44 ATHRYLITH DAFYDD IONAWR. nerth ei enaid i wasanaeth ei Dduw. Gallasai dynion eraill wneud yn gyffelyb, ond yr oeddynt hwy, fel "Llongau wrth ddryll angor," yn cael eu luchio oddiamgylch am na feddent ar sefydlogrwydd bwriad. ADRAN V. TEILYNGDOD CYMHAROL. Fel gweithiau un dyn yn yr iaith Gymreig, hòna yr eiddo Dafydd Ionawr yr uwchafiaeth ar gyfansoddiadau pob Cymro o ran enwogrwydd llênyddol a moesol. Y mae wedi gwneud mwy, ac wedi gwneud yn well na neb arall. Mewn cynllun a medr nid ymddangosodd eto ei gymhar. Ceir ambell un â gwell defnyddiau, ond â llai o fedr lênyddol. Ceir eraill yn fwy celfyddgar gyda defnyddiau gwaelach. Mewn grymusder cyflawn ac mewn prydferthwch cydnerth, teilynga coffawdwriaeth Dafydd Ionawr gydnabyddiaeth barchus yr holl feirdd wrth fraint a defod beirdd ynys Prydain. Nid ydym am honi mai bardd y Drindod fu y mwyaf defnyddiol o feirdd Cymru. Na, o ran defnyddioldeb y mae William Williams o Bantycelyn fel angel yn ehedeg yn nghanol y nef, mewn cymhariaeth i bawb arall. Yn anffodus dewisodd Dafydd Ionawr ymddilladu mewn gwisg a'i caua am byth o'r cysegr. Ymdrwsiodd Williams yn ei wisgoedd offeiriadol, a chyneuodd dân ar allor Duw, yr hwn na ddiffoddir yn ei ffurf ddaearol ne's y diffydd y marworyn olaf o ddaear a chreigiau Cymru yn y goddaith cyffredinol. Parhâ Dafydd Ionawr yn "Fardd Teulu" i'r coeth, y llênydd, a'r doethwr Cristionogol, tra y pery yr iaith. Ond â Williams i mewn ac allan o flaen y bobl. Bloesg-lefara babanod ei odlau, cenir hwynt yn y gynnulleidfa fawr, a siriolir glyn cysgod angau â'u cerddoriaeth. Fel bardd awenyddol dichon ei fod goruwch Dafydd Ionawr, ond yr oedd yn amddifad o'i rymusder a'i gyflawnder, ac yn annhraethol islaw iddo fel celfyddydwr llênoraidd. Nid ydym yn gwneud y sylwadau hyn er iselu Dafydd Ionawr, ond yr ydym yn eu cynyg fel teyrnged gyfiawn i athrylith a chymeriad "peraidd ganiedydd Cymru," enw yr hwn ni welir yn fynych yn mysg coflyfrau brawdoliaeth y beirdd. holl wallau llenyddol, y mae ei "Olwg ar Deyrnas Crist" yn gydymaith teilwng i "Gywydd y Drindod." ADRAN VI. DIWEDDGLO. Er ei Ni's gall athrylith farw. Ni's gellir dodi barn angau yn ei erbyn. Y mae nerth bywyd annherfynol yn perthyn iddo. Cardotodd Homer ei fara mewn dallineb; ond ymrysonodd saith dinas ar ol hyny am yr anrhydedd o gael eu cydnabod yn lle ei enedigaeth. Cyfansoddodd Milton ei "Goll Gwynfa" mewn tlodi, gwarth, a dallineb, ond yn awr prin y mae y ddaear yn ddigon ëang i gynwys ei glod. Ganwyd y "Pererin o athrylith John Bunyan mewn cell fechan yn ngharchar Bedford, ond yn awr nid oes un teyrn yn ysgwyd ei deyrnwialen dros gynifer o ddeiliaid yn holl barthau y ddaear. Cyfansoddodd Dafydd Ionawr ei "anfarwol sylweddol waith" mewn iselder disylw, neu ddirmyg ddiystyriaeth. Bwytai ac yfai dynion fel arferol, a gadawsant Gywydd y Drindod ar wyneb y maes. ni threngodd yn yr oerfel. Y mae awr ei ddyrchafiad yn nesu. Os oes gwir mewn hanesyddiaeth ac athroniaeth, ac Os oes bwriad mewn Rhagluniaeth, sicrhaodd y bardd ei fynydd yn uchel. Pe y gwrthodai dynion gydnabod athrylith ni adewid ef yn ddidyst gan y coed a'r cerig. Ond ni esgeulusir ef gan ddynion Ond "A thing of beauty is a joy for ever." "Y mae prydferthwch yn dragwyddol hedd." a dyn yn byw yn nhref Dolgellau-triwyr Deugain mlynedd yn ol yr oedd tri onest, ond hollol wahanol yn eu tueddiadau meddyliol,-bardd, cludydd, masnachydd. Canodd y bardd i'r Drindod, dilynodd y cludydd ei bedrolfen, a gwerthodd y masnachydd ei nwyddau. Yn rhestr y tanysgrifwyr at Gywydd y Drindod ni chyfarfyddir ag enwau William Rees a Robert Oliver; ac er ei fod yn eithaf cydnabyddus â'r ddau, dichon eu bod yn rhy werinol gan y bardd eu ceisio, oblegid ar y mawrion yr oedd am bwyso pan y gallai. Bu ef farw, buont hwythau masnachydd a'r cludydd, gwelir Rhag feirw, ond yn Robert Oliver Rees, ŵyr i'r luniaeth yn codi offeryn i ddwyn y bardd i sylw y genedl, gan yr hon y gwrandewir ef yn llawen. O'r masnachdy wrth daldydd, ac yr udgenir wrth iddo esgyn i cen ty Robert Oliver arweinir ef i olau orsedd clod, a gosod coron anfarwoldeb ar ei ben, "Fel hyn y gwneir â'r gwr a chwenycho Athrylith ei anrhydeddu.' Gellid yn hawdd argraphu mewn llythyrenau aur ar glawr pob llyfr o'r argraphiad hwn, eiriau nodedig yr awdwr ei hun:-"Wele brawf o'r hyn a all dyma gofadail o gariad hen Frython at ymroddiad a dyfalbarhad ei gyflawni; ei wlad, ac o ffyddlondeb Cristion i'w Arglwydd a'i Feistr." Tra y parhao Cader Idris i ymwisgo yn y cwmwl llwyd; tra y clywir Cymraeg yn cael ei siarad îs ei chysgodau; a thra y byddo dynion i'w cael a fawrygant brydferthwch, rhinwedd, a duwioldeb, bydd ei weithiau yn gofgolofn ddigonol i ATHRYLITH DAFYDD IONAWR. ENGLYNION ANNERCHIADOL I DAFYDD IONAWR A'I WAITH. D. S. Cyflewyd yr Englynion hyn yn ol amser eu derbyniad. CLUDFA o waith Bardd clodfawr,-Hawddammor! Sydd yma'n wych drysawr: Hoffai, coleddai lwyddiant-yr Awen; A'i oes hir a roes y sant.-Tegid. WELE'n awr i lenorion-anwylaidd Gawd llwyr o ganiadau llon Bardd Ionawr ddirfawr ei ddawn-oedd fanwl Ddifeinydd tra chyflawn; Ei goeth enwog Waith uniawn, Perffaith rymuswaith moesawl-diwallau Syw oleuddysg sylweddawl, Ei gu wiwddoeth Gywyddau-synwyrlawn Ei ddestlus ddawnus farddoniaeth-uchel Bri urdduniant barddonol, Bydd sôn am DDAFYDD IONAWR-ei fawrddysg A'i farddwaith dieisawr, Tra erys uwch têr orawr Y Berwyn a'r Moelfryn mawr.-Meurig Ebrill. ADFEDDIANNU DAFYDD IONAWR-yn llyfr Eryrgyrch ei Arwrgan-a chwyfiodd Yn uchafion Anian, I Wynfa'r DDWYFOL HANFOD-ehedodd Hyd i wrandaw y "DRINDOD" Yn selio'r HEDD islaw'r Rhod. Ni weiniai ei Awenydd-i gân ffug, Gwir i gyd oedd geiriau'i gân,-o'r pur-ŷd Mae y gwaith yn flam i gyd,-a gwreichion Gwres yng nghainc y gwersi 'nghyd, Mae'n adeilad, mewn delw,-yn gywrain Darllenir ei wir eiriau,―eriau maith, Ei farddoniaeth ef rodd inni-isel Olaf loes DYLIF â'i li' A ddarluniodd ar lenni. Sai' ei gyhoeddus Gywyddau-ar gael Daena glod i Awen glan. Gwalchmai. Os Ionawr a roes ini-yn Meirion Ei loew ddawn, ni welodd hi Ei "daran" ef drwy y nen-sy eglur, Llewych y byllt oll uwch ben, Twrf annwfnt dros y terfynau,-damchwa I fwrw'u helfen farwol-yn ddylif I lenwi yn olynol A barn Duw bob bryn a dôl. Tra chroewon anobaith Dewi a welodd y dyli'-a'i rym, Oer a llwm ar wàr y lli'. Noah welodd yn hwylio-ar y dwr Yn nawdd a tharian iddo.-Caledfryn. EGINYN a ddug Ionawr-i Feirion A fwriai ffrwyth gwerthfawr, Dewi Ionawr, mâd Awenydd,-a gaiff Godidog ehediadan-ei feddwl A thrysor gwerth i'r oesau Ei ddawn ufudd oedd yn nefol-ei chwaeth, A choethaidd ragorol; Diwair un, nid ai ar ol Awen oedd ei Awen e-un gywair Ag Awen mab Iesse; Gwnai edryd y gân adre' I eilio'n wir fawl y Ne'. O rinwedd ei bêr rawnwin,-heb w'rafun, Dewch i brofi'n ddibrin; Rhydd y wasg yn rhwydd ei win, E fysir ei feluswin.-G. Hiraethog. LLYFR dewrfardd, llafur dirfawr!-pan ogladd Ei gampwaith, y mydrwaith mawr, *Golygir yn yr englyn hwn a'r rhai canlynol, "Cywydd y Daran" a "Chywydd y Diluw." Y dyfnder mawr. Ogladd, a burying, a depositing in. Cof enw Dafydd sydd a'i sail-ar elfen Dawn a dysg yn adwaen deddf,—yn enyn Un a'i ddawn yn enw i'w ddydd, Wrth nofio rhagddo ar hon Ei afonig droes yn fwyniant,-fe aeth Ni wêl craff seraph na sant Dwg ei ganiad ei ogoniant-i sylw Ei holl waith sy'n llwythog-o fuddiolaf RHAGYMADRODD YR AWDWR I'W AIL ARGRAFFIAD BWRIADEDIG O GYWYDD Y DRINDO D. Yn y flwyddyn 1793 mi a gyhoeddais bortreiad ammherffaith o'r Gwaith canlynol. Gan i Dad y trugareddau a Duw pob diddanwch ganiattau i mi amser a rhyddid, gyda phob difrifwch a diwydrwydd meddwl mi a adystyriais y Gwaith, gan ei ddiwygio a'i anghwanegu, megis y mae yn fwy cyfattebol i ardderchawgrwydd y testun dirfawr a gogoneddus nag yr ydoedd y cyhoeddiad cyntaf. Angenrheidrwydd a osodwyd arnaf. Nid dim llai na chyflawn grediniaeth mai fy nyledswydd oedd hyn a barasai i mi lafurio mor ehelaeth. Tra bum yn ei gyfansoddi, mawr fu y llafur, a mawr fu y dirmyg. Ond yr awr hon i'm Harglwydd a'm Hiachawdwr yr wyf yn diolch, mawr yw fy nghysnr a'm hyder tuag at Dduw. Efe yn unig a ddichon roddi y cynnydd; ac i'w Enw mawr Ef y byddo y gogoniant yn dragywyddol. Amen. CYWYDD Y DRINDOD: YN cynnwys (ym mysg pethau eraill) Cwymp yr Angylion colledig; Creadigaeth y Byd; Colledigaeth Paradwys; a'r Dwr Diluw. Yn ail, ac yn fwy pennodol, Genedigaeth, Bywyd, Dïoddefaint, Adgyfodiad ac Esgyniad ein Harglwydd Iesu Grist; a thrwy ei Haeddiant Ef, ac er ei fwyn Ef yn unig, Duw Dad yn cymmodi â dyn. Yn drydydd, Doniau a Rhadau y Glân Yspryd yn cyfaddasu'r Etholedigion i fwynhau Bywyd tragywyddol yn y Nefoedd. Duw a feddalhaodd fy nghalon; a'r Hollalluog a'm cythryblodd, Job xxiii. 16. Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy Farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb i'm cystuddiaist, Salm cxix. 75. Fy nerth a'm cân yw'r Arglwydd; ac y mae Efe yn Iachawdwriaeth i mi, Ecsod. xv. 2. Ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio, 1 Cor. ii. 2. Pan ddel Efe, sef Yspryd y Gwirionedd, Efe a'ch tywys chwi i bob Gwirionedd, Ioan xvi. 13. |