Auturiaf, ehedaf hynt, Hwyliaf ddïeithrol helynt, Drwy fannau diderfynawl, Erchyll, rhwng y Gwyll a'r Gwawl.
Pan dd'wedodd, ehedodd hwn Mewn mawrddig; mwy na myrddiwn Ddyrchafson' o'r Gwyllon gau Ar unwaith, mal taranau. Y llïaws yn eu Llywydd Roent nerthawl, uffernawl ffydd; Hwy ddymunen' ddamweiniaw Gwneud anrhaith a drygwaith draw. Y fradus ddrygionus gâd, A'u hadenydd ar daeniad, Ehedai 'r dorf anhydyn Ar lled drwy gyrrau y Llyn. Chwilient, erbyn dychwelyd Pennaeth y Ffau gaeth i gyd,
Bob gorawr drwy'r Ffwrn fawr faith, Drwy'r Annwn draw ar unwaith.
O boen a phob rhyw benyd Y Llyn hagr sy 'n llawn o hyd. Adda a'i wraig ddiwair wèn Yn hynaws iawn a hunen': Tra cysgent, tra hunent hwy, Y rydaer Ddraig ruadwy O'i ffyrnig Ffau uffernawl, Ffau tu hwnt i gaerau 'r Gwawl, Ehedai'n llawn o hyder I berffaith newyddwaith Nêr. Pan ddaeth at ufelgaeth fawr Eirias uffernbyrth orawr, Y gaer oedd yn egored, Dorau 'r Llyn oedd draw ar llêd; A'r fflammau yn gwau yn gylch, Yn ygus iawn o'i ogylch.
Doethion ddibennion beunydd Gan Ion, uwch pob sôn, y sydd. Yr Ellyll, os tyrr allan
O'i erchyll dywyll Ffwrn dân; Os Satan wna aflan waith, Unrhyw ddichellgar anrhaith, Mwy o boen, mwy o benyd I'r Gelyn fydd hyn o hyd. Y Ddraig, os gwnelai ddrygwaith, Yna Nêr, mewn mwynder maith, I'r dirym greaduriaid
Ro'i fendith i'w plith a'u plaid; Gwiw Ior, o'i fawr drugaredd, Rho'i gymmod a hynod hedd.
Y drwg Yspryd tanllyd hwn Ennyd ar gaerau Annwn A safodd; edrychodd dro Yr helynt orau i hwylio. Yn awr, mal mellten eirias, Ae Satan o'r geulan gâs;
Ban hwyliai i ben ei helynt Ei daith ydoedd ganwaith gynt.
Yn yr awr pan fo'r wawr wèn Ar liwio 'r awyr lawen,
Gannoedd, mewn gwisgoedd gwynnion; A'r adar mor hyfrydawl Yn plethu, emynnu mawl. Pob peth llesol, (ddethol ddau,) A roes Nêr i'w synhwyrau. Danfonodd Duw yn fynych Angylion gwynnion, lu gwych, O fro lân y fawr loywnef, Ddyn gwâr, i 'mddiddan âg ef. Mewn cu eiriau mwyn cywrain Traethent, egorent yn gain Fod Paradwys loywlwys lân Yn arwydd o'r Ne' eirian. Eu 'madroddion doethion da Oeddynt yn codi Adda
O ardd Eden werdd wiwdeg I'r wènlon Nef dirion dêg. Dyddiau dedwydd a diddan Gan Dduw lwyd roddwyd i'w ran. Ac erbyn i'r Gelyn gau Gyrraedd goleuddydd gaerau, Duw Nef, o'i gariad a'i nawdd, I Eden fwyn danfonawdd
Gennad o Seraph gwiwnaws, Rhag i Satan aflan naws, Dig'wilydd daeog Elyn,
Ddinystrio, drwy dwyllo 'r dyn.
Efa 'n ddistaw draw a drodd;
Duwies aufwyn, deisyfodd
Glywed ei gwr goleuwych
Gàn' gwell na 'r Angel gwyn gwych.
Ebe 'r Seraph purgraff pêr, Hanbych well, y gwr hoenber! Y llonfwyn wr llawenfad, Tydi a genhedli hâd,
Mawr fendith! rif y gwlith glân, Mal amlder y ser seirian. Y Mawredd anghymmarol, Ior Nef, ni thry 'i air yn ôl.
Ebre Adda 'n bereiddiawl; Geinwawr fab gorawr y Gwawl, Pa iawn attebiawn i ti, Fawreddog Ior, wnaf roddi? Un adill o'th flaen ydwyf, Isel radd, a sâl wr wyf. Tithau, o ba raddau'r wyt, Un gwiwdeg enwog ydwyt, Ni wn;-Un cyfiawn Ynad, Nefol gyffredinol Dad,
A feddwn; yn ufuddawl
I Dduw fyth rhoed pob gradd fawl. Addaf, eb'r Angel hoywddoeth, Wr diwair, pob gair sydd goeth O d'enau; hawdd adwaenir Doniau Nef ynod yn wir. Cefaist gan y Duw cyfiawn Baradwys helaethlwys lawn. Diddan lu glân Goleuni Ryfeddan' d' eirian ardd di. O wiwddoeth Angel addwyn! A ddeui, fyddi mor fwyn, Ymostyngi di, a d'od I'm hannedd, lle mae hynod Ganghennawg goed caerawg coeth, Ac Efa, fy holl gyfoeth? Benfelyn ddyn diddanol, Mae f'eres neges yn ôl. Y doethwr, gwrando dithau O'th fodd yr ymadrodd mau. Ddisgleiriol fab nerthol Naf, Dywed, a mi wrandawaf.
Gwybydd, ddyn, fod Gelyn gwyllt, Gwynnias a chynfigenwyllt,
I ni, i ti, ac i'n Tad;
E soddodd, am droseddiad Yn erbyn Duw gwyn, i'w gerth Ennynfawr Annwn anferth. Denu wnaeth i Dân, o Nef, Gantoedd, fyrdd, gyd âg yntef. O'i fflammiawg anffodiawg Ffau Y daeth i'th hudo dithau. Ein Naf, ein hanwylaf Nawdd, I minnau orchymmynawdd Dy rybuddio, etto, ddyn, I wylio rhag dy Elyn
A dorrodd o'r Dyfnderau
Diffaith, yn llawn gweniaith gau. Gweledig pob Gwaelodion
Welodd y drwg Lywydd draw Annedwydd yn newidiaw Ei lun a'i wedd yn lân iawn, A thrwy 'r nèn rhuthro 'n uniawn O'u golwg, drwg ei galon,
A wnaeth i'r helaeth fro hon. Cofia 'n dêg, wr cyfion da, Beunydd am air Duw 'n benna'. Ymgadw, ïe ymgadw 'n gaeth Beidio cwrdd pren gwybodaeth. Adwaenost ef, gwêl, dyna
Y pren â'i ffrwyth, dewlwyth da. Ti, os profi'r pêr afal, Angau a gei dithau'n dâl. Cofia'r gorchymmyn cyfion, A chadw 'n bur air eglur Ion. I Naf os byddi 'n ufudd, Cei nefawl anfeidrawl fudd.
O fwyn iawn Angel fy Naf! Ei gyfiawn air a gofiaf.
Un fu o lu 'r Nef wèn lân Ddyddiau gynt yn ymddiddan Gan roddi i mi 'r un modd Eres hanes a'm synnodd. Feiddiaf fi holi am hyn? Wyf addas? p'odd fu iddyn' Fyth syrthio o'u bro a'u braint? Pa wedd bu camwedd cymmaint? Gwybydd, y celfydd wr cu, I'r unig ddoeth Dduw rannu Rhadau sydd angenrheidiol I ti, ac i ni, yn ol
Ein graddau; pawb yn groywddoeth Yn eu 'stâd wnaeth y Tad doeth. O herwydd mor ddedwydd wyt, Dedwydd drwy ddawn Duw ydwyt; Mae'r parhâd, wr gloywfad glân Hynaws, arnad dy hunan. Dy feibion cariadlon certh, Eu gwynfyd, neu 'u gwae anferth, A fydd fel y gwnei foddio Tad nefol y freiniol fro. Ar ol y rheidiol barhâd Yn deilwng iawn yn d' alwad, Cyflawn, cyfiawn y cefi Ein mawrion hanesion ni. Pob pur greadur, gwir yw, Dedwydd, anghenraid ydyw Bod ar y Duwdod, heb dawl, Beunydd yn ymddibynnawl. Pob perffeithlawn ddawn a ddaeth, Hael Awdwr, o'i law odiaeth. Mal pelydr hyfryd yr haul Wna 'n eirian y nèn araul, Ffrwythlona, oleua 'n lwys Buredig ardd Baradwys, O'i ddeutu mae 'n taenu tês Cannaid, bendigaid, cynnes; Cynnes ogoniant ceinwawr
Yr un modd daena 'r Ion mawr.
Y sawl, drwy ymchwyddawl chwant, Yn yngwrth a swrth syrthiant O'r Gwawl pelydrawl;-pa lid A gafant?-Oh eu gofid!
Tost bod heb gymmundeb mâd A gwawl rhagorawl Gariad! Fal hyn y mae d' Elyn du Yn gwynnias gynfigennu I'th rwydaw, drwy athrodion, Yn gaeth o'r helaeth ardd hon I'w fawrboen;-na bydd fyrbwyll; Ymogel rhag dirgel dwyll. Try 'r Gelyn yn wyn ei wedd A gau weniaith ddigonedd. Tydi adwaeni'r Denydd
Drwy'r gaeth athrawiaeth a rydd. Os Angel goleuffel, glwys
O bryd, ddaw i Baradwys I'th ddenu âg iaith Annwn; Hudwr, Cyhuddwr fydd hwn. Dywed, Ar Dduw gwrandawaf, A ffyddlon weision fy Naf. Ffy 'r Gelyn; dychryn di dòr Hagr chwerw a'i gwna 'n Garcharor. Efa wendon, drwy fwynder, Cofia, rhybuddia hi'n bêr Am hyn, rhag i d' Elyn di Dy rwydaw mewn dirieidi; Felly byddwn gyfeillion Bythawl, yn unawl yn Ion.
Nodedig Gennad odiaeth!
Mor drwm dy hoff reswm ffraeth! O gu lon wên goleuni
Hyd brydnhâwn y gwrandawn di. Iawn-wyddost, weithion, Adda,
Yr hyn i'w ddilyn sydd dda. Mi wnaethum, wr mwyn, weithion Yn rhwydd fy nyledswydd lon. Dy hyder o'r dyfnder dôd, Wr dedwydd, ar y Duwdod. Angylion Nef wenlon fydd I d' annerch ar adenydd. Wr ufuddol, rhyfeddi Fawr gariad y Tad i ti. Weithion o'r byd hyfryd hwn Uwch heulwawr ni ddychwelwn.
Cawn lawn ganfod y rhodau Disgleiriawl, er mawl Ior mau: Oddiyno 'n ebrwydd union At orsedd ryfedd yr Ion. Arwyrain a leinw'r oror Nefawl, gan drag'wyddawl gôr. Rywioglon nefol Raglaw, Yn lwys estynnodd ei law; Wèl, Addaf,-Duw a'th lwyddo; I'th ran fyth yr Ion a fo.
A gwâr wedd, y gwr addwyn Ymgrymmodd o'i fodd yn fwyn: Gwaraidd Gennad ragorol! Fy llon fendithion ar d'ôl! O wlad anwyl daioni, Hael Angel, ymwêl â mi! Mewn mawl caredigawl da, Gweddus, y' ngolwg Adda, Lwys gannaid lu, esgynnan' I wlad rydd y gloywddydd glân. Addaf aeth â'i newyddion I'r deildy fry ar y fron. Yn fedrus gwnai fe adrodd,
Wr addwyn, ym mha fwyn fodd Y darfu 'r fâd Gennad gu Ddewisgoeth ei addysgu. Ebr Efa, Mae 'n bêr yfed Dŵr glân hyd raian a rêd; Pur felys pêr afalau, Pêr yw eirin i'r mîn mau; Mêl i gyd ydyw mawl gwâr A didawl ganiad adar. Geiriau dy fîn a gerais, Mwy pêr o lawer dy lais.
Y ddau anwyl ddi weniaith,
Am waith Nêr, mewn mwynder maith, Rhesymmen' yn gymmen gu Dan fâd hyfryd wynfydu. Ae'r huan llydan lliwdeg, Brenin dydd, o'r wybren dêg. Du nôs oedd yn dynesu A'i hyfryd oleubryd lu. Ar ol i'r ddiddanol ddau A glân berffaith galonnau Roi 'n felys i'r Ion foliant, Gorphwys yn wiwlwys a wnant.
SATAN, yn boeth-dân, mewn bâr, Ddwywaith holl gorph y ddaear Amgylchodd, chwiliodd yn chwai Pa gyfaill, pwy a gafai
Yn addas i'w ddefnyddiaw Yn ei ddiffaith dreiswaith draw: A hir yr ymgynghorawdd,
Yn syn, am nad oedd hyn hawdd. Pan aeth yr ehelaeth haul Yn eurawg o'r nèn araul, Y Diawl, yn llawn hudoliaeth, I Eden yn fellten f' aeth.
Addaf a'i wraig ddifyr wèn Ymgommiant yn fwyn gymmen, Dros dro, cyn huno mewn hedd, Yn hynaws yn eu hannedd. Diwyd y Diawl wrandawodd; Mewn brys a braw draw fe drodd: Gwae 'mron! Swyddogion a ddaeth! Dygir fi i ddamnedigaeth! Yn ôl i'm huffernol Ffau! Accw i Dân, mewn cadwynau! Gwae fi!'r wy 'n ofni fy nàl, Modd ewybr, cyn ymddïal. A ch'wilydd, os dychwelaf, Tragywydd g'wilydd a gâf. A ddenais holl fyddinoedd Nef fawr, dan olwg Naf oedd? A dynnais hwynt hyd Annwn? A methu tynnu'r byd hwn? Myn Annwn! mi wna' unwaith Yn ffyrnig gynnig y gwaith. Ac weithion, rhag y gwaethaf, Ymguddio'n union a wnaf. Un a welais yn olwyn Gyfrwyswar gyfeillgar fwyn; Ymguddio yn honno 'n hawdd Heno wnaf man yr hunawdd. Gorweddwch, hunwch yna Yn esmwyth, lân dylwyth da; Gorweddfa i hagr riddfan
A gewch mewn hyll dywyll Dân. I'w frad-waith arferedig
Brysiai, Ddiawl, mewn berw-ias ddig. Yn ddirgel y nôs helaeth
A glôdd, fe gauodd yn gaeth Olygon dynion a da,
Drwy hedd, a'r adar hoywdda, A goleuodd y gloyw-wawr Lampau 'n y nef olau fawr. Yn siriol i'r nôs eirian Yr eos geindlos a gân: Hi 'n unig, o dewfrig dail Wna gywydd yn y gwïail.
A gwedd lwys ddifrifddwys, fry, Seiriandeg nôs a wrendy.
Y Gelyn, yn ei wŷn wyllt A'i farwol gnofa orwyllt,
Drwy fawr aeth, ga'dd draw 'r freithwen Yn dorch, â fforch yn ei phen. Heb ofn, ac heb ei hofni, Yn ddistaw hunaw 'r oedd hi. Dyfnddrwg olwg y Gelyn Ennynnodd, haccrodd ar hyn. I'w anferthol faintiolaeth Ymchwyddaw 'n uniawn a wnaeth. Rhyfedd! mewn balchedd, ei ben A gododd uwch gwîg Eden: Ei draed ar lasdir ydoedd, A'i ben yn nèn wybren oedd! Y dieflig Yspryd aflan, A'i olwg dewrddrwg yn dân, Orphwyllodd: pa fodd?-ai fi Fu Flaenawr Nef-oleuni Wnaf ostwng i fyw 'n fwystfil? Mewn lloches ym mynwes mil! Pa nerth mal y mawrnerth mau, Eithr UN?-Ef â tharanau Terwynnion a'm trywanodd, I ddyfnder trymder a'm trodd. Fi, o denaf y dyniawn, Hwynt-hwy a'u hâd anfad iawn A fernir, deflir i Dân,
I D'w'llwch dudew allan; Neu ddirwystr ddinystr a ddaw; Yn swrth y ser wnan' syrthiaw O'u rhodau yn rhuadwyllt, A'r ddaear hawddgar a hyllt. Dinystr maith, hagrwaith fydd hwn, Dinystr glywir hyd Annwn! Holl Annwn mi a'i llonnaf, A mawl trag'wyddawl a gâf. Hyn fydd gyflawn lawn i ni; Ein clod leihâ 'n caledi.
Daeth i lawr yn awr o'r nèn Yn ddig anelwig niwlen. Troi etto wnaeth y Trautur Ar y Sarph olwg hagr sur: Yn wisgi ac yn ysgafn, Yn hawdd ymsaethawdd i'w safn: Treiddiawdd y Cythraul trwyddi, Heb etto 'i dihuno hi.
Yno gwylio wnai'r Gelyn Mewn llid a gofid a gwŷn.
Heb ymrôi datglôi wnai'r dydd Byrth cain ei gywrain geurydd. Caredig gôr o adar,
A'u cân gymmen, ei wên wâr
Groesawant o gànt o goed, Melysgerdd yma o lasgoed. Eu gwedd y ser a guddiant, O'i flaen ef diflannu wnant. Yn dêg yr huan digardd
Pan ddaeth i'w frenhiniaeth hardd, Yna daeth hael Adda lwys Law-law âg Efa loywlwys
Ar frys o'u harddlys mewn hedd, A Duw folant eu deuwedd. Ac wedi moli'r Duw mâd, Eu cu Awdwr a'u Ceidwad, O'r bryn y ddeuddyn a ddaeth I'w gwerdd heulawg ardd helaeth. Heirdd lewod a mynnod mân Yn unfryd gydymgodan' O'u llwyni, mewn llawenydd, Amryw dorf, ym more dydd. Yn rhawd hoywon y rhedant, Yma a thraw neidiaw wnant: Weithiau gorwedd â gwedd gu; Yn fuanwyllt i fynu
Codant, rhuthrant fal cedyrn
O'u golwg chwyrn hi giliodd Mewn braw, dan ffulliaw, hi ffodd :1 Oh gyni gwaeth nag Annwn! On'd tost ydyw 'r penyd hwn! Canu mae'r ddeuddyn ceinwawr Mewn hedd a gorfoledd fawr, A minnau mewn rhwymau rhawg, Y Fudan ddau-dafodiawg! I'm blino mwy heb lonydd Melldith ar felldith a fydd! Yn ei gerbyd gloywbryd glân Rhywiog nesha'dd yr huan Gan hau'r byd i gyd âg aur O'i olwynion melynaur.
Eb Addaf, â'i fwynaf wên, A glywi, fy ngwraig lawen, Gwawr bêr, mae 'n amser i ni A lluniaeth gael ein llonni. Yr Ion a helaeth rannodd; Llon fwynhawn ei radlawn rodd. Ar air, Gwen ddisglair a ddaeth A hoywliw ddalen helaeth, Esmwyth, i dderbyn ffrwyth ffraw,
Drwy'r rhodfâu, gan chwarau 'n chwyrn. Daliodd hi ar ei dwylaw.
Dedwyddyd i gyd ar g'oedd Drwy nattur dirion yttoedd. Hael Addaf orfoleddawdd; Gwenodd Efa hoywdda 'n hawdd. Rai anwyl ânt ar unwaith I'w swydd, eu difyrrus waith. Hwy nyddant irwen addas Winwydden am lwyfen lâs. Cannoedd o rawn têg gwynnion Oedd waddol haeddol i hon: Nerth hwn cynnorthwyai hi; Pêr ydoedd eu prïodi. Aroglau rhosynnau sydd Bur weddus y boreuddydd; Mwynaidd daenant o'u mynwes Anadl pêr drwy dyner dês. Y seirian Sarph yn siriol A hyf-ddolennodd o'u hôl; Hi lyfodd ar ol Efa
Hawddgar y ddaear werdd dda. Efa lwyslon felyslef
Ganodd fawl côr nerthawl Nef; Yr awyrawl fawl a fu Ddoe unwaith i'w diddanu; Cywir odlau cariadlawn Am bob rhâd i Dâd y dawn. Adda unodd o'i enaid;
Y ddau fal un genau gaid. Dedwydd garedigrwydd da! E weddus sippiodd Adda Bur faswedd bêr wefusau Ei gymmen wraig lawen glau: Ni luddiodd Meinael addien, Yn hawdd y gogwyddawdd Gwen. Ac yno 'n gynfigenwyllt
Y Ddraig oedd gynddeiriawg wyllt.
Eu ffrwythau heirdd gangau gant Yn isel estynnasant.
Adda 'n hawdd a dynnawdd dêg Irdwf afalau eurdeg:
Pur oedd y ffrwyth pereiddia' Yn fwydydd, dïodydd da.
Gyferbyn, iselfryn sydd,
Glwyswawr; o'r tu cefn, glaswydd 200 Canghennawg, deiliawg, ar dor Eirian uchelfawr oror.
Y gwyn haul gwenai 'n hylon Drwy wig gauad-frig y fron. Wedi moli y Duw mawr A glwys, ar y bryn glaswawr Eisteddan', mwynhân' mewn hedd Felysion aeron eurwedd.
Adda 'n wâr a lefarodd;
On'd hyfryd, fy Myd, yw 'r modd Daionus yr ordeiniawdd
Ion hael in' orchwylion hawdd? Mwy pêr i ni gwedi gwaith Yw'n gwynnion aeron gannwaith. Adda, eb Efa aufwyn, Da wyt ti i mi, a mwyn. Rhannog â thi'r gwr hoenwych, Anwyl yw pob gorchwyl gwych. Ni wnai aeron fy llonni Heb d' addas gymdeithas di: Ae'r adar mwynwar eu mawl A'u seiniau 'n anghyssonawl: Heb dy hyber fwynder, fi Fliawn ar nef-oleuni.
Ei gwr addwyn goreuddoeth Attebodd, gwenodd yn goeth: A thydi, y Lili lon, Wyf unfryd, Efa wenfron.
« PoprzedniaDalej » |