Obrazy na stronie
PDF
ePub

Fy mod ar fin ymadael
I'r Nef wèn o Eden wael.
Daliai 'n ei llaw 'r hudoliaeth;
Dan wenu nesu a wnaeth.
Cymmer, y gwr mwynber mau,
Y dawnus ffrwyth i d' enau:
Ninnau 'n dduwiau a ddeuwn,
Yn dduwiau 'n ol mwynhâu hwn:
Hoenus wr hynaws ei wedd,
Duwiau fyddwn ni 'n deuwedd.

Oh Gwawr gu! ebre 'r gwr gwyl,
Gwae inni, fy ngwraig anwyl!
Da gwn y daw gwae inni;
Distry wiaist, difethaist fi.
Wraig dyner hoywber, hebod
Ni's gallaf, ni fedraf fod.
Dau gwell nag im' dy golli,
Odiaeth Wawr, farw gyd â thi.

Oh gwae o'r modd! y gwr mâd,
Gwyro a wnaeth drwy gariad:
Torrodd trwy arch Duw tirion,
Heb naccâu, er boddhâu hon.
Y cyfion Dduw ni's cofiant;
Anfad naws, ynfydu wnant.
Yn ddilys gwnaen' feddyliaw,
Marwolaeth na ddaeth, ni ddaw:
Hwy a ddilys feddyliant

Eu dau mai'n dduwiau ydd ânt.
Newidodd eu hanwydau,
Fu hyfryd, i gyd yn gau.
Eu rheswm nid arhosodd,
Goleuddawn hoff iawn, e ffodd.
Fel afon fawr a lifo
Dros fawrfras hyfrydlas fro,
Nid tirion y meillion mwy
Lle rhed y lli' rhuadwy.
Oer adfyd! pob peth prydferth
Ddinystria 'n ei gyrfa gerth.
Un fodd newidiodd yn awr
Monwes y ddeuddyn mwynwawr.
Gwae Addaf a'i wraig eiddil
Gan grochfloedd terfysgoedd fil!
Arwydd llid, gofid heb gêl,
Duo wnaeth awyr dawel.
Ond hwy, yn yr ennyd hon,
A gaid yn y cysgodion:
Mwynhânt (ymguddiant o'r gwawl)
Eu dyrys flys daearawl.

Darfod wnaeth y meddwdod mall,
Garw ing! gwae y rhai anghall!
Gwelent eu hanferth g'wilydd,
Gan ddychryn, hwy 'n syn y sydd.
Annedwydd weithion ydynt;
Noethion ac annoethion ŷnt.

Ebr Addaf wrth ei brudd wedd
Wraig wael, a fu rywiog wedd,
I ti ni roddaf fi fawl
Roi hyder ar air hudawl.
Drwy'r anwyl Nef dirionwawr
Mae 'n drwg yn amlwg yn awr.

820

840

860

Mae c'wilydd tost i'm calon :

Mae braw ars wydus i'm bron.
Gwn weithian drwg a wnaethost,
Mawrddrwg a ddaeth o'th ffraeth ffrost.

Llanwyd hi â digllonedd,

Yn danbaid e gaid ei gwedd:
Duw hael! p'le bu dy helynt?
Oh gwae na ddaethit yn gynt!
Dïau'r hwn a'm gadawodd,
Mae'n haeddu 'i farnu 'r un fodd.
Ebr Adda, Ai dyna dâl

A gaf am serch a gofal?
D'wedais, rhybuddiais di'n bêr,
Nid unwaith, yn fwyn dyner;
Gwylia, 'nghalon, droion drwg;
Diles oedd hyn yn d' olwg.
Ymaith, y Sarph, o'th ammhwyll!
At Seirph, dos, dangos dy dwyll!
Ti i'm trueni a'm trodd!
I'm dinystr, ti a'm denodd!
Na wyla, fy nu elyn!
Na wyla, llawenhâ 'n hyn!
Y Sarph yn llawenu sydd;
Ewch i ga❜lyn eich gilydd!
Ac unwch mewn drygioni;
Dos, Sarph ddrwg, o'm golwg i!
Y Sarph â'i thwyllodrus iaith;
Gwae inni am hyn ganwaith.
Adda, waelwr, ei ddwylaw
A blethodd, ac fe drodd draw.
Duw Lywydd! Oh dilëa

Fi o'th ŵydd, Ior dedwydd da!
Gwae o'r gêd! nid gwraig ydwyt,
Nid duwies, ond Sarphes wyt.
Claf ydwyf oll, clwyfwyd fi
A gweniaith dy ddrygioni.
Syrthiodd, pan glywodd, yn glau,
Y wraig lân, ar ei gliniau:
Fe dorrawdd Efa dirion
I wylaw, â braw i'w bron:
Ow Adda! na ddigia 'n ddwys,
Ond gwel fi, f' enaid gwiwlwys.
Fe'i gŵyr Ion mor gywir wyf,
Ac etto dy wraig yttwyf.
Addefaf nad wyf ddifai;
Fi byth gymmeraf y bai.
Deled arnaf fi'r dialedd,
Boed i tithau fwynhâu hedd.

Wrth ganfod ei brïod brudd
Yn gostwng dan flin gystudd,
Adda eilwaith feddalawdd;
Cymmodi wnai â hi'n hawdd:

880

900

920

Oh Dduw hael! fy ngwraig wael wedd,
Direswm fu dy drosedd.
Adolwg, elli dalu

Yn llawn i'r cyfiawn Ior cu?
Oh f' enaid! Oh gwae finnau!
Mi wn nad allwn ein dau.
Rai dirym, yr ŷm i'r Ion,
Ysywaeth, yn gaseion.

Oh am lesol farwolaeth

I'm rhoi'n rhydd o'm c'wilydd caeth!
Mewn naws dig, pa ham na's daw
A'm monwes i'w ddymunaw?

Oh na chawn hyn wy'n chwennych!

A marw a wnawn rhag mawr nych! 940
Yma, yn fy mron ammhur,
Gwae o'r pwys! mae garwddwys gur.
Chwi ddedwydd goedydd i gyd,
Udfawr a thrwm yw f' adfyd!
Oh cuddiwch, llocheswch chwi
'Y nghwyn dan eich canghenni!
Rhoddwch fi'n anghyrhaeddawl,
Tra b'wyf, na's gwelwyf y gwawl!
Pan ddarfu, mewn poen ddirfawr,
Syrthiodd, 'mollyngodd i'r llawr.
Efa yno fu ennyd

Mewn ofnus gwynfannus fyd:
Tristãodd, gwelodd ei gwr
Mewn gerwin goflin gyflwr.
Dan oriain, d'wedai'n araf,
Fy ngwr mâd, cennad os caf,
Dilladwn â dail lliw deg
Noethedd ein deuwedd yn dêg,
Oh hael Addaf! i luddias

Rhag lliw 'r dydd ein c'wilydd cas 960
O'r ardd cymmerant wyrdd-ddail
Eu dau 'n arffedogau dail.
Ond Oh! na's gallan' eu dau
Guddio eu ffol wageddau!

Y Goruchaf Naf yn awr
A ganfu o'r Nef geinfawr:
Tosturiodd, gwelodd eu gwall
A'u du ing, eu dau anghall.

Pwy a draeth beth annhraethawl?
I Nef Ior pwy rydd iawn fawl?
Glân feibion gwynnion gwiwnef
A folan' oll o'i flaen Ef.
Eu gwedd, o flaen gorsedd gu
Oleugerth y Nef loywgu,
A guddiant; gormod goddef
Disgleirdeb anwyldeb Nef.
Ni wedir, y rhai'n ydyn'
Fwy enwog, doniog, na dyn.
A faidd ef godi 'i feddwl,
Sy 'n bod, gan bechod, yn bwl,
I uchder doethder a dawn
Hefelydd i'r nefoliawn.
Yr Ion sy 'n perffaith rannu
Ei roddion yn gyfion gu;
I'w addysgu gwnai ddisgyn
At gaeth ddealldwriaeth dyn:
Meiddiaf wneud yr un moddion;
Trwy barch maith d'wedaf iaith Ion.
Trwy ei gwen-glaer gaer gywrain
Cymmylu wnai'r nef gu gain.
A hwn cymmarwn y modd
Ceinwych, pan y discynnodd

Duw agwrdd mawr bendigaid
Mewn tyrfau geiriau a gaid!
Y duwiau a wrandawant,
I gyd, yn unfryd, a wnant.

Hudoliaeth y du Elyn

Yn hawdd a dwyllawdd y dyn.
O'i ddiammhur natturiaeth
Gan iddo gwympo 'n gaeth,
Drwg wae geiff yn dragywydd,
Dan y farn y dyn a fydd.
Os Iawn yn gyflawn a gaf,
Yn rhydd o'r farn y'i rhoddaf.
Oes yn awr, drwy'r Nef fawr fâd,
A ddichon wneud heddychiad?
Duw Awdwr, tra bu'n d'wedyd,
Crynu wnai'r Nef gu i gyd.

1000

Llu'r fro gain, y rhai'n yn rhwydd
Ystyrient mewn distawrwydd.
I'r anwyl nifer yno

Bu 'n brudd-der, bu 'n drymder dro.
Nid oedd yn y Dedwyddyd,
Drwy'r gain Nef gywrain i gyd,
Neb a wnai Iawn cyflawn cu
Dros Addaf am droseddu.

Yr oedd mawr alar iddyn',

Lu glwys, am gwymp dwys y dyn. 1020
Egorai Duw 'r trugaredd
Ddirgelion haelion o hedd:

Yr ail Berson cyfion coeth,
Wir-Dduw, attebai 'n wâr-ddoeth;
Fi, O Dad, Ceidwad cadarn!
Fi, Fi, attebaf y farn.

Er eu mallder a'u melldith
Ni chafant mo'm plant i'w plith.
Yn wâr i'r ddaear ydd âf;
O'u gw'radwydd mi 'u gwaredaf.
Dduw addwyn, gwnaeth ddiweddiad ;
Bu 'n foddlon ei dirion. Dad.

Yn awr drwy'r fawr Nef eirian
Gwelid gwawl disgleiriawl glân;
Clywid gan gu lu hael Ion
Aml oslef a melyslon:
Canent, hwy byngcient yn bêr,
Ogoniant a mawl Gwiw-Ner.
Ar ol i lân reolydd

980 Disgleirwawr dirfawr y dydd
Droi 'i lon olwynion i lawr
O ganol y nef geinwawr,
Awel gu anadlu wnaeth
Drwy Eden yn dra odiaeth.
I'r oreudlos ardd radlawn
Ior a ddaeth yn waraidd iawn.
Adda, ai nid yma di?
O'm gŵydd pa'm yr ymguddi?
Tyred i'r golau tirion,

Duw 'r Hedd, mewn mawredd a mawl,
Ar Sinai yn bersonawl.

Y mwynaidd wr llariaidd llon.

Hwy ddeuent yno 'n ddïoed
Eu dau o blith cangau'r coed:
Pechod, chwerwdod, swildod syn,
Ofn, c'wilydd, fu'n eu ca'lyn.

1040

medi 21.10.101

Gwae fi'n brudd, mi ymguddiais,
Duw lwyd! pan glybum dy lais:
Annoeth adyn, noeth ydwyf

O flaen Ion rhy aflan wyf.

Pa fodd pwy dd'wedodd it', ddyn?

A goeliaist air y Gelyn?
Gymmeraist, fwytteaist ti?
Ba ryfyg wnaeth it' brofi

Un eurddawn bren a w'arddwyd,
Lle 'r oedd it' filoedd yn fwyd?
Clwy' dudost caled ydoedd,
Cyfyngdra ar Adda oedd.
Efa wael, a fu wiwlon,
Gwell ganddo gyhuddo hon:
Y wraig hon yma, dy rodd,
Duw anwyl, hon a'm denodd:
O'i dwylaw, ddrwg hudoles,
Bwytta, ni wada', a wnes.

Oes a ŵyr dan awyr nef
Y meddwl trwm ei oddef,
Y tristyd, y clefyd cla',
Y gofid a gai Efa?
Gwylaidd ydoedd ei golwg,
A thrist, ar ol anferth ddrwg.

Duw Awdwr, d'wedai wed'yn,
Ba ham, O wraig, y bu hyn?

O'i braw byr atteb a rodd,
Nid diboen hi attebodd;
Y Sarph, âg iaith gyfrwys hy',
Twyllodd fi i fwytta felly.

Yn awr y Barnwr a wnaeth
Yn dêg roi barnedigaeth;
Barn gyfion i'r ddelwon ddau,

1060

1080

[blocks in formation]
[blocks in formation]

Hi ddwg ddrain llwyrddrwg yn llawn;
Ysgall mall yn lle meilliawn.

Ar lysiau 'r ddaear laswych
Cei di ymborthi tra b'ych.
A thrwy chwys, dilys, y dyn,
Dy wyneb, anfad annyn,
Bwyttêi di, tra gweli'r gwawl,
Dy fara 'n edifeiriawl.

O'r pridd, sef o'r lleithbridd llwyd,
Gwir yw, o hwn y'th grëwyd:
Eilwaith yn ol dychweli;

I garchar daear 'r ei di.

Ac yn awr, wedi'r fawr farn,
Yr Ynad, Ceidwad cadarn,
(Tâl eu gwaith diffaith eu dau
Oedd ing a chwerwedd angau)
Yn chwimmwth rhoes orchymmyn
Am aberthau i'r ddau ddyn.
Diniwaid 'nifeiliaid fu,
Drwy ing, yn dirfawr drengu.
Wrth weled greuloned loes
Oedd yno ddiwedd einioes,
Wylai'r ddeuddyn o alaeth
A thost g'wilydd, cerydd caeth.
Gan eu gwylder, Nêr, o'i nawdd,
Wedi llid, a'u dilladawdd.

O'r crwyn y gwnai'r Ior mwyn mâd
Eu diwallu â dillad;

Gwir arwydd o'r mawrlwydd maith
Di nam, a dynnai ymaith,
A guddiai yn drag'wyddol
Eu diffaith ffieiddwaith ffol.

Dywedai'r Barnwr didwyll;

Gan golli'ch dawn, heb iawn bwyll,
Mae Paradwys loywlwys lân,

Bêr ollawl, i'ch bwrw allan.
A phan glybu, y gu gain
Wael Efa wnai wylofain;
Oh 'r Duw anwyl! raid inni
Fyn'd o'th bêr ardd dyner di!

Ar air Ion, yn union ânt,
Eu deuwedd ymadawant
O lasbarth yr ardd lwysber,
Dan wylaw, yn nwylaw Nêr.

A Duw, wrth ganfod y dyn
Yn wylo goelio'r Gelyn,

1140

1160

Yr enwog hawddgar Ynad

A lefarodd mewn modd mâd;
Ow Adda, meddylia 'n ddwys,
Os hyfryd pryd Paradwys,
Yn y fan y'th anfonaf,
Presennol yw'th nefol Naf.

Er i ti a'th wraig brïod,

Drwy'r Gelyn, yn f' erbyn fod;

Er hyn y Gelyn a gyll

Ei orchest a'i frâd erchyll.
Bydd o'th hil fil o filoedd,
Llïaws ang; fy 'wyllys oedd:
Hwy, drwy gynnorthwy nerthawl,
Rai addwyn, er mwyn fy mawl,
O'u gofidiau gyfodir

I orfoledd a hedd hir.
Dïau, wraig, dy rywogaeth
A'ch dwg chwi o'ch cyni caeth.
Daw 'r fendith i'ch plith a'ch plaid;
Dïelir ar y diawliaid:

Du echrys fydd eu dychryn;
Ffwrn groch ddofn Uffern a gryn.
Deugain bu'r ddeuddyn degwedd
O ddyddiau, yn mwynhâu hedd.
Yr oedd yr haul didraul draw,
Chwyledig, ar fachludaw:
Hwy ni wêl huan eilwaith

Yn Eden oleuwen laith:

Hwy o'r ardd ffraw draw Fe drodd,

A Duw a ymadawodd.

Canfod, ar ol gormod gwall,
Yngwrth droseddiad anghall.
Yr Ion mor dirion a da

A doddodd yspryd Adda:
Adda i lawr syrthiai 'n ddi, lid,
Ac Efa yn llawn gofid.

1180

1200

[blocks in formation]

Duw anwyl gwrando'r dinerth
Sy 'n wylo mewn cyffro certh.
Dod gu nerth, dod gynnorthwy,
Gwel o Nef mai gwael iawn wy'.
Dy gymmorth, Duw, dwg immi;
Fy holl 'stad, Duw Tâd, wyt Ti.
Dod im' gymmod am gamwedd,
Gad im' gael dy hael hedd.

I Addaf a'i wraig eiddil
Bu dagrau, griddfannau fil.
Yn fwyn pan ddoen' i fynu
Oddiar y ddaear oer ddu,
At y glaer gaer ragorol
Troi 'r ddau eu hwynebau 'n ôl.
Ac wele! Oh y golwg!
Rhag anrhaith a drudwaith drwg,
Pedwar Cerub gwâr gwrawl,

A'u gwedd mor ddisglaer â'r gwawl,

1220

[blocks in formation]

Yn drist, yn athrist iawn oedd :
Mewn cwmmwl prudd-ymguddiaw
Wnai 'n drwm o'r gorllewin draw.
O'r cwmmwl hagrddwl a hyll
Y tew ruthrodd gwlaw tywyll:
Rhuthrodd, bygythiodd y gwynt,
A chwyrnodd yn groch arnynt;
Chwythodd, a throdd o chwithig
Fyrdd o ddail yn ei fawr ddig:
Ar hynt y rhuadwynt rhydd,
Cadarn, chwalodd frig coedydd.
Y deiliawg goed a wylant,
Prudd wylo dan wyro wnant.
Pan dreiddiai 'r gwynt drwyddynt draw,
Hwn ydoedd yn och'neidiaw.
Carnolion yn wylltion ânt,

Ar redeg draw yr udant.
Mân adar, ymnewidiodd
Eu cân, yn druan hi drodd.
Ond etto rhai yno oedd
Yn llawen yn eu lluoedd;
Pyngcient, d'unent yn dyner
Gân siriol obeithiol bêr.
I Adda ac Efa gofid
Fu'r olwg o lwyrddrwg lid.
Yno trwm ofidient rhawg,
Dan awyr, eu dau 'n euawg
O'r unrhyw ddirfawr annhrefn
A throi holl nattur o'i threfn.
Adda wiwlan feddalodd,
Efa 'n drist mewn ofn a drodd.
Eu deuwedd hwy a dawant,
Uch'neidio, dan wylo, wnant.
Y ddau, mewn gofidiau fyrdd,
Yn eu gloes, dan bren glaswyrdd
A ddwysion orweddasant,

A huno yno a wnant.

Y Gelyn, mewn dychryn dwys,
Berwedig, o Baradwys
Ehedodd, a ffodd yn ffest

1260

1280

I'w Garchar, yn llawn gorchest.
Eisteddodd, golygodd Lys
Cynddeiriawg Annwn ddyrys.
Rhingyll gorerchyll o rym,
Gweflawg, yn danbaid gyflym,
Trwy'r Dyfnder mawr hagrwawr hwn
Hyll seiniodd drwmp Llys Annwn.
Bywiog, pan ei clybuant,

Prysuro 'n union a wnant,

Drwy y dew awyr dywell,
Fyrddiynau, o'r parthau pell,
O fileinfyw ddieifl anferth,
Mal byllt, yn orwyllt eu nerth!
O'i orsedd yntau 'n warsyth
Wrth ddrygnaws lïaws di lyth
Gyhoeddodd, fostiodd ei fawl,
Ei lwyddiant gorfoleddawl.

Uwch ben, cyn gorphen ei gerth
Rwth ynfyd araith anferth,
Y gau Lyn llawn gelyniaeth
Yn dywyll erchyll a aeth.
Cochfellt, drwy'r cwmmwl cuchfawr
Pygddu, wnant ennynnu'n awr;
Yn hyllfyw, trwy'r Distryw dwfn,
T'w'nnant, dychrynant Annwfn.
Buan y clyw Satan si
Ddiawlig yn ei lwyr ddelwi.

Ar hynt trawsffurfiwyd hwy rhawg
Yn wynnias seirph ennynnawg.
Sur a phoenfawr Sarph anferth,
Dychrynodd, syrthiodd yn serth
Ym mysg y terfysg, tarfodd
Hwynt i ffoi, rhagddynt e ffodd.
Dirmygus arswydus swn
A synnodd lïaws Annwn.

Am bob gwaith diffaith y daw
Gwrdd addas gerydd iddaw,
A phoenwyd y Sarph anwar
Yn ol ei anferthol fâr.
Rhagbrofiad yw'r taliad hwn
O ddinystr torfoedd Annwn.

Y bore daeth, yn burwyn,
Oleuawg wedd yr haul gwyn
I'r dwyrain, ac adsain gwynt
Yn îs, yn llariaidd-naws-wynt.
O ryw anferth drafferthiawn
Gofidus, trallodus llawn,
Addaf yn drymglaf a drodd,
Yn ddi hoen e ddihunodd.
E ddifyr welodd Efa

Yn geinwiw ddyn â'i gwên dda;
Gwelodd yn ei hardd gulael
Gymmodlonedd a hedd hael.
Arwydd happusrwydd eirian,
O gysur gloywbur a glân.
Addaf, mae Naf gyd â ni!
E rannodd gysur inni.
Glywaist ti'r côr goleuwych?

Nefolaidd fawl mewn gwawl gwych?

Addaf â grudd brudd a bron Gyfodawdd mewn gofidion. Mewn alaeth, ym min wylaw, Yn fudan f' aeth, druan, draw. Ei lân wraig a ddilynodd

1300

1320

1340

Yn daer a mwyn:-Gwrando 'r modd,
Wâr Addaf, gwnaeth Duw roddi
Cysuron mawrion i mi.
Awyddus ydwyf, Adda,

Heddyw'n dwyn newyddion da.

Boed puredd, gwir hedd rhy'ddom,
Llawenydd beunydd lle b'om.
Yn hyn Adda'n anhynaws
A drodd, edrychodd yn draws:
Oh! Efa, Efa! ofer,

Gwae ni! wedi digio Nêr
Hael iawn, sôn am lawenydd,
Ond amlhâu dagrau bob dydd.
Yn ofer na sôn, Efa,

Na sôn! breuddwydion yn dda!
Oh 'th freuddwydion gweigion gynt!
I'n dinystr hwy a'n denynt.
Gweddïo 'n effro wnawn ni,
Yn daer iawn, gan drueni.
Lle 'r ydym, heb rym, heb ras,
Yn eiddil, yn anaddas,
Syrthiwn, penliniwn i lawr
Ar yr îrlas wyrdd oerlawr.
Aed ein gweddi ni i Nef,

Cawn nawdd mewn cwyn anoddef.
Mae ein Nêr yn dyner Dad,
Ein Duw rydd in' wrandawiad.
Penlinio 'n union a wnant,
Ymadrodd gair ni's medrant.
Dagrau 'n berlau di baid,
A chyni, ymdrech enaid,
Y fynwes yn riddfannawg,

A braw fu'n eu rhwymaw rhawg.
Mud gyffes y fynwes fu,

Ac oll oedd yn eu gallu.

E godawdd y ddau gwed'yn,
Ac â'u gwallt modrwyawg gwyn
A chysur hwy sychasant

Eu dagrau oedd yn gwau 'n gànt.
Eb Addaf, Mae 'n waith buddiawl
Yn daer weddïo 'n ddi dawl.
Er bod ein hanwybodaeth
Yn cau ein genau yn gaeth,
Calon ddilon dan ddolur,
Mae dagrau 'n iachâu ei chur.
Trwy wên ein Tad tirionhael
Y mae pur gysur i'w gael.
Dïau gan Dduw gwrandewir
Dagrau ac uch'neidiau 'n wir.
Hyder anwylber yn Naf,

Trwy weddi, etto roddaf.

1360

1380

Fe glyw 'n llais, gwel ein trais trwm,
Fe'n cwyd, os mawr fu'n codwm.
Yr athrawiaeth helaeth hon,

Dda odiaeth addewidion,

A gawsom inni 'n gysur,

Yw'n sail ddilyth, byth yn bur.
Mae gobaith mâd, tarddiad têg,
Yn hy' odiaeth yn hedeg

I ddinag ragfeddiannu
Y certh addewidion cu.

Gwel fryn gyferbyn, go fawr,
A glwyswych goedydd glaswawr.
Yn unawl ni awn yno

I weled maint braint ein bro.

1400

« PoprzedniaDalej »