Obrazy na stronie
PDF
ePub
[blocks in formation]

Dilynwyd Cywydd y Drindod gan Gywydd y Mil Blynyddau. Er fod y wermod a yfodd y bardd o gwpan siomedigaeth yn chwerw iawn, eto ni ddigalonodd. Yn mhen chwech mlynedd, wele ef yn ymddangos drachefn fel dyn wedi ei ddiofrydu i'w swydd, neu fel prophwyd yn cael ei orfodi i lefain, "Gwrandewch air yr Arglwydd," yn nghlyw ei gydwladwyr. Nid oeddynt wedi gwrandaw chwech mlynedd yn ol,nag oeddynt hwy, na meddwl am hyny ychwaith. Ond gwrandawent hwy neu beidio, yr oedd ef, Dafydd Richards o Lanymorfa, wedi ei anfon i'r byd o bwrpas i foli ei Greawdwr mewn barddoniaeth, ac yr oedd yn rhwym o wneud y gwaith. Buasai cystal i'r haul beidio â phelydru yn y ffurfafen, oblegid nad oedd y wadd a'r ystlumod yn dewis edrych arno, ag i Dafydd Ionawr beidio â chanu o herwydd nad oedd y genedl yn gwrando ar "ei gerddi enwog eurddoeth." Gwyliedydd oedd ef, ac er a dalai ei enaid a nefoedd Duw, yr oedd yn rhwym o rybuddio. Gallai y bobl yr anfonesid ef atynt chwerthin, gwawdio, cau eu clustiau, neu y peth a welent yn dda, ond mynai ef yn ei swydd fod yn rhydd oddiwrth eu gwaed. Efe a chwythodd ei udgorn, golchodd ei ddwylaw mewn diniweidrwydd, ac ysgydwodd y llwch oddiwrth ei draed.

Os nad ydym yn camgymeryd yn fawr yr ydym yn yr ychydig linellau uchod wedi darlunio teimladau Dafydd Ionawr wrth gyfansoddi a chyhoeddi y Cywydd. Darllener ei ragymadrodd nerthol, yn yr hwn y defnyddia iaith ddirodres, ddifursendod, a diamwys Meirionydd er prawf o hyn. Yr oedd tân wedi ei enyn ynddo, ac yr oedd yn llefaru â'i dafod faith ei dadau yn ei holl rymusder nerthol, ac yn ei holl gyflawnder gorlifol. Byddwn ambell dro yn cael cryn lawer o ddifyrwch wrth weled dynion menywaidd yn ymgroesi ac yn ymbaderu rhag iaith o'r fath ag a arferir gan wr o chwaeth mor bur, ac o galon mor ddefosiynol a hen fardd Meirion. "Nid oes genyf ddim i'w ddywedyd am hyn, ond mai galarus feddwl fod trigolion unrhyw wlad, o bob gradd a galwad, yn hytrach yn fwystfilod nag yn ddynion." O Dafydd Ionawr! cofia am arfer iaith foneddigaiddni ddylid cymharu dynion i fwyst

a

filod! Darllener y rhagymadrodd, a cheir gweled fel y llenwid mynwes y bardd â hunanbarch dynol, yr hyn a'i harweiniai i arfer iaith ddirodres nerthol, fel y dylai dyn wneud pan y byddo achlysur am hyny. Nid oes un math o foesoldeb mor beryglus â'r hwn a'n dysga i beidio a galw pethau ar eu henwau priodol; ond ni bu Dafydd Ionawr erioed yn euog o hono.

Ni fernir yn angenrheidiol dadchwilio cynwysiad y Cywydd hwn, am fod yr awdwr wedi rhoddi talfyriad mor gryno o'i sylwedd yn y tri chynwysiad. Y mae cryn lawer o ddarfelydd yn cael ei ddangos yn y Cywydd hwn, oblegid nid oedd gan y bardd ond ychydig ffeithiau i'w defnyddio. Yn ein tyb ni, Cywydd y Mil Blynyddau a Chywydd Joseph, sydd yn dangos mwyaf o'i ddychymyg— o'r hyn a allasai wneuthur pan nad oedd ganddo gyfleusdra i aralleirio. Yr ydym ar yr un pryd yn addef yn rhwydd mai i Gywydd Diluw y rhoddir y flaenoriaeth. Y rheswm am byny ydyw ei fod yn fwy dysgrifiol neu ddarluniadol, ac o ganlyniad yn taro chwaeth y Cymry yn well. Ond yr ydym yn camgymeryd yn fawr os na ystyriai Sais Joseph a'r Mil Blynyddau yn rhagori ar y Diluw. Yn mysg beirniaid Cymru annichonadwy braidd i un math o farddoniaeth ond y ddarluniadol gael chwareu teg. Ymddengys ein cydwladwyr fel pe baent yn tybio mai llawer mwy gorchest darlunio golygfeydd naturiol mawreddig, na dysgrifio cysylltiadau moesol egwyddor, teimladau dynion, neu syniadau angylion da a drwg. Ond anturiwn ein cymeriad beirniadol ar y mater, fod barddoniaeth addysgiadol yn gofyn mwy o athrylith na barddoniaeth ddarluniadol. Y mae dyfalu yn gofyn am fwy o fedr na dysgrifio.

Ond

Am farddoniaeth Cywydd y Mil Blynyddau, ni's gallwn ddywedyd ei bod yn rhagori; arferir llawer iawn iawn o eiriau er mwyn gwneud y gynghanedd i fyny, Am ei dduwinyddiaeth, y mae wedi gadael y llwybr cyffredin, oblegid yn hytrach na dangos yr ymosodiad ar wersyll y saint fel effaith dirywiad yn y dyddiau diweddaf, darlunir y cenhedloedd heb dderbyn y newyddion da yn nechreuad y tymor dedwydd, ac wedi eu deol i bedair congl y ddaear ar y pryd. gan mai nid a duwinyddiaeth y bardd y mae a fynom, afraid i ni fynegu ein golyg iadau ar bwne mor ddyrys. Y mae un peth yn eglur, sef nad oedd Dafydd Ionawr yn credu yn nheyrnasiad personol Iesu Grist yn y Mil Blynyddau. Gesyd ei ail ddyfodiad ar ol y cyfnod hwnw. Enilla tyb wahanol lawer o sylw yn bresenol, ac ni's gall lai tra y byddo iddi y fath apostolion â Dr. Cumming a George Gilfillan. Bernir ganddynt hwy fod y byd yn anniwygiadwy ddrwg nes y daw Crist fel brenin, ac y dilea anwiredd â dysgleirdeb ei ddyfodiad; yna teyrnasa yn bersonol ar fyd pur a thawel am 360,000,000 o flynyddoedd.

ADRAN VI.

BARDDONIAETH GRISTIONOGAWL.

Yr ydym wedi sylwi yn barod_mai adgyflenwadau i Gywydd y Drindod yw y caniadau a geir dan yr enw uchod, ac wedi nodi y rhanau i'r rhai y perthynant. Buasai yn ddymunol iawn gweled y cyfan o honynt wedi eu cymhlethu â'i brifwaith gorchestol â llaw yr awdwr ei hun. Y maent yn gyfansoddiadau tlysion iawn, a gellid yn hawdd bigo o'u mysg lawer o Geinion Awen Cymru." Mae amrywiad y mesur yn nwy gân Moses yn peri i ni ofidio na buasai y bardd wedi gwneud hyn yn amlach drwy ei holl weithiau. Cyfeiriwn y darllenydd at yr Ail Gân, 11. 145-66, fel engreifftiau o'r rhwyddineb a'r grym a ddangosir yn y newidiadau dan sylw. Yr ydym yn lled sicr y buasai yn werth i'r bardd aberthu unoldeb Cywydd er mwyn amrywiadau yr awdl. Mae yn ddigon hysbys nad ydym ni dros orfodi neb i arfer y gynghanedd Gymreig, nac yn barnu fod yn ddoeth ei harfer at destynau o'r fath ag a drinid gan Dafydd Ionawr, ond addefwn yn rhwydd fod yr egwyddor o amryw

iaeth mesurau, yr hon a geir yn nghyfansoddiad Awdl ar bedwar penill ar ugain Gwynedd, neu bedwar ansawdd ar ugain Morganwg, yn llawn o athroniaeth, yn dangos cydnabyddiaeth eang, a chwaeth goethedig a cherddorol, ac yn deilwng o sylw ein beirdd yn gyffredin. A gwae ni na buasai Dafydd Ionawr wedi gwneud Ond rhaid defnydd helaethach o honi. bod yn ddiolchgar am a gawsom.

ADRAN VII.

AMRYWION.

Prin mae eisiau galw sylw at fângyfansoddiadau y bardd, oblegid bydd y rhai hyny yn lled debyg o'i gael heb alw am dano. Y mae y cyfan, gydag un ond, ei gân gampus i D. Ddu o Eryri, yn null ac ysbryd arferol yr awdwr, oddigerth fod rhai o honynt ar destynau oeddynt yn rhoddi gwell cyfle iddo ddangos ffraethder na'r rhai y canai yn gyffredin arnynt. Yr ydym bellach yn canu yn iach i weithiau, y rhai, yn ol barn eu cyfansoddydd, oedd i enill darlleniad ei wlad ar ol iddo ef fyned i dir anghof.

PENNOD III.

ATHRYLITH DAFYDD IONAWR.

BELLACH mae yn llawn bryd i ni brysuro i daflu golwg ar ATHRYLITH yr enwog fardd. Ymdrechasom bron yn mhob rhan ddwyn rhyw briodoledd neillduol i'r golwg, neu egluro yn helaethach ryw nodwedd a ddangosasid yn flaenorol. Nid oes genym yn awr ond ymdrechu crynhoi y pelydrau gwasgaredig hyn i gylch cyfyngach, er eu dangos mewn undeb â'u gilydd.

Gellir cymeryd dwy olwg ar athrylith Dafydd Ionawr, sef yr elfenau meddyliol a'i cyfansoddent, a'r egwyddor foesol a'i rheolai. Hawdd gweled wrth ddarllen ei weithiau fod yr elfenau deallol yn cynyrchu gwreiddioldeb, medr, a chyflawnder, a bod yr elfen foesol wedi cysegru y cyfan i un dyben mawr a gogoneddus, ac wedi dwyn yr amcan i ben drwy y dyfalbarhad mwyaf diflino.

ADRAN I.

GWREIDDIOL DEB.

Yr oedd athrylith Dafydd Ionawr yn wreiddiol. Wrth wreiddioldeb nid ydym yn deall cynyrchiad o feddyliau na ddaethant erioed o'r blaen i galon dyn. Pe hyny fyddai gwreiddioldeb, byddai yn ofynol cael mwyadur (microscope) i chwilio am ein hawdwyr gwreiddiol, oblegid "nid oes dim newydd dan yr haul."

Gellir gosod hen ddefnyddiau

Ni's gall y

mewn ffurf a threfn newydd, eu hail doddi, eu lliwio, a'u caboli; ond ni ellir creu o'r newydd. Yr ydym yn prysuro i ddywedyd fod Dafydd Ionawr yn wreiddiol, oblegid i ni glywed rhai yn haeru nad yw Cywydd y Drindod ond cyfieithiad o Goll Gwynfa Milton. cyhuddiad fod yn gywir, oblegid y mae yn hawdd gweled fod Cywydd y Drindod yn cyffwrdd â lluaws o destynau ac yn eu dilyn yn helaeth, am y rhai na choffeir gan Milton. Ymestyn Cywydd y Drindod yn mlaen hyd oriau barn, yr hyn ni wna Coll Gwynfa, ac o ganlyniad rhaid fod ei gynllun yn hollol annibynol ar waith Milton. Y mae cynllun yn un o'r profion cryfaf o wreiddioldeb. Y mae llawer saer a adeilada dŷ ond cael cynllun o'i flaen, er na allai wneuthur dim heb hyny. Ni wyddom am un bardd wedi dewis cynllun cyffelyb i'r eiddo Cywydd y Drindod ond Pollok, yr hwn, yn gystal a Dafydd Ionawr, a gyhuddir o fenthyca oddiar Milton. Gwnaeth y bardd ddefnydd achlysurol o Goll Gwynfa, ac o Adenilliad Gwynfa hefyd, ond uwchlaw pob dadl ei gynllun ef ei hun ydyw Cywydd y Drindod. Pa mor gyfarwydd bynag y gallasai fod â gwaith Milton cyn ffurfio ei fwriad, ni buasai y deuddegfed llyfr o Goll Gwynfa yn rhoddi iddo-lawer o gymhorth. Nid oes gan Milton unrhyw awgrymiadau a allasent ei arwain at gynllun mor helaeth. Canfyddir cryn

lawer o debygolrwydd rhwng rhanau o Lyfr IX. yn Ngholl Gwynfa, a'r Rhan I. o Gywydd y Drindod. Gellir yn hawdd weled fod Dafydd Ionawr yn dethol ambell i feddwl o Milton, er hyny nid yw yn ei ddilyn. Gwahaniaetha yn aml oddiwrtho. Rhydd i'r ymddyddanion ei syniadau a'i iaith ei hunan, a threfna y dygwyddiadau yn ol fel y gwel yn dda. Troir Adda ac Efa o baradwys gan angel yn ol Milton, ond dilyna D. Ionawr yr hanes ysgrythyrol. Gwelsom Coll Gwynfa Caniad I. 11. 37-56, a Caniad IX. 11. 933-41, yn cael eu cyferbynu â Chywydd y Drindod, Rhan I. II. 57-80, a Rhan II. Il. 825-32, ac yn cael eu cynyg fel profion o rwymau y bardd i Milton; ond os yw efelychiad o'r fath yn drosedd, buan y byddem heb ddim barddoniaeth. ddengys fod rhai personau yn barnu mai annichonadwy i ddau fardd wrth fyfyrio ar yr un testun gynyrchu yr un syniadau. Tybiant y dylai cynyrch pob person unigol fod yn hollol wahanol oddiwrth syniadau pawb arall. Os dywed un fod y môr yn fawr a llydan, diffyg gwreiddioldeb fyddai i neb arall ysgrifenu yr un drychfeddwl. Yn ol barn y beirniaid gwreiddiol hyn nid oes unrhyw briodoleddau cyffredin yn perthyn i'r meddwl, nac i wrthrychau syniad y meddwl.

Ym

Yn

lle credu nad oes dim newydd dan haul, eu barn yw y dylai pob peth fod yn newydd, ac nad oes werth mewn unpeth os na bydd delw newydd-deb arno. 0 flaen y ddelw fawr hon y plygant y glin ac y llefant Abrec gyda'r parodrwydd mwyaf. Pe buasai Dafydd Ionawr wedi efelychu llawer mwy ar Milton nag a ddarfu, ni buasai hyny yn lleihau defnyddioldeb ei waith i'r Cymry. Ond ni's gallasai bardd mawr Meirion wneud hyny. Yr oedd Milton wedi cymdeithasu cymaint a duwiau ac arwyr y paganiaid, fel na's gallasai ein cydwladwr ddilyn llawer arno heb gyfarfod yn wastadol â'i boenydwyr. Yr oedd ef mor elynol i'r "pagangerddi" âg oedd Ritson i gigfwyd. Yr efelychiadau amlycaf o Milton sydd yn y Rhan I. a Rhan VI. Dilynodd Milton yn lled agos yn nhemtiad Cristmor agos nes cyfnewid trefn y profedigaethau. Ni fabwysiadodd yr oll o brofedigaethau ychwanegol Gwynfa Adenilledig, yr hyn sydd yn dangos ei fod yn barnu yn barhaus am briodoldeb ei gynllun ei hun. Heblaw yn yr engreifftiau a nodasom, prin y mae yn gyfiawn dweyd ei fod wedi benthyca llawer oddiar Milton. Ond pe buasai wedi gwneud hyny, ni buasai yn llawer o anghlod iddo. Yr oedd mawredd ei waith y fath nes rhoddi rhyddid iddo i gynullei ddefnyddiau o bob man. Beiddiwn ddywedyd fod Milton yn llawer mwy o fenthyciwr na Dafydd Ionawr. Casglodd ei ddefnyddiau o bob man, a chyflogodd bedwar gwynt y nefoedd yn gludyddion. Cymerodd fantais ar arferion pob gwlad, a llenyddiaeth pob cenedl. Gorfododd bob oes i'w wasanaethu, a gwysiodd holl dduwiau y cenhedloedd i wneuthur gwar

ogaeth iddo. Ni arbedodd un amgueddfa o athrylith, a honodd iddo ei hun holl ffrydiau yr awen. Aeth i demlau yr eilunod gyda yr un hyfder ag i deml Duw Israel. Efe a roddes orchymyn allan i drethu yr holl fyd. Wedi casglu at eu gilydd drysorau gwerthfawrocaf athrylith ac ysbrydoliaeth, efe a doddodd y cyfan yn nhawddlestr mawr ei feddwl ei hun, a daeth allan addurnwaith mwy anmhrisiadwy na metel Corinth, a mwy ysblenydd na gemau y dwyrain. Ni's gallasai athrylith dyn wneuthur mwy, a dichon y dadleuasai Milton na's gallasai Duw wneuthur yn amgen, gan y credai yn gadarn mai o fater deilliedig o hono ei hun y creasai Duw y nefoedd a'r ddaear. Dyma a wnaeth Dafydd Ionawr, ond fod ei dawddlestr ef yn llai na'r eiddo Milton, a'i fod wedi caethiwo ei hun yn gydwybodol o fewn cylch cyfyngach. Nid mynych y cyfarfyddir drwy ystod ei ganiad aruthrol âg un arddangosiad fod Dafydd Ionawr wedi darllen dim erioed ond ei Feibl Cymraeg. Meddyliem y byddai yn gryn orchest nodi dwsin a haner o engreifftiau i'r gwrthwyneb drwy ei holl waith. Y canlyniad yw fod ein hadnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau yn peri i ni ffurfio meddyliau isel am lafur a medrusrwydd y bardd. ni ddylai hyny fod. Nid oedd neb yn meddwl gwadu hawl Solomon i anrhydedd o herwydd mai wedi cyrchu defnyddiau y deml yr ydoedd o wahanol leoedd. Felly am Dafydd Ionawr. a ffurfiodd y cynllun, efe a naddodd y meini, efe a'u gosododd yn eu lleoedd, gan eu cymhwys gydgysylltu, ac efe a ddygodd allan y maen penaf dan waeddi, "Rhad, rhad iddo."

ADRAN II,

MEDR.

Ond

Efe

Os

Yr oedd athrylith Dafydd Ionawr yn fedrus a chywrain. Nid yn unig efe a wnaeth lawer, ond gwnaeth y llawer hyny gyda medrusrwydd mawr. edrychwn ar y mesur a ddefnyddiodd, ceir prawf amlwg o hyn. Yr oedd mor ymwybodol o'i fawredd, nes yr anturiodd ar ei orchestwaith anfarwol mewn llyffetheiriau. Efe a rwymodd ei hun at Gywydd Deuair Union dros ei fywyd, ac ymddiriedodd enwogrwydd anfarwol i ddiogel obaith ei gadwynau. Ni buasai neb ond dyn o athrylith orchestol yn ymosod ar y fath gawrwaith aruthrol. Ni chynygiodd neb o'i flaen nac ar ei ol ar y fath wrhydri. Dichon y buasai y diweddar Dewi Wyn yn beiddio y fath lengoedd o anhawsderau; ond yr ydym braidd yn sicr nad oes un bardd Cymreig yn awr ar dir y byw a ryfygai gynyg y fath gampwaith. Gwir i Dafydd Ionawr, yn marn lluaws o feirdd, ddewis y melysaf o dylwyth y mesurau caethion,*

Barnai y diweddar Walter Davies yn wahanol i hyn. Rhagymadrodd Llyfr II. o'r "Powysion."

er ei fod y mwyaf undonol. Diau i fardd y Drindod fwrw y draul, a gwneud ei ddewisiad, oblegid yr oedd yn gydnabyddus â'r holl fesurau. Gwelsom englynion campus o'i eiddo, ac y mae dwy gân Moses yn awdlau medrus. Er hyny yr oedd anturiaeth y bardd yn arwrol. Dichon nad oes yr un iaith ond y Gymraeg a oddefasai y fath orchestwaith. Y mae yn annichonadwy i un dyn anadnabyddus â'i weithiau amgyffred mor gyflawn y mae y bardd wedi dyhysbyddu y cynghaneddion Cymreig. Gallem nodi allan yn ngweithiau prif feirdd ein gwlad, filoedd o linellau fel yr eiddo ef i'r llythyren, a degau o filoedd heb ond y gwahaniaeth lleiaf rhyngddynt. Ni's gall y tebygrwydd hwn lai na bod tra yr arferir cynghanedd, oblegid y mae cydseiniaid un gair yn galw am air arall yn meddu cydseiniaid cyfatebol, a'r un modd am derfyniadau geiriol a sillol. Ni ddylai beirniaid, gan hyny, feio ar gynghaneddion cyffredin, gan na's gellir eu gochel tra y gofynir am gynghanedd heb gael iaith newydd.

Y mae cynghaneddion Dafydd Ionawr ar y cyfan yn nodedig o gywir, er y gellid pigo cryn nifer o linellau na ddalient farn y mesurau

caethion. Gallasem wneud ar lai o "eglurwaith clau," "gloywbrwd glau," o "awl," "awdd," "iawn,' &c. nag a ddarparodd y bardd ar ein cyfer. Dyma yr anafau gwrthunaf ar deilyngdod celfyddydol ei weithiau. Er ei fod yn fath o Samson cynghaneddol, rhwymwyd ef yn greulon ambell dro gan Philistiaid y mesurau caethion. Diau y buasai yr hen Simwnt Fychan yn gwaeddi "Dryc synnwyr" uwchben llawer llinell yn ei "anfarwol sylweddol waith." Ond gan

fod brychau ar yr haul, afraid nodi diffygion Cywydd y Drindod. Er ei frychau, rhydd yr haul ddigon o oleuni hyfryd, a gwna gwaith bardd y Drindod yr un modd. Yr oedd ef yn hollol ymroddedig i'r gynghanedd hyd yn nod yn yr ychydig emynau a charolau a gyfansoddodd. Pwy a ddymunai ragor o gynghanedd nag a geir yn nghân Mair i'w thad yn ei afiechyd (gwel Cywydd y Drindod, tudal. 120), ac yn y Carol ar "Gwel yr Adeilad," (tudal. 317.)

Ysgrifenodd, ar y cyfan, mewn iaith ddetholedig, awdurol, a dangosodd gymaint o fedr yn newisiad ei destynau a'i egluriadau ag a wnaeth yn ei drefniad llenyddol arnynt. Ond y mae yn syn braidd fod gwr digon craff ei athrylith i osod caniadau rhyddion yn ngenau Mair y Forwyn wedi dewis rhwymo ei hun a'i ddefnyddioldeb yn rhwymau cyfyng y mesurau caethion, ac yntau yn proffesu ysgrifenu i'r werin. Ni waeth i ni gydnabod yma na pheidio y buasai yn fwy dymunol genym pe buasai wedi dewis y Gân Rydd at waith mor fawr, a gwaith a deilyngai y fath dderbyniad cyffredinol ac anrhydedd oesol. Ni ddymunem wahardd yr arferiad o'r mesurau caethion, ond ni hoffem byth mwyach weled y Gân Rydd yn cael ei gwahardd

mewn cystadleuaeth ar unrhyw destun.

ADRAN III.

CYFLAWNDER.

Nid

Nodwedd arall yn ei athrylith oedd cyflawnder. Nid ydyw yn oruchel iawn, ond y mae yn gyflawn o nerth ar bob tu. Os nad yw yn ehedeg i'r haul, y mae bob amser, oddigerth mewn ambell ysgarmes â'i llyffetheiriau, yn mhell iawn iawn uwchlaw y cymylau. Ehedodd beirdd Cymreig yn uwch nag ef, ond nid oes un Cymro o ddyddiau Tydain tad awen hyd yr awr hon, wedi aros mor hir ar ei aden. Os nad ydyw mor danllyd âg amryw o'n beirdd, y mae ei wres yn gyson a gwastad. Ni chymerodd ddim mewn llaw heb ddyfod drwyddo fel dyn, ac heb ei gwblhau fel bardd. Ymwelodd â nefoedd, daear, ac uffern, ac er mai ar y ddaear yr oedd yn fwyaf cydnabyddus, yr oedd yn ddinesydd rhydd yn y ddau fyd arall. Gan ei fod wedi ymgadw mor agos at lythyren yr hanes ysgrythyrol, y mae yn anhawdd mesur eangder ei ddeall. ydym yn cael golwg arno fel hanesydd, athronydd, a gwladydd. Cara ymddangos yn y wisg syml o fardd Cymreig, ond yn y cymeriad mawreddawg o fardd Cristionogol. Er nad oedd yn gawr o ran athrylith, eto yr oedd yn gryfiawn. Nid oedd yn teimlo yr hunanhyder a welir mor amlwg yn Milton. Teimlai ef fod ei waith yn fawr, a'i lafur yn aruthrol. Yr oedd fel yn amheu ei nerth ar ol ei brofi. Y mae rhywbeth yn oruchel yn ei waith yn cyfansoddi Cywydd y Daran i "brofi nerth ei awenydd cyn dechreu Cywydd y Drindod." Edrychwch ar ei ddirdyniadau meddyliol-fel yr oedd yn troi i chwilio am destun i ymaflyd codwm âg ef. Meddyliodd am lesni y ddôl, ond ni wnai y tro. Clywai yr adar yn canu, ond ni wnai y tro. Edrychodd ar dreigliad ffrydiau gloewon y Dysynwy, ond ni lifai yr awen. Chwythai yr awel hwyrol, ond ni ysgogai tanau y delyn. Porai y deadelloedd defaid ar bryniau, ond nid oedd eu brefiadau yn deffro cydymdeimlad yr athrylith mawr oedd ar ymagor. Chwibanai y gwynt,-dyna dipyn o gynhyrfiad; -rhuai yr eigion-ac adruai mynwes y bardd-duai y cwmwl, a chronai ffrydlif y galon,-ymrwygai y daran, ac ymollyngai argae yr athrylith oedd i dywallt diluw o ogoniant ar lênyddiaeth ei wlad. Y daran a gyffyrddodd âg ysgogydd yr enaid-yr oedd y dwyfoldeb mewnol yn ymwybodol o nerth mawr iawn. Gwelir y briodoledd hon yn ei holl weithiau. Yr oedd yn ddynol ac yn wrol dros ben. Dichon y gellir esbonio y neillduolrwydd hwn âg amgylchiadau teuluaidd a helyntion boreuol yr awdwr. Ni bu erioed yn briod-hen lanc ydoedd. Yr oedd ei athrylith, gan hyny, heb ei fedyddio â dylanwadau teuluaidd. Yr oedd priodi a rhoddi i briodas, ac amlhad trigolion y byd drwy hyny, yn bethau lled ddirmygus yn ei

olwg. Darllener y rhan gyntaf o Gywydd y Diluw a chanfyddir nad yw yn darlunio y gweithrediadau hyn yn yr ymadroddion mwyaf detholedig bob amser. Nid oes argoel nwyf ar ei ganiadau. Lled debyg na chân neb yn dda ar deimladau tyner a theuluaidd ond y rhai a'u profasant. Gwelsom sylw yn ddiweddar, nad yw gweithiau bardd yn ddim heblaw ei feddwl ei hun. Yr oedd Milton yn Satan tra yn darlunio Satan, ac yn Gabriel pan yn dysgrifio yr archangel hwnw. Heb arwyddo ein cred mai gwir dilys ydyw hyn, yr ydym yn meddwl fod llawer o wirionedd ynddo. Ni's gallwn yn hawdd ymddangos ond yr hyn ydym. Y mae cyneddfau meddyliol dyn, fel ei ewynau corphorol, yn cael eu cryfhau drwy brofiad ac ymarferiad. Ni ddygesid Ďafydd Ionawr i fyny yn ysgol tynerwch, a gallasai yn fynych ffoi rhag ei gyfaill anwylaf ar yr heol, neu gau y drws yn ei wyneb. Yr oedd ef yn fwy parod i ymwneud â phalf yr arth, nac â throed yr ysbaengi cynffonlon. Mwy cydweddol â'i athrylith ef oedd diwreiddio derwen o wir nerth breichiau, na phigo blodau yn yr ardd. Gwr cadarn nerthol ydoedd ef. A pha fodd y deuodd felly? O'i flaen, yn mangre ei enedigaeth, yr oedd y môr mawr Ilydan; bob ochr iddo yr oedd bryniau uchel yn dyddiol gusanu y cymylau, a chreigiau aruthrol mynyddoedd Idris o'i ol yn herio cynddaredd y corwynt, ac yn gwatwor digofaint y dymhestl. I ba bwynt bynag y tröai ei olygon, cyfarfyddid ef gan fawredd. Nid oedd dim yn fychan o'i amgylch. Yr oedd adeiladaeth Hollalluawgrwydd i'w weled ar y cyfan. Yr hyn a ddaeth Syr Walter Scott yn Smailholme, a Byron yn Lochnagar, a ddaeth Dafydd Ionawr tua gwaelodion Craig y Deryn, a godre Cader Idris.

Pe y gofynid i ni gymharu athrylith y bardd ac athrylith eraill, ni a ddywedem ei fod yn dal yr un berthynas â'r beirdd ag a ddeil Meirionydd â Chymru. Mewn gair, math o Feirionydd ddeallawl ydoedd. Y mae yn Meirionydd bob cyflawnder. Felly yr oedd y bardd. Rhagora llawer swydd arni mewn amryw bethau, ac efallai bob swydd mewn rhai pethau. Ond y mae yn gyflawn iawn; nid oes ynddi braidd unpeth ar ol. Ceir y cyfan mewn graddau mwy neu lai o berffeithrwydd. Mae i rai siroedd eu ffynonau meddygol: nid ydyw Meirion hebddynt. I eraill y mae ffrydiau llawn o gyfleusderau llaw-weithiol; y mae Meirionydd yn llawn o honynt. Y mae llynoedd eang yn rhai siroedd; ond yn Meirion y gorwedd Llyn Tegid. Ceir yn rhai rhanau o'r wlad afonydd mordwyol; ceir hwynt hefyd yn Meirionydd. Ymffrostia rhai swyddau yn eu cynyrch amaethyddol; nid ydyw hithau heb ei rhan o hono. Er fod rhai parthau yn fwy ffafriol at besgiant anifeiliaid, gall hithau eu magu. Y mae i Gymru ei dyffrynoedd tlysion, a cheir rhai o'i gemau yn Meirionydd. Y mae llawer rhaiadr yn rhuo; mynych yr adseinir swn dyfroedd lawer yn ngwlad

y bardd. Rhai rhanau o'r wlad a hynodir gan olud tanddaearol; y mae creigiau Meirionydd wedi rhoddi ernes fod y llechi, y plwm, y pres, yr arian, a'r aur o'u mewn hwythau, a'u bod yn dysgwyl i Ragluniaeth osod yr allwedd yn llaw dyn. Enwogir rhai siroedd gan eu hadeiladau milwraidd; ond parhaodd pobl Meirion yn anorchfygedig heb gynhorthwyon o'r fath. Os oes ambell ran o'r wlad yn meddu ar fwy o ddanteithion, nid oes un lle yn perchen ymborth iachus yn fwy na Meirionydd. Gall ambell swydd ymffrostio mewn trefi gwychach; ni's gall un ymgystadlu â hi am fryniau prydferthach.

"Pob carn a welir arnynt
Sydd uchel Gapel i'r gwynt,
I chwythu, emynu mawl

Ar g'oedd, i'r Íok tragwyddawl."

Os yw Arfon yn uwch ei mynyddau, Meirionydd yw y fwyaf mynyddig. Y mae ei harucheledd yn gyfartal i'w chwaer ogleddol, a rhagora arni mewn amledd, amrywiaeth, a phrydferthwch. Os yw ei bryniau yn îs, y mae eu lliwiau yn well a'u ffurf yn harddach. Mewn gair, ceir ynddi gyflawnder. Nid ydyw yn gyfoethog iawn mewn rhai pethau, nac yn dlawd iawn mewn pethau eraill: "Duw a wnaeth y naill beth ar gyfer y llall.”

Rhywbeth yn debyg i hyna, yn ein bryd ni, ydoedd athrylith bardd y Drindod. Gellir ei gymharu o ran cyflawnder âg un genhedlaeth o feirdd Cymreig. Dichon y ceid llawer un yn rhagori arno yn hyn a'r llall, ond ni cheir neb mor gyflawn ag ef yn y diwedd. Fel y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant, felly hefyd y mae rhagor rhwng celfyddyd a nerth. Troediodd llawer bardd yn gyflymach na Dafydd Ionawr, ond ni throediodd un gyson, mor ddiflino, ac mor awdurdodol.

ADRAN IV.

YMRODDIAD.

mor

Nodwedd arall berthynol i athrylith Dafydd Ionawr ydoedd hollol ymgysegriad at ddyben pennodol. Perthyn y brydwedd hon i'r tueddiadau moesol yn fwy nag i'r elfenau deallol. Yr oedd ef yn byw i bwrpas, ac yn canu i ddyben. Gwelodd waith heb ei wneuthur, teimlodd y gallai ef ei wneuthur, ac efe a'i gwnaeth. Ond yr oedd ef yn wr boneddig; tlodion yw y cyffredin o feirdd Cymru. Nid yw yn ngallu ond ychydig o'n beirdd ymroddi i'w galwedigaeth nefol. Gallodd Dafydd Ionawr hyny, ond pris yr ymroddiad oedd ei etifeddiaeth. Dyna wobr ddaearol awdwr Cywydd y Drindod am wasanaethu ei genedl. Prin yr oedd Milton mor ddiddiolch: derbyniodd ef bumpunt. Nid yn unig yr oedd ei waith yn fawr, ond yr oedd y draul o'i gyflawni yn aruthr. Mewn anhunedd, mewn afiechyd, mewn trallod, ac mewn ing, cysegrodd holl

« PoprzedniaDalej »