Obrazy na stronie
PDF
ePub

44

ATHRYLITH DAFYDD IONAWR.

nerth ei enaid i wasanaeth ei Dduw. Gallasai dynion eraill wneud yn gyffelyb, ond yr oeddynt hwy, fel

"Llongau wrth ddryll angor,"

yn cael eu luchio oddiamgylch am na feddent ar sefydlogrwydd bwriad.

ADRAN V.

TEILYNGDOD CYMHAROL.

Fel gweithiau un dyn yn yr iaith Gymreig, hòna yr eiddo Dafydd Ionawr yr uwchafiaeth ar gyfansoddiadau pob Cymro o ran enwogrwydd llênyddol a moesol. Y mae wedi gwneud mwy, ac wedi gwneud yn well na neb arall. Mewn cynllun a medr nid ymddangosodd eto ei gymhar. Ceir ambell un â gwell defnyddiau, ond â llai o fedr lênyddol. Ceir eraill yn fwy celfyddgar gyda defnyddiau gwaelach. Mewn grymusder cyflawn ac mewn prydferthwch cydnerth, teilynga coffawdwriaeth Dafydd Ionawr gydnabyddiaeth barchus yr holl feirdd wrth fraint a defod beirdd ynys Prydain.

Nid ydym am honi mai bardd y Drindod fu y mwyaf defnyddiol o feirdd Cymru. Na, o ran defnyddioldeb y mae William Williams o Bantycelyn fel angel yn ehedeg yn nghanol y nef, mewn cymhariaeth i bawb arall. Yn anffodus dewisodd Dafydd Ionawr ymddilladu mewn gwisg a'i caua am byth o'r cysegr. Ymdrwsiodd Williams yn ei wisgoedd offeiriadol, a chyneuodd dân ar allor Duw, yr hwn na ddiffoddir yn ei ffurf ddaearol ne's y diffydd y marworyn olaf o ddaear a chreigiau Cymru yn y goddaith cyffredinol. Parhâ Dafydd Ionawr yn "Fardd Teulu" i'r coeth, y llênydd, a'r doethwr Cristionogol, tra y pery yr iaith.

Ond â Williams i mewn ac allan o flaen

y bobl. Bloesg-lefara babanod ei odlau, cenir hwynt yn y gynnulleidfa fawr, a siriolir glyn cysgod angau â'u cerddoriaeth. Fel bardd awenyddol dichon ei fod goruwch Dafydd Ionawr, ond yr oedd yn amddifad o'i rymusder a'i gyflawnder, ac yn annhraethol islaw iddo fel celfyddydwr llênoraidd. Nid ydym yn gwneud y sylwadau hyn er iselu Dafydd Ionawr, ond yr ydym yn eu cynyg fel teyrnged gyfiawn i athrylith a chymeriad "peraidd ganiedydd Cymru," enw yr hwn ni welir yn fynych yn mysg coflyfrau brawdoliaeth y beirdd. holl wallau llenyddol, y mae ei "Olwg ar Deyrnas Crist" yn gydymaith teilwng i "Gywydd y Drindod."

ADRAN VI.

DIWEDDGLO.

Er ei

Ni's gall athrylith farw. Ni's gellir dodi barn angau yn ei erbyn. Y mae nerth bywyd annherfynol yn perthyn

iddo. Cardotodd Homer ei fara mewn dallineb; ond ymrysonodd saith dinas ar ol hyny am yr anrhydedd o gael eu cydnabod yn lle ei enedigaeth. Cyfansoddodd Milton ei "Goll Gwynfa" mewn tlodi, gwarth, a dallineb, ond yn awr prin y mae y ddaear yn ddigon ëang i gynwys ei glod. Ganwyd y "Pererin o athrylith John Bunyan mewn cell fechan yn ngharchar Bedford, ond yn awr nid oes un teyrn yn ysgwyd ei deyrnwialen dros gynifer o ddeiliaid yn holl barthau y ddaear. Cyfansoddodd Dafydd Ionawr ei "anfarwol sylweddol waith" mewn iselder disylw, neu ddirmyg ddiystyriaeth. Bwytai ac yfai dynion fel arferol, a gadawsant Gywydd y Drindod ar wyneb y maes. ni threngodd yn yr oerfel. Y mae awr ei ddyrchafiad yn nesu. Os oes gwir mewn hanesyddiaeth ac athroniaeth, ac Os oes bwriad mewn Rhagluniaeth, sicrhaodd y bardd ei fynydd yn uchel. Pe y gwrthodai dynion gydnabod athrylith ni adewid ef yn ddidyst gan y coed a'r cerig. Ond ni esgeulusir ef gan ddynion

Ond

"A thing of beauty is a joy for ever." "Y mae prydferthwch yn dragwyddol hedd."

a

dyn yn byw yn nhref Dolgellau-triwyr Deugain mlynedd yn ol yr oedd tri onest, ond hollol wahanol yn eu tueddiadau meddyliol,-bardd, cludydd, masnachydd. Canodd y bardd i'r Drindod, dilynodd y cludydd ei bedrolfen, a gwerthodd y masnachydd ei nwyddau. Yn rhestr y tanysgrifwyr at Gywydd y Drindod ni chyfarfyddir ag enwau William Rees a Robert Oliver; ac er ei fod yn eithaf cydnabyddus â'r ddau, dichon eu bod yn rhy werinol gan y bardd eu ceisio, oblegid ar y mawrion yr oedd am bwyso pan y gallai. Bu ef farw, buont hwythau masnachydd a'r cludydd, gwelir Rhag feirw, ond yn Robert Oliver Rees, ŵyr i'r luniaeth yn codi offeryn i ddwyn y bardd i sylw y genedl, gan yr hon y gwrandewir ef yn llawen. O'r masnachdy wrth daldydd, ac yr udgenir wrth iddo esgyn i cen ty Robert Oliver arweinir ef i olau orsedd clod, a gosod coron anfarwoldeb ar ei ben, "Fel hyn y gwneir â'r gwr a chwenycho Athrylith ei anrhydeddu.'

Gellid yn hawdd argraphu mewn llythyrenau aur ar glawr pob llyfr o'r argraphiad hwn, eiriau nodedig yr awdwr ei hun:-"Wele brawf o'r hyn a all dyma gofadail o gariad hen Frython at ymroddiad a dyfalbarhad ei gyflawni; ei wlad, ac o ffyddlondeb Cristion i'w Arglwydd a'i Feistr."

Tra y parhao Cader Idris i ymwisgo yn y cwmwl llwyd; tra y clywir Cymraeg yn cael ei siarad îs ei chysgodau; a thra y byddo dynion i'w cael a fawrygant brydferthwch, rhinwedd, a duwioldeb, bydd ei weithiau yn gofgolofn ddigonol i

ATHRYLITH DAFYDD IONAWR.

ENGLYNION ANNERCHIADOL

I

DAFYDD IONAWR A'I WAITH.

D. S. Cyflewyd yr Englynion hyn yn ol amser eu derbyniad.

CLUDFA o waith Bardd clodfawr,-Hawddammor!

Sydd yma'n wych drysawr:
E fydd i'n DAFYDD IONAWR,
O fewn ei waith, fyw yn awr.
Mawredd a gafodd Meirion-o'i eni
O fewn ei chyffinion;
Gwiw iawn yw ei ganeuon,
Duwinydd, Awenydd Ion.

Hoffai, coleddai lwyddiant-yr Awen;
Trwy ei oes hir y cânt;
A'i gân i Dduw Gogoniant

A'i oes hir a roes y sant.-Tegid.

WELE'n awr i lenorion-anwylaidd
Hen Walia hyfrydlon

Gawd llwyr o ganiadau llon
Ionawr mawr, ener Meirion.

Bardd Ionawr ddirfawr ei ddawn-oedd fanwl

Ddifeinydd tra chyflawn;

Ei goeth enwog Waith uniawn,
Heb len gudd, o'n blaen a gawn.

Perffaith rymuswaith moesawl-diwallau
Ydyw oll, a buddiawl,

Syw oleuddysg sylweddawl,
Plaid i'r gwir, pelydrog wawl.

Ei gu wiwddoeth Gywyddau-synwyrlawn
Sy 'n arlwy per seigiau;
Gwledd flasus ryglyddus glau
I'r beirddion ar eu byrddau.

Ei ddestlus ddawnus farddoniaeth-uchel
Sydd iachus athrawiaeth;
Pob brawddeg yn ffriwdeg ffraeth
Dau addurn Duwinyddiaeth.
Olrheiniodd, eiliwr hynod,-odidawg
Weithrediadau'r Drindod;
Ei bêr fwyn iaith a'i brif nod
Ydoedd dyrchafu'r Duwdod.
Cronicl o waith cywreiniol-ereswych
I'r oesau dyfodol;

Bri urdduniant barddonol,
Gwiwder iaith gaed ar ei ol.

Bydd sôn am DDAFYDD IONAWR-ei fawrddysg

A'i farddwaith dieisawr,

Tra erys uwch têr orawr

Y Berwyn a'r Moelfryn mawr.-Meurig Ebrill.

ADFEDDIANNU DAFYDD IONAWR-yn llyfr
A wna'n lles yn ddirfawr;
Heddyw, i'w Emyn, hawddammawr!
Na bo bwrdd mwy heb y BARDD MAWR.

Eryrgyrch ei Arwrgan-a chwyfiodd

Yn uchafion Anian,
Dyrchafodd, e dynnodd dân
O fannau'r Nef ei hunan!

I Wynfa'r DDWYFOL HANFOD-ehedodd
Ar aden myfyrdod,

Hyd i wrandaw y "DRINDOD"

Yn selio'r HEDD islaw'r Rhod.

[blocks in formation]

Ni weiniai ei Awenydd-i gân ffug,
Neu i ffol rigymydd;
Gwynfyd i'r ynfyd ni rydd,
Na gwall-air i gellweirydd.

Gwir i gyd oedd geiriau'i gân,-o'r pur-ŷd
Y darparai'r cyfan;
Nithio'i holl wenith allan
Yrasai 'mhell yr ûs mân.

Mae y gwaith yn flam i gyd,-a gwreichion
Goruchiawl wefr tanllyd,

Gwres yng nghainc y gwersi 'nghyd,
Dilyna'i odlau enyd.

Mae'n adeilad, mewn delw,-yn gywrain
Heb un gareg-lanw;
Meini nadd, cymunai nhw'
Heb un gwyrog ben garw.

Darllenir ei wir eiriau,―eriau maith,
Ar y MIL-BLYNYDDAU,
Meib Meirion, y' mhob muriau,
A Môn hen, fydd i'w mwynhau

Ei farddoniaeth ef rodd inni-isel
Ioseph yn ei fawrfri;

Olaf loes DYLIF â'i li'

A ddarluniodd ar lenni.

[blocks in formation]

Sai' ei gyhoeddus Gywyddau-ar gael
Fel rhyw gof-golofnau;
Adail i'w dalentau,

Daena glod i Awen glan. Gwalchmai.

Os Ionawr a roes ini-yn Meirion
Un mawr i'w gofnodi,

Ei loew ddawn, ni welodd hi
Na Ionawr, na phenwyni.
Newydd oedd, ni wywodd hi,-ni wywai
E'n ei awydd ati;
Dalia'i nerth, odlaí i ni
Yn ei henaint yn heini'.
Dilwgr ydoedd pob dalen-a lwybrodd
Ei oleubryd Awen;
Esgyn i fysg cân Nef wen
Yr ydoedd ar ei haden.
Ei ddihalog feddyliau-a nofient
Mewn nefawl syniadau ;
Tân ei gerdd at destun gau
Ni roe Ionawr aur-enau.

Ei "daran" ef drwy y nen-sy eglur,
Sigla y ffurfafen;

Llewych y byllt oll uwch ben,
Rai ebrwydd, dania'r wybren.*

Twrf annwfnt dros y terfynau,-damchwa
Yn dymchwel mynyddau,
Rhu bydrwyllt y rhaiadrau,
A moroedd yn ymryddhâu,

I fwrw'u helfen farwol-yn ddylif
Na ddaliai'r creig oesol,

I lenwi yn olynol

A barn Duw bob bryn a dôl.
Hyn oll a geir yn ei waith,-a chriau

Tra chroewon anobaith
Rhai ddaliwyd, gan oer ddylaith,
Dan lid a nerth y dòn laith.

Dewi a welodd y dyli'-a'i rym,
Ei rwysg mawr, a'i gefnlli',
A'i feirwon yn niferi

Oer a llwm ar wàr y lli'.

Noah welodd yn hwylio-ar y dwr
Uwchlaw'r dòn â'i chyffro,
A Ior Nef, i'w arwain o,

Yn nawdd a tharian iddo.-Caledfryn.

EGINYN a ddug Ionawr-i Feirion

A fwriai ffrwyth gwerthfawr,
Aeron aeddfed rhinweddfawr
Athrylith o fendith fawr.

Dewi Ionawr, mâd Awenydd,-a gaiff
Ei goffa'n dragywydd;
Ei enw fo a'i Awen fydd

Godidog ehediadan-ei feddwl
A fyddant yn berlan;

A thrysor gwerth i'r oesau
I fynu o hyd ei fwynhân.

Ei ddawn ufudd oedd yn nefol-ei chwaeth,

A choethaidd ragorol;

Diwair un, nid ai ar ol
Sal addysg ausylweddol.

Awen oedd ei Awen e-un gywair

Ag Awen mab Iesse;

Gwnai edryd y gân adre'

I eilio'n wir fawl y Ne'.

O rinwedd ei bêr rawnwin,-heb w'rafun, Dewch i brofi'n ddibrin;

Rhydd y wasg yn rhwydd ei win,

E fysir ei feluswin.-G. Hiraethog.

LLYFR dewrfardd, llafur dirfawr!-pan ogladd
Y pinyglau marmawr,

Ei gampwaith, y mydrwaith mawr,
Fydd enwi Dafydd Ionawr.

*Golygir yn yr englyn hwn a'r rhai canlynol, "Cywydd y Daran" a "Chywydd y Diluw." Y dyfnder mawr.

Ogladd, a burying, a depositing in.

Cof enw Dafydd sydd a'i sail-ar elfen
O'r eilfyd, nid adfail;
Iddo ef Awen ddi ail
A gyfododd gofadail.

Dawn a dysg yn adwaen deddf,—yn enyn
Gan yni pob cyneddf;
Anian a gras'n enwog reddf
Fu'n ddylif 'i Awen ddileddf.
Ail ei anwyl Awenydd-i dduwiol
Dda Awen y Psalmydd;

Un a'i ddawn yn enw i'w ddydd,
Bardd iawn yn bur Dduwinydd.
Ei ymroddiad mawreddol-i ganu
Gogoniant Duw'n hollol;
Awdl y ffydd, nid odli ffol,
Astudiai yn wastadol.
Arweiniai yr Awenydd-i wybod
Gwir ddyben ei Rhoddydd;
Prif ddyben yr Awen rydd
Wnai dyfu yn nawn Dafydd.
Yma, nofiai mewn afon-o ddyfroedd
Ddifyra'r nefolion;

Wrth nofio rhagddo ar hon
Yr aeth i'r cefnfor weithion.

Ei afonig droes yn fwyniant,-fe aeth
Yn for o ogoniant!

Ni wêl craff seraph na sant
Ymylau i'r môr moliant.

Dwg ei ganiad ei ogoniant-i sylw
Oes oleu'r Mil flwyddiant;
Ie, mwy rhwydd y'i mawrhånt,
A'i nefol win a yfant.

Ei holl waith sy'n llwythog-o fuddiolaf
Feddyliau ardderchog;
Try o'i wythi toreithiog

[ocr errors]
[blocks in formation]
[merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small]

RHAGYMADRODD YR AWDWR

I'W AIL ARGRAFFIAD

BWRIADEDIG O GYWYDD Y DRINDO D.

Yn y flwyddyn 1793 mi a gyhoeddais bortreiad ammherffaith o'r Gwaith canlynol. Gan i Dad y trugareddau a Duw pob diddanwch ganiattau i mi amser a rhyddid, gyda phob difrifwch a diwydrwydd meddwl mi a adystyriais y Gwaith, gan ei ddiwygio a'i anghwanegu, megis y mae yn fwy cyfattebol i ardderchawgrwydd y testun dirfawr a gogoneddus nag yr ydoedd y cyhoeddiad cyntaf. Angenrheidrwydd a osodwyd arnaf. Nid dim llai na chyflawn grediniaeth mai fy nyledswydd oedd hyn a barasai i mi lafurio mor ehelaeth. Tra bum yn ei gyfansoddi, mawr fu y llafur, a mawr fu y dirmyg. Ond yr awr hon i'm Harglwydd a'm Hiachawdwr yr wyf yn diolch, mawr yw fy nghysnr a'm hyder tuag at Dduw. Efe yn unig a ddichon roddi y cynnydd; ac i'w Enw mawr Ef y byddo y gogoniant yn dragywyddol.

Amen.

CYWYDD Y DRINDOD:

YN cynnwys (ym mysg pethau eraill) Cwymp yr Angylion colledig; Creadigaeth y Byd; Colledigaeth Paradwys; a'r Dwr Diluw.

Yn ail, ac yn fwy pennodol, Genedigaeth, Bywyd, Dïoddefaint, Adgyfodiad ac Esgyniad ein Harglwydd Iesu Grist; a thrwy ei Haeddiant Ef, ac er ei fwyn Ef yn unig, Duw Dad yn cymmodi â dyn.

Yn drydydd, Doniau a Rhadau y Glân Yspryd yn cyfaddasu'r Etholedigion i fwynhau Bywyd tragywyddol yn y Nefoedd.

Duw a feddalhaodd fy nghalon; a'r Hollalluog a'm cythryblodd, Job xxiii. 16.

Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy Farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb i'm cystuddiaist, Salm cxix. 75.

Fy nerth a'm cân yw'r Arglwydd; ac y mae Efe yn Iachawdwriaeth i mi, Ecsod. xv. 2.

Ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio, 1 Cor. ii. 2.

Pan ddel Efe, sef Yspryd y Gwirionedd, Efe a'ch tywys chwi i bob Gwirionedd, Ioan xvi. 13.

« PoprzedniaDalej »