Obrazy na stronie
PDF
ePub

cerdded yn arafaidd a'i ddwylaw ymhleth o'r tu ol iddo, a'i ffon yn un o honynt, a'i olygon tua'r ddaear, heb wneud y sylw lleiaf o na boneddig na gwreng sydd yn ei gyfarfod. Ni welwyd pâr o lygaid erioed a mwy o enaid yn pelydru trwyddynt, nac ystum a cherddediad mwy annybynol, boneddigaidd, a deallawl. Gellid meddwl fod pob gewyn yn ei gorph o'i goryn i'w sawdl yn orlawn o synwyr. Ac er ei fod yn 70 mlwydd oed y mae y “tân awenyddawl” yn ei enaid mor danbaid ag y bu erioed. Dacw fo dros y gamfa i'r marian. Am beth amser cerdda yn ei ddull arafaidd a digynnwrf cyffredin, ond cyn hir dacw y pendil-yr hen ffon-yn dechreu symud yn ol ac yn mlaen, arwydd anffaeledig fod y clock meddyliol oddifewn yn dechreu gweithio; ond dyna hi yn stopio etto, y mae rhyw ddyryswch yo rhywle ;-ha! dacw air i'r dim wedi ei gael, a llam mor heinyf â'r llwdn asyn gwyllt, a hearty laugh a churo dwylaw egnïol ydyw y canlyniad! Dacw ei het oddiar ei ben, er mwyn i'r “ tân santaidd,” efallai, gael llwybr mwy clir ac uniongyrchol o'r Nefoedd i mewn i'w ymenydd. Saif yn ddisymwth,--tery ei het am ei ben; edrycha yn synfyfyriol tua'r ddaear, yna i fyny ar benau y mynyddoedd o'i amgylch ;-pwyntia a'i law o'r naill gwr o'r ffurfafen i'r llall gyda'r golygon mwyaf tanbaid, gan floeddio rhywbeth,-rhyw linellau oedd newydd eu cyfansoddi, mae yn ddiamau, gyda'r Mais a'r ystum mwyaf awdurdodol. Yna ymafla yn nghantal ei het, a thry hi yn ffyrnig y tu ol ymlaen, arwydd anifaeledig o foddhad dirfawr yn y llinellau a adroddasai ;-tafla ei ffon ymaith â'i holl nerth, yna rheda â'i holl egni dan neidio, chwerthin, a churo ei ddwylaw, tuag atti. A welwyd dyn erioed yn fwy yn ei elfen na'r hen greadur acw ? Un diwrnod yr oedd yn cerdded yn ol ac ymlaen ar hyd ben clawdd pridd isel ar lan yr afon Wnion. Cyn hir llyncwyd ei feddwl i fyny gan ei destun;-anghofiodd ei hun, neu, yn hytrach, y dibyn cul yr oedd yn cerdded arno; -wrth edrych i fyny, yn lle i lawr, fel y dylasai yn y lle hwnnw, boed a fynno, rboddodd gam-domar ei ben i'r afon. Ond er i'w fywyd fyned bron yo aberth i'w Awen nid oerodd y drochfa hon serch yr hen Fardd yn y gradd lleiaf tuag atti, ond yn unig at y lle hwnnu. Nid aeth yno byth mwy. Llawer prydnawn difyr a dreuliodd yn gwneud ei “starts theatricfel hyn ar wastadlawr hyfryd y marian hwn. Yr oedd edrych ar yr hen wr yn y fath ffwdan gyda'r

# Shifts and turns,
The expedients and inventions multiform
To which the mind resorts in chase of terms,
Though apt, yet coy, and difficult to win,

yn olygfa eithaf benffol a chwerthinllyd ar yr olwg gyntaf, fel yr oedd “chase” y naturiaethwr brwdfrydig ac enwog Syr Joseph Banks ar ol y gloywyn byw gynt dros gloddiau a chaeau, ffosydd a phyllau, nes iddo o'r diwedd ei ddal, er ei fod bron a cholli ei wynt. Ac etto os edrychwn i mewn iddi-i'w hathroniaeth, yr oedd yn olygfa ddifrifol ac addysgiadol, se, goddefer i ni ychwanegu, wir fawreddog hefyd. Pa olygfa fwy felly na dyn o ddifrif yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i gydfarwolion: -enaid a'i holl egni gyda'r gwaith yr ymaflodd ynddo :-yspryd ar dân gan ardderchawgrwydd a phwysigrwydd dirfawr ei waith a thestun ei fyfyrdod. Dyma y syniad oedd ganddo ef am y dull y dylid ymwneud â phethau mawrion Duw. Os eu prydyddu, prydyddu â'r holl enaid; os eu pregethu, pregethu hefyd yr un modd. Nis gallai yr hen Fardd hwn ddim meddwl am ymwneud â phethau mor anfeidrol ogoneddus a phwysig yn ysgafn, hannerog, ac megys o hyd breichiau, fel y gwelwn y rhan fwyaf o'r dysgawdwyr crefyddol yn gwneud. Pan ofynwyd iddo gan gyfaill paham yr oedd efe, yn wahanol i holl Feirdd eraill Cymru, yn cyfyngu ei hun mor hollol i destunau crefyddol, rhoddodd iddo yr atteb tarawiadol a ganlyn,"Os ydyw crefydd yn ddim, y mae yn bobpeth i ddyn: yr anffyddiwr a'r merthyr yn unig sydd yn gysson â'u proffes.”

Syniadau isel oedd ganddo am Ymneillduwyr, oblegid eu bod yn codi dynion hollol anllythyrenog i waith mor bwysig a pbregethu yr Efengyl, ac yn eu gadael wedi hynny “i ymrwystro å negeseuau y bywyd hwn.” Ond gwrandawai yn ewyllysgar ar John Elias, Christmas Evans, Mr. Charles o'r Bala, ac ychydig eraill a farnai efe yn ddynion talentog a chydwybodol yn eu gwaith. Ystyriai Mr. Elias yr engraifft berffeithiaf o bregethwr a gododd erioed yn Nghymru, a chlywsom iddo gostio yn ddrud i un offeiriad yn Môn am geisio dynwared “y Methodist penboeth hwnnw" yn pregethu i ddifyrú cwmpeini o'i gyd-eglwyswyr, ymha un y dygwyddodd Mr. Richards fod yn bresennol yn ystod un o'i ymweliadau achlysurol â'i gyf. eillion yn yr ynyg honno. Wedi i'r gwr ddiweddu, er cryn foddhad i'r cyffredin o'r gwyddfodolion, cododd Mr. Richards ar ei draed, a chyda gwedd ddifrifol a digllawn galwodd y troseddwr parchedig i gyfrif; a darllenodd iddo lith mor sarcastic ac argyhoeddiadol fel nad oedd achos am ail lith i roddi terfyn ar y dull gwaradwyddus ac anfoneddigaidd hwnnw o drin eu cydwladwr hyawdl a chydwybodol. Parchai y dyn taleptog a chydwybodol o ba enwad bynnag y byddai. Y gwir yw, talent oedd pob peth ganddo ef. Talent, nid cyfoeth, oedd ei safon ef i fesur teilyngdod ei gyd-ddynion. Parchai dalent yn y wisg fwyaf carpiog, dirmygai ddyini yn y boneddwr mwyaf rhwysgfawr. Y rhan ddeallaw) a moesol yn unig o nodweddiad dyn a brisiai. Nid oedd gweinidogion y cysegr eu hunain yn eithriadau

[ocr errors]

i'r rheol hon. Heb dalent ni phrisiai y gown du ond yn ol hyn a hyn y llath; ïe, nid oedd ond yn gwneud y gwr a'i gwisgai yn fwy dirmygus yn ei olwg. Heb hyn yr un peth ganddo ef fuasai i'r Esgob osod ei droed ar ben y gwr â gosod ei law arno yn ei urddiad i'r swydd.

Yn 1821 cyhoeddodd Gywydd y Diluw, ac, er mawr foddhad i'w ddysgwyliadau pryderus, cafodd dderbyniad helaethach a gwresocach gan ei gydwladwyr nag un o'i Weithiau blaenorol. Dywedai wrth ei gyfansoddi mai hwn a fyddai y Gwaith diweddaf o unrhyw bwys, y diweddaf mewn cyssylltiad a “nerthol, anfarwol fawrwaith" ei fywyd, a gyfansoddai. Amcanai i hwn fod y goreu hefyd yn gystal â'r diweddaf o'i Weithiau. A'i farn ef ydoedd mai hwn ydyw y goreu. Yr oedd y testun yn fwy cydweddol â chwaeth ei Awen na thestunau ei Weithiau blaenorol. Ymddangosodd adolygiadau o waith y Parch. Walter Davies ac eraill arno yn y gwahanol gylchgronau, oll yn nodedig o ganmoliaethol iddo. Cyn ei argraffu cymmerodd gohebiaeth le trwy gyfryngwriaeth yr Esgob Burgess o St. Davids rhwng Mr. Richards a Chymdeithas y Gwyneddigion yn y Brifddinas ynghylch ei gynnorthwyo i gyhoeddi argraffiad dwyieithawg hardd o hono yn un gyfrol. Ymddengys oddiwrth lythyrau yr Esgob a Mr. Richards at eu gilydd y teimlaiei Arglwyddiaeth gryn ddyddoriant yn y Bardd byth wedi darllen Cywydd y Drindod yn ddamweiniol pan yn teithio trwy y Gogledd yn 1794. Gwna gyfeiriadau tra chanmoliaethol at rai rhanau o'r Cywydd. Gobebent â'u gilydd yn achlysurol byth wedi hynny. Ond rhywfodd pi lwyddodd ei Arglwyddiaeth yn yr ymgais caredig uchod, ond derbyniodd Mr. Richards y llythyr a ganlyn oddiwrth y Gymdeithas.

Llundain, Awst laf. 1821. ANWYL SYR,-Na feddyliwch fy mod yn hoffi neu yn arferyd gwediaith pan ddywedwyf na pbrofais gymaint o hyfrydwch wrth ysgrifenu odid un llythyr erioed ag wyf yn deimlo wrth ddechreu hwn. Rhaid bod y dyn, yn wir, a all ymgyfeillachu a'r doeth a dysgedig heb i hyny lenwi ei fynwes a'r dedwyddwch mwyaf, fod yn amddifad o bob amgyffred. Ond gwybyddwch nad wyf yn awr yn eich anerch yn gyfrinachol ond yn swyddogol, sef trwy ddeisy fiad ac yn enw Cymdeithas y Gwyneddigion i'ch hysbysu eu bod (gan ystyried a chydaabod eich doniau rhagorol fel Bardd, a'ch diwydrwydd yn cynnal a choleddu yr iaith Gymraeg, drwy gyfansoddi a chyhoeddi y fath nifer o Weithiau gorchestol ynddi) gwedi eich ethol yn Aelod Gohebol o'u banrhydeddus Gymdeithas. Os yw yn alluog rhagori ar y dywenydd a gefais wrth ymddyddan â chwi yng Nghymru, yn awr yr wyf yn teimlo y rhagoriaeth hyny, yn yr hyfrydwch o'ch cyfarch fal cyfaill, fal cydlafurwr, a chydaelod o un o'r Cymdeithasau mwyaf clod fawr trwy y byd. * # * Ona fuasech yn bresenol i weled gyda y fath wresawgrwydd ac upfryd y darfuom eich ethol! Pe b'ai un dystiolaeth yn angheurheidiol, e fuasai yr amgylchiad hwn yn arddangos i chwi ac i'r byd, Syr, barodrwydd eio Cymdeithas i barchu y sawl sydd yn haeddu parch; ac mor adnabyddus ydoedd o'ch haeddianoldeb chwi o'r fath anrbyd. edd. Hir fywyd a llawn fwyniant o iechyd f'o i chwi; hir y parbäoch i dderbyn parch ein gwlad a chariad eich cyfeillion yw fy neisyfiad o'm calon. Hyfryd fyddai gan ein Cymdeithas eich gweled yn ein plith, a byddwch sicr nad oes un a deimla yr hyfrydwch hyny yn fwy na'ch

Ufuddaf Wasanaethydd South Sea Chambers, Threadneedle Street.

GRIFFITH JONES Dolgellau) Cofiadur. Rhydd y ffaith ganlynol ddirnadaeth eglur mor llwyr yr ymgysegrai y Bardd i'w waith tra yn cyfansoddi ei brif Weithiau. Pan oedd yn cyfansoddi Cywydd y Diluw ymwelodd Dewi Wyn ag ef, a dyma fel yr adroddai Dewi hanes y croesau a gafodd wrth ei gyfaill, y Parch. Morris Williams, Amlwch;-"Pan oeddwn yn Nolgellau aethum i alw hefo Dafydd Ionawr, ond prin y cymmerodd yn sylw o honof; dywedodd wrthyf ei fod yn bur brysur; ni ofynodd i mi gymmaint âg eistedd i lawr; yr hen ddyn mwyaf trwyngur a welais erioed â'm llygaid." lë dyma y derbyniad annghroesawus a gafodd hyd yn oed yr anfarwol Ddewi Wyn! Bron yr un croesaw a gawsai y brenin George ei hun gan yr hen Fardd pan y byddai rhywbethpwysig ganddo yn yr esgoreddfa. Byddai mor bryderus rhag colli drychfeddwl, ac, yn enwedig, yspryd y gwaith, fel na wnai sylw o na boneddig na gwreng yn ystod yr amser hwnnw. Cawsai Dewi dderbyniad tra gwahanol ganddo mewn amgylchiadau cyffredin. Yr oedd Dewi Wyn a Bardd Nantglyn yn eithriadau arbenig i'r syniadau isel oedd ganddo am deilyngdod awenyddol y cyffredin o brif Feirdd yr oes honno. Teimlai fwy o ddyddordeb yn Dewi nag un Bardd arall, oblegid iddo brophwydo am dano, pan nad oedd etto ond 18 mlwydd oed, fel y gwelir yn ei lythyr atto, y deuai yn Fardd enwog. Ymffrostiai yn Dewi Wyn hefyd fel engraifft argyhoeddiadol o'r anghyfiawnder a'r piwaid a häerai efe a ddilynent Eisteddfodau. Haerai ef fod ennill y gwobrwyon yn ymddybynu yn hollol ar ddamwain a mympwy y beirniaid; -nad oedd i ganiad ennill y wobr yn un prawf mai honno a'i teilyngai, ac os hi a'i teilyngai, nad oedd hynny yn profi mai ei bawdwr hi oedd y Bardd goreu, na, dim ond mai felly y dygwyddasai y tro hwnnw. Dynion mor lychain â'r "Dryw" yn cael eu cadeirio a'u moli, a dynion mawr, eryraidd fel Dewi Wyn yn cael eu dibrisio a'u darostwng. Attaliai y fath “chwareu-plant,” fel y galwai Eisteddfodau, ein Beirdd goreu i gysegru eu talentau i gyfansoddi Gweithiau sylweddol a helaeth a fyddent yn goffadwriaeth deilwng ar eu hol o alluoedd eu Hawen. Mynnai ef i bob dyn ymdrechu am y gamp uchel o gael “ wedi marw lefaru etto" yn ei waith wrth ei oloesolion, Credai yn dra hyderus y cai ef y ragorfraint hon. Y llinellau barddonol diweddaf a gyfansoddodd oedd,

Fy ngwaith, pan af i faith fedd,
Trueiniaid gweiniaid Gwynedd
Yn dra llon a'i darllenant,
Annisbur gysur a gânt.

Rhoddai y meddwl hwn hyfrydwch annhraethol iddo. Wedi cyhoeddi Cywydd y Diluw ystyriai ei yrfa farddonol ar ben. Ychydig o fân ganeuon heb fod mewn unrhyw gyssylltiad â Gwaith mawr ei fywyd oedd y cwbl a gyfansoddodd ar ol hyn. Daeth yn fwy rhydd a chymdeithasgar, ac nid oedd neb a allai lenwi ei le yn y cylch cymdeithasol yn anrhydeddusach na'r “hen Richards, Bryntirion." Yr oedd yn sarcastic nodedig tuag at wyr rhodresgar neu gellweirus. "Pa sawl llinell sydd mewn englyn, Mr. Richards?” gofynai rhyw wr a fynnai ddangos ei hun yn fwy o ffwl nag ydoedd er mwyn tynnu scwrs gyda'r hen Fardd. “Awyddoch chwi pa sawl troed sydd gan fuí?" attebai yntau. I ba dy bynnag yr elai ei arferiad gwastadol oedd dweyd ar y trothwy wrth fyned i mewn gyda difrifoldeb perffaith apostolaidd, “Tangnefedd yn y ty hwn." Ar ol cyhoeddiad Cywydd y Diluw derbyniodd luaws 7 lythyrau oddiwrth yr Esgobion Warren o Bangor a Burgess o St. Davids, Baron Richards, Owen Williams, Ysw. Craig y Don, ac eraill, yn ei annog yn daer i gyhoeddi argraffiad cyflawn o'i boll Weithiau yn un gyfrol, gan addaw bod yn bob cynnorthwy a chefnogaeth iddo yn y gwaith i sicrhâu gwerthiad helaeth i'r gyfrol. Ond ni wnaeth un sylw o'r annogaethau byn. Teimlai fod "ei awr ef yn neshâu." Treuliodd y rhan fwyaf o'r blynyddau olaf hyn o'i oes mewn darllen a myfyrio yn ei fyfyrgell. Ni ddarllenodd fwy yn ystod unrhyw ran o'i oes nag a wnaeth y blynyddau hyn.

Mai 11, 1827, yr oedd yr hen Fardd mor iach a siriol ag un amser; bwytaodd ei swper, ac aeth i'w wely fel arferol, heb unrhyw anhwyldeb pennodol. Gwahoddesid ef i fyned y dydd canlynol i giniawa at Mr. & Mrs. Williams, Fronwnion. Merch hynaf Mr. Jones, Bryntirion, ydyw Mrs. Williams; hi hefyd oedd favourite yr hen Fardd; ac ychydig cyn hyn y llwyddasai Mr. Williams i'w ymddifadu o'i chymdeithas gartref. Arferai yr hen foneddwr, fel y nodasom yn flaenorol, aros yn iled hir yn ei wely y boreu. Gadawai y teulu iddo gael ei amser ei hun i ddyfod i lawr i gael ei foreufwyd. Ond gan ei bod y diwrnod hwnnw yn agos i bryd ciniaw cyn iddo ddyfod i lawr o'i ystafell, ofnid ei fod wedi anghofio ei ymrwymiad i fyned i'r Fronwnion. Anfonwyd un o'r morwynion (o enau yr hon y cawsom yr hanes) i fyny i'w adgoffa o hynny. Galwai wrth ddrws ei ystafell, ond nid oedd neb yn atteb; curai y drws, ond nid oedd yr un arwydd fod Mr. Richards yn clywed; agorai y drws, a galwai arno wrth ei enw, ond yr un mor aflwyddiannus. Yr oedd yn gorwedd yn dawel yn ei wely ar ei ochr, a'i law dan ei ben, a “Telemachus," gwaith y duwiol a'r doniol Fenelon, Archesgob Cambray, yn agored a'i wyneb i lawr ar y gobenydd yn ei ymyl. Ymddangosai yn cysgu yn drwm. Wrth graffu gwelai liw ei wynebpryd yn llawer gwynach nag arferol, -ei lygaid wedi cilio i mewn,-dim swn anadliad, -pa ryfedd !--nid oedd yno ddim anadliad, yr oedd y peiriant wedi sefyll,

yr oedd yr hen foneddwr wedi marw!-wedi marw yn hollol fel y clywsid ef yn fynych fynych yn dweyd y dymunai farw,-yn ddisymuth ac heb ddim poen. Gallesid tybied oddiwrth ffurf ei wynebpryd ac ystum naturiol ei gorph na bu yn y poen na'r cynnwrf lleiaf yn awr ymddattodiad yr enaid a'r corph oddiwrth eu gilydd. Fel Pedr gynt, ymryddhasai yr yspryd carcharedig o'i lyffetheiriau, a diangasai yn ddistaw o'i garchar tra yr oedd y ceidwaid yn cysgu. Cynnaliwyd trengholiad ar y corph, a'r rheithfarn oedd, “Bu farw trwy ymweliad Duw." Hebryngwyd ef i'r bedd gan nifer o foneddigion gwahoddedig. Gorwedda byd “y dydd hwnnw" yn Mynwent Newydd y dref hon.

Yn 1849 cyfodwyd cofgolofn hardd, gwerth ynghylch £30.o barch i'w goffadwriaeth. gan ei gyfaill, y Parch. John Jones, Borthwnog. Pe cawsai y Bardd ei ddymuniad ni welsid byth gymmaint â chareg i nodi allan"" y gweryd lle mae'n gorwedd.” Ni fyopai i neb eilio cofadail i gadw ei enw ef mewn coffadwriaeth, ond yr un a eiliasai ef ei hun yn ei fywyd-ei Waith.

"Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd, rhodd ei farble yn ei le;
A 'sgrifenodd arno'i enw a llyth'renau pur y Ne'."

Yr oedd hyn oll yn berffaith nodweddiadol (characteristic) o hono ef. Ond er fod y golofn hon wedi ei chyfodi yn groes i egwyddorion a dymuniad yr hen Fardd ei hun, teilyoga gwladgarwch a haelioni Mr. Jones ein cymmeradwyaeth gwresocaf fel cenedl am roddi y deyrnged hardd hon o warogaeth i deilyngdod llenyddol uchel Mr. Richards fel Prif-fardd ei oes, ac o barch i'w goffadwriaeth fel ei gyfaill personol. Y mae y golofn ynghylch 5 llath o uchder. Ar un ochr iddi y mae “BEDD DAFYDD IONAWR. BU FARW MAI 12, 1827. EI OEDRAN 76." Ar ochr arall ceir “M. S. BARDI CHRISTIANI MERVINIENSIS. OB. A. D. 1827. ÆTAT. SUÆ 76." Ac ar ochr arall, “ RevD. J. JONES, A. M. DE YNYSFAIG POSUIT."

Yma rhaid i ni derfynu ein Cofiant. Ceir yn y gyfrol hon autobiography cyflawn o weithrediadau ei feddwl yn ystod y 60 mlynedd diweddaf o'i oes; a hyderwn yr erys ei waith yn Gofiant oesol i'w gydwladwyr o'i dalentau ysplenydd, ei egwyddorion cywir, ei yspryd duwiolfrydig, a'i hunangysegriad llwyr i wasanaeth ei Greawdwr a'i gydgenedl fel BARDD CRISTIONOGOL CYMREIG.

DAFYDD IONAWR.

PENNOD 1.

ATHRYLITH A BARDDONIAETH.

Nid gorchwyl hawdd ydyw darlunio | Chwaeth ydyw y gynneddf sydd yn ein athrylith bardd, gan nad ydyw llênorion galluogi i ganfod mân feiau, a manylion yn gyffredin yn cytuno am natur bardd prydferthwch. Y mae chwaeth yn dal oniaeth nac athrylith. Ymddangosant canwyll i ddangos prydferthwch darlun; fel yn bethau rhy ysbrydol i'w dadchwilio y mae athrylith yn rhuthro å ffilamen yn

fel edafedd gwawn yn nhês Gorphenaf, ei law i ddangos gogoniant natur. Gall yn brydferth iawn,- ond yn hollol anni dychymyg fod yn fywiog, a chyflym, a chonadwy i ymaflyd ynddynt, a'u dar- | chraffus, ond yn ddiamcan a diaddysg. Y lunio yn fanwl. Haws yw rhoddi darlun mae athrylith ar y llaw arall yn llawn o iad nacaol o honynt na dywedyd dim yn addysg, ac yn meddu cyflawnder. Nid gadarnhaol. Yn gyffredin, y darnodiad brwdfrydedd ychwaith ydyw athrylith. goreu a ellir roddi o honynt ydyw rhyw- Gall yr ymladdwr a'r penboethddyn fod beth annarluniadwy. Edrychai y paentiwr yn eithaf brwdfrydig, ond ni's gall ond enwog, Syr Josuah Reynolds, unwaith ar athrylith ysgwyd anian gyda llef ddystaw ddarlun, ac wedi iddo syllu arno am fain. "Athrylith ydyw llef gerddorol yr ychydig, gofynwyd ei farn am dano, enaid grymus a charuaidd ; llais ydyw o *0," meddai, "ý mae yn dda iawn, y eigionau ysbryd dyn; lleferydd naturiol ffurf yn dda iawn, y lliwiau yn dda iawn, ac anwrthwynebolun sydd wedi ei ac nis gellir ei feio; ond y mae arno ddylanwadu gan gynhyrfiad tebyg i'r eisieu-y mae arno eisieu-y mae arno gwynt, yr hwn sydd yn chwythu lle y eisieu hyna," gan glecian ei fys a'i fawd myno ydyw; ni wyr "o ba le y mae yn uwch ei ben. Yr oedd y darlun yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned.” amddifad o athrylith, ac o ganlyniad yr Llinyn dirgelaidd ydyw i gyrhaedd y oedd arno eisieu yr hyna nas gallai Syr | galon ;-ysgrifell a gyfarwyddir gan law Josuah gael gair priodol i'w ddysgrifio. öruwchnaturiol;-udgorn, yr hwn sydd Yr oedd medr a chelfyddyd ynddo, ond yn seinio fel “swn dyfroedd lawer." Os yr oedd hyna ar ol; ac felly yr oedd yn edrychir arno mewn ystyr feddyliol, synddiffygiol. Gellir cyfarfod â gweithiau yn iad gwreiddiol ydyw; os edrychir arno meddu medrusrwydd, talent, chwaeih, fel elfen feirniadol, gallu cynhyrfiol a dychymyg, a brwdfrydedd, ond eto yn dylanwadol ydyw; ac mewn ystyr foesol, amddifad o athrylith. Gall medrusrwydd | rhaid ei olygu fel prydferthwch a phurdeb ddeongli dychymygion, rheoli rhifydd lysbrydol. Efe ydyw y ffynon o'r hon y iaeth, a chofio darnau eang o ddyfyniadau tarddodd pob peth mawr; efe ydyw y o wahanol natur, neu ddirwyn rhimynau wreichionen a gynyrchodd ser a heuliau. annberfynol o fydriadau, dynwared gwa- | Efe ydyw gwreiddyn gwyddor, a chrëydd hanol awdwyr, gwlawio cawodydd o celfyddyd. Nid ydyw byth yn huno nac frawddegau poblogaidd, a gwneuthur pob yn hepian, ond y mae yn rhodio y ddaear peth mewn gwirionedd na fydd yn gofyn yn barbaus, ac nid oes gan nerth marwolam galon i'w wneuthur. Athrylith yn aeth awdurdod arno. Unwaith y genir uniga all lefaru o'r galon. Gallu i ef ni's gall beidio a byw, ymsymud, a bod. feddwl yn fanwl a grymus drachefn ydyw Y darluniad mwyaf cyffredin o farddtalent. Y mae talent yn gyffredin naill | oniaeth ydyw,- iaith y dycbymyg wedi ai yn digaregu y ffordd o flaen athrylith, ei fywiogi a'i gynhyrfu gan deimlad, ac neu yn ei ddilyn er gweini iddo ar ei wedi ei gwisgo mewn mesur priodol ;holl deithiau. “Medrusrwydd,” fel y math o gelfyddyd greadigol yn rhoddi dywed Gilfillan, “sydd yn gwneuthur y ffurf a bywyd i ansoddau. Celfyddyd dychymyg a'r digrifwch a'r chwerthiniad; ydyw sydd yu troi pethau yn bersonáu. talent sydd yn cyfansoddi y feirniadaeth; Nid ydyw mesur yn hanfodol iddi, ond ond athrylith sydd yn creu cyndybiad yn gyffredin y mae, fel gwas y gog, yn ei (hypothesis a barddoniaeth. Mae medr dilyn. Fel 'addurniadau priod ferch, y usrwydd yn efelychu, talent yn barnu, mae yn ei phrydferthu, ac yn ei gwneud ac athrylith yn creu. Y mae medrus yn llawer mwy rheoledig i'r cof. Y mae rwydd yn swyno y lluaws, talent yn fel cerddoriaeth yn melysu cân, ac am rheoli yrannysgedig, ond y mae athrylith hyny arferir ef yn gyffredinol. Os naill ai yn hyfrydwch 'neu ddychryn edrychir ar farddoniaeth mewn cymharcyffredinol.” Gall y dyn medrus weithio iaeth â gwyddorion eraill, dichon y gellir yn mhob tywydd, gall y talentawg fod ei dysgrifio megys math o undeb rhwng bob amser yn barod, ond y mae i'r priforchestion ymarferol celfyddyd âg atbrylithgarei amserau a'i dymorau. addurniadau gwyddor. Ymwna â'r syn.

mreig yo gender

[ocr errors]

wyrau, y deall, y teimlad, a'r dychymyg; ddangos yno. Gwaherddir corph o dduwa geilw i weithrediad y priodoleddau inyddiaeth mewn cân, a gwgir ar athronmwyaf dyrchafedig ac ysbrydol mewn iaeth mewn cerdd. Y mae i bob peth ei dyn. Cyfyd ysbrydolrwydd ei natur yn le priodol, ond ni ddylid gwneud duwinmhell uwchlaw amgylchiadau cyffredin, yddiaeth ac athroniaeth yn ffrwythau a dyry i bob peth y cyffyrddo âg ef afael gwaharddedig i'r awen. ddwysach nag a allai gael mewn un ffordd Hwyrach nad oes o fewn cylch llenyddarall. Mae yn wir y gall y dylanwad hwn iaeth y byd ddysgrifiad mwy prydferth a fod er drwg neu er da, eithr nid yw hyn gwirioneddol o elfenau athrylith farddond prawf pellach o'i gysylltiad â natur onol nag a gynwys yr hen Driad Cyysbrydol dyn. Ni byddai swynion angby mreig ;- Tri® phrif anhebgor Awen: medroldeb yn gyflawn heb “gân y medd llygad yn gweled anian ; calon yn teimlo won,” ac ni byddai hyfrydwch crefydd anian; a glewder a faidd gydfyned ag yn berffaith heb “salmau, hymnau, ac anian.” Äthrylith bardi ydyw teithi odlau ysbrydol.” Gwna y bardd waith neu nodwedd ei awen. Yn ol y graddau tebyg, ond mwy gorchestol, i'r meddwl, y byddo yn gweled, yn teimlo, ac yn i'r hyn a wna yr ardebydd i'r llygad. cydfyned âg anian, can belled a hyny y Gall y darluniwr roddi ffurf a lliw ar ei | bydd yn athrylithgar. Ei weithiau ydyw waith, ond gall y bardd roddi bywyd yn yr amlygiadau o'i athrylith. Hwy sydd ei gân. Gall yr ardebydd roddi lliw coch yn dangos “dirgel ddyn y galon." Amar y lliain gwyn, ond rhaid cael y bardd i lygiadau anian sydd yn dangos ei handdangos mai

sawdd: ymddangosiadau bodau neu

ansoddau ysbrydol sydd yn egluro eu “Llithrig yw'r palmant llathrwyn, natur. Felly hefyd cynyrchion athrylith Môr gwaed ar y marmor gwyn.

sydd yn esbonio ei nodweddiad. Amlyga

Pont Britannia athrylith Stephenson, Pan yn defnyddio mesur, dynesa y bardd dengys yr agerddbeiriant athrylith Watt, at y cerddor, drwy foddhau y glust. cyhoedda y Palas Grisial athrylith PaxYmwela hefyd â thir yr ardebydd, nid ton, ac esbonia "Coll Gwynfa" athrylith drwy gymhorth lliwiau a lliain, ond drwy Milton. Bytholir athrylith Demosthenes gynyrchu yn y meddwl y ffurf a'r lliwiau yn ei areithiau, Plato yn ei draethodau priodol drwy offerynoliaeth y teimlad. a'i ymddyddanion, Euclid yn ei ddaearGallai yr ardebydd lunio nant neu ffrwd fesureg, Shakspeare yn ei chwareuon, gyda medrusrwydd, ond ni's medr ei Ellis Wyn yn ei "Fardd Cwsg," a gwneud yn

Dafydd Ionawr yn " Nghywydd y Drin

dod?” Rhaid i'ni, gan hyny, ddynesu “Elfen denau ysblenydd,

yn wylaidd i bresenoldeb yr oracl, a Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd,"

gwrando yn ofalus ar ei gwersi Nid

ydym mewn lle cyffredin, ond yn un o fel y gall dwy linell v bardd. Apelia y gelloedd mwyaf cysegredig athrylith, ar bardd bob amser at y galon a'r teimladau, furiau yr hon y mae yn ddarluniedig ond nid yw oblegid hyny heb wrandawiad fawrion weithredoedd y Drindod, ar allor yn llys y deall. Mae yn wir nad yw yr hon y llosga marwor y Nefoedd, ac yn pawb yn berffaith foddlawn iddo ym- | yr hon y llafara y lleferydd anfarwol.

PENNOD II.

GWEITHIAU DAFYDD IONAWR.

Cynwysa y rhestr ganlynol holl weithiau y bardd, yn nghyd â lle ac amser eu cyhoeddiad:

Yn lle dilyn y dull cyffredin o wneuthur nodiadau ar athrylith yn gyntaf, ac yna dadchwilio ei gweithiau, ni a edrychwn dros weithiau Dafydd Ionawr, ac ar ol eu chwilio a'u rhanu er dangos eu neillduolion a'u prydferthwch, ni a ymdrechwn alw sylw at nodweddau pennodol ei athrylith. Yr ydym wedi dywedyd yn barod mai drwy ei weithiau y mae adnabod atbrylith y bardd, a da y gallwn ddywedyd wrth y sawl a ymofyno am brofiono athrylith awdwr Cywydd y Drindod a Chywydd y Diluw,-"#drych o'th amgylch,” oblegid os na chanfyddir ef yn ei weithiau, ofnwn mai gwaith ofer fydd i ni ymdrechu ei ddangos.

Cywydd y Drindod......... Gwrecsham, 1793.
Y Mil Blynyddau .......... Dolgellau, 1799.
Cywydd Ioseph...... ...... Dolgellau, 1809.
Barddoniaeth Gristionogawl, Dolgellau, 1815.
Cywydd y Diluw........... Dolgellau, 1821.

Heblaw y cyfansoddiadau uchod, ysgrifenodd amryw ddarnau byrion eraill, y rhai ni alwant am sylw yn bresenol. Y tri gwaith ar y rhai y gorpbwys ei enwogrwydd yn benaf ydynt Gywydd y Drindod, Cywydd Ioseph, á Chywydd y Diluw.

« PoprzedniaDalej »