Obrazy na stronie
PDF
ePub

CYWYDD Y DRINDOD.

Y RHAN GYNTAF.

O F' AWEN oleuwen lwys!
Pêr odiaeth ferch Paradwys,
Arglwyddes wâr y gloywddawn,
O'th herwydd wyf ddedwydd iawn!
Fe'th anwyd o'r faith wiwnef,
Ehêd, yn Nuw, hyd y Nef.
Cân gu eurgan gywirgerdd,
F'Awen lon, cân gysson gerdd,
Bêr flasus bur fawl iesin,
Fawl mwy rhagorawl na gwin.
I bwy'r euraf bêr araith,
Anfarwol, sylweddol waith?
I fâd Ior y Nef dirion,
Unig fendigedig Ion.

Hyddysg bid dy gerdd hoywddoeth,
Tywynned tân dy gân goeth.
Dy air, Ion, yrr daranau
Trymmion yn wylltion i wau.
Gan boethfyllt d'orwyllt daran
Yr awyr du roir ar dân.

Nid yw 'r ddaear hawddgar hon,
Y gygus donnawg eigion,
A glân ser y goleuni,
Ond ail dim yn dy law di.
Yn Nef wèn, wyd Naf yno,
A'r Distryw nid yw dan dô.
Ti yw'r Duw byw, Tŵr di ball,
A Duw uwchlaw pob deall.
Un Sylwedd (Dirgeledd gu)
Doreithiawg; pwy all draethu
Y Drindod hyglod sy 'n hon?
Celi, Chwiliwr pob calon.
I gael rhyw debygoliaeth,
Gwelwn wawr y gwawl a wnaeth:
Mae'r haul, y mawr reolydd,
Brenin da hardd wybren dydd,
Yn dân glân, a goleuni,

A gwres iawn eres i ni;

Hynodawl mai hyn ydyw,

Ond un huan eirian yw.

Cyn bod yr haul di draul draw, Wawl enwog, yn olwynaw,

Yr oeddit Ti, wir Dduw Tad,
Yn Awdwr dinewidiad.
I'r drwg, y rhai drwy wegi
F'ont gyndyn yn d'erbyn di,
Ofnadwy, fy Nuw, ydwyt,
A thirion i wirion wyt.

Yr angylion gwynnion gynt,
O radd uchel yr oeddynt,
Yn ddwys pan droseddasant,
Lu'r felldith, o blith ei blant,
Barnodd, fe 'u taflodd y Tad
I boenau di-ddibeniad.
Gormod i'r fyfyrdod fau.
Dd'wedyd fath ryfeddodau,
Pa fodd y syrthiodd y Ser
A ganent fawl y Gwiw-Ner,
Anfarwol lu'r Nef eirian,
Pa fodd, pwy 'u denodd i Dân.
Mae'r hanes im' mor hynod;
20 Balchïent, hwy fynnent fod
Gogyfuwch, neu 'n uwch na Nêr,
Uwch Hael-Dad yr uchelder!
Yn ebrwydd, o herwydd hyn,
Y dirfawr Ior diderfyn,
Mewn nerthawl ryfeddawl fodd,
Y dieifl beilchion a daflodd
O wawl hyfrydawl Nef fry
I wybren Uffern obry;
Llawer ydoedd y llïos
Ddisgynson' yn eigion Nôs.
Lle i ddieil a'u Llywydd affan,
Mor erchyll, o dywyll dân.
Tonnau'r gorddyfnderau dig,
A godwrf melldigedig,
Chwyddant, ymgodant yn gerth
Unfaint â moelydd anferth;
Dan ddygyfor y torrant,

40

Yn wylltion wreichion yr ânt.

Wedi hyn y Duw hynod,

Er iddo egluro 'i glod,

Dda arfaeth, alwodd ddirfawr A rhyfedd gymmysgedd mawr:

E

60

80

Cyflym o ddiddym e ddaeth,
Torrodd defnydd natturiaeth:
Ymwriaw mal deifr moroedd,
Ymchwyddaw, dan ruaw, 'r oedd.
Yr elfennau 'n donnau dig
I gyd oedd gymmysgedig:
Dŵr a thud, awyr a thân,
O'u garw ferw a'u gorfaran!
Chwimmwth, wrth y gorchymmyn,
I wneud a bair gair Duw gwyn,
Cyn yr haul ceinwawr helaeth,
Glân ddydd a goleuni ddaeth:
Gwnai'r defnyddiau 'n glau glywed,
Pob un i'w le 'i hun ehêd;
A'r dêg fawr Greadigaeth,
O'r cymmysg derfysg y daeth;
Gwynnion niferoedd gwiwnef,
Haul, lloer, ser, yn uchder nef;
Y ddaear gron werddlon wawr,
A'r eigion glâs rhywiogwawr.
Moroedd â morfeirch mawrion,
Awyr â llu cerddber llon,
Daear & thorf hoyw-war, hi
A lanwyd o'i haelioni.

Caredig dêg greadur,
O helaeth wybodaeth bur,
Anfarwol resymmol sant,
Ail i gain lu gogoniant,
Yn eisiau ydoedd nesaf,
I roi mawl i'w nefawl Naf.
Wele, eb y Drindod wiwlwys,
Gwnawn etto lunio yn lwys
Ddyn, a boed ei ddaioni,
Duwiol naws, ar ein delw ni.
Rheoled, bydded yn ben
Obry, dan yr holl wybren.

Bur Dduw, o bridd y ddaear
Gwnai ddyn gwŷn addwyn a gwâr.
Da enaid ynddo 'n dyner
A blannodd, anadlodd Nêr.
Gan Dduw gwed'yn, y dyn da
Diddan a enwyd Adda.
Rhyfeddodd, pan welodd wawl
Claerwyn, yr haul discleiriawl:
Efe, Addaf, ryfeddodd
Ba fan y daethai, ba fodd.
Cerddodd, rhyfeddodd yn faith,
Clywodd, e welodd eilwaith,
Adar yn gôr cerddgar cu,
Pur geinion, yn pêr ganu.
Gwelai 'nifeiliaid gwiwlân
Ar ddaear lawr, mawr a mân.
Y llew a ddeuai 'n llawen
A balch i'w addef yn ben:
Pob creadur, drwy bur barch,
A gafwyd oll i'w gyfarch.

Yno 'n ol myfyrio 'n faith, Wr anwyl, oll ar unwaith Llefarodd, holodd fal hyn; Mi âf, ceisiaf ymofyn

100

120

140

Pwy 'm creodd, ba fodd a fu;
Ryw fodd mae dros ryfeddu.
Dan wybren y wèn wiwnef
Nid oedd neb i'w atteb ef.
Gwnaeth Ion ar dirion wawr dydd
Bur Adda 'n y boreuddydd,
A'r huan gwynlan yn gu
O'r dwyrain gain yn gwenu.
Er y sydd yr oes heddyw
O'i ddoethion feibion yn fyw,
(Hynod yw rhai o honynt,)
A'u tad pe cymmarid hwynt,
Nid yw rhai'n, er gloywgain glod,
Bob un, onid babanod.
Union ydoedd ei enaid,

A'i gorph yn berffaith a gaid.
Yn ystig ac yn astud
Ymholai, myfyriai 'n fud:
Hyn yn bur eglur a wn,
Diweddar mi nid oeddwn;

Ac mae'n eglur bur, heb wâd,
Na chreais fy nechreuad.

160

Rhyw Awdwr mawr, mae'n rheidiawl,
A'm creodd, galwodd i'r gwawl.
Y gwir yn gywir a ge's,
A hynod ydyw 'r hanes!
Duw gwyn! anweledig wyt!
Duw Awdwr, Yspryd ydwyt!
Duw da! o'th law di deuodd
Y byd, mor hyfryd y rhodd!
Rhyfedd! mae dros ryfeddod!
Trag'wyddawl anfeidrawl Fod!
Mor lân â'r mawr oleuni,
Duw yn ei waith adwaen i.

Haul tirion, daear lon lâs,
Y loywliw nef oleulas,

I'r rhai 'n, mae 'n eglur hynod,
Doethion ddibennion sy 'n bod:
Wyf syn, maent dros fy synwyr;
Tydi, O Geli! a'u gŵyr.

Ar ei lwys fam îrlas fwyn
Gorweddai y gwr addwyn.
Terfysg yn gymmysg a gaid
Ar unwaith i'w bur enaid
O ddidawl ryfeddodau;

Am hyn gwnai Addaf drymhâu.
Pan hunodd, breuddwydiodd ef
Mai drwy nèn y wèn wiwnef
Yr elai, a gwelai gain
Gaerau Paradwys gywrain.
Yn hon fe ddisgynnai 'n hawdd,
Wedi hynny dihunawdd.
Cododd, rhyfeddodd yn fawr,

[ocr errors]
[blocks in formation]

180

200

Têg ogoniant o'i ogylch
Yn wawl rhagorawl o'i gylch.
Myfi yw Celi, wr coeth,

Y Gwir-Dduw cadarn geirddoeth;
Myfi yw Naf, Myfi wnaeth
Gaer deg y Greadigaeth.

Yna Adda, fwyn hoywddyn,
Wrth glywed, gweled Duw gwyn,
Syrthiodd, o'i lwyrfodd, i lawr
Ar ei wyneb eirianwawr;
A glân Lywydd goleunef,
Fâd ddyn, a'i cyfododd ef.

Mi, Addaf, yw 'th Naf, a'th Nawdd
Haelionus, Mi a'th luniawdd.
O ffrwythau yr ardd hardd hon,
Sydd lesawl, sydd felysion,
Ymbortha, bwytta, can's bydd,
Heb uno 'n, ddigon beunydd.
Ond yr un â'i dirionwawr,
Sy 'n edrych mor wych ei wawr,
Canolbren Eden ydyw,
A thêg bren gwybodaeth yw.
Er mor wiw pur-liw 'r per-lwyth,
Cofia, na phrofa mo 'i ffrwyth.
Yn y dydd gwna d' enau di,
Bêr afal, feiddio 'i brofi,
Gwybydd, yr un dydd, y dyn
Diweirfad, bydd dy derfyn:
Y pêr afal, os profi,

Marw a wnei; dyna 'marn I.

Gweddus yr ymogwyddawdd Addaf ger bron Naf, ei Nawdd: O lawned yw 'th haelioni,

Ior mâd, a'th fwynder i mi!

Dy arch, gyd â mawr barch byth,

A gofiaf yn dragyfyth.

Eb Ion cu, 'n gwenu mewn gwawl,

I ti, Addaf santeiddiawl,

Ddyn têg, yr ardd hon i ti

A luniais o'm haelioni:

Hyfwyn roddaf it' hefyd

I'w mwynhâu holl barthau'r byd.
Ehediaid y nef hoywdeg,
Llu dŵr dwfn, llu daear dêg,
Ar y rhai 'n, y gwr cain cu,
Ddoethwas, cei arglwyddiaethu.
E ddaw lluoedd y ddaear
Yn gyttûn, o bob un bâr,
Hediaid o'th flaen a heidiant;
Enwau i gyd gennyd a gânt.

Yn awr drwy Eden eres,
Pob byw, o bob rhyw, yn rhês,
Oedd ar y ddaear, a ddaeth,
Ac adar nef dêg odiaeth.

Addaf roes enwau iddynt,

220

240

Pan welodd, iawn henwodd hwynt. 260
Addaf, pan wnaeth ddiweddiad,
Yn awr, eb yr Ion mawr mâd,
Eu henwau sy 'n dda hynod,

Gan hynny felly cânt fod.

Pêr odiaeth ardd Paradwys,
A'i mawr lu enwaist mor lwys,
Ti fydd i'w hetifeddu,
Ti fydd yn llywydd ei llu;
A hwythau 'n gu, yn llu llon,
Fyddant i ti 'n ufuddion.

Ddirfawr Ion! tirion wyt ti;
Yma ti roddaist immi
Helaethrwydd o rwydd roddion;
Llywodraeth helaeth yw hon.
Adda eilwaith addolawdd;
Duw Nef, gan faint yw dy nawdd,
Finnau, braidd na ofynwn:-
O fy Naf! y fi ni wn.

Addaf, gwelaf, mae 'th galon, Wr hardd, yn ceisio 'r awr hon Ryw fâd rodd annhraethadwy, Beth, meddi, a fynni fwy?

Nefawl garedigawl Dad,
Geiriau ni thraeth dy gariad.
Da yw dy waith perffaith pur,
Iawn yttyw holl drefn nattur.
Pob gwyllt, pob gwâr, cymmar cu,
Fy Ior, sydd i'w ddifyrru:
Ni welaf un anwylyd

I mi, o'u holl gyfri' i gyd.
Dy wefus di a ofyn
Addas gymdeithas, y dyn.
O'm nefawl hyfrydawl fro,
Adda anwyl, oddiyno
Anfonaf Fi yn fynych
Angylion gwynnion, lu gwych:
Dda ddyn, hwy a'th ddiddanant
A geiriau, âg odlau gànt.

Dyner Dad pob daioni,
Dduw mawr! ydd wyt dda i mi:
Yn awr na ddigied fy Naf,
Fy Ior, ac mi lefaraf:
Creaist, unaist bob anian,
Pob byw, yr un rhyw i'w rhan.
Trefnaist, a rhoddaist, fy Rhên,
I'r llew hardd gymmar llawen;
Un wedd i bawb o naddun
Ei gymmar hygar ei hun.
Ac yn awr, fy 'm dirfawr Dad,
Fy Nuw mwyn, fy nymuniad
Yw hyn; cael cymmar hynaws,
Resymmol, rinweddol naws;
Mwynwar, ymddiddangar ddyn,
O fy Naf! wyf fi 'n ofyn,
Os unawl â'th gyssonwaith,
A'th ryfeddawl wiwfawl waith.
Tra bu fe 'n llefaru 'n fwyn
Am rodd o gymmar addwyn,
Naf gwyn y lwys Nef gannaid,
Ar y gwr cu 'n gwenu gaid:
Ti a wyddost, O Adda,
Tirion ddyn, nattur yn dda.
Mwynwr, cyn it' ddymunaw,
Arfaethais (o d' ais y daw)

280

300

320

Gymmar hygar ei hagwedd,
Eirian wawr, â thi'r un wedd,
Ac o'r un pêr dymmer da,
Iaith weddus, â thi Adda.
Dy gymmar hygar fydd hon,
Gulwys, dy wraig un galon.
Nid da i ddyn, nid diddanawl,
Bod ei hun, a'r byd i'w hawl.
Yr Ion, yn dirion a da,
A roddodd gwsg ar Adda:
Yn ei gwsg caeth, e wnaeth Nêr,
Daionus Dad, yn dyner
Egoryd, â'i law gywrain,
Ei fynwes wèn gynnes gain.
O un o'i ais, Ion a wnaeth
Fwyn ddedwydd fun dda odiaeth:
Creodd, e luniodd â'i law
Gymdeithas addas iddaw.

Dan gwsg y gwelai 'r dyn gwâr,
Lana' gem! ei lon gymmar.
Tirion oedd hon a hynaws,
Nefolaidd fenywaidd naws:
Wraig lân, rhodd Ior goleuni,
Pan welodd, mawr hoffodd hi.
Dihunodd, llammodd yn llon
I gael hoffder ei galon.
Yno, 'n ol deffro y dyn,
Nid oedd yr hynod wiwddyn.
I'w feddwl canfu Addaf
Y fun lon fal hinon hâf.
Cerddodd, myfyriodd yn fud;
Ni fynnai am un funud
Ddim yno mor ddymunawl,
Can's hi wnai ragori 'r gwawl.
Annifyr îs y nefoedd,
Mudanu, hiraethu 'r oedd.

Ei luniaidd wraig lawenaf
Ddygwyd draw yn nwylaw Naf.
Hi olygai 'r nef loywgain,
Gan ryfeddu'r gwawl cu cain.
Hon, yn ei holl dirionwch,
Fal heulwen hoff lawen flwch,
A ddygwyd i'w ddiddigiaw
Mewn serchus haelionus law.
Gwelodd ef, dros ddisgwyliad,
Ei gymmar nefolwar fâd.
Hi, Gwawr gu hygar, a gaid
Yn llonni ei holl enaid.
O fron wresoglon o serch,
Fe lefodd, Efa loywferch!
Fy nghalon! fy nghywely!
Attad fy neisyfiad sy.

Gwraig olau gywir galon, Ddilys o'm hystlys yw hon.

Dy wyneb atta'i 'n dyner!

Tro, fy ngh'lommen burwen bêr,

Wrth glywed araith glauar, Geiriau mor gu gan gu gâr, Archwylus wèn ferch olau, Draw hi drodd, ceisiodd naccâu.

340

360

380

Adda lon a ddilynawdd

Mewn mwynder a hoywder hawdd.
A gair taer y gwr tirion,
Têg ei ael, am law hael hon
Ymaflodd, gwasgodd yn gu
Ei liwgar wraig oleugu.
Dda fun, yr hyn oedd ddi fai
A gweddus, da y gwyddai.
Ar fyr eiriau hithau 'n hawdd,
Yn uniawn, lawn foddlonawdd.
Tyrrwyd pob pethau tirion
I gyd yn hyfryd yn hon.
Godidawg i gyd ydoedd;
Ej llun yn gywir oll oedd:
Ei gwrid oedd lawn mor groywdeg,
Mor gain â lliw 'r dwyrain dêg.
Hael forwyn! pan lefarodd,
(Cywir iaith Duw cu a rodd)
Fwyned ei mîn, f' enaid mau,
O fiwsig ei gwefusau!

Ym Mharadwys, fywlwys faeth,
Yn Eden lawen odiaeth,
Y gwir-fendigedig Ion,
Duw a unawdd y dynion
Cu eirian dan iau cariad,
Gan erchi 'r ddau amlhâu hâd,
Lïosogi 'n lwys hygar
Ufuddion drigolion gwâr.

Tymmer Mesopotamia

Ffrwythlawn, oedd diriawn a da.
Unig Ior yno 'n gywraint

Wnaeth ardd geinwawr o fawr faint,
Parod i'w deiliaid purwyn,
Ac addas deyrnas i'r dyn.
Ar olau fryn areul-hardd,
Y' nghanol y lesol ardd,
Oddi ar bob coedydd euraid,
Hardd balas gwyrddlas a gaid.
Cannoedd o rodfâu ceinion
Wnaent dywys at y llys llon.
Afon diriawn loywlawn lwys
A redai drwy Baradwys,

400

420

Gwiw lannerch! gwaith Ion gloywnef,
Yn ail i ddim ond y Nef.
Yno, megis un enaid,
Adda a'i wraig Efa gaid.
Fe aeth a hi'r Lili lân
I'w lâs araul lŷs eirian.
Deuddyn diniwaid oeddynt,
Dau noethion, dau gyfion gynt.
O ddiddan ddedwydd Adda!
O wraig dêg rywiog a da!
Oes a ŵyr, mae dros eiriau,
Lawenydd y ddedwydd ddau ?

Yr Ion i gyd ar unwaith
Yn eglur a ganfu 'r gwaith;
Dduw Awdwr, gan ddywedyd,
Mae'n berffaith y gwaith i gyd.
Naf o entrych y nefoedd,
Gwelodd ei waith, gloywdda oedd;

440

A thyfodd y gwaith hefyd

Yn raddawl, gwyrthiawl i gyd.
Duw ei waith a fendithiawdd
O'i dyner anwylber nawdd.
Croywdeg waith y Creawdydd

Yn wych y daeth mewn chwe' dydd;
Dan nef y seithfed yn wir
Yw'r dydd a anrhydeddir,
Cofier y diwrnod cufad
Hoffodd, santeiddiodd y Tad.
Cynfeibion gwynnion y Gwawl,
Niferoedd annifeiriawl

Y lawen Nef oleuwawr,
Wrth ganfod rhyfeddod fawr,
Perffaith newyddwaith eu Naf,
Pur roddant fawl pereiddiaf,
Eiriannaf gôr, ar unwaith,
I'r Tad am ei wiwfad waith.
Y dyn penfelyn a'i fâd
Ragorol gywir gariad,

A'u pwys ar lwys bêr lysiau,
Ymddiddan wnai'r ddiddan ddau :
Adroddai'r diwair Addaf
Y modd y mynegodd Naf;
Ei lawen wraig oleuwawr
Wrandawai, ryfeddai 'n fawr.
Gardd Eden, un gerdd ydoedd,
Amryw dôn gysson ar g'oedd :
Câd lïosog, cydleisian'
Wybrennawl ragorawl gân.

Yr haul, rheolwr yr hîn,
Oedd draw gerllaw 'r gorllewin.

E luniwyd holl olwynion

Y Gre'digaeth helaeth hon,

O radau'r mawr Greawdydd,

Olwynawg lu 'r oleunef!
Golau addurniadau 'r nef!
I'r Awdwr wnaeth eich rhodau,
I'r Duwdod rhoddwch glod glau!
Isel hwy ymgrymmasant
O flaen Ion, a'i foli wnant.
Yn siriol, ddeuddyn seirian,
Aent i'w palas gloywlas glân,
I gysgodawg wasgawdwŷdd
I huno nes deffro dydd.

Fe drig, yn unig, drwy 'r nèn,
Drwy werddfrig goedwig Eden,
Aml leisiau mêl ëosydd,
Unig dôn, hyd wên gu dydd.
Torf Uffern, y gethern gâs,
460 A dyrrent yn llu diras,
I wybod a oedd obaith

Gallu ail feddu Nef faith,
Ar ol i'r uffernol Ffau
Lidiog, wneud croes ddadliadau,
P'un ai flammio mewn penyd
Yn ffwrn hell Uffern o hyd

Oedd orau, os gwnaent ddewrwych
Gref deyrnas o gwmpas gwych;
Neu, 'n ail, i'r Annwnoliawn
Ymddyrchafu yn llu llawn,
A tharanu 'n neutu Nef,
Ac ail ennill goleunef;
Satan, llawn malais etto,
Cyfodawdd, llefarawdd fo:
Yn awr, chwychwi flaenoriaid
Uffernawl, dra hudawl haid,
I gael teyrnas y Gelyn,

Ofer yw'n hyder yn hyn,

Drwy furniaw, neu drwy fawrnerth,

(Wyched ei waith!) mewn chwe' dydd.480 Trwy 'r seiliau, trwy'r caerau certh:

A'r dydd wedi 'r diweddiad

Fendigai santeiddiai 'r Tad.

Gwn, perffaith oferwaith fydd,
Wrth rym y traws Orthrymmydd.

Pan wnaeth yr Ion nerthawg ei wyrth- Hollalluog enwog yw,

iawg waith,

[blocks in formation]

Ni wedir, hynny ydyw;

Nid llai a daflai mewn dig
I ffwrn y Fagddu ffyrnig
Seraphiaid, pennaethiaid Nef,
Gannoedd o entrych gwiwnef.
Gan ei fod yn gwynfydu
Fod beunydd yn Llywydd llu,
Ran mawl, tebygawl y bydd,
Y crea, Fe wna newydd
Gre'digaeth helaeth, yn hon
Y gesyd ryw wâg weision.
Os denwn, os hudwn hwy
Yn warthus i'n cynnorthwy,
Hwy oll a deflir allan
I'n heirias deyrnas o Dân.
Y dorf, pan wnaeth e derfyn,
A'u llef hwy rwygent y Llyn.
Weithian, ebre Satan sur,

Ban ydwyf yn Bennadur
Ar dorf o rif diderfyn

Holl nerthoedd lluoedd y Llyn,

520

540

560

« PoprzedniaDalej »