Obrazy na stronie
PDF
ePub

ADRAN I.

CYNLLUN A NODWEDD CYWYDD Y DRINDOD.

Prif waith Dafydd Ionawr,-gorchest fawr ei fywyd, ac udgorn soniarus ei anfarwoldeb,-ydyw Cywydd y Drindod. I hwn yr ymgysegrodd, yr ymroddodd, ac yr ymaberthodd. Hwn oedd breuddwyd ei ieuenctyd, bywyd ei ganol oed, a gofal ei henaint. I hwn y cysegrodd ei amser, ei alluoedd, ei feddianau, a'i fywyd. Er cynyrchu hwn y meiddiodd ddigder tad eithaf annhadol, yr ymwrthododd â chysuron cartref, y cofleidiodd iselder, ac y dirmygodd gyfoeth, y daeth yn wrthrych dirmyg, ac fel creadur deoledig o fysg dynion. Er ei fod yn byw mewn cymdeithas, nid oedd yn ei mwynhau; ac er y cynelid ei gorph yn debyg i gyrph dynion eraill, nid oedd i'w enaid na rhan na chyfran yn ngweithrediadau cyffredin eu meddyliau. Yr oedd ei ran ysbrydol yn dirmygu syniad y cnawd, yn ymddifyru yn mawrion weithredoedd, ac yn cymdeithasu âg amlygiadau gogoneddus y DRINDOD. Ni bu Nazaread erioed yn fwy neillduedig, na merthyr yn fwy

ymdrechgar. Pe gosodasai y Mawredd

ef yn rhaglyw ar y ddaear, ni's gallasai ymroddi yn fwy trylwyr i'w wasanaeth nag y darfu yn nghyfansoddiad ei orchestwaith awenyddol. Cyflwynodd Homer ei feddwl i helyntion boreol Groeg, Virgil i amgylchiadau cynarol Rhufain, Walter Scott i henafiaeth Scotland, Milton i Baradwys, a Dafydd Ionawr i Dduw. Ni anfonwyd ef i fyw iddo ei hunan, ond i Dduw; nid yr eiddo ei hun oedd ei dalent, ond yr eiddo Duw; nid efe oedd perchen ei etifeddiaeth, ond Duw ; nid oedd mwynderau bywyd wedi eu gwneud er ei fwyn ef, ond er mwyn gwasanaethu Duw; ei waith ef oedd aberthu ei hun i Dduw yn yr oll ag ydoedd ac a berthynai iddo, yn NGHYWYDD Y Drindod.

Gelwir y caniad nodedig hwn gan ei
awdwr yn
"Gân Arwraidd." Dichon
nad ydyw yr enw yn hollol briodol, gan
nad yw yr amser a gymerir i fyny mewn
cân arwraidd yn ymestyn dros ysbaid
mor helaeth o amser ac a ddarlunir yn
Nghywydd y Drindod. Gofyna cân
arwraidd am nn weithred fawr yn destun,
yr hon a raid fod yn gyflawn ynddi ei
hun. Caniadau arwraidd yw yr "Iliad,"
yr "Eneid,"
," "Coll Gwynfa," ac "Adgy-
fodiad" Eben Fardd. Mae eu gwrth-
rychau yn aruthr; ond nid yw amser eu
gweithrediadau ond byr. O'r tu arall y
mae Cywydd y Drindod yn dechreu

"Cyn bod yr haul di draul draw,
Wawl enwog, yn olwynaw,"

ac yn ymestyn o ddyddiau afrifedig yr
Hen Ddihenydd drwy oesoedd amser,
hyd nes

"I'r Nef gu yr â Naf gwyn!
Ei dda dyrfa ddiderfyn

A gyd-ymgyfyd ag Ef

I lawenydd y loywnef.

Yna rhydd Dofydd i'w Dad
Y wenfawr deyrnas iawnfad,
Ac yna bydd Ion gwiwnef
Oll yn oll yn llywio Nef.

Ac nid ydyw ei awen yn diffygio nac yn
dystewi hyd nes yw ei llais unig a gwan
yn cael ei lyncu i fyny gan swn y

"Caniad newydd, dedwydd dôn
Aneirif delynorion

A leinw y wlad lawenaf
A mawl gogoneddawl Naf!"

Meddyliem ni mai rhyw gyfansoddiad
rhwng Hanes-gerdd a Chan Arwraidd
ydyw Cywydd y Drindod, am ei fod yn
hanesol yn ei ddull, ac yn arwrol yn ei
ddyben. Y dyben yw dadgan gogoniant
y Drindod; y dull ydyw adrodd gweith-
redoedd y Personau dwyfol yn nghread-
igaeth a phrynedigaeth dyn.
Ar ryw
olygiadau gellir dweyd fod Cywydd
Ioseph a Chywydd y Diluw yn dwyn
mwy o ddelw cân arwraidd na'r gwaith
dan sylw; ond nid ydynt hwythau yn
gynlluniau perffaith.

Course of Time," neu Yrfa Amser, gan

Y gwaith tebycaf o ran dull i Gywydd
Drindod y gwyddom am dano ydyw

Robert Pollok. Nid oes nemawr o
wahaniaeth yn y cynllun, ond fod Dafydd
Ionawr wedi myned at y gwaith yn enw
a nerth ei awen ei hun, tra y gosododd
Pollok ei gân yn ngenau bodau eraill.
Esgynodd Pollok i'r nefoedd drwy ddar-
lunio dau o drigolion y ddaear wedi
cyrhaedd yno yn cael eu cyfarfod gan
un o ysbrydion gwynfyd, yr hwn a'u
hola am hanes gweithrediadau Duw.
Ond gan nad oedd y tri wedi bod yn
mharadwys nemawr o amser, y maent
yn myned at fardd gogoneddedig, yr hwn
a ddarlunia y Greadigaeth a Gyrfa Amser
iddynt. Ond nid oedd ar Dafydd Ionawr
eisiau y peirianwaith hwn. Yr oedd ei
awen ef yn barod i'r gwaith,-yr oedd
wedi profi ei nerth, ac nid oedd eisiau
ond ei chyfarch. Gan mai "merch
paradwys" ydoedd, nid croes i'w hanian
oedd troi ei hwyneb tuag yno. Dywed y
bardd wrthi,-

"Fe'th anwyd o'r faith wiwnef,
Ehêd, yn Nuw, hyd y Nef."

A chan fod yn y Nef gynifer o dywysog-
aethau ac awdurdodau, ac o feibion
gwynion gogoniant, y mae hithau, er
mwyn deall ei gwaith, yn gofyn,-

"I bwy'r euraf bêr araith,
Anfarwol, sylweddol waith?"

Nid afreidiol ychwaith y dealltwriaeth
Cymru fel wedi colli pob cymdeithas â,
hwn, oblegid ystyriai y bardd fod awen
ac adnabyddiaeth o, Dduw. Yr oedd
wedi ei adael ef, ac wedi myned i ym-
gyfathrachu â boneddigion, menywod, a
chwn hela. Edrychai y bardd ar ei
llygrwyr gyda diystyrwch, ac ar ei cham-
arferwyr gyda dirmyg. Yn ei farwnad i

Iorwerth Rhisiart o Ystradmeurig, yr hwn a hunodd yn y fl. 1777, dywed,

"Ac ar ol ei farwolaeth

E fydd awenydd yn waeth:
Rhwng ynfydion gwylltion gau
Hi dawodd yn y Deau;

Aeth beirdd Deheubarth i'w bedd,
A gweiniaid yw beirdd Gwynedd,"

oblegid yr oeddynt yn y cyffredin wedi

"Soddi i ffol fasweddiaith."

O herwydd yr annhrefn alarus yma mae y bardd yn penderfynu y cysegrid galluoedd yr awen i'r dyben uchelaf, ac yn ei hysbysu y gofynid ganddi am "bêr araith, anfarwol sylweddol waith," i'r hwn yn unig oedd yn deilwng o hono,

"I fâd Ior y Nef dirion,
Unig fendigedig Ion.

Hyddysg bid dy gerdd hoywddoeth,
Tywynned tân dy gân goeth."

Ac ar yr amnaid, ymafla yr awen yn ei gwaith, a dilyna ef o lwyrfryd calon heb droi i'r dde na'r aswy. (Gwel tudal. 166, llinell 1-12.) Dyna yr ysbryd yn mha un y dechreuodd ei gorchwyl. Ni a ymdrechwn bellach ddilyn ei llwybrau drwy fwrw golwg gyffredinol ar ei "hanfarwol sylweddol waith."

O ran ei gynllun y mae Cywydd y Drindod wedi ei ranu yn dair rhan, ac wedi ei fwriadu er darlunio gweithredoedd neillduol pob un o'r Personau yn y Drindod Santaidd. Cawn y Tad yn creu a rheoli, y Mab yn prynu, a'r Ysbryd Glan yn santeiddio. Yn y rhagymadrodd i'r argraffiad cyntaf, yr oedd rhaniad y Cywydd yn cael ei osod i lawr yn eglur. Mae yr argraffiad presenol wedi ei fawr eangu, ond cynwys eto yr un seiliau, ac ymlynir wrth yr un cynllun, er fod y defnyddiau wedi eu hychwanegu. Ni chynwysai yr argraffiad cyntaf ond 11,006 o linellau, ond ceir yn hwn 13,606. ran dosbarthiad, y maent yr un, ac wedi eu rhanu yn ddeg caniad. Fel hyn yr ydym yn gweled fod y cynllun yn dra eang, a bod y bardd wedi cymeryd llawer o drafferth i'w lanw i fyny. Buasai cymharu y ddau argraffiad yn dra dyddorol, ond ni oddef ein terfynau i ni gynyg hyn, er y gallasai fod yn ddefnyddiol i ddarlunio addfediad meddwl yr awdwr at wahanol ranau o'r gwaith.

ADRAN II.

CYNWYSIAD CYWYDD Y DRINDOD.

Y Rhan Gyntaf.

[ocr errors]

Wedi anerch ei awen, a gosod ei hunan mewn hwyl, mae yr awdwr yn dysgrifio mawredd Duw. Mae yr adran hon yn rhoddi golwg ar ei syniadau am y Drindod. (Gwel tudal. 49, llinell 17-40.) Efallai na waranta anianyddiaeth gywirdeb y gymhariaeth a ddefnyddir, eto gesyd allan mai dyben y bardd oedd

canu mawl yr Un Bod Anfeidrol, fel ei hamlygir yn yr ysgrythyrau dan y gwahanol gymeriadau, neu yn hytrach y dynodiadau (distinctions) o Dad, Mab, ac Ysbryd.

Wedi i'r bardd amlygu rhesymoldeb ei waith yn canu i'r Drindod fel hyn, darlunir cwymp yr angylion, creadigaeth y bydoedd, creadigaeth dyn, syniadau Adda wrtho ei hunan, ei ymofyniad am ei Grewr, ei weledigaeth o'r nef mewn breuddwyd yn yr hon y mynegir iddo am ffyrdd Duw a'i orchymynion, enwi y creaduriaid ganddo, ei awydd am ymgeledd gymhwys, a chreadigaeth Efa, yn yr hon y mae yn ymhyfrydu gyda llawenydd annhraethadwy. Ond nid yw i hir fwynhau y dedwyddwch a'i cylchynai. Y mae uffern isod yn ymgynhyrfu am ail feddu y nefoedd; ac ar ei gylchdaith ysbiawl i ymweled â'r bydoedd, mae Satan yn canfod Adda a'i briod, ac, fel yr oedd yn naturiol i un wedi colli pob gwynfyd, yn edrych ar eu cyflwr dedwydd gyda llid mawr. Rhybuddir Adda o ymosodiad bwriadol yr archelyn gan Seraph, ymddyddanion yr hwn a adroddir ganddo i Efa yn ystod y dydd yr ymwelodd â hwy. Nid yw y rhan gyntaf yn yr argraffiad hwn ond 894 o linellau, tra yr oedd yn 1570 yn y cyntaf. Cyfeiriwn y darllenydd at y llinellau o 621 hyd 670, er gweled darluniad tlws a llithrig o fwynderau ein cynriaint yn eu cartref dedwydd. Yr Ail Ran.

O 756 o linellau yn yr argraffiad cyntaf mae y caniad yma wedi ymestyn yn hwn i 2930. Caniad y cwymp a'i effeithiau galarus ydyw, a darlunir ef gyda llawer o fedr a chyflawnder. Yn y dechreu

"I'w frad-waith arferedig

Brysiai, Ddiawl, mewn berw-ias ddig,"

i astudio a threfnu y moddion priodol i arwain Adda ac Efa i wrthryfela yn erbyn Duw. Yna adroddir gyda manylrwydd yr amgylchiadau a arweiniasant i'r codwm erchyll. Rhoddir dysgrifiadau rhagorol o ymddyddanion ein cynriaint, y swynion oedd yn en hamgylchu, a'r modd y treulient eu dyddiau. Dilynai Satan hwy gyda chraffder ellyllaidd, gan wylio ar eu holl lwybrau. Cyn hir y mae Efa yn teimlo awydd am ymadael âg Adda wrth fyned allan i waith y dydd. Gwelir yr ymddyddan yn llin. 462-576. Yma dengys y darlun fod y bardd wedi sylwi ar y natur ddynol, druan! Y mae Adda mor llawn o serch a moesau da ag y gallasai priodfab fod. Yr oedd moroedd o hynawsedd yn ei galon, a chyfodai ymchwydd y tonau i'w ben, nes anmharu gweithrediadau barn a deall. Caredigrwydd oedd y cwbl: llyncid rhybudd y Seraph i anghof gan ei wanegau.

Yr

oedd Efa hefyd yn serchog dros ben, ac am fwynhau diliau melusaf dedwyddwch teuluaidd, ond ei gael yn ei ffordd ei hun.

Ond pan yr oedd Adda yn debyg o'i chroesi, yna, druan o honi! yr oedd ei dedwyddwch yn darfod, ac nid oedd

iddi mwyach gysur o'i bywyd. Yr oedd yr holl greadigaeth yn cael mwy o ryddid na hi; yr oedd yr anifeiliaid yn fwy eu braint, a'r gwylltfilod yn fwy eu dedwyddwch! Yr oedd hi yn cael mwy o gam nag un peth. Ni welsai erioed y fath beth na chawsai ychydig o'i hewyllys, a synai fod Adda yn gallu bod mor galongaled wrthi. Yr oedd yn sicr nad oedd yn ei charu fel y dywedai, nac fel y dylasai. A dyna Adda, druan, yn mron tori ei galon gan ofid, ac yn ngwresawgrwydd ei dosturi yn "ymdoddi fel cwyr gan roddi iddi lawn ryddid i fwynhau yr holl hyfrydwch a chwenychai ei chalon! Yna crwydra ar ei hunigol hynt; dilynir hi gan y sarph, yr hon a'i darbwylla i brofi y ffrwyth gwaharddedig, nes

"Oh ddiriaid weithred ddyrys!
Tynnodd, hi brofodd mewn brys."

"

Dyna y cyfan drosodd, ac ar ddyfodiad Adda y mae yn prysuro i gynyg y "ffrwyth gwiwlon" gydag "ael ddigywilydd" iddo yntau. Ar fyrder y mae yn ei gymeryd rhwng bodd ac anfodd. Cyfnewidia eu teimladau, ac ymbruddhaodd anian. Darfyddodd eu meddwdod a dechreuant gydgyhuddo eu gilydd. Cymerodd dystawrwydd le yn y nef, nes i'r ail Berson ymrwymo i ateb i'r farn, ac yna dadseiniodd gân ogoniant. Wedi hyny, rhodia yr Arglwydd drwy Eden gydag awel y dydd, gwysir y troseddwyr o'i flaen, a chyhoeddir eu dedfryd. Yna lleddir yr aberthau, rhoddir yr addewid am Had y wraig, ac alltudir ein cynriaint o'r baradwys deg oedd wedi bod yn olygfa eu byr wynfyd. Ceir darluniad o'u teimladau, ac o'r effaith ar y greadigaeth yn 11. 1224-1282. Ffoa Satan yn ol i'w İys, dylifa yr ellyllon ger ei frou, pan yn mysg cochfellt o eigion y cwmwl pygddu y trawsffurfir hwynt yn "wynnias seirph ennynnawg," ac ar syrthiad

"Sur a phoenfawr Sarph anferth," dianc yr archelyn ymaith gyda brys cythreulig.

Yna dilynir hanes Adda ac Efa ar ol eu deoliad o Eden, ac adroddir lluaws o'u hymddyddanion. Yr olygfa ar eu deffroad y boreu cyntaf sydd wir naturiol (11. 1327-1640), a hyderwn y darllenir hi drosodd a throsodd drachefn.

Mae yn

paentio gwahanol deimladau â lliwiau rhy ddynol i'w hesgeuluso. Ad-dala breuddwyd Efa hefyd am ad-ddarlleniad manwl.

Ar ol hyn y mae Satan yn cael hamdden i adrodd ei lwyddiant i'r gethern, nes ydynt yn barod i'w addoli, ac yn prysuro i'r ddaear, yr hon a gyrhaeddant pan mae Adda ac Efa ar weddi. Tarfwyd Satan a'i dyrfa gan yr olwg fel y gorfu arnynt gilio ymaith mewn dychryn. Yna rhoddir darluniad 0 Gain ac Abel (11. 2341-2434). Yn hwn hysbysir ni, ond ni wyddom ar ba awdurdod, mai

"Duwiesau brïodasant,

Dwy chwaer gain gywrain a gânt."

Nid oedd yr hen fardd wedi darparu gwragedd iddynt ar y cyntaf, ond aeth yn awr i le digon annhebygol i'w hymofyn. Rhaid oedd iddynt eu cael o rywle, ac os o fysg y duwiesau y daethant, yr ydym yn ofni na chawsant byth olyniaid.

Er mwyned oedd tymer Abel, nid oedd dim byw gyda Chain. Rhoddir darluniad tarawiadol o wahanol gymeriadau y ddau frawd yn llinellau 2443-2504. radd i radd cawn Cain yn ymlidio fwyfwy yn erbyn ei frawd, ac yn ymgaledu mwy yn erbyn ei rieni hefyd, nes yn y diwedd y lladdodd ei frawd! Yna darlunia y bardd ei deimladau ingol; ond y mae yn amheus genym a fuasai llofrudd wedi hir feithrin malais yn ei galon yn teimlo edifeirwch am ei gyflafan mor fuan ag y dysgrifir. Meddyliem fod yr ateb i'r ymholiad, "Mae Abel dy frawd?" yn cadarnhau yr un golygiad. Terfyna y caniad hwn gyda dysgrifiad byr o Gain yn dwyn "pwn o dan," yn nghyd â chrybwylliad am enedigaeth Seth.

Y Drydedd Ran.

Yn yr argraffiad presenol cymerir i fyny yr hanes yn y rhan hon yn y lle gadawsid ef ar ddiwedd y rhan flaenaf yn y cyntaf. Ni chyrhaeddai yr ail ran ond hyd ddinystr dinasoedd y gwastadedd yn hwnw, ond yn awr ymestyn hyd farwolaeth Joseph, yr hyn a derfynai y drydedd ran yn y cyntaf. Meithder y ddau ganiad cyntefig oedd 2460 o linellau, ac nid yw hwn ond 2526.

Er i'n cynrieni gael mab gan yr Arglwydd yn lle Cain, eto gwelsant nad oedd amlhad preswylwyr y byd yn cynyddu ei ddedwyddwch. Dangosir hyn yn agoriad y rhan dan sylw, ac yna darlunir yr amgylchiadau cysylltiedig â'r Diluw:

"Hyd eigion damnedigaeth

Barn Duw yn ddiluw a ddaeth."

Soddwyd y byd cyfan mewn distryw ond Noah a'i dylwyth, y rhai a arbedwyd fel hadau y byd newydd.

Ail ddechreuwyd byw, ond ni buwyd yn hir cyn cyfarfod â chymysgedd Babel a phrysur ailymlygriad yr hil ddynol. Yn y dirywiad hwn drachefn gofalodd Duw am un gwr i feddwl am ei enw, ac i roddi ufudd-dod i'w orchymynion, a geilw y bardd ar ei awen i draethu

"Mewn mwyn fodd ymadrodd mêl,
Hynaws gerth hanes y gwr
A gredodd i'w Greawdwr."

iad o ymadawiad Abraham â'i fro enedYna mewn acenion melys cawn adroddigol, ei deithiau, ei helyntion, ei ryfeloedd, ei dderbyniad o'r addewid, a'r cyflawniad o honi. Erbyn hyn yr ydoedd y byd wedi myned yn ddrwg iawn drachefn-mor ddrwg nes y penderfynodd Duw ddamnio dinasoedd y gwastadedd â dymchweliad, i fod er rhybudd i eraill, (gwel tudal. 86, 11, 499-512.) Yn mhen

enyd cyfododd tymhestl drom ar Abraham. Dyma archiad oddiwrth Dduw yr addewid ar iddo fyned ac aberthu mab ei obaith! ac er mai

"Rhuso wnai cyfraith rheswm,"

y mae pob peth yn cael ei barotoi, dechreuir y daith,cyrhaeddir bryn marwolaeth, cymer yr ymholiad cynhyrfus am oen y poethoffrwm le, ac wele Isaac yn ymostwng i'w dynged gyda'r cyfaddefiad duwiolfrydig,

"Ti'n ddiau bïau'm bywyd,
Duw'r duwiau! Ti biau'r byd."

Mae yr aberth yn barod, a'r aberthwr wedi codi ei law; ond wele lef o'r Nef yn gorchymyn iddo ryddhau y llanc! a syrthia ei law yn ol mewn cryndod. Dychwel y tad a'r mab adref mewn llawenydd; treulia weddill ei oes yn ngwlad yr addewid, ac yn angau ei briod, cymer feddiant beddrod ynddi :

"Yn Nghanaan fâd, wlad liwdeg,
Hunent hwy mewn henaint têg."

Gyda golwg ar gyfansoddiad y caniad hwn hyd yma, nid ydyw mor orchestol a'r ddau gyntaf. Rhed yn lled arwynebol dros y cyfan, oddigerth hanes Abraham, taith yr hwn i ben Moriah a osodir allan gyda bywiogrwydd a theimlad nodedig. Y dernyn a gyflwynir i'r Diluw ydyw y grymusaf o ran cyfansoddiad, ond cawn eto gyfarfod â'r testun hwn yn un o weithiau eraill y bardd. Aeth heibio i losgiad dinasoedd y gwastadedd heb ddadguddio ond ychydig o'i nerth.

Yr

oedd cosbi pechaduriaid, a dial ar elynion Duw mor gydweddol ac unol â'i deimlad, nes ydyw yn syndod na buasai yn gwlawio ar y Sodomiaid annedwydd fwy o "faglau tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus" nag a wnaeth. Syndod na wnaethai dymhestl o ddialedd, ond yn lle hyny nid oes ond "Torchawg gwmwl tew erchyll," a rheiedr o "dân, a brwmstan, a braw" yn croch ruo o hwnw. Cyflwynir y rhan olaf o'r caniad i hanes Joseph yn yr hwn y cawn eto gyfarfod yn un o weithiau y bardd. Ni ymhelaethwn arno o ganlyniad yn y lle hwn.

Y Bedwaredd Ran.

brenin, y pläau, a'r mynediad allan o'r Aipht mewn 120. Erlyniad Pharaoh a'i lu ar eu hol, agoriad y môr, boddiad yr Aiphtiaid, a chynhwrf yr Israeliaid yn erbyn Moses mewn ychydig dros 120; rhoddiad y ddeddf, crwydriadau yr anialwch, a marwolaeth Moses, a gynwysir mewn tua 84; llithrir dros fynediad yr Israeliaid i Ganaan, Josuah a'r barnwyr hyd ddyddiau Saul mewn llai na 50 llinell. Ond erbyn hyn y mae y bardd wedi dyfod at destun rhy gydweddol â'i deimlad i fyned heibio iddo yn fyrbwyll. Y mae Philistiad dienwaededig-a chawr o Philistiad dienwaededig, wedi cablu byddinoedd y Duw byw, ac er, efallai, mai hyny a allasid ddysgwyl iddo wneud, ac y gallasai tymer farddonol faddeu iddo am hyny, ond gan iddo gablu Duw Israel ei hunan, y mae awen a holl enaid y bardd yn ymarfogi ac yn myned allan gyda Dafydd i ymosod arno. Yma y mae wrth ei fodd: saif mor ddiysgog a chraig yn wyneb Goliath, a llawenha ei holl galon wrth weled

"Y garreg, yn bur gywrain,
Gyd â nerth, o'i law gerth gain,
Yn chwern yr aeth dan chwyrnu
Yn bellen i'w dalcen du."

Ha! ha! dyna ef i lawr ar ei wyneb; ac er mai ar y llanerch werdd, welltog, esmwyth, y syrthiodd, eto i glust y bardd

"Swnfawr y cwympai'r cawr certh,
Yr ynfyd arwr anferth."t

megys disgyniad derwen dalog yn ei llawn dwf, ac yn orlwythog o frddail Ie, dyna ef i lawr, ond beth yn

Mai. nesaf?

"Rhedodd, mewn dirfawr hyder,
Calonnog enneiniog Nêr
At y cawr ar lawr, oer loes,
Yno ar derfyn einioes:
Tynnodd, e gymm'rodd y gwr
Arswydus gleddau'r sawdwr;
Trodd yn awr y gloywfawr gledd
I deilwng roi'r dialedd."

Ah! a welwch chwi

"Ei fawr ben mewn diferwaed,

Mewn

A'i gledd yn gochwedd mewn gwaed!" A dyna awen Dafydd Ionawr yn llamu ac yn curo ei dwylaw mewn gorfoledd am fod danedd y "ci dienwaededig" wedi eu tori, a'i safn wedi ei bythol gau! Gall ei awen a'i amynedd gyflwyno 334 o linellau at fuddugoliaeth y "Drindod" ar elyn beiddiol a chableddus. yn ychydig dros gant arall rhedir dros hanes Dafydd, Solomon, a'r brenhinoedd dilynol hyd ddinystr Senacherib, gyda'r hyn y terfynir y caniad. Meddwl yr ydym mai y darluniad o wyrthiau Moses a phläau yr Aipht ydyw y mwyaf grymus a barddonol o'i fewn, er fod y bardd yn fwy yn ei elfen yn dial ar Goliath.

Y cyfnod a gymerir i mewn yn y rhaniad hwn yw o farwolaeth Joseph hyd ddinystr byddin Senacherib. Ei feithder ydyw 1034 o linellau; y nifer yr argraffiad cyntaf oedd 982, o ganlyniad nid yw yn cynwys ond ychydig ychwanegiad. Yn y rhanau arweiniol darlunir cynydd yr Israeliaid, a chyfodiad y "brenin gerwin gwyllt" yr hwn a roddes orchymyn "i ladd y bechgyn o lid;" arweinir ni at hanes Moses. Adroddir ei hanes o'i enedigaeth hyd ei fynediad i dir Midian mewn 104 llinell; i weledigaeth y berth yn llosgi, ymddyddan Moses â Duw a'i ddychweliad i'r Aipht cyflwynir o gylch 80; traethir am ei genadwri at y

Gwnaeth yr Awdwr y byrdra hwn i fyuy yn ei"Farddoniaeth Gristionogawl."

+ Gwelir fod y llinellau uchod wedi eu newid yn yr argraffiad hwn, ac ofnwn mai nid er gwell.

Y Bumed Ran.

Yn yr argraffiad cyntaf cynwysai y caniad hwn 1270 o linellau; ond yn hwn y mae wedi ei eangu i 1314. Dechreua gyda theyrnasiad Ahaz, a hanes Esay, o brophwydoliaethau efengylaidd yr hwn y rhoddir darluniadau helaeth. Telir sylw neillduol i'w ragfynegiadau eglur a gogoneddus am y Messia, a diweddir y rhan o'r gân a gyflwynir iddo drwy gynghaneddu y 53ain bennod o'i lyfr. Yna dilynir hanes y prophwydi eraill, crybwyllir am y caethgludiad Babilon, dysgrifir cyf

yngderau yr Iuddewon mewn bro estronol, a gofal y "Drindod" am ei blant gwrthnysig, hyd yn nod pan yn eu ceryddu am eu beiau. Adroddir diogeliad y genedl drwy offerynoldeb Mordecai ac Esther yn lled fanwl, ond wrth ystyried mor hoff oedd y bardd o weled dymchweliad gelynion Duw, mae braidd yn syndod iddo ymlithro gyda ffrwd yr hanes, heb edrych yn hwy ar grogiad Haman, ond gadawyd Haman a'r crogbren i ymdaro fel y gallent gyda eu gilydd, ac adroddir am ailadeiliadiad y deml, y dychweliad o'r caethiwed, ail ddirywiad y genedl, a gorphwysiad prophwydoliaeth gyda Malachi, yn mherson yr hwn

[ocr errors][merged small][merged small]

y

"A mi'n fachgen dan sèn sur,
Cydymmaith cu diammhur,
Ac etto yn rhodio'n rhwydd
Yn oedran diniweidrwydd," &c.

dechreuasai Ꭹ bardd Gywydd y Drindod, ac mai ailfeddwl o'i eiddo oedd myned dros hanes y cread, ac amgylchiadau y byd mor fanwl ag y darfu. Yr oeddym wedi profi (i'n boddlonrwydd ein hunain) mai y rhanau olaf o'r gwaith a gyfansoddasid gyntaf; ond sicrheir ni oddiar dystiolaeth y bardd ei hun mai nid felly yr oedd; ond fod y cynllun gwreiddiol yn cynwys yr hyn oll oedd yn yr argraffiad cyntaf. Ac er ein bod yn barnu fod ein hardybiau ni yn lled gywrain, eto nid ydynt yn ddigon nerthol wyrdroi gwydnder faith. Gall y darllenydd a ewyllysio ddyfalu ein rhesymau astudio y llinellau 673-780, ac ond odid na chenfydd fod yn rhaid cael rhyw esboniad arnynt. Dywedir i ni mai rheswm y bardd dros orphwys gyda therfyniad hanes yr Hen Destament oedd digalondid o herwydd rhyw gyfyngdra amgylchiadol yr oedd ynddo ar y pryd. Buy gorphwysiad mor hir nes y rhoddodd

bob gobaith am allu cwblhau ei fwriad i fyny. Ac yr oedd wedi teimlo cymaint oddiwrth ei anhawsderau a'r profedigaethau a gafodd, fel na's gallasai wrth ail ymaflyd yn ei waith lai na chyfansoddi y llinellau 618-672.

ymweliad yr angel & Zecharia i addaw Ar ol y darnau a nodasom darlunir glywed y fath newydd, mab iddo, syndod yr hen offeiriad wrth a'r arwydd ceryddol a dderbyniodd. Yna traethir am dduwioldeb Heli tad Mair, ei ddiwydtyner hithau yn canu rwydd yn addysgu ei ferch, a'i serch

"Gwawd esmwyth gyda dwsmel"

â'i " genau mêl" iddo yn ei henaint. Fel yr oedd yn cynyddu mewn maint ac iawn addysg yr oedd pryder ei thad am dani yn ychwanegu. Yn ei anhwyldeb olaf y mae yr hen wr yn adrodd iddi weledigaeth, yn yr hon y dadguddiesid iddo y buasai yn wrthrych ymweliad neillduol y Nef, ac ar ddiwedd ei adroddiad

[blocks in formation]

Y cyfnod cynwysedig yn y rhan hon sydd o ymweliad Mair ag Elizabeth. Yn yr argraffiad cyntaf yr oedd 1176 o linellau, ac yn yr un presenol 1184. Dechreua y caniad gyda darluniad o Satan pan wybu am ddyfodiad Crist, a'i araith wrth y lluoedd colledig. Ni's gwyddom paham y dygir Satan yn mlaen yn awr i'w boeni cyn yr amser, oblegid nid ydym yn meddwl y credai y bardd yn hollwybodaeth y gelyn ddyn, ac nid hawdd meddwl fod ymweliadau yr angelion â Zecharia a Mair wedi rhoddi iddo un achos cyfreithlawn i gynhyrfu. Ond dygir ef i'r amlwg amryw weithiau yn y rhan hon, megys ar enedigaeth Crist, ei ymddyddan â'r doctoriaid yn y deml, ac yn amser ei demtiad. Efallai

fod y bardd yn ystyried Satan fel gwrthwynebydd i'r Drindod dan bob amgylchiad, ac mai dyna ei reswm am yr hyn a nodwyd. Dyna, beth bynag, yw ein cred ni, ond ein bod yn barnu mai y dull mwyaf rhesymol, gan nad beth am farddonol, ydyw ei arddangos yn wrthwynebwr gweithrediadau yn

« PoprzedniaDalej »