Obrazy na stronie
PDF
ePub

Fel y mae'r mâd deimlad tau,
F' enaid, felly 'r wyf finnau.
Pan wnaeth Ion dy lunio 'n lwys,
Pêr odiaeth oedd Paradwys,
Diweddodd, f' enaid addien;
Y gwaith oedd berffaith ar ben.
Gan d' olygon, Wenfron wyl,
Tirionodd nattur anwyl.
Mawrion yw rhoddion ein Rhi!
Daionus yw Duw inni.

Ar ol cymhedrol fwynhâu
Pêr-wynnion ffrwythau'r prennau,
Gwed'yn y ddau a godant,
At eu hanwyl orchwyl ânt.
Oddiwrth Adda, Efa aeth
Ychydig, at wych odiaeth

Flodau, â'u pennau 'n llawn pwys,
I'w coledd mewn modd culwys.
Yn fywiog ac yn fuan

Ar fyr daeth y Sarph i'r fan :
Hyfwyn gwnaeth hithau hefyd
Godi'r blodau gorau i gyd,
Rifoedd, tu draw i Efa,

I'w chymmell, drwy ddichell dda,
O amlwg olwg ei gwr;
Dyna fryd y dwfn Fradwr.
Hir graffu i fynu 'n fwyn
Yr oedd ar y Wawr addwyn.
Bu 'n ofer ei ffalsder ffèl;
Diwyd oedd Efa dawel.

Dyred, eb Addaf dirion,
Fy Myd, i'r hyfryd fan hon.
Gwêl y gwŷn flodeuyn da;
On'd rhyfedd mae 'n troi, Efa,
Ei burwych wyneb eirian

Yn hoyw gyda'r haul gloyw glân?
Y dwyrain gain, ar gynnydd,
Yw 'r lle y bore y bydd:
Mae 'n graddol siriol neshâu
I dawel bwynt y dëau;
Fe ganlyn gwed'yn y gwawl
I'r llon bwynt gorllewinawl.
Gweiniaid flodau, fal gwinwŷdd,
I ni i'w sylwi y sydd.

Ai hwn, Addaf, ei hunan,
O dêg lu y blodau glân,
Sydd fal hyn yn canlyn cylch
Hoyw lygad yr haul ogylch?
Blodau a gwŷdd sydd fel ser;
Ni wn, Efa, mo 'u nifer.
Ni awn, law-law, draw i drin
Yn gryno wŷdd y grawnwin:
Pan ddêl pwys gwres dwys y dydd,
Gwed'yn awn i'n gwasgawdwŷdd.

Wr gweddus rhywiog addwyn,

Tra bu yn llefaru 'n fwyn,
Yn ei wyneb mwyn wenu
Wnai Gwenfron lygadlon gu.
Satan faleisus etwaeth,

Fradwr, oedd mewn cyflwr caeth:

Trwy yr Yspryd tanllyd hwn Ennynnodd poenau Annwn. Dolennodd, e drodd y Drwg Ei hagr ffèl a'i graff olwg Etto 'n ddichellgar attynt, Pe gallai, gwahanai hwynt. Wrth weled ddedwydded oedd Nwyfus ail blant y Nefoedd, Mor unol, heb ymrannu, I'r Diawl poen farwawl a fu. Cyflym pan ddaeth grym y gwres 240 Hoyw i lawr o'r haul eres, A glaswen ddeilen e ddaeth Efa, ac Adda byfaeth

260

280

Gasglodd, mewn trefn, â'i lefn law,
Aeron gwynnion i giniaw.
O law Efa oleufwyn

Yn hawdd cymmerawdd, wr mwyn,
Y rhâd pen llâd; ânt yn llon
I'w twr ar y bryn tirion.
Heibio i'r Sarph mewn brys ânt,
Nawsaidd arni synniasant.
Rhag amnaid eu llygaid llen
Ciliodd yr euawg Galon.
Yn wisgi hwy wnan' esgyn
I'r nefawl hyfrydawl fryn.
Carnolion dofion nid ânt
I geinwawr fryn gogoniant,
Nag unrhyw bryf hyf hefyd,
O barch i arglwyddi'r byd.
Duw anwyl a ordeiniawdd
Nad ânt; ufuddhânt yn hawdd.
Wrth droed y bryn, llyn, gerllaw,
Hoff redwyllt, oedd yn ffrydiaw.
Dŵr bywiog yn dra buan
Ae 'n glir drwy wythiennau glân,
Trwy dewgorph y tir digardd,
I fwydo, ireiddio'r ardd.
I'r bryn, dros y gloywlyn glâs,
Da lwyddiant, anadl addas
Awelon oerion araf

Y sy 'n tymheru tês hâf.

Bur wr a'i wraig bêr eirian
I'w hannedd ryfedd yr ân',
Is gweuedig wasgawdwŷdd
Sy 'n oeri, 'n dofi gwres dydd.
Eistedd, mal ar orseddau,

Yn ebrwydd wna 'r ddedwydd ddau.
Teilwng i Dduw y talant

Gerdd fawl o'u harferawl fant,

O'u henaid; gweddus hynny;

Mawl Ior sy 'n santeiddio 'r tŷ.
Tirion awelon o wynt

O'r awyr pan warëynt

A dail eu hardd adeilad,

Fal nefolion mwynion mâd
O'u llys hwy ddeuant yn llon
Ar alwad yr awelon.
Disgynnant, brysiant o'r bryn
I'r gwaelod; craffai'r Gelyn

300

320

340

Yn hyf, gan ganlyn o'u hôl;
Ant hwy i'r pwynt deheuol,
At ffrwythydd irwydd eirian,
Gerllaw 'r groyw afon loyw lân.
Gwastadedd, rhyfedd mor hir!
Gwiwlas, coediawg, a welir.
Adar oedd ar g'oedd yn gwau
Y' nghanol y canghennau.

Llon ymddiddanion y ddau
Ddyn addwyn oedd ddefnyddiau
Parod; myfyrdod y fall
Henffel, dawel, sy 'n deall

Pa foddion dirgelion gau
I'w ddiriaid swydd sydd orau.
Wrth graffu o'i ddeutu 'n ddèl,
Anffawd i'r Gelyn henffel
A didawl benyd ydoedd;
Yn wyneb gwâr Adda'r oedd
Croywdeg ddelw y Creawdwr;
Hi 'n hynod gysgod o'i gwr.
Pwy a wêl wyneb huan
Nerthol â'i brydweddol dân
Yn hir, ac ni thry 'n hyrwydd
Ei olwg o'i amlwg ŵydd?
Y loywgain loer olygir

Heb ffrawdd, yn hawdd ac yn hir.
Yn anhy' felly y Fall
Ddiriaid, a drodd ffordd arall:
Y Diawl, yn llawn hudoliaeth
Gyfrwysddrwg, o'u golwg aeth.
Gwaith ffôl, ebe 'r Diafol du,
Eu hennill, heb wahanu

Y ddau o dan gangau'r gwŷdd,
O gu olwg eu gilydd.

Denu o'r neilldu a wnaf

Y wraig; hi a fawrygaf,

A'r afal clodfawr hefyd;
Gweniaith a wna 'r gwaith i gyd.
Y gwr a syrth drwy gariad,
A dyrr orchymmyn ei Dad.
Hanner y gwaith yw hunan-
Hyder, a dewrder ar dân.
Cyn yr êl yr haul ceinwawr
O'r glaerwen ffurfafen fawr,
Gweithred addas i Gythraul
A wnaf, myn yr hoywaf haul.

Y Sarph yn llwyr gyfrwys aeth,
A dèl, i drin hudoliaeth:
Ym mhob modd cynhygiodd hon
Ddenu 'r dedwyddawl ddynion.

Addaf a'i wraig rinweddol, Nid hawdd edrychant o'u hôl; D'wedant eiriau clodadwy; Dim gwael o'u calon hael hwy Ni ddeuodd; ac yn ddiwyd Gwnant weithiaw 'n bylaw o byd. Y serchog ardderchog ddau A ddaliant eu meddyliau Ar fawredd rhyfedd eu Rhi, Ddau anwyl, a'i ddaioni.

360

380

400

Och! i'r Sarph bu echrys aeth,
Diles fu pob hudoliaeth.
Buanwyllt ffodd o benyd
A chur a gwarth chwerw i gyd.
Eb Adda, Gwêl, Efa lon,
Hynt eres huan tirion:
Dan dywynnu nesu wnaeth
Yr haul drwy'r awyr helaeth
Gerllaw pwynt y gorllewin:
Wen bêr, mae'n llwyr amser in'
Noswyliaw; iawn in' sylwi
Mawr haelder ein Nêr i ni.
Paradwys burlwys berlawn
Y sydd yn ddiddanus iawn.
Os amlhau wna'r ffrwythau ffraw,
Dilys amlhâu wna 'r dwylaw.
Ni a'n hil a gawn fwynhâu
Siriol bleser dros eiriau.

Gwisg-lefn afalau gasglant,
Porthi pur nattur a wnant.
Y gwr glwys a'i gu wraig lon
Bêr yfant o'r bur afon.
Mewn càn risglyn purwyn pêr,
Erfai, yn ol ei arfer,

Yn hawdd e godawdd y gwr,
Y glyw addien, y gloywddwr.
Addaf eirian ddifyrrodd

Ei wraig fâd, mewn rhywiog fodd,
A gweddus iaith, âg addwyn
Arabedd, â mygedd mwyn.

Ar siriolaf Addaf wyl

Fe wenodd Efa anwyl;

Hafal attebodd hefyd

Ag iaith yn fiwsig i gyd.

Fe drodd, ymaelodd, wr mwyn, Gweddol, yn llaw 'r wraig addwyn: Dyfydd, f' anwylyd Efa;

Yr huan weithian a â
Obry o'r ddisglair wybren;
Hyfrytted weled ei wên!
Tan wenu ânt yn unawl
I uchder bryn gwyn y gwawl.
Ar ael y bryn, &c. *
Ennynnodd Satan enwir
Mewn maith anobaith yn wir;
Gorphwyllodd, fe rodd ei fryd
Ffoi i Annwn fawr ei phenyd,
A thywallt ei lid hallt hyll
Ar ddiawliaid diriaid teryll.

420

440

* Gwel Barddoniaeth Gristionogawl, Cywydd cyntaf. Nid oes un linell yn holl Weithiau adnabyddus y Bardd yn dechrau fel hyn, ond y mae gennym ysgrif o'i waith sydd air yn air fel y Cywydd y cyfeiriwn atto, ond fod y ddwy linell gyntaf yn eisiau, a'i bod yn dechrau, "Ar ael y bryn areulwawr." Diau gennym mai y dernyn hwn a fwriadai y Bardd osod yn y lle uchod; ond gan nad ydyw wedi dweyd hynny, barnasom mai ein doethineb ni oedd gadael y Cywydd yn ei le yn y Barddoniaeth Gristionogawl, a chyfeirio y darllenydd atto i'w ddarllen yn y cyssylltiad hwn. Ni bu em erioed yn llenwi ei lle yn fwy cymmwys a phrydferth.

Hawdd benderfynawdd y Fall
Ddewrwyllt ddisgwyl dydd arall.
Gwylio 'n gyfrwys wnai'r Gelyn,
A threulio'r nos honno 'n syn.
Pan ddaeth yr ehelaeth haul, &c.*
O'r bryn i'r dyffryn eu dau
Y deuant megis duwiau.
Y gwr glân wnai goffa 'n gu
I'w dyner wraig dan wenu,
Lawned oedd ei lawenydd
Pan ga'dd Efa, da fu'r dydd!
Bywiogaidd llariaidd a llon
I 'ngolwg yw'r angylion:
Yr olwg gynta' 'r welais,
Hyfrydaist, gwynfydaist f' ais;
Coelia fi, hardd rodd Celi,
I'm bron mwy tirion wyt ti.

Efa wèn gymmen a gwâr,
Hoywgoeth, attebai 'n hygar;
Fy ngwr sydd lawn o ddawn ddoeth,
Glân Addaf galon wiwddoeth,

Is y lân weddus loywnef

460

Wyd arglwydd dan Arglwydd Nef: 480
Addaf anwylaf, na wâd,

Y Mwynwr, fy nymuniad;
Sef hwn; Neillduwn ein dau
War fwyn i amryw fannau :
Yn ol pan ddeuwn eilwaith

Mwy pêr fydd ein mwynder maith.
Addaf ro'i atteb iddi,
Na wnaf, ni's gadawaf di.
Nid hyfryd pryd Paradwys
Hebot ti, y Lili lwys.

I'r lle 'r ei, dyna 'r lle'r âf;
Diau byth ni's gadawaf.
Cofia i'n Harglwydd cyfion
Anfon Cennad o'i wlad lon
I ddweyd fod Gelyn a ddaw,
A'i hyder yw ein hudaw.
Onid gwell, fy enaid gwâr,
I minnau a thi, Meinwar,
Fod law yn llaw yn llawen
Drwy'r dydd gyda 'n gilydd, Gwen? 500
Y dydd pa bynnag y daw,
Nid eill y Gelyn dwyllaw
Dïau mo'nom ein deuwedd,

Yn Enw'r Ion, mewn unrhyw wedd:
Dedwydd Seren glodadwy!
Na ofyn mo hyn yn hwy.

Ei anwylyd wèn hoywlon,
Pan glywodd, pruddhâodd hon:
Gan hynny, os felly fydd,
Ni ydym yn annedwydd.
Eden sydd beunydd yn bêr;
Heb rydd-did hi fâg brudd-der.
Dïau mae holl lu daear

Yn rhyddion, gwylltion a gwâr;

Yn ofer y chwiliasom am linell gyfattebol i hon yn holl ysgrifau y Bardd, ac felly nid oedd gennym ond ei gadael yn yr unigrwydd hwn.

Nyni sy 'n rheoli'r rhai'n,
Hynod nad ŷm ein hunain!
Gwawr hoff anwyl, gorphennodd:
Gan mor bêr mwynder ei modd
Addaf roes gennad iddi

Ar frys wrth ei h'w'llys hi:
Fy nghalon oleulon lwys,
Gommedd nid ydyw gymmwys;
D' anfoddiaw di ni feiddiaf,
Rodd dyner anwylber Naf.
Meinwen, rhodia lle mynni,
Fy nghalon, wyf foddlon fi.
Ei bur Gariad bêr gywrain,
Gwynfydu wnai Gwawr gu gain.
Tynnodd hon yn llon ei llaw
Dda hoywlan o'i ddeheulaw.
Adda eilwaith feddyliodd,
At ei wraig etto y trodd:
Efa anwyldda, fy Nêr,
Duw anwyl, ŵyr mor dyner
I'm bron wyt, Mingron, fy Myd;
Naw mwy anwyl na 'mywyd.
Y gyfiawn dêg, f' enaid i,
Oh Duw! a ymadewi?
Siriol wrth f' ystlys aros;

520

O'm gŵydd, Gwen ddedwydd, na ddos.540
Addaf, os na feiddiaf fi
Symmud, rhag ofn fy siommi,

O d' olwg, mae 'n wir dilyth,
Cystal bod, fe fod fyth
Yn fynwesol fain asen,
Firain wr, dan dy fron wèn.
Celi, sy 'n rhoddi pob rhâd,

Yn rhwydd, gwn, y rhydd gennad.
Gofal caredig, Efa,

O'th herwydd, wraig ddedwydd dda,
Gofal sy 'n peri'n gyfion

I'm geisio 'th luddio, Wawr lon.
Boed in' barhâu 'n dau, heb dawl,
Yn ufudd i Dduw nefawl.

Byddwn gyfiawn, cawn lawn lwydd,
Yn ddidawl byddwn ddedwydd.
Os, Efa, dy ddeisyfiad

Yw 'madael, Meinael, ymâd.

O'r fron cyfeillach ar frys
A balla heb ewyllys.

Tros fyr dro neillduo 'n dau,

Yn enw Duw, a wnawn ninnau.
Ond cofia, Efa aufwyn,

Am eiriau'n Tad mawrfad mwyn:
Gwylia rhag gwrando 'r Gelyn,
Cu Efa hardd, cofia hyn.

Addaf, addfwynaf enaid,

Dy eiriau 'n llawn golau gaid:
Caredig, cywir ydynt,

Cofiaf, ac ufuddhâf hwynt.

Drwy 'th gennad rwyddfad yr âf
Draw, ond ni hir ymdrôaf.

Pa fryn gwiw harddliw fydd hwn,
Addaf, lle cyfarfyddwn?

F

560

Y man y'th welais, Meinwen, Gyntaf, a'th anwylaf wên.

Efa gu yn fywiog aeth

I bêr lwyn o bur luniaeth.
E dynnodd cariad anwyl
Lân lygad ac enaid gwyl
Adda ar ol Efa lon,
Ei gulwys wraig un galon:
I gyd cadwynawg ydoedd,
Hir graffu, hiraethu 'r oedd.
Dichwith daeth y Didachydd
I loyw dêg olau y dydd.
Arwydd o hylwydd helynt!
Canfu eu gwahanu hwynt!
Egr falais a gorfoledd
A fu'n ennynnu 'n ei wedd.
Y dig ferwedig Fradwr,
Gwelodd ac ofnodd y gwr.
Hwn ar ol Gwen araul gu
Ddilynodd dan ddolennu.
Weithiau i'r dëau ae'r Diawl,
I'r aswy yn gyfrwysawl.
Dro arall, Fradwr eirias,
Yn llawn dichelliawn a châs.
Y man y safai Meinwen,
Troe'r Andras o gwmpas Gwen.
Dyrchu wnai ef yn dorchawg,
Edrychai 'n llon ar hon rhawg.
Odiaeth o harddwch ydoedd,
Cadwynawg ac eurawg oedd.
O'r diwedd y Wawr dawel
A'i diddrwg olwg a'i gwêl.
Canfod hyn wnai 'r Gelyn gau;
Yn union â mwyn enau
Llefarodd a'i hyll fwriad
Oedd lyfn-ffel gyfrwys-gel frâd.
O'r dduwies gynnes ei gwên!
Ti wyd ogoniant Eden!
O Gwenfron dirion a da!
Wawr foddus, na ryfedda
Im' edrych yn dy wych wedd;
Ni welais ail d' anwyl-wedd.
Daearol greaduriaid,

A glân lu'r Nef gu a gaid
(Hwy ddylent) yn addoli
Tiriondeb dy wyneb di.

Y wraig rhyfeddu yr oedd;
Dywedai, Pa bryd ydoedd?
Pa fodd? a roddodd yr Ion
I'th enau araith union?
Coeliais na's rhoddodd Celi
Y ffraethlon fraint hon i ti.

Y Sarph yn llawn malais oedd,
Dywedai'r peth nad ydoedd:
O dduwies gain weddus gu!
Y gwir wyt ti'n ei garu;
Ni's celaf, ni's gwadaf, gwn
Mi, diweddar, mud oeddwn;
Gwael, fal fy nghyd-drigoliawn,
Anghall, heb ddeall, heb ddawn:

580

600

620

Ar bur anwyl bêr ennyd,

Gwelais bren, glwys yw ei bryd;
Aroglais ei rywiawglwyth;
Blysiais, a phrofais ei ffrwyth.
Pan brofais, rhyfeddais fod

Ffraethineb drwy'r ffrwyth hynod! 640
Fy neffro 'n union a wnaeth
A doniau dros grediniaeth!
I fynu cododd f' anian,

Daeth rhinwedd rhyfedd i'm rhan!
I'm bron yn dirion y daeth
Bydawl, nefawl wybodaeth!
Myfyriais, rhesymmais i
A lanwn â goleuni
Ddiles dywyll feddyliau

Llu y llwyn â'r ffrwyth mwyn mau.
I'm calon yn union aeth

Y torrwn drwy natturiaeth
Wrth godi'r arth a'i gydwedd

I'th fraint, Gwen gywraint ei gwedd.
Y dêg Wawr! tydi gerais,
Dy lun gwiw, dy liw, dy lais.
Mae 'n eglur nattur ni wnaeth
Greadur â gwawr odiaeth

I fod dan gêl, na wêl neb,

Eithr un-dyn, ei thiriondeb:
Mewn uwch 'stâd haeddit fâd fawl,
Y' ngolau'r wlad angylawl.

O'r Sarph! y mae'n eres iawn
Dy rwyddaidd ymadroddiawn!
Ffrwyth pren yn Eden a wnaeth
It' gyrraedd dy ragoriaeth?
O'r anwyl! os arweini,
Gweled hwn chwennychwn i.

Y Ffyrnig, mewn mawrddig maith,
Gwybu na byddai gobaith
I'w dwyll, pan y deallid
Ei gaeth elyniaeth a'i lid.
Yn union daeth o'i enau
Ddichellion ei galon gau:
Meinwen, clyw fy nymuniad,
Y dduwies â'r fonwes fâd,
Buan i lân Oleuni

Ehedeg yn dêg wnei di;
A gaf ddeisyf, ai hyf hyn,
Y geinlwys, cael dy ganlyn?
Sywdeg Angyles Eden,

Dod gariad am gariad, Gwen.
Tyred, dyma'r llwybr tiriawn
A'n dwg i ymlenwi â dawn.

Yr hyglod wraig rywioglwys
Aeth ar ol y Diafol dwys.
Oh 'r gu ddawnus wraig ddinam,
Hynod, sydd i fod yn fam

I luoedd bobloedd y byd!
O ddu ing boed it' ddiengyd!
Oh na red i ddwfn rwydau
Offeryn y Gelyn gau!

Daethant (ddrwg ennyd!) weithian Ar gyfer y gloy w ber glân.

660

680

At fawrglod bren gwybodaeth
Y Sarph mewn du ddyfais aeth.
Hi gyrch, yn dyrch hynod iawn,
Taerwyllt, at y ffrwyth tiriawn.
Ac Efa ddedwydd gyfion
Welodd, brawychodd ei bron:
Oh 'r Sarph! mae 'n ofer y swydd;
Dy fost ddwg rydost w'radwydd.
Cymmer, yn rhwyddber, bob rhan
O hwn i ti dy hunan.

Ni phrofaf, ni feiddiaf fi;

Ba ryfedd na's gwnaf brofi?

Gan Dduw lwyd gwaharddwyd hwn;
Ei anfoddiaw ni feiddiwn.
Duw mâd a roes gennad gu,
O'i ddawn, i ni feddiannu
Pob pren yn Eden yn wir;
Un harddwych, hwn waherddir:
Ebr ef, Os gwnewch ei brofi,
Marw a wnewch; dyna 'marn I.
Tynnodd, nid ofnodd y Diawl,
Y gwawrwych ffrwyth rhagorawl;
Ac yna T'wysog Annwn

Ro'i glod i'r ffrwyth hynod hwn:

O ffrwyth têr! haedd fwynber fawl,

Ei flas sydd mor felysawl!

Newidiodd, cyfododd fi

O'm gwaeledd, mal y'm gweli.
Gwyddost nad enwog oeddwn
Cyn profi a hoffi hwn.

Cododd fi 'n awr i fawr fawl,
I ddawn uwch nattur ddynawl.
Gwawr dyner, y bêr Burwen,
Tydi, os profi o'r pren,
Ba ryfedd? os gwnei brofi,
I raddau'r duwiau 'r ei di.
Ni wedir (doethion ydyn')
Eu llu hwy sy 'n deall hyn.
Hawddgarach, teccach wyt ti
Na 'r gwr yn awr a geri;
Ond er hyn, y fwynddyn fau,
Doethach yw ef na'th dithau.
Tydi, os profi mewn pryd,
Wènferch, mawr fydd dy wynfyd;
Rheoli dy reolwr,

Tydi ragori y gwr.

Cei fwy anchwiliadwy les,

Tydi a ddeui 'n dduwies;

Tydi 'n wisgi wnei esgyn

Uwch rhod y gwiwglod haul gwyn;
Cyhafal y cei hefyd

Gan dduwiau 'th fawrhâu o hyd.
Dyna 'r modd d'wedodd y Diawl,
Y ffyrnig Sarph uffernawl.
E garawdd y wraig wirion
Hydraeth araithyddiaeth hon.
Efa i hyn a rodd gryn grêd;
Gwyliodd oedd Adda 'n gweled.
Efa oedd mewn rhyfeddod;
Synnodd pan glywodd ei glod:

700

720

740

Hynottaf ffrwyth yn nattur!

Mae'n rhoi ffraeth wybodaeth bur!
Doniau anghyffredinawl!

Gwnei'r mud lefaru dy fawl!
Geiriau'r Sarph yn llawn gwir sydd,
Y fedrus Sarph dafodrydd.
Efa, drwy fawl y Diawl du,
Siommwyd wrth ymresymmu:)
Efa, y lana' luniwyd,

Yn rhy gaeth yr aeth i'w rwy
Wrth hir edrych ar wych wawr
Yr anwyl ffrwyth tirionwawr,
Neshâu wnai hithau yn hawdd,
Ei foddau hi ryfeddawdd;
Mwynion awelon o wynt
Ei arogl atti yrrynt:

Mewn blys rhodd ei bys yn bêr
Ar donnen ei wawr dyner.
Safodd mewn mawr ddeisyfiad
Profi'r afal meddal mâd.

Gan mor wiw oedd hoywliw hwn,
A gweniaith T'wysog Annwn,
A'i fod yn rhoi i fudiawn

Bob ffraethder, doethder, a dawn,
Heb attal, rhy feddal fu,

I'w gw'radwydd hi wnai gredu:
Oh ddiriaid weithred ddyrys!
Tynnodd, hi brofodd mewn brys.
Y Twyllwr, Hudolwr du,
Yn ei frâd wnai hyfrydu;
Yn araf, o'r pren eurwawr,
Trodd, e ddolennodd i lawr.
Gyd â hyn dyma'r dyn da
Yn ymofyn am Efa.

Fe ddelwodd, safodd yn syn,
E grynodd oll bob gronyn.

Hi'n hael âg ael ddi g'wilydd
Weithian drwy dwyll Satan sydd.
Er ei wa'rdd, yn llaw hardd hon
Y gwelid y ffrwyth gwiwlon.
O fy addwyn wr mwyn mâd!
Mawr a fu'n camgymmeriad!
Pren odiaeth gwybodaeth bur,
Pren yttyw pêr ei nattur:
A'i profo, penial prifwŷdd,
Nid marwol, anfarwol fydd.
Y Sarph, y mae 'n eres sôn,
Beunydd fwytta'dd, heb uno'n,
Y ffrwyth od, a ffraeth ydyw,
Gwybodus a serchus yw;
Didwyll yw 'r Sarph, a dedwydd;
Y fwyn Sarph fal finnau sydd.
Ar eiriau hon, llon ei llais,
Pêr afal, mi a'i profais;

A gwir, mae'n ffrwyth rhagorawl,
Yn ddïau mae 'n haeddu mawl.
Fy ngwybodaeth oedd gaeth gynt,
Heb feiddiaw hylaw helynt,
Oleuodd, ehangodd hwn;
Yn ddilys mi feddyliwn

760

780

800

« PoprzedniaDalej »