanymorfa, ac yr oedd yn ferch ieuanc dra chariadus hefyd. At y ddau rinwedd hvn, yr oedd yn feddiannol ar ddau arall. At arian yn ei llogell yr oedd ganddi synwyr cryf yn ei phen, ac at brydferthwch naturiol yr oedd yn meddu ar brydferthwch arall annhraethol fwy prydferth,-"prydferthwch sancteiddrwydd." Fel hyn yr oeddynt mewn sefyllfa gysurus a pharchus yn dechreu eu byd. Ar yr 22ain o Ionawr, 1751, ganwyd iddynt fab, eu cyntafanedig, gwrthddrych y cofiant presennol. Bu ganddynt fab a merch arall, ond bu y ddau feirw yn eu babandod, ā gadawyd David ei hunan.

Ynghylch milldir o Lanymorfa y saif hen balas Ynysymaengwyn, lle o fri tywysogaidd gynt. Preswylid ef y pryd hwn gan Edward Corbet, Ysw. boneddwr ucbelfrydig, rhwysgfawr, eithaf synhwyrol, ond yn treulio ei holl synwyr a'i gyfoeth ar ei feluschwantau. Nid bychan oedd nifer y personau a ddenodd gydag ef i : lynclyn llygredigaeth, ac yn eu mysg rhaid i ni restru ei gymmydog o Lanymorfa. Nid hir y bu John Richards yn byw yn y gymmydogaeth cyn i Corbet ganfod ynddo ddefnyddiau cyfaill gwych. Trwy fod Richards, fel y dywedasom, yo ddyn o dymer uchelfrydig, llawen, parablus, cymdeithasgar, a galluoedd ymddyddanol ( conversational powers) nodedig, nid rhyfedd fod ei gyfeillach mor swynol i'r boneddwr o Ynysymaengwyn. Ac, o'r ochr arall, yr oedd sefyllfa uchel Mr. Corbet, a'i ddull rhwysgfawr o fyw, a'r cyfleusdra a gai yntau trwy ymgyfeillach âg ef i foddhau ei hoffder o "gwmpi llawen,” a'i awydd diarhebol am gael ei ystyried yn “wr boneddig,” yn ddeniadol neillduol i Richards. Parai hyn yn naturiol iddo fod yn dra esgeulus o "ofalu dros yr eiddo," a threulio llawer mwy o'i amser oddicartref nag yr oedd ei ddyledswyddau teuluol ac amaethyddol yn ganiatâu. Gadawai bob gorchwylion cartrefol i ofal y “ wraig rinweddol” y bu mor ffodus a tharo wrthi. O herwydd y diofalwch hwn yn y tad, a'i absennoldeb inynych oddicartref, aml y cai Mrs. Richards a'r bachgen bach y lle iddynt eu hunain. Fel canlyniad naturiol o hynny ymglymmodd serchiadau y plentyn am ei fam gyda gwresogrwydd tu hwnt i gyffredin, ac yn llawn mor naturiol berent ac ymddieithrient oddiwrth ei dad. Wrth ystyried mor hollol wahanol oedd tueddfryd a nodweddiad y tad a'r fam, ni's gallwn gredu i'r diofalwch penffol hwn yn y tad brofi, ar y cyfan, yn unrhyw golled nac anfantais i David. Anfantais a ddywedasom? Profodd, drwy oruwchreolaeth Rhagluniaeth, yn fantais annhraethadwy iddo, i'w barotoi i redeg yr yrfa farddonol a osodwyd o'i flaen. “Y pethau a ddysgodd ei fam iddo” pan ar yr aelwyd gartref “ yn oedran diniweidrwydd,” ydoedd yr egwyddorion ysgrythyrol grymus, a'r tueddfryd duwiolfrydig a'i cymhwysodd i fod wedi hynny yn awdwr “Cywydd y Drindod,” ac yn Brif-fardd Cristionogol ei wlad.

Pan dyfodd Dafydd i oedran cymhwys rhoddwyd ef mewn ysgol ddyddiol fechan yn Nhowyn i ddysgu elfenau cyntaf dysgeidiaeth, a thrwy ddiofalwch ei dad yn yr ysgol fechan hon y cadwyd ef am amryw flynyddau wedi iddo ddyfod o ran ei oedran a'i alluoedd yn gymhwys i ysgol lawer uwch. Ond pi chaniateid iddo fod ond yn achlysurol hyd yn oed yn hon. Mynych y gorfodai ei dad ef i aros gartref " i wneud rhyw ddaioni” ar y ffarm, gan y bwriadai wneud ffarmwr o bono. Ond cafodd allan cyn hir, er ei ofid dirfawr, nad oedd ond gobaith gwan y gwnai byth ffarmwr o'i fab David. Darllen oedd holl bleser y bachgen, a deallwyd yn fuan fod “natur prydyddu" ynddo, ac mai “clecian y cydseiniaid” y byddai y rhan amlaf, yn lle dysgu ei wers, yn yr ysgol. Digiai yn erwin wrth yr hogyn am “wirioni ei ben” gyda phrydyddu. Cadwai ef yn amlach gartref i geisio gweithio y duedd benffol hon allan o hono. Digon tebygol mai crynodeb o'r darlithiau llymion a draddododd ei dad iddo y pryd hwnnw mewn gwisg farddonol ydyw y ddarlith rymus a sarug dros ben a rydd y Bardd yn ngenau Cain wrth ei feibion yn

AL

Nghywydd y Drindod (t. d. 78, 11. 2577—2612). Fel y gallesid dysgwyl, ni thyciodd holl ddarlithiau “diflas heb ras, heb reswm" ei dad yn y gradd lleiaf i beri iddo ddiwygio. A llygad-wasanaeth yn hollol y cyflawnai ei orchwylion amaethyddol. Par ai ei dad o'r golwg, a mynych, fel y gwelsom, yr âi felly, diangai i gongl ddirgel yn rhai o'r caeau, neu at afon Dysyni gerllaw, lle y gwelid ef yn fynych gan y cymmydogion. Cyfeiria mewn llinellau nodedig o diysion a theimladwy at yr helyntion boreuol hyn yn Nghywydd y Drindod, t. d. 117, 11. 673-695. Yr unig waith barddonol a gyfansoddodd yn y blynyddoedd bachgenaidd hyn a allasom gael gafael ynddo ydyw yr un a ganlyn, a gyfansoddodd pan yn bur ieuanc ar yr achlysur o i aderyn bychan ddisgyn yn y crochan â'r uwd oedd wedi ei barotoi yn swper i'r teulu.

Mae gwraig yn Nglanymorfa yn berwi uwd y nos,
A chadw morwyn lysti i gario dwr o'r ffos,
A'i droi ef a'i gyboldio, a'i wneud yn uwd por dew,

Ac ambell benbwl yoddo, a llawer byd o flew. “Dan sèn sur” ei dad yn barhaus, a'i addysgiant yn cael ei hollol esgeuluso, yr oedd yn treulio ei fywyd, pan ddaeth yr awengar a'r dysgedig Ieuan Brydydd Hir yn gurad i Dowyn. Profodd hyn yn gyfnod pwysig yn mywyd y prydydd ieuanc o Lanymorfa. Gyda'i holl benchwibandod a'i lythineb yr oedd Ieuan yn meddu ar dalentau naturiol mawrion, awen gref, a chwaeth goethedig, ac yn sefyll yn uwch na'i holl gydoeswyr yn ei gydnabyddiaeth â'n hynafiaethau llenyddol. Yr oedd David ynghylch 16 mlwydd oed pan ddaeth Mr. Evans i fyw i Dowyn. Pan ddaeth Evans yn gydnabyddus âg ef hoffodd ef yn fawr; addysgodd ef ei hun yn y Saesonaeg a'r Lladin. Diammau mai y prif achos o'r hoffder a deimlai y curad dysgedig yn David oedd ei awyddfryd cryf at brydyddiaeth. Hyfforddodd ef yn egwyddorion a rheolau barddoniaeth Gymreig. Dan ddylanwad addysgiadau ac annogaethau gwresog y Prydydd Hir, ac, yn enwedig, esiampl uchel ei ddoniau disglaer, aeth y wreichionen awenyddol yn fllam angerddol yn enaid ei ddysgybl. Ymagorai ei gynneddfau meddyliol fwyfwy yn barhaus, a chanfyddodd Mr. Evans fod ynddo gymhwysderau i allu cyflawni gorchestion llawer uwch, os cai fyw, na cheibio ac arloesi pridd ffarm Glanymorfa.

Ar annogaeth daer Mr. Evans, cydsyniodd ei dad i ddwyn David i fyny i'r Eglwys, ac i'w anfon i Ysgol Ystradmeurig, lle y buasai Evans ei hun o'i flaen. Cydnabyddai Mr. Richards ei rwymedigaethau mawrion i'w dad barddonol, Mr. Evans, am, ei garedigrwydd a'i lafur yn ei achos ef. Ni's gallodd holl benchwibandod galarns y

rydydd Hir y rhan ddiweddaf o'i oes fyth ladd y syniadau uchel a pharchus a ffurfiasai ei ddysgybl ieuanc am ei alluoedd awenyddol. Yr oedd hen ddywediad gynt am bwy bynnag a gysgai noswaith ar ben Cader Idris, y deffroai naill ai yn fardd neu yn lloerig. Aeth Ieuan i fyny un noswaith yn eithaf difrifol i wneud yr experiment ddyddorol hon. Cysgodd yno trwy y nos, a deffrodd yn fardd ac yn lloerig, yn ol barn Mr. Richards. "Yr oedá leuan yn fardd o'r blaen," ebai Richards, "ac felly nid oedd un cyfnewidiad i fod arno ond myned yn lloerig; tro lloerigaidd i'r eithaf oedd y tro hwnnw."

Wedi bod dan addysg barotoawl y Prydydd Hir ynghylch blwyddyn anfonwyd David i Ystradmeurig. Yr oedd llafur á haelioni Mr. Edward Richards, y Prif Athraw am iynyddau lawer, erbyn hyn wedi dyrchafu yr ysgol hon i le uchel ymysg sefydliadau addysgiadol y Dywysogaeth. Yr oedd Mr. Richards yn addurn i'r ysgol ac i'w wlad, fel ysgolhaig rhagorol, athraw ymroddgar, tad serchog i'w ysgolheigion, Cymro trwyadı, ac un o brif-feirdd ei oes. Cyssegrai ei holl amser, ei dalentau, a'i feddiannau i wasanaeth yr ysgol. Aeth David Richards yno gyda theimladau brwdfrydig, naturiol i lanc o'i dalentau a'i aiddgarwch ef. Yr oedd y dysgrifiad a roddwyd iddo o'r Prif Athraw gan ei hen ysgolhaig, Mr. Evans, wedi creu rhyw swyn cryf yn ei enw a'i nodweddiad i'r Bardd ieuanc, ac nid y lleiaf o'i rinweddau yn ei olwg oedd ei fod yn fardd mor enwog. Yr oedd yno yn ei elfen, a gwnaeth ddefnydd da o'r manteision a fwynhậi. Cyrhaeddodd raddau helaeth o hyddysgrwydd mewn amryw ganghenau o ddysgeidiaeth, yn enwedig yn y Mathematics a'r Classics. Yr oedd ganddo chwaeth arbenig at y canghenau hyn, ac yn y canghenau hyn y rhagorodd, a pharhaodd ei chwaeth attynt yn gryf tra y bu byw. Daeth y • tân awenyddawl" oedd ynddo i'r golwg trwy ddamwain led ddigrifol. Dygwyddasai i gi gwr o'r enw Morys fyned ar gyfrgoll. Teimlai y Prif Athraw, o herwydd rhyw achos, radd o bryder yn ei gylch. Holai yr efrydwyr yn yr ysgol pa fath gi ydoedd :-"Ai ci mawr oedd ci Morys ?Ci main bach cymmain' a bys," attebai mab Glanymorfa yn y fan. “Ha! David Richards, dyna farddoniaeth; a y ych chwi yn fardd?” Wrth ei holi, canfyddodd yr Athraw fod David Richards y fardd yn fardd da, ac o hyn allan teimlai ddyddoriant peillduol yn ei ysgolhaig newydd, a ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngddynt a barhaodd tra y bu yr hybarch Athraw byw. Un o gyfansoddiadau boreuaf ei ddysgybl ieuanc sydd yn awr ar gael ydyw y marwnad tlws a theimladwy a ganodd ar ei ol pan fu farw yn 1777. Un o'i' hoff feirdd oedd Iorwerth Rhisiart. Ystyriai awdwr y “Fugeilgerdd” yn un o'r beirdd melusaf a'r dynion teilyngaf'a fagodd Cymru erioed.

[ocr errors]

Yn Ysgol Ystradmeurig y cyfarfyddodd gyntaf â'i gyfaill hoff, y diweddar Barchedig Thomas Jones o Creaton; parhaodd eu hoffder o'u gilydd hyd y diwedd. Mr. Jone ydoedd noddwr ffyddlonal y Bardd yn ei anturiaeth gyntaf o gyhoeddi CYWYDD Y DRINDOD; efe a'r Parch. John Richards, Llanallgo, oedd yr unig gyfeillion y gohebai y Bardd yn gysson â hwynt trwy ei oes. Dengys y dyfyniadau a gawsom oddiwrth ei fywgraffiedydd caredig, y Parch. John Owen, Thrussington, o lythyrau Mr. Jones at Mr. Charles o'r Bala, ac eraill, yn cyfeirio at Mr. Richards, y soniai Mr. Jones bob amser am ei hen gyfaill David Richards gyda'r parcha'r serchawgrwydd gwresocaf. Yn llythyrau Mr. Jones cawn y braw

hyn a'u cyffelyb ynghylch ei gyfaill" Perhaps the first Welshman in this age ;"-"I love him much with ali his oddities, which are peculiar to poets; "-"He has the grandest views of God, and the most sublime thoughts of his love and grace in Redemption of any I ever met with.Arferai Mr. Jones anfon yr ysgrifau o'i Weithiau Cymraeg i'w gyfaill Richards i'w hadolygu. Y mae chwech englyn y Bardd i gyfieithiad Mr. Jones o Bregethau Mr. Romaine ar “Gån Solomon” ymysg gemau tlysaf ei goron farddol.

Un boreu yn ystod ei arosiad yn Ystradmeurig teimlai ar ei galon gyssegru y diwrnod hwnnw i fyned i bysgota i'r afon Teifi gerllaw, lle y cyrchai yo fynych i fyfyrio; a geilw yr afon hon yn un o'r "tystion” o'i fwriad boreuol o

“ Neillduo ac eilio gwawd
I diriondeb y Driodawd."

Yno âg ef; a dïau iddo addaw iddo ei hun ran dda o'r hyfrydwch digyffelyb hwnnw a addawodd y tad Walton i'w ganlynwyr, y pysgotwyr. Ond cyn i'n hefrydydd ieuanc sicrhau ond ychydig o'r mwyniant hwnnw, dacw yr awyr uwch ei ben yn tywyllu, yr elfenau yn ymgynhyrfu, ac ystorm ddirfawr yn ei oddiweddyd. I osgoi ei chynddeiriogrwydd gorfodir ef i ddianc i ogof fechan a ddygwyddai fod gerllaw yn agos i'r afon, a honno fu iddo yn “ymguddfa rhag y gwynt ac yn lloches rhag y dymhestl.” Ond er i “derfysg dirfawr yr ystorm rwystro i'r pysgotwr bysgota allan, nis gallodd rwystro i'r bardd feddwl yn yr ogof, fel Demosthenes gynt o'i flaen, a hynny yn ddiammau yn llawer mwy llwyddiannus na phe arosasai i bysgota. Tra yr eisteddai, wele “y fellten” ar ei “hoywaf wylltdaith*" yn gwibio heibio, ac ar ei hol clyw "grochlef ý daran” yn dyfod allan “oʻi du oror." Þeffry ei thwrf yr Awen yn ei enaid, -gwrendy,-clustfeinia,-ymgynhyrfa,-epnyna;“Wel, dyma derfysg ofnadwy! a glywch chwi?"

Wybrendwrf, braw drwy'r bryndir!
A dychryn drwy'r dyffryn dir.
Yn drathrwm dan frwd rathraw
O'r entrych y gwlych y gwlaw
Fryopiau a dolan'r dulawr
o folinu'r cymmylau mawr!

Trwy elltydd o goedydd, gwyut!
Trwy'r moroedd tery'r mawrwynt!
Terwyn follt pob taran fawr
Ennynna drwy'r ddu nennawr !
Llidiog yw'r awyr llydan
O niwl du'd olau o dân!

* nef-yn-dân !

"Mor fawreddog! mor farddonol! beth pe bawn yn profi nerth fy awenydd' yn awr drwy geisio dysgrifio gweithredoedd gogoneddus y Creawdwr yn yr ystorm fawr hon cyn anturio at y gwaith dirfawr wyf wedi bwriadu ei gyfansoddi, os caf fyw, o ddysgrifio rhyfeddodau aneirif y “Drindod” mewn Creadigaeth, Rhagluniaeth, ac Iachawdwriaeth? Pa destun mwy priodol na'r golygfeydd gogoneddus byn? onid

“Duw Geidwad bendigedig” yw
"Rheolwr y dyfndwr dig" hwn? ïe
“Duw a bair;-ar ei air ant:
Ust ewybr!-a distawant."

Tafla ei wialen byggota o'r neilldu-allan â'r lead pencil a'r papyr;-ystyria;llyngcir ei holl feddylfryd i fyny gan odidawgrwydd y testun ;-anghofia bob peth ond yr ystorm ;-myfyria yn ddwys am rai oriau nes o'r diwedd y gorphena ei ddarlun o'r ystorm. Yn awr, "têg yw edrych tuag adref.” Allan âg ef. Erbyn hyn

“ Gloywa Den ffurfafen faith,
Fe welir y nef eilwaith;
Drwy'r wybrennydd dydd a da'o
Ei lwyrwych wely arian;
Yr haul o'i belydr y rhydd
Loywder i bob rhyw wledydd;
Disgleirdeb ei wyneb ef
A lawena'r olennef!

“Ha! dyma olygfa ysplenydd! rhaid i mi fyned yn ol i'w dysgrifio, onide ni bydd y darlun yn berffaith.“ Eistedd i'w dysgrifio a wnaeth, ac ni chychwynodd allan drachefn oddiyno nes cyfansoddi un o'r darnau mwyaf arddunol a phrydferth yn yr iaith Gymraeg--Cywydd y Daran. Er nad oedd ei Awdwr yn awr ond ynghylch 18 mlwydd oed, gall pob dyn a “chalon i deimlo anian" ganddo glywed y "shibboleth” annysgrifiadwy sydd ar unwaith yn nodi allan y gwir Ephraimiad awenyddol yn groyw yn y Cywydd bychan hwn.

Ond er mor ddedwydd ei le ydoedd yn Ysgol Ystradmeurig daeth yr amser i fyny iddo ymadael. Yr oedd, byth wedi i'w dad ganfod ei duedd grefyddol a'i chwaeth at farddoniaeth, wedi dyoddef llawer mwy o ofidiau meddyliol na'r cyffredin o ieuenctyd. Ond hyd yn hyn yr oedd ganddo amryw adgofion cysurlon i liniaru gofidiau ei feddwl. Tra yr oedd gartref yr oedd ganddo gariad a chefnogaeth ei fam i'w bleidio. Cyn hir ychwanegwyd at hynny nodded dylanwadol y Prydydd Hir. Nis gallai y dyddordeb a ddangosai gwr mor enwog yn David lai na phrofi yn rhyw foddhảd dirgel i bupan diarebol ei dad. Yn Ystradmeurig drachefn yr oedd enwogrwydd yr Ysgol a'r Prif Athraw, a'r urddas o fod yn ysgolhaig yno, ynghyd â'r dyben anrhydeddus o anfon David yno, “ei wneud yn Berson, yn peri i Richards foddloni i dalu traul ei addysgiad yno, tra yr oedd nodded tadol y Prif Athraw parchedig i David ei hun yn gysur a chefnogaeth aumhrisiadwy. Ond yn awr wele y colofnau hyn i gyd yn cael eu tynu odditano. Collasai amddiffyn a chefnogaeth ei fam, a chyfryngwriaeth ddylanwadol Mr. Evan Evans cyn hyn. Ya awr wele ef yn colli nodded cyfeillgar a gwerthfawr ei hen Athraw hoff Mr. Richards. Sicrhå ei dad hefyd nad wiw iddo edrych atto ef byth mwy am na chynhaliaeth na ffafr o unrhyw fath. Druan oedd David! i ba le y try yn awr? Er mor ieuanc ydyw, rhaid iddo ymladd ei ffordd fel y gallo trwy yr anialwch anial iawn a ymagorai o'i flaen. Y mae yn ddigon i dori calon lawer mwy adamantaidd na'i galon ieuanc ac anmhrofiadol ef. Ond er mor dorcalonus ydyw y mae "rhaff deircainc” gref ganddo etto i gynnal ei feddwl i fyny,-Rhagluniaeth Duw,-cariad ei fam, -a'i dalentau ei hun. Yn nerth hon yr ymollyngai i gefnfor llydan tymhestlog y byd, fel y cychwynai Abrabam tua gwlad yr addewid, “heb wybod i ba le yr oedd efe yn myned."

Trwy diriondeb Rhagluniaeth, cafodd le cyn hir yn Ngwrecsam fel Is-athraw yn ysgol un Mr. Tisdale. Tra y bu yn aros yn Ngwrecsam yr ymddangosodd gyntaf fel awdwr, yn nhudalenau yr “Eurgrawn Cymraeg.” Ceir hanes helaeth am y cylchgrawn hwn, “seren ddydd" ein llenyddiaeth gofnodol, yn y TRAETHODYDD, cyf. 4. t. d. 362 a 453. Ymddangosodd y Rhifyn cyntaf o hono Mawrth, 3, 1770, a'r olaf Medi 15, o'r un flwyddyn. Bu farw felly yn y bymthegfed bythefnos o'i oedran, Ymddengys iddo drengu yn hollol o herwydd iselder chwaeth lenyddol y Cymry yn y dyddiau tywyllion hynny, ac nid oherwydd prinder ei ohebwyr na gwaeledd y gobebiaethau. Ymysg ei ohebwyr ceir enwau amryw o brif ysgrifenwyr yr oes, megys Ieuan Brydydd Hir, Hugh Hughes, Robert Hughes o Fon, Iolo Morganwg, y Parch. Peter Williams, Lewis Hopkins, &c. Y cyfansoddiad cyntaf o waith Richards a gawn yn yr “Eurgrawn” ydyw “Atteb y ferch i Iorwerth Gwilym o Dreffemin mewn wyth o englynion unodl union yn dynwared yr eiddo yntau mewn iaith a barddoniaeth hyd ag y gallwyd. Englyn proest cyfnewidiog a phennill o Gywydd deuair hirion :” gan Dafydd ap Rhisiart." Y mae iaith a barddoniaeth yr atteb hwn yn dangos yn eglur mai amcan Richards oedd profi mai “swn heb synwyr” oedd annerchiad Iorwerth i'r ferch, oblegid nid oes dim synwyr na chynghanedd ynddo, ac felly barnasom na buasai dim synwyr yn ein gwaith ninnau yn ei gynnwys yn y gyfrol bresennol. Y mae “Cywydd y Daran ” a gyfansoddodd cyn hyn yn brawf digonol y gallasai roddi atteb perffaith synwyrol a chynganeddol i'w gyfaill Iorwerth, pe nas barnasai mai “atteb yr ynfyd yn ol ei ynfydrwydd" oedd fwyaf priodol y tro hwnnw. Yr “Iorwerth Gwilym " hwn oedd yr enwog lolo Morganwg wedi hynny. Yr oedd yn awr yn 25 mlwydd oed, ac y mae yn dra thebygol mai yr annerch hwn i'r ferch ieuanc yn y rhifyn cyntaf o'r “Eurgrawn” oedd ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf fel Awdwr, fel yr oedd yr atteb iddo hefyd i Dafydd Ionawr. Nid arddelodd Richards ei hun unrhyw waith a gyfansoddodd yn flaenorol i Gywydd y Drindod ond dau gyfansoddiad a gyhoeddodd yn yr un gyfrol â'r Cywydd hwnnw, sef Cywydd y Daran a Marwnad Iorwerth Rhisiart. Ond i eraill y mae dyddordeb yn amgylchu cyfansoddiadau boreuaf dyno athrylith ac enwogrwydd na's gall efe ei hun ei deimlo. Dyma ein rheswm dros gynnwys amryw ddarnau yn y casgliad hwn o'i Weithiau y gwyddom na buasai yr Awdwr ei hun yn eu rhoddi i mewn pe cyhoeddasai efe gasgliad o'i Weithiau, fel y ceisid ganddo, yn niwedd ei oes. Gwyr pob un a gafodd gyfleusdra a hamdden i hynny mor ddyddorol yw sylwi ar flodeuyn y glaswelltyn yn dechreu ymddattod ac ymagor dan dywyniad cyntaf yr haul yn y boreu, ac yn ymledu yn raddol, a'i brydferthion tumewnol amryliw yn dyfod y naill ar ol y llall i'r golwg, nes o'r diwedd yr ymddengys yn ei gyflawn faintioli a'i brydferthwch ganol dydd. Felly y mae gyda blodau y ddynoliaeth-ein dynion mawr. Nis gall dyn o duedd feddylgar ac athronyddol lai na theimlo chwilfrydedd a hyfrydwch neillduol wrth sylwi ar ymagoriadau cyntaf ymadferthoedd enaid dyn o dalentau dysglaer yn ei gyfansoddiadaŭ boreuol, a'i ddilyn, os bydd modd, nes eu canfod yn eu llawn rym a'u

« PoprzedniaDalej »