Fy mod ar fin ymadael I'r Nef wèn o Eden wael. Daliai 'n ei llaw 'r hudoliaeth; Dan wenu nesu a wnaeth. Cymmer, y gwr mwynber mau, Y dawnus ffrwyth i d' enau: Ninnau 'n dduwiau a ddeuwn, Yn dduwiau 'n ol mwynhâu hwn: Hoenus wr hynaws ei wedd, Duwiau fyddwn ni 'n deuwedd.
Oh Gwawr gu! ebre 'r gwr gwyl, Gwae inni, fy ngwraig anwyl! Da gwn y daw gwae inni; Distry wiaist, difethaist fi. Wraig dyner hoywber, hebod Ni's gallaf, ni fedraf fod. Dau gwell nag im' dy golli, Odiaeth Wawr, farw gyd â thi.
Oh gwae o'r modd! y gwr mâd, Gwyro a wnaeth drwy gariad: Torrodd trwy arch Duw tirion, Heb naccâu, er boddhâu hon. Y cyfion Dduw ni's cofiant; Anfad naws, ynfydu wnant. Yn ddilys gwnaen' feddyliaw, Marwolaeth na ddaeth, ni ddaw: Hwy a ddilys feddyliant
Eu dau mai'n dduwiau ydd ânt. Newidodd eu hanwydau, Fu hyfryd, i gyd yn gau. Eu rheswm nid arhosodd, Goleuddawn hoff iawn, e ffodd. Fel afon fawr a lifo Dros fawrfras hyfrydlas fro, Nid tirion y meillion mwy Lle rhed y lli' rhuadwy. Oer adfyd! pob peth prydferth Ddinystria 'n ei gyrfa gerth. Un fodd newidiodd yn awr Monwes y ddeuddyn mwynwawr. Gwae Addaf a'i wraig eiddil Gan grochfloedd terfysgoedd fil! Arwydd llid, gofid heb gêl, Duo wnaeth awyr dawel. Ond hwy, yn yr ennyd hon, A gaid yn y cysgodion: Mwynhânt (ymguddiant o'r gwawl) Eu dyrys flys daearawl.
Darfod wnaeth y meddwdod mall, Garw ing! gwae y rhai anghall! Gwelent eu hanferth g'wilydd, Gan ddychryn, hwy 'n syn y sydd. Annedwydd weithion ydynt; Noethion ac annoethion ŷnt.
Ebr Addaf wrth ei brudd wedd Wraig wael, a fu rywiog wedd, I ti ni roddaf fi fawl Roi hyder ar air hudawl. Drwy'r anwyl Nef dirionwawr Mae 'n drwg yn amlwg yn awr.
Mae c'wilydd tost i'm calon :
Mae braw ars wydus i'm bron. Gwn weithian drwg a wnaethost, Mawrddrwg a ddaeth o'th ffraeth ffrost.
Llanwyd hi â digllonedd,
Yn danbaid e gaid ei gwedd: Duw hael! p'le bu dy helynt? Oh gwae na ddaethit yn gynt! Dïau'r hwn a'm gadawodd, Mae'n haeddu 'i farnu 'r un fodd. Ebr Adda, Ai dyna dâl
A gaf am serch a gofal? D'wedais, rhybuddiais di'n bêr, Nid unwaith, yn fwyn dyner; Gwylia, 'nghalon, droion drwg; Diles oedd hyn yn d' olwg. Ymaith, y Sarph, o'th ammhwyll! At Seirph, dos, dangos dy dwyll! Ti i'm trueni a'm trodd! I'm dinystr, ti a'm denodd! Na wyla, fy nu elyn! Na wyla, llawenhâ 'n hyn! Y Sarph yn llawenu sydd; Ewch i ga❜lyn eich gilydd! Ac unwch mewn drygioni; Dos, Sarph ddrwg, o'm golwg i! Y Sarph â'i thwyllodrus iaith; Gwae inni am hyn ganwaith. Adda, waelwr, ei ddwylaw A blethodd, ac fe drodd draw. Duw Lywydd! Oh dilëa
Fi o'th ŵydd, Ior dedwydd da! Gwae o'r gêd! nid gwraig ydwyt, Nid duwies, ond Sarphes wyt. Claf ydwyf oll, clwyfwyd fi A gweniaith dy ddrygioni. Syrthiodd, pan glywodd, yn glau, Y wraig lân, ar ei gliniau: Fe dorrawdd Efa dirion I wylaw, â braw i'w bron: Ow Adda! na ddigia 'n ddwys, Ond gwel fi, f' enaid gwiwlwys. Fe'i gŵyr Ion mor gywir wyf, Ac etto dy wraig yttwyf. Addefaf nad wyf ddifai; Fi byth gymmeraf y bai. Deled arnaf fi'r dialedd, Boed i tithau fwynhâu hedd.
Wrth ganfod ei brïod brudd Yn gostwng dan flin gystudd, Adda eilwaith feddalawdd; Cymmodi wnai â hi'n hawdd:
Oh Dduw hael! fy ngwraig wael wedd, Direswm fu dy drosedd. Adolwg, elli dalu
Yn llawn i'r cyfiawn Ior cu? Oh f' enaid! Oh gwae finnau! Mi wn nad allwn ein dau. Rai dirym, yr ŷm i'r Ion, Ysywaeth, yn gaseion.
I'm rhoi'n rhydd o'm c'wilydd caeth! Mewn naws dig, pa ham na's daw A'm monwes i'w ddymunaw?
Oh na chawn hyn wy'n chwennych!
A marw a wnawn rhag mawr nych! 940 Yma, yn fy mron ammhur, Gwae o'r pwys! mae garwddwys gur. Chwi ddedwydd goedydd i gyd, Udfawr a thrwm yw f' adfyd! Oh cuddiwch, llocheswch chwi 'Y nghwyn dan eich canghenni! Rhoddwch fi'n anghyrhaeddawl, Tra b'wyf, na's gwelwyf y gwawl! Pan ddarfu, mewn poen ddirfawr, Syrthiodd, 'mollyngodd i'r llawr. Efa yno fu ennyd
Mewn ofnus gwynfannus fyd: Tristãodd, gwelodd ei gwr Mewn gerwin goflin gyflwr. Dan oriain, d'wedai'n araf, Fy ngwr mâd, cennad os caf, Dilladwn â dail lliw deg Noethedd ein deuwedd yn dêg, Oh hael Addaf! i luddias
Rhag lliw 'r dydd ein c'wilydd cas 960 O'r ardd cymmerant wyrdd-ddail Eu dau 'n arffedogau dail. Ond Oh! na's gallan' eu dau Guddio eu ffol wageddau!
Y Goruchaf Naf yn awr A ganfu o'r Nef geinfawr: Tosturiodd, gwelodd eu gwall A'u du ing, eu dau anghall.
Pwy a draeth beth annhraethawl? I Nef Ior pwy rydd iawn fawl? Glân feibion gwynnion gwiwnef A folan' oll o'i flaen Ef. Eu gwedd, o flaen gorsedd gu Oleugerth y Nef loywgu, A guddiant; gormod goddef Disgleirdeb anwyldeb Nef. Ni wedir, y rhai'n ydyn' Fwy enwog, doniog, na dyn. A faidd ef godi 'i feddwl, Sy 'n bod, gan bechod, yn bwl, I uchder doethder a dawn Hefelydd i'r nefoliawn. Yr Ion sy 'n perffaith rannu Ei roddion yn gyfion gu; I'w addysgu gwnai ddisgyn At gaeth ddealldwriaeth dyn: Meiddiaf wneud yr un moddion; Trwy barch maith d'wedaf iaith Ion. Trwy ei gwen-glaer gaer gywrain Cymmylu wnai'r nef gu gain. A hwn cymmarwn y modd Ceinwych, pan y discynnodd
Duw agwrdd mawr bendigaid Mewn tyrfau geiriau a gaid! Y duwiau a wrandawant, I gyd, yn unfryd, a wnant.
Hudoliaeth y du Elyn
Yn hawdd a dwyllawdd y dyn. O'i ddiammhur natturiaeth Gan iddo gwympo 'n gaeth, Drwg wae geiff yn dragywydd, Dan y farn y dyn a fydd. Os Iawn yn gyflawn a gaf, Yn rhydd o'r farn y'i rhoddaf. Oes yn awr, drwy'r Nef fawr fâd, A ddichon wneud heddychiad? Duw Awdwr, tra bu'n d'wedyd, Crynu wnai'r Nef gu i gyd.
Llu'r fro gain, y rhai'n yn rhwydd Ystyrient mewn distawrwydd. I'r anwyl nifer yno
Bu 'n brudd-der, bu 'n drymder dro. Nid oedd yn y Dedwyddyd, Drwy'r gain Nef gywrain i gyd, Neb a wnai Iawn cyflawn cu Dros Addaf am droseddu.
Yr oedd mawr alar iddyn',
Lu glwys, am gwymp dwys y dyn. 1020 Egorai Duw 'r trugaredd Ddirgelion haelion o hedd:
Yr ail Berson cyfion coeth, Wir-Dduw, attebai 'n wâr-ddoeth; Fi, O Dad, Ceidwad cadarn! Fi, Fi, attebaf y farn.
Er eu mallder a'u melldith Ni chafant mo'm plant i'w plith. Yn wâr i'r ddaear ydd âf; O'u gw'radwydd mi 'u gwaredaf. Dduw addwyn, gwnaeth ddiweddiad ; Bu 'n foddlon ei dirion. Dad.
Yn awr drwy'r fawr Nef eirian Gwelid gwawl disgleiriawl glân; Clywid gan gu lu hael Ion Aml oslef a melyslon: Canent, hwy byngcient yn bêr, Ogoniant a mawl Gwiw-Ner. Ar ol i lân reolydd
980 Disgleirwawr dirfawr y dydd Droi 'i lon olwynion i lawr O ganol y nef geinwawr, Awel gu anadlu wnaeth Drwy Eden yn dra odiaeth. I'r oreudlos ardd radlawn Ior a ddaeth yn waraidd iawn. Adda, ai nid yma di? O'm gŵydd pa'm yr ymguddi? Tyred i'r golau tirion,
Duw 'r Hedd, mewn mawredd a mawl, Ar Sinai yn bersonawl.
Y mwynaidd wr llariaidd llon.
Hwy ddeuent yno 'n ddïoed Eu dau o blith cangau'r coed: Pechod, chwerwdod, swildod syn, Ofn, c'wilydd, fu'n eu ca'lyn.
Gwae fi'n brudd, mi ymguddiais, Duw lwyd! pan glybum dy lais: Annoeth adyn, noeth ydwyf
O flaen Ion rhy aflan wyf.
Pa fodd pwy dd'wedodd it', ddyn?
A goeliaist air y Gelyn? Gymmeraist, fwytteaist ti? Ba ryfyg wnaeth it' brofi
Un eurddawn bren a w'arddwyd, Lle 'r oedd it' filoedd yn fwyd? Clwy' dudost caled ydoedd, Cyfyngdra ar Adda oedd. Efa wael, a fu wiwlon, Gwell ganddo gyhuddo hon: Y wraig hon yma, dy rodd, Duw anwyl, hon a'm denodd: O'i dwylaw, ddrwg hudoles, Bwytta, ni wada', a wnes.
Oes a ŵyr dan awyr nef Y meddwl trwm ei oddef, Y tristyd, y clefyd cla', Y gofid a gai Efa? Gwylaidd ydoedd ei golwg, A thrist, ar ol anferth ddrwg.
Duw Awdwr, d'wedai wed'yn, Ba ham, O wraig, y bu hyn?
O'i braw byr atteb a rodd, Nid diboen hi attebodd; Y Sarph, âg iaith gyfrwys hy', Twyllodd fi i fwytta felly.
Yn awr y Barnwr a wnaeth Yn dêg roi barnedigaeth; Barn gyfion i'r ddelwon ddau,
Hi ddwg ddrain llwyrddrwg yn llawn; Ysgall mall yn lle meilliawn.
Ar lysiau 'r ddaear laswych Cei di ymborthi tra b'ych. A thrwy chwys, dilys, y dyn, Dy wyneb, anfad annyn, Bwyttêi di, tra gweli'r gwawl, Dy fara 'n edifeiriawl.
O'r pridd, sef o'r lleithbridd llwyd, Gwir yw, o hwn y'th grëwyd: Eilwaith yn ol dychweli;
I garchar daear 'r ei di.
Ac yn awr, wedi'r fawr farn, Yr Ynad, Ceidwad cadarn, (Tâl eu gwaith diffaith eu dau Oedd ing a chwerwedd angau) Yn chwimmwth rhoes orchymmyn Am aberthau i'r ddau ddyn. Diniwaid 'nifeiliaid fu, Drwy ing, yn dirfawr drengu. Wrth weled greuloned loes Oedd yno ddiwedd einioes, Wylai'r ddeuddyn o alaeth A thost g'wilydd, cerydd caeth. Gan eu gwylder, Nêr, o'i nawdd, Wedi llid, a'u dilladawdd.
O'r crwyn y gwnai'r Ior mwyn mâd Eu diwallu â dillad;
Gwir arwydd o'r mawrlwydd maith Di nam, a dynnai ymaith, A guddiai yn drag'wyddol Eu diffaith ffieiddwaith ffol.
Dywedai'r Barnwr didwyll;
Gan golli'ch dawn, heb iawn bwyll, Mae Paradwys loywlwys lân,
Bêr ollawl, i'ch bwrw allan. A phan glybu, y gu gain Wael Efa wnai wylofain; Oh 'r Duw anwyl! raid inni Fyn'd o'th bêr ardd dyner di!
Ar air Ion, yn union ânt, Eu deuwedd ymadawant O lasbarth yr ardd lwysber, Dan wylaw, yn nwylaw Nêr.
A Duw, wrth ganfod y dyn Yn wylo goelio'r Gelyn,
Yr enwog hawddgar Ynad
A lefarodd mewn modd mâd; Ow Adda, meddylia 'n ddwys, Os hyfryd pryd Paradwys, Yn y fan y'th anfonaf, Presennol yw'th nefol Naf.
Er i ti a'th wraig brïod,
Drwy'r Gelyn, yn f' erbyn fod;
Er hyn y Gelyn a gyll
Ei orchest a'i frâd erchyll. Bydd o'th hil fil o filoedd, Llïaws ang; fy 'wyllys oedd: Hwy, drwy gynnorthwy nerthawl, Rai addwyn, er mwyn fy mawl, O'u gofidiau gyfodir
I orfoledd a hedd hir. Dïau, wraig, dy rywogaeth A'ch dwg chwi o'ch cyni caeth. Daw 'r fendith i'ch plith a'ch plaid; Dïelir ar y diawliaid:
Du echrys fydd eu dychryn; Ffwrn groch ddofn Uffern a gryn. Deugain bu'r ddeuddyn degwedd O ddyddiau, yn mwynhâu hedd. Yr oedd yr haul didraul draw, Chwyledig, ar fachludaw: Hwy ni wêl huan eilwaith
Yn Eden oleuwen laith:
Hwy o'r ardd ffraw draw Fe drodd,
A Duw a ymadawodd.
Canfod, ar ol gormod gwall, Yngwrth droseddiad anghall. Yr Ion mor dirion a da
A doddodd yspryd Adda: Adda i lawr syrthiai 'n ddi, lid, Ac Efa yn llawn gofid.
Duw anwyl gwrando'r dinerth Sy 'n wylo mewn cyffro certh. Dod gu nerth, dod gynnorthwy, Gwel o Nef mai gwael iawn wy'. Dy gymmorth, Duw, dwg immi; Fy holl 'stad, Duw Tâd, wyt Ti. Dod im' gymmod am gamwedd, Gad im' gael dy hael hedd.
I Addaf a'i wraig eiddil Bu dagrau, griddfannau fil. Yn fwyn pan ddoen' i fynu Oddiar y ddaear oer ddu, At y glaer gaer ragorol Troi 'r ddau eu hwynebau 'n ôl. Ac wele! Oh y golwg! Rhag anrhaith a drudwaith drwg, Pedwar Cerub gwâr gwrawl,
A'u gwedd mor ddisglaer â'r gwawl,
Yn drist, yn athrist iawn oedd : Mewn cwmmwl prudd-ymguddiaw Wnai 'n drwm o'r gorllewin draw. O'r cwmmwl hagrddwl a hyll Y tew ruthrodd gwlaw tywyll: Rhuthrodd, bygythiodd y gwynt, A chwyrnodd yn groch arnynt; Chwythodd, a throdd o chwithig Fyrdd o ddail yn ei fawr ddig: Ar hynt y rhuadwynt rhydd, Cadarn, chwalodd frig coedydd. Y deiliawg goed a wylant, Prudd wylo dan wyro wnant. Pan dreiddiai 'r gwynt drwyddynt draw, Hwn ydoedd yn och'neidiaw. Carnolion yn wylltion ânt,
Ar redeg draw yr udant. Mân adar, ymnewidiodd Eu cân, yn druan hi drodd. Ond etto rhai yno oedd Yn llawen yn eu lluoedd; Pyngcient, d'unent yn dyner Gân siriol obeithiol bêr. I Adda ac Efa gofid Fu'r olwg o lwyrddrwg lid. Yno trwm ofidient rhawg, Dan awyr, eu dau 'n euawg O'r unrhyw ddirfawr annhrefn A throi holl nattur o'i threfn. Adda wiwlan feddalodd, Efa 'n drist mewn ofn a drodd. Eu deuwedd hwy a dawant, Uch'neidio, dan wylo, wnant. Y ddau, mewn gofidiau fyrdd, Yn eu gloes, dan bren glaswyrdd A ddwysion orweddasant,
A huno yno a wnant.
Y Gelyn, mewn dychryn dwys, Berwedig, o Baradwys Ehedodd, a ffodd yn ffest
I'w Garchar, yn llawn gorchest. Eisteddodd, golygodd Lys Cynddeiriawg Annwn ddyrys. Rhingyll gorerchyll o rym, Gweflawg, yn danbaid gyflym, Trwy'r Dyfnder mawr hagrwawr hwn Hyll seiniodd drwmp Llys Annwn. Bywiog, pan ei clybuant,
Prysuro 'n union a wnant,
Drwy y dew awyr dywell, Fyrddiynau, o'r parthau pell, O fileinfyw ddieifl anferth, Mal byllt, yn orwyllt eu nerth! O'i orsedd yntau 'n warsyth Wrth ddrygnaws lïaws di lyth Gyhoeddodd, fostiodd ei fawl, Ei lwyddiant gorfoleddawl.
Uwch ben, cyn gorphen ei gerth Rwth ynfyd araith anferth, Y gau Lyn llawn gelyniaeth Yn dywyll erchyll a aeth. Cochfellt, drwy'r cwmmwl cuchfawr Pygddu, wnant ennynnu'n awr; Yn hyllfyw, trwy'r Distryw dwfn, T'w'nnant, dychrynant Annwfn. Buan y clyw Satan si Ddiawlig yn ei lwyr ddelwi.
Ar hynt trawsffurfiwyd hwy rhawg Yn wynnias seirph ennynnawg. Sur a phoenfawr Sarph anferth, Dychrynodd, syrthiodd yn serth Ym mysg y terfysg, tarfodd Hwynt i ffoi, rhagddynt e ffodd. Dirmygus arswydus swn A synnodd lïaws Annwn.
Am bob gwaith diffaith y daw Gwrdd addas gerydd iddaw, A phoenwyd y Sarph anwar Yn ol ei anferthol fâr. Rhagbrofiad yw'r taliad hwn O ddinystr torfoedd Annwn.
Y bore daeth, yn burwyn, Oleuawg wedd yr haul gwyn I'r dwyrain, ac adsain gwynt Yn îs, yn llariaidd-naws-wynt. O ryw anferth drafferthiawn Gofidus, trallodus llawn, Addaf yn drymglaf a drodd, Yn ddi hoen e ddihunodd. E ddifyr welodd Efa
Yn geinwiw ddyn â'i gwên dda; Gwelodd yn ei hardd gulael Gymmodlonedd a hedd hael. Arwydd happusrwydd eirian, O gysur gloywbur a glân. Addaf, mae Naf gyd â ni! E rannodd gysur inni. Glywaist ti'r côr goleuwych?
Nefolaidd fawl mewn gwawl gwych?
Addaf â grudd brudd a bron Gyfodawdd mewn gofidion. Mewn alaeth, ym min wylaw, Yn fudan f' aeth, druan, draw. Ei lân wraig a ddilynodd
Yn daer a mwyn:-Gwrando 'r modd, Wâr Addaf, gwnaeth Duw roddi Cysuron mawrion i mi. Awyddus ydwyf, Adda,
Heddyw'n dwyn newyddion da.
Boed puredd, gwir hedd rhy'ddom, Llawenydd beunydd lle b'om. Yn hyn Adda'n anhynaws A drodd, edrychodd yn draws: Oh! Efa, Efa! ofer,
Gwae ni! wedi digio Nêr Hael iawn, sôn am lawenydd, Ond amlhâu dagrau bob dydd. Yn ofer na sôn, Efa,
Na sôn! breuddwydion yn dda! Oh 'th freuddwydion gweigion gynt! I'n dinystr hwy a'n denynt. Gweddïo 'n effro wnawn ni, Yn daer iawn, gan drueni. Lle 'r ydym, heb rym, heb ras, Yn eiddil, yn anaddas, Syrthiwn, penliniwn i lawr Ar yr îrlas wyrdd oerlawr. Aed ein gweddi ni i Nef,
Cawn nawdd mewn cwyn anoddef. Mae ein Nêr yn dyner Dad, Ein Duw rydd in' wrandawiad. Penlinio 'n union a wnant, Ymadrodd gair ni's medrant. Dagrau 'n berlau di baid, A chyni, ymdrech enaid, Y fynwes yn riddfannawg,
A braw fu'n eu rhwymaw rhawg. Mud gyffes y fynwes fu,
Ac oll oedd yn eu gallu.
E godawdd y ddau gwed'yn, Ac â'u gwallt modrwyawg gwyn A chysur hwy sychasant
Eu dagrau oedd yn gwau 'n gànt. Eb Addaf, Mae 'n waith buddiawl Yn daer weddïo 'n ddi dawl. Er bod ein hanwybodaeth Yn cau ein genau yn gaeth, Calon ddilon dan ddolur, Mae dagrau 'n iachâu ei chur. Trwy wên ein Tad tirionhael Y mae pur gysur i'w gael. Dïau gan Dduw gwrandewir Dagrau ac uch'neidiau 'n wir. Hyder anwylber yn Naf,
Fe glyw 'n llais, gwel ein trais trwm, Fe'n cwyd, os mawr fu'n codwm. Yr athrawiaeth helaeth hon,
Dda odiaeth addewidion,
A gawsom inni 'n gysur,
Yw'n sail ddilyth, byth yn bur. Mae gobaith mâd, tarddiad têg, Yn hy' odiaeth yn hedeg
I ddinag ragfeddiannu Y certh addewidion cu.
Gwel fryn gyferbyn, go fawr, A glwyswych goedydd glaswawr. Yn unawl ni awn yno
I weled maint braint ein bro.
« PoprzedniaDalej » |