Obrazy na stronie
PDF
ePub

Auturiaf, ehedaf hynt,
Hwyliaf ddïeithrol helynt,
Drwy fannau diderfynawl,
Erchyll, rhwng y Gwyll a'r Gwawl.

Pan dd'wedodd, ehedodd hwn
Mewn mawrddig; mwy na myrddiwn
Ddyrchafson' o'r Gwyllon gau
Ar unwaith, mal taranau.

Y llïaws yn eu Llywydd
Roent nerthawl, uffernawl ffydd;
Hwy ddymunen' ddamweiniaw
Gwneud anrhaith a drygwaith draw.
Y fradus ddrygionus gâd,
A'u hadenydd ar daeniad,
Ehedai'r dorf anhydyn
Ar llêd drwy gyrrau y Llyn.
Chwilient, erbyn dychwelyd
Pennaeth y Ffau gaeth i gyd,
Bob gorawr drwy'r Ffwrn fawr faith,
Drwy'r Annwn draw ar unwaith.

O boen a phob rhyw benyd

Y Llyn hagr sy 'n llawn o hyd.
Adda a'i wraig ddiwair wèn
Yn hynaws iawn a hunen':
Tra cysgent, tra hunent hwy,
Y rydaer Ddraig ruadwy
O'i ffyrnig Ffau uffernawl,
Ffau tu hwnt i gaerau 'r Gwawl,
Ehedai'n llawn o hyder
I berffaith newyddwaith Nêr.
Pan ddaeth at ufelgaeth fawr
Eirias uffernbyrth orawr,
Y gaer oedd yn egored,
Dorau'r Llyn oedd draw ar llêd;
A'r fflammau yn gwau yn gylch,
Yn ygus iawn o'i ogylch.

Doethion ddibennion beunydd
Gan Ion, uwch pob sôn, y sydd.
Yr Ellyll, os tyrr allan

O'i erchyll dywyll Ffwrn dân;
Os Satan wna aflan waith,
Unrhyw ddichellgar anrhaith,
Mwy o boen, mwy o benyd
I'r Gelyn fydd hyn o hyd.

Y Ddraig, os gwnelai ddrygwaith,
Yna Nêr, mewn mwynder maith,
I'r dirym greaduriaid

Ro'i fendith i'w plith a'u plaid;
Gwiw Ior, o'i fawr drugaredd,
Rho'i gymmod a hynod hedd.

Y drwg Yspryd tanllyd hwn
Ennyd ar gaerau Annwn
A safodd; edrychodd dro
Yr helynt orau i hwylio.
Yn awr, mal mellten eirias,
Ae Satan o'r geulan gâs;

Ban hwyliai i ben ei helynt
Ei daith ydoedd ganwaith gynt.

Yn yr awr pan fo'r wawr wèn
Ar liwio 'r awyr lawen,

580

[blocks in formation]

Gannoedd, mewn gwisgoedd gwynnion;
A'r adar mor hyfrydawl

Yn plethu, emynnu mawl.
Pob peth llesol, (ddethol ddau,)
A roes Nêr i'w synhwyrau.
Danfonodd Duw yn fynych
Angylion gwynnion, lu gwych,
O fro lân y fawr loywnef,
600 Ddyn gwâr, i 'mddiddan âg ef.
Mewn cu eiriau mwyn cywrain
Traethent, egorent yn gain
Fod Paradwys loywlwys lân
Yn arwydd o'r Ne' eirian.
Eu 'madroddion doethion da
Oeddynt yn codi Adda
O ardd Eden werdd wiwdeg
I'r wènlon Nef dirion dêg.
Dyddiau dedwydd a diddan
Gan Dduw lwyd roddwyd i'w ran.
Ac erbyn i'r Gelyn gau
Gyrraedd goleuddydd gaerau,
Duw Nef, o'i gariad a'i nawdd,
I Eden fwyn danfonawdd

Gennad o Seraph gwiwnaws,
Rhag i Satan aflan naws,
Dig'wilydd daeog Elyn,

Ddinystrio, drwy dwyllo 'r dyn.

Efa 'n ddistaw draw a drodd;

620

Duwies aufwyn, deisyfodd

Glywed ei gwr goleuwych

Gàn' gwell na 'r Angel gwyn gwych.

660

680

Ebe 'r Seraph purgraff pêr,
Hanbych well, y gwr hoenber!
Y llonfwyn wr llawenfad,
Tydi a genhedli hâd,

Mawr fendith! rif y gwlith glân,
Mal amlder y ser seirian.
Y Mawredd anghymmarol,
Ior Nef, ni thry 'i air yn ôl.

Ebre Adda 'n bereiddiawl;
Geinwawr fab gorawr y Gwawl,
Pa iawn attebiawn i ti,
Fawreddog Ior, wnaf roddi?
Un adill o'th flaen ydwyf,
Isel radd, a sâl wr wyf.
Tithau, o ba raddau 'r wyt,
Un gwiwdeg enwog ydwyt,
Ni wn;-Un cyfiawn Ynad,
Nefol gyffredinol Dad,

A feddwn; yn ufuddawl

I Dduw fyth rhoed pob gradd fawl.
Addaf, eb'r Angel hoywddoeth,

Wr diwair, pob gair sydd goeth
O d' enau; hawdd adwaenir
Doniau Nef ynod yn wir.
Cefaist gan y Duw cyfiawn
Baradwys helaethlwys lawn.
Diddan lu glân Goleuni
Ryfeddan' d' eirian ardd di.
O wiwddoeth Angel addwyn!
A ddeui, fyddi mor fwyn,
Ymostyngi di, a d'od
I'm hannedd, lle mae hynod
Ganghennawg goed caerawg coeth,
Ac Efa, fy holl gyfoeth?
Benfelyn ddyn diddanol,
Mae f' eres neges yn ôl.
Y doethwr, gwrando dithau
O'th fodd yr ymadrodd mau.
Ddisgleiriol fab nerthol Naf,
Dywed, a mi wrandawaf.

Gwybydd, ddyn, fod Gelyn gwyllt,
Gwynnias a chynfigenwyllt,

I ni, i ti, ac i'n Tad;

E soddodd, am droseddiad
Yn erbyn Duw gwyn, i'w gerth
Ennynfawr Annwn anferth.
Denu wnaeth i Dân, o Nef,
Gantoedd, fyrdd, gyd âg yntef.
O'i fflammiawg anffodiawg Ffau
Y daeth i'th hudo dithau.
Ein Naf, ein hanwylaf Nawdd,
I minnau orchymmynawdd
Dy rybuddio, etto, ddyn,

I wylio rhag dy Elyn

700

Welodd y drwg Lywydd draw
Annedwydd yn newidiaw
Ei lun a'i wedd yn lân iawn,

A thrwy 'r nèn rhuthro 'n uniawn
O'u golwg, drwg ei galon,

A wnaeth i'r helaeth fro hon.
Cofia 'n dêg, wr cyfion da,
Beunydd am air Duw 'n benna'.
Ymgadw, ïe ymgadw 'n gaeth
Beidio cwrdd pren gwybodaeth.
Adwaenost ef, gwêl, dyna

Y pren â'i ffrwyth, dewlwyth da.
Ti, os profi'r pêr afal,
Angau a gei dithau 'n dâl.
Cofia 'r gorchymmyn cyfion,
A chadw 'n bur air eglur Ion.

I Naf os byddi 'n ufudd,
Cei nefawl anfeidrawl fudd.

O fwyn iawn Angel fy Naf!
Ei gyfiawn air a gofiaf.

Un fu o lu'r Nef wèn lân
Ddyddiau gynt yn ymddiddan
Gan roddi i mi 'r un modd
Eres hanes a'm synnodd.
Feiddiaf fi holi am hyn?
Wyf addas? p'odd fu iddyn'
Fyth syrthio o'u bro a'u braint?
Pa wedd bu camwedd cymmaint?
Gwybydd, y celfydd wr cu,
I'r unig ddoeth Dduw rannu
Rhadau sydd angenrheidiol
I ti, ac i ni, yn ol

Ein graddau; pawb yn groywddoeth
Yn eu 'stâd wnaeth y Tad doeth.
O herwydd mor ddedwydd wyt,
Dedwydd drwy ddawn Duw ydwyt;
Mae'r parhâd, wr gloywfad glân
720 Hynaws, arnad dy hunan.
Dy feibion cariadlon certh,
Eu gwynfyd, neu 'u gwae anferth,
A fydd fel y gwnei foddio
Tad nefol y freiniol fro.
Ar ol y rheidiol barhâd
Yn deilwng iawn yn d' alwad,
Cyflawn, cyfiawn y cefi
Ein mawrion hanesion ni.
Pob pur greadur, gwir yw,
Dedwydd, anghenraid ydyw
Bod ar y Duwdod, heb dawl,
Beunydd yn ymddibynnawl.
Pob perffeithlawn ddawn a ddaeth,
Hael Awdwr, o'i law odiaeth.
Mal pelydr hyfryd yr haul
Wna 'n eirian y nèn araul,
Ffrwythlona, oleua 'n lwys
Buredig ardd Baradwys,

A dorrodd o'r Dyfnderau

Diffaith, yn llawn gweniaith gau.
Gweledig pob Gwaelodion

[merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small]

O'i ddeutu mae 'n taenu tês
Cannaid, bendigaid, cynnes;
Cynnes ogoniant ceinwawr

Yr un modd daena 'r Ion mawr.

760

780

800

Y sawl, drwy ymchwyddawl chwant,
Yn yngwrth a swrth syrthiant
O'r Gwawl pelydrawl;-pa lid
A gafant?-Oh eu gofid!
Tost bod heb gymmundeb mâd
A gwawl rhagorawl Gariad!
Fal hyn y mae d' Elyn du
Yn gwynnias gynfigennu
I'th rwydaw, drwy athrodion,
Yn gaeth o'r helaeth ardd hon
I'w fawrboen;-na bydd fyrbwyll;
Ymogel rhag dirgel dwyll.

Try 'r Gelyn yn wyn ei wedd
A gau weniaith ddigonedd.
Tydi adwaeni'r Denydd

Drwy'r gaeth athrawiaeth a rydd.
Os Angel goleuffel, glwys
O bryd, ddaw i Baradwys
I'th ddenu âg iaith Annwn;
Hudwr, Cyhuddwr fydd hwn.
Dywed, Ar Dduw gwrandawaf,
A ffyddlon weision fy Naf.
Ffy 'r Gelyn; dychryn di dòr
Hagr chwerw a'i gwna 'n Garcharor.
Efa wendon, drwy fwynder,
Cofia, rhybuddia hi'n bêr
Am hyn, rhag i d' Elyn di
Dy rwydaw mewn dirieidi;
Felly byddwn gyfeillion
Bythawl, yn unawl yn Ion.
Nodedig Gennad odiaeth!
Mor drwm dy hoff reswm ffraeth!
O gu lon wên goleuni

Hyd brydnhâwn y gwrandawn di.
Iawn-wyddost, weithion, Adda,

Yr hyn i'w ddilyn sydd dda.
Mi wnaethum, wr mwyn, weithion
Yn rhwydd fy nyledswydd lon.
Dy byder o'r dyfnder dôd,
Wr dedwydd, ar y Duwdod.
Angylion Nef wenlon fydd
I d'annerch ar adenydd.
Wr ufuddol, rhyfeddi
Fawr gariad y Tad i ti.
Weithion o'r byd hyfryd hwn
Uwch heulwawr ni ddychwelwn.

820

840

Cawn lawn ganfod y rhodau
Disgleiriawl, er mawl Ior mau:
Oddiyno 'n ebrwydd union
At orsedd ryfedd yr Ion.
Arwyrain a leinw'r oror
Nefawl, gan drag'wyddawl gôr.
Rywioglon nefol Raglaw,
Yn lwys estynnodd ei law;
Wèl, Addaf,-Duw a'th lwyddo;
I'th ran fyth yr Ion a fo.

A gwâr wedd, y gwr addwyn
Ymgrymmodd o'i fodd yn fwyn:
Gwaraidd Gennad ragorol!
Fy llon fendithion ar d' ôl!
O wlad anwyl daioni,
Hael Angel, ymwêl â mi!
Mewn mawl caredigawl da,
Gweddus, y' ngolwg Adda,
Lwys gannaid lu, esgynnan'
I wlad rydd y gloywddydd glân.
Addaf aeth â'i newyddion

I'r deildy fry ar y fron.
Yn fedrus gwnai fe adrodd,
Wr addwyn, ym mha fwyn fodd
Y darfu 'r fâd Gennad gu
Ddewisgoeth ei addysgu.
Ebr Efa, Mae 'n bêr yfed
Dŵr glân hyd raian a rêd;
Pur felys pêr afalau,
Pêr yw eirin i'r mîn mau;
Mêl i gyd ydyw mawl gwâr
A didawl ganiad adar.
Geiriau dy fîn a gerais,
Mwy pêr o lawer dy lais.

Y ddau anwyl ddi weniaith,

860

880

Am waith Nêr, mewn mwynder maith,
Rhesymmen' yn gymmen gu
Dan fâd hyfryd wynfydu.
Ae'r huan llydan lliwdeg,
Brenin dydd, o'r wybren dêg.
Du nôs oedd yn dynesu
A'i hyfryd oleubryd lu.
Ar ol i'r ddiddanol ddau
A glân berffaith galonnau
Roi 'n felys i'r Ion foliant,
Gorphwys yn wiwlwys a wnant.

medi 20 1954

YR AIL RAN.

SATAN, yn boeth-dân, mewn bâr,
Ddwywaith holl gorph y ddaear
Amgylchodd, chwiliodd yn chwai
Pa gyfaill, pwy a gafai
Yn addas i'w ddefnyddiaw
Yn ei ddiffaith dreiswaith draw:
A hir yr ymgynghorawdd,

Yn syn, am nad oedd hyn hawdd.
Pan aeth yr ehelaeth haul
Yn eurawg o'r nèn araul,
Y Diawl, yn llawn hudoliaeth,
I Eden yn fellten f' aeth.

Addaf a'i wraig ddifyr wèn
Ymgommiant yn fwyn gymmen,
Dros dro, cyn huno mewn hedd,
Yn hynaws yn eu hannedd.
Diwyd y Diawl wrandawodd;
Mewn brys a braw draw fe drodd:
Gwae 'mron! Swyddogion a ddaeth!
Dygir fi i ddamnedigaeth!
Yn ôl i'm huffernol Ffau!
Accw i Dân, mewn cadwynau!
Gwae fi!'r wy 'n ofni fy nàl,
Modd ewybr, cyn ymddïal.
A ch'wilydd, os dychwelaf,
Tragywydd g'wilydd a gâf.
A ddenais holl fyddinoedd
Nef fawr, dan olwg Naf oedd?
A dynnais hwynt hyd Annwn?
A methu tynnu 'r byd hwn?
Myn Annwn! mi wna' unwaith
Yn ffyrnig gynnig y gwaith.
Ac weithion, rhag y gwaethaf,
Ymguddio'n union a wnaf.
Un a welais yn olwyn
Gyfrwyswar gyfeillgar fwyn;
Ymguddio yn honno 'n hawdd
Heno wnaf man yr hunawdd.
Gorweddwch, hunwch yna
Yn esmwyth, lân dylwyth da;
Gorweddfa i hagr riddfan

A gewch mewn byll dywyll Dân.
I'w frad-waith arferedig

Brysiai, Ddiawl, mewn berw-ias ddig.
Yn ddirgel y nôs helaeth

A glôdd, fe gauodd yn gaeth
Olygon dynion a da,

Drwy hedd, a'r adar hoywdda,
A goleuodd y gloyw-wawr
Lampau 'n y nef olau fawr.
Yn siriol i'r nôs eirian
Yr eos geindlos a gân:
Hi 'n unig, o dewfrig dail
Wna gywydd yn y gwïail.

20

40

A gwedd lwys ddifrifddwys, fry, Seiriandeg nôs a wrendy.

Y Gelyn, yn ei wŷn wyllt A'i farwol gnofa orwyllt,

60

Drwy fawr aeth, ga'dd draw 'r freithwen
Yn dorch, â fforch yn ei phen.
Heb ofn, ac heb ei hofni,
Yn ddistaw hunaw 'r oedd hi.
Dyfnddrwg olwg y Gelyn
Ennynnodd, haccrodd ar hyn.
I'w anferthol faintiolaeth
Ymchwyddaw 'n uniawn a wnaeth.
Rhyfedd! mewn balchedd, ei ben
A gododd uwch gwîg Eden:
Ei draed ar lasdir ydoedd,
A'i ben yn nèn wybren oedd!
Y dieflig Yspryd aflan,
A'i olwg dewrddrwg yn dân,
Orphwyllodd: pa fodd ?-ai fi
Fu Flaenawr Nef-oleuni
Wnaf ostwng i fyw 'n fwystfil?
Mewn lloches ym mynwes mil!
Pa nerth mal y mawrnerth mau,
Eithr UN?-Ef â tharanau
Terwynnion a'm trywanodd,
I ddyfnder trymder a'm trodd.
Fi, o denaf y dyniawn,
Hwynt-hwy a'u hâd anfad iawn
A fernir, defir i Dân,

I D'w'llwch dudew allan;
Neu ddirwystr ddinystr a ddaw;
Yn swrth y ser wnan' syrthiaw
O'u rhodau yn rhuadwyllt,
A'r ddaear hawddgar a hyllt.
Dinystr maith, hagrwaith fydd hwn,
Dinystr glywir hyd Annwn!
Holl Annwn mi a'i llonnaf,
A mawl trag'wyddawl a gâf.
Hyn fydd gyflawn Iawn i ni;
Ein clod leihâ 'n caledi.

Daeth i lawr yn awr o'r nèn
Yn ddig anelwig niwlen.
Troi etto wnaeth y Trautur

Ar y Sarph olwg hagr sur:

Yn wisgi ac yn ysgafn,

80

Yn hawdd ymsaethawdd i'w safn: 100
Treiddiawdd y Cythraul trwyddi,
Heb etto 'i dihuno hi.

Yno gwylio wnai'r Gelyn
Mewn llid a gofid a gwŷn.

Heb ymrôi datglôi wnai'r dydd
Byrth cain ei gywrain geurydd.
Caredig gôr o adar,

A'u cân gymmen, ei wên wâr

Groesawant o gant o goed,
Melysgerdd yma o lasgoed.
Eu gwedd y ser a guddiant,
O'i flaen ef diflannu wnant.
Yn dêg yr huan digardd

Pan ddaeth i'w frenhiniaeth hardd,
Yna daeth hael Adda lwys
Law-law âg Efa loywlwys
Ar frys o'u harddlys mewn hedd,
A Duw folant eu deuwedd.
Ac wedi moli'r Duw mâd,
Eu cu Awdwr a'u Ceidwad,
O'r bryn y ddeuddyn a ddaeth
I'w gwerdd heulawg ardd helaeth.
Heirdd lewod a mynnod mân
Yn unfryd gydymgodan'
O'u llwyni, mewn llawenydd,
Amryw dorf, ym more dydd.
Yn rhawd hoy won y rhedant,
Yma a thraw neidiaw wnant:
Weithiau gorwedd â gwedd gu;
Yn fuanwyllt i fynu

Codant, rhuthrant fal cedyrn

O'u golwg chwyrn hi giliodd
Mewn braw, dan ffulliaw, hi ffodd
Oh gyni gwaeth nag Annwn!
On'd tost ydyw'r penyd hwn!
Canu mae'r ddeuddyn ceinwawr
Mewn hedd a gorfoledd fawr,
A minnau mewn rhwymau rhawg,
Y Fudan ddau-dafodiawg!
I'm blino mwy heb lonydd
Melldith ar felldith a fydd!
Yn ei gerbyd gloywbryd glân
120 Rhywiog nesha'dd yr huan
Gan hau'r byd i gyd âg aur
O'i olwynion melynaur.

Eb Addaf, â'i fwynaf wên,
A glywi, fy ngwraig lawen,
Gwawr bêr, mae 'n amser i ni
A lluniaeth gael ein llonni.
Yr Ion a helaeth rannodd;
Llon fwynhawn ei radlawn rodd.
Ar air, Gwen ddisglair a ddaeth
A hoywliw ddalen helaeth,
Esmwyth, i dderbyn ffrwyth ffraw,

Drwy'r rhodfâu, gan chwarau 'n chwyrn. Daliodd hi ar ei dwylaw.

Dedwyddyd i gyd ar g'oedd
Drwy nattur dirion yttoedd.
Hael Addaf orfoleddawdd;
Gwenodd Efa hoywdda 'n hawdd.
Rai anwyl ânt ar unwaith
I'w swydd, eu difyrrus waith.
Hwy nyddant irwen addas
Winwydden am lwyfen lâs.
Cannoedd o rawn têg gwynnion
Oedd waddol haeddol i hon:
Nerth hwn cynnorthwyai hi;
Pêr ydoedd eu prïodi.
Aroglau rhosynnau sydd
Bur weddus y boreuddydd;
Mwynaidd daenant o'u mynwes
Anadl pêr drwy dyner dês.
Y seirian Sarph yn siriol
A hyf-ddolennodd o'u hôl;
Hi lyfodd ar ol Efa

Hawddgar y ddaear werdd dda.
Efa lwyslon felyslef

Ganodd fawl côr nerthawl Nef;
Yr awyrawl fawl a fu
Ddoe unwaith i'w diddanu;
Cywir odlau cariadlawn

Am bob rhâd i Dâd y dawn.

Adda unodd o'i enaid;

Y ddau fal un genau gaid.
Dedwydd garedigrwydd da!
E weddus sippiodd Adda
Bur faswedd bêr wefusau
Ei gymmen wraig lawen glau:
Ni luddiodd Meinael addien,
Yn hawdd y gogwyddawdd Gwen.
Ac yno 'n gynfigenwyllt

Y Ddraig oedd gynddeiriawg wyllt.

140

160

Eu ffrwythau heirdd gangau gànt
Yn isel estynnasant.

Adda 'n hawdd a dynnawdd deg
Irdwf afalau eurdeg:

Pur oedd y ffrwyth pereiddia'
Yn fwydydd, dïodydd da.

Gyferbyn, iselfryn sydd,

180

Glwyswawr; o'r tu cefn, glaswydd 200
Canghennawg, deiliawg, ar ddr
Eirian uchelfawr oror.

Y gwyn haul gwenai 'n hylon
Drwy wig gauad-frig y fron.
Wedi moli y Duw mawr
A glwys, ar y bryn glaswawr
Eisteddan', mwynhân' mewn hedd
Felysion aeron eurwedd.
Adda 'n wâr a lefarodd;

On'd hyfryd, fy Myd, yw 'r modd
Daionus yr ordeiniawdd

Ion hael in' orchwylion hawdd?
Mwy pêr i ni gwedi gwaith
Yw'n gwynnion aeron gannwaith.
Adda, eb Efa aufwyn,
Da wyt ti i mi, a mwyn.
Rhannog â thi'r gwr hoenwych,
Anwyl yw pob gorchwyl gwych.
Ni wnai aeron fy llonni
Heb d' addas gymdeithas di:
Ae'r adar mwynwar eu mawl
A'u seiniau 'n anghyssonawl:
Heb dy hyber fwynder, fi
Fliawn ar nef-oleuni.

Ei gwr addwyn goreuddoeth
Attebodd, gwenodd yn goeth:
A thydi, y Lili lon,
Wyf unfryd, Efa wenfron.

[ocr errors]

220

« PoprzedniaDalej »