Obrazy na stronie
PDF
ePub

cerdded yn arafaidd a'i ddwylaw ymhleth o'r tu ol iddo, a'i ffon yn un o honynt, a'i olygon tua'r ddaear, heb wneud y sylw lleiaf o na boneddig na gwreng sydd yn ei gyfarfod. Ni welwyd pâr o lygaid erioed a mwy o enaid yn pelydru trwyddynt, nac ystum a cherddediad mwy anny bynol, boneddigaidd, a deallawl. Gellid meddwi fod pob gewyn yn ei gorph o'i goryn i'w sawd yn orlawn o synwyr. Ac er ei fod yn 70 mlwydd oed y mae y "tân awenyddawl" yn ei enaid mor danbaid ag y bu erioed. Dacw fo dros y gamfa i'r marian. Am beth amser cerdda yn ei ddull arafaidd a digynnwrf cyffredin, ond cyn hir dacw y pendil-yr hen ffon-yn dechreu symud yn ol ac yn mlaen, arwydd anffaeledig fod y clock meddyliol oddifewn yn dechreu gweithio; ond dyna hi yn stopio etto, y mae rhyw ddyryswch yn rhywle;-ha! dacw air i'r dim wedi ei gael, a llam mor heinyf â'r llwdn asyn gwyllt, a hearty laugh a churo dwylaw egnïol ydyw y canlyniad! Dacw ei het oddiar ei ben, er mwyn i'r "tân santaidd," efallai, gael llwybr mwy clir ac uniongyrchol o'r Nefoedd i mewn i'w ymenydd. Saif yn ddisymwth,-tery ei het am ei ben;-edrycha yn synfyfyriol tua'r ddaear, yna i fyny ar benau y mynyddoedd o'i amgylch-pwyntia â'i law o'r naill gwr o'r ffurfafen i'r llall gyda'r golygon mwyaf tanbaid, gan floeddio rhywbeth,-rhyw linellau oedd newydd eu cyfansoddi, mae yn ddiamau, gyda'r llais a'r ystum mwyaf awdurdodol. Yna ymafla yn nghantal ei het, a thry hi yn ffyrnig y tu ol ymlaen, arwydd anffaeledig o foddhad dirfawr yn y llinellau a adroddasai;-tafla ei ffon ymaith â'i holl nerth, yna rheda â'i holl egni dan neidio, chwerthin, a churo ei ddwylaw, tuag atti. A welwyd dyn erioed yn fwy yn ei elfen na'r hen greadur aew? Un diwrnod yr oedd yn cerdded yn ol ac ymlaen ar hyd ben clawdd pridd isel ar lan yr afon Wnion. Cyn hir llyncwyd ei feddwl i fyny gan ei destun; anghofiodd ei hun, neu, yn hytrach, y dibyn cul yr oedd yn cerdded arno; -wrth edrych i fyny, yn lle i lawr, fel y dylasai yn y lle hwnnw, boed a fynno, rhoddodd gam-do-ar ei ben i'r afon. Ond er i'w fywyd fyned bron yn aberth i'w Awen nid oerodd y drochfa hon serch yr hen Fardd yn y gradd lleiaf tuag atti, ond yn unig at y lle hwnnw. Nid aeth yno byth mwy. Llawer prydnawn difyr a dreulfodd yn gwneud ei "starts theatric" fel hyn ar wastadlawr hyfryd y marian hwn. Yr oedd edrych ar yr hen wr yn y fath ffwdan gyda'r

Shifts and turns,

The expedients and inventions multiform
To which the mind resorts in chase of terms,
Though apt, yet coy, and difficult to win,

yn olygfa eithaf benffol a chwerthinllyd ar yr olwg gyntaf, fel yr oedd "chase naturiaethwr brwdfrydig ac enwog Syr Joseph Banks ar ol y gloywyn byw gynt dros gloddiau a chaeau, ffosydd a phyllau, nes iddo o'r diwedd ei ddal, er ei fod bron a cholli ei wynt. Ac etto os edrychwn i mewn iddi-i'w hathroniaeth, yr oedd yn olygfa ddifrifol ac addysgiadol, ie, goddefer i ni ychwanegu, wir fawreddog hefyd. Pa olygfa fwy felly na dyn o ddifrif yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i gydfarwolion: -enaid â'i holl egni gyda'r gwaith yr ymaflodd ynddo:-yspryd ar dân gan ardderchawgrwydd a phwysigrwydd dirfawr ei waith a thestun ei fyfyrdod. Dyma y syniad oedd ganddo ef am y dull y dylid ymwneud â phethau mawrion Duw. Ös eu prydyddu, prydyddu a'r holl enaid; os eu pregethu, pregethu hefyd yr un modd. Nis gallai yr hen Fardd hwn ddim meddwl am ymwneud â phethau mor anfeidrol ogoneddus a phwysig yn ysgafn, hannerog, ac megys o hyd breichiau, fel y gwelwn y rhan fwyaf o'n dysgawdwyr crefyddol yn gwneud. Pan ofynwyd iddo gan gyfaill paham yr oedd efe, yn wahanol i holl Feirdd eraill Cymru, yn cyfyngu ei hun mor hollol i destunau crefyddol, rhoddodd iddo yr atteb tarawiadol a ganlyn,-"Os ydyw crefydd yn ddim, y mae yn bobpeth i ddyn: yr anffyddiwr a'r merthyr yn unig sydd yn gysson â'u proffes."

Syniadau isel oedd ganddo am Ymneillduwyr, oblegid eu bod yn codi dynion hollol anllythyrenog i waith mor bwysig a phregethu yr Efengyl, ac yn eu gadael wedi hynny "i ymrwystro â negeseuau y bywyd hwn." Ond gwrandawai yn ewyllysgar ar John Elias, Christmas Evans, Mr. Charles o'r Bala, ac ychydig eraill a farnai efe yn ddynion talentog a chydwybodol yn eu gwaith. Ystyriai Mr. Elias yr engraifft berffeithiaf o bregethwr a gododd erioed yn Nghymru, a chlywsom iddo gostio yn ddrud i un offeiriad yn Môn am geisio dynwared "y Methodist penboeth hwnnw "" yn pregethu i ddifyru cwmpeini o'i gyd-eglwyswyr, ymha un y dygwyddodd Mr. Richards fod yn bresennol yn ystod un o'i ymweliadau achlysurol a'i gyf. eillion yn yr ynys honno. Wedi i'r gwr ddiweddu, er cryn foddhad i'r cyffredin o'r gwyddfodolion, cododd Mr. Richards ar ei draed, a chyda gwedd ddifrifol a digllawn galwodd y troseddwr parchedig i gyfrif; a darllenodd iddo lith mor sarcastic ac argyhoeddiadol fel nad oedd achos am ail lith i roddi terfyn ar y dull gwaradwyddus ac anfoneddigaidd hwnnw o drin eu cydwladwr hyawdl a chydwybodol. Parchai y dyn talentog a chydwybodol o ba enwad bynnag y byddai. Y gwir yw, talent oedd pob peth ganddo ef. Talent, nid cyfoeth, oedd ei safon ef i fesur teilyngdod ei gyd-ddynion. Parchai dalent yn y wisg fwyaf carpiog, dirmygai ddyini yn y boneddwr mwyaf rhwysgfawr. Y rhan ddeallawl a moesol yn unig o nodweddiad dyn a brisiai. Nid oedd gweinidogion y cysegr eu hunain yn eithriadau

i'r rheol hon. Heb dalent ni phrisiai y gown du ond yn ol hyn a hyn y llath; ïe, nid oedd ond yn gwneud y gwr a'i gwisgai yn fwy dirmygus yn ei olwg. Heb hyn yr un peth ganddo ef fuasai i'r Esgob osod ei droed ar ben y gwr â gosod ei law arno yn ei urddiad i'r swydd.

Yn 1821 cyhoeddodd Gywydd y Diluw, ac, er mawr foddhâd i'w ddysgwyliadau pryderus, cafodd dderbyniad helaethach a gwresocach gan ei gydwladwyr nag un o'i Weithiau blaenorol. Dywedai wrth ei gyfansoddi mai hwn a fyddai y Gwaith diweddaf o unrhyw bwys, y diweddaf mewn cyssylltiad â "nerthol, anfarwol fawrwaith" ei fywyd, a gyfansoddai. Amcanai i hwn fod y goreu hefyd yn gystal â'r diweddaf o'i Weithiau. A'i farn ef ydoedd mai hwn ydyw y goreu. Yr oedd y testun yn fwy cydweddol â chwaeth ei Awen na thestunau ei Weithiau blaenorol. Ymddangosodd adolygiadau o waith y Parch. Walter Davies ac eraill arno yn y gwahanol gylchgronau, oll yn nodedig o ganmoliaethol iddo. Cyn ei argraffu cymmerodd gohebiaeth le trwy gyfryngwriaeth yr Esgob Burgess o St. Davids rhwng Mr. Richards a Chymdeithas y Gwyneddigion yn y Brifddinas ynghylch ei gynnorthwyo i gyhoeddi argraffiad dwyieithawg hardd o hono yn un gyfrol. Ymddengys oddiwrth lythyrau yr Esgob a Mr. Richards at eu gilydd y teimlai_ei Arglwyddiaeth gryn ddyddoriant yn y Bardd byth wedi darllen Cywydd y Drindod yn ddamweiniol pan yn teithio trwy y Gogledd yn 1794. Gwna gyfeiriadau tra chanmoliaethol at rai rhanau o'r Cywydd. Gohebent â'u gilydd yn achlysurol byth wedi hynny. Ond rhywfodd ni lwyddodd ei Arglwyddiaeth yn yr ymgais caredig uchod, ond derbyniodd Mr. Richards y llythyr a ganlyn oddiwrth y Gymdeithas. Llundain, Awst laf. 1821.

[ocr errors]

ANWYL SYR,-Na feddyliwch fy mod yn hoffi neu yn arferyd gweniaith pan ddywedwyf na phrofais gymaint o hyfrydwch wrth ysgrifenu odid un llythyr erioed ag wyf yn deimlo wrth ddechreu hwn. Rhaid bod y dyn, yn wir, a all ymgyfeillachu â'r doeth a dysgedig heb i hyny lenwi ei fynwes â'r dedwyddwch mwyaf, fod yn amddifad o bob amgyffred. Ond gwybyddwch nad wyf yn awr yn eich anerch yn gyfrinachol ond yn swyddogol, sef trwy ddeisyfiad ac yn enw Cymdeithas Gwyneddigion i'ch hysbysu eu bod (gan ystyried a chydnabod eich doniau rhagorol fel Bardd, a'ch diwydrwydd yn cynnal a choleddu yr iaith Gymraeg, drwy gyfansoddi a chyhoeddi y fath nifer o Weithiau gorchestol ynddi) gwedi eich ethol yn Aelod Gohebol o'u hanrhydeddus Gymdeithas. yw yn alluog rhagori ar y dywenydd a gefais wrth ymddyddan â chwi yng Nghymru, yn awr yr wyf yn teimlo y rhagoriaeth hyny, yn yr hyfrydwch o'ch cyfarch fal cyfaill, fal cydlafurwr, a chydaelod o un o'r Cymdeithasau mwyaf clodfawr trwy y byd. * ** O na fuasech yn bresenol i weled gyda y fath wresawgrwydd ac unfryd y darfuom eich ethol! Pe b'ai un dystiolaeth yn angheurheidiol, e fuasai yr amgylchiad hwn yn arddangos i chwi ac i'r byd, Syr, barodrwydd ein Cymdeithas i barchu y sawl sydd yn haeddu parch; ac mor adnabyddus ydoedd o'ch haeddianoldeb chwi o'r fath anrhydedd. Hir fywyd a llawn fwyniant o iechyd f'o i chwi; hir y parhäoch i dderbyn parch ein gwlad a chariad eich cyfeillion yw fy neisyfiad o'm calon. Hyfryd fyddai gan ein Cymdeithas eich gweled yn ein plith, a byddwch sicr nad oes un a deimla yr hyfrydwch hyny yn fwy na'ch Ufuddaf Wasanaethydd

South Sea Chambers, Threadneedle Street.

GRIFFITH JONES (Dolgellau) Cofiadur.

Rhydd y ffaith ganlynol ddirnadaeth eglur mor llwyr yr ymgysegrai y Bardd i'w waith tra yn cyfansoddi ei brif Weithiau. Pan oedd yn cyfansoddi Cywydd y Diluw ymwelodd Dewi Wyn âg ef, a dyma fel yr adroddai Dewi hanes y croesaw a gafodd wrth ei gyfaill, y Parch. Morris Williams, Amlwch ;-"Pan oeddwn yn Nolgellau aethum i alw hefo Dafydd Ionawr, ond prin y cymmerodd un sylw o honof; dywedodd wrthyf ei fod yn bur brysur; ni ofynodd i mi gymmaint âg eistedd i lawr; yr hen ddyn mwyaf trwynsur a welais erioed â'm llygaid." Ië dyma y derbyniad annghroesawus a gafodd hyd yn oed yr anfarwol Ddewi Wyn! Bron yr un croesaw a gawsai y brenin George ei hun gan yr hen Fardd pan y byddai rhywbeth pwysig ganddo yn yr esgoreddfa. Byddai mor bryderus rhag colli drychfeddwl, ac, yn enwedig, yspryd y gwaith, fel na wnai sylw o na boneddig na gwreng yn ystod yr amser hwnnw. Cawsai Dewi dderbyniad tra gwahanol ganddo mewn amgylchiadau cyffredin. Yr oedd Dewi Wyn a Bardd Nantglyn yn eithriadau arbenig i'r syniadau isel oedd ganddo am deilyngdod awenyddol y cyffredin o brif Feirdd yr oes honno. Teimlai fwy o ddyddordeb yn Dewi nag un Bardd arall, oblegid iddo brophwydo am dano, pan nad oedd etto ond 18 mlwydd oed, fel y gwelir yn ei lythyr atto, y deuai yn Fardd enwog. Ymffrostiai yn Dewi Wyn hefyd fel engraifft argyhoeddiadol o'r anghyfiawnder a'r niwaid a haerai efe a ddilynent Eisteddfodau. Haerai ef fod ennill y gwobrwyon yn ymddybynu yn hollol ar ddamwain a mympwy y beirniaid; -nad oedd i ganiad ennill y wobr yn un prawf mai honno a'i teilyngai, ac os hi a'i teilyngai, nad oedd hynny yn profi mai ei hawdwr hi oedd y Bardd goreu, na, dim ond mai felly y dygwyddasai y tro hwnnw. Dynion mor fychain a'r "Dryw" yn cael eu cadeirio a'u moli, a dynion mawr, eryraidd fel Dewi Wyn yn cael eu dibrisio a'u darostwng. Attaliai y fath "chwareu-plant," fel y galwai Eisteddfodau, ein Beirdd goreu i gysegru eu talentau i gyfansoddi Gweithiau sylweddol a helaeth a fyddent yn goffadwriaeth deilwng ar eu hol o alluoedd eu Hawen. Mynnai ef i bob dyn ymdrechu am y gamp uchel o gael "wedi marw lefaru etto" yn ei waith wrth ei oloesolion, Credai yn dra hyderus y cai ef y ragorfraint hon. Y llinellau barddonol diweddaf a gyfansoddodd oedd,

Fy ngwaith, pan âf i faith fedd,
Trueiniaid gweiniaid Gwynedd
Yn dra llon a'i darllenant,

Annisbur gysur a gânt.

C

Rhoddai y meddwl hwn hyfrydwch annhraethol iddo. Wedi cyhoeddi Cywydd y Diluw ystyriai ei yrfa farddonol ar ben. Ychydig o fân ganeuon heb fod mewn unrhyw gyssylltiad â Gwaith mawr ei fywyd oedd y cwbl a gyfansoddodd ar ol hyn. Daeth yn fwy rhydd a chymdeithasgar, ac nid oedd neb a allai lenwi ei le yn y cylch cymdeithasol yn anrhydeddusach na'r "hen Richards, Bryntirion." Yr oedd yn sarcastic nodedig tuag at wŷr rhodresgar neu gellweirus. "Pa sawl llinell sydd mewn englyn, Mr. Richards?" gofynai rhyw wr a fynnai ddangos ei hun yn fwy o ffwl nag ydoedd er mwyn tynnu scwrs gyda'r hen Fardd. "A wyddoch chwi pa sawl troed sydd gan ful?" attebai yntau. I ba dŷ bynnag yr elai ei arferiad gwastadol oedd dweyd ar y trothwy wrth fyned i mewn gyda difrifoldeb perffaith apostolaidd, "Tangnefedd yn y tŷ hwn." Ar ol cyhoeddiad Cywydd y Diluw derbyniodd luaws o lythyrau oddiwrth yr Esgobion Warren o Bangor a Burgess o St. Davids, Baron Richards, Owen Williams, Ysw. Craig y Don, ac eraill, yn ei annog yn daer i gyhoeddi argraffiad cyflawn o'i holl Weithiau yn un gyfrol, gan addaw bod yn bob cynnorthwy a chefnogaeth iddo yn y gwaith i sicrhâu gwerthiad helaeth i'r gyfrol. Ond ni wnaeth un sylw o'r annogaethau hyn. Teimlai fod "ei awr ef yn neshâu." Treuliodd y rhan fwyaf o'r blynyddau olaf hyn o'i oes mewn darllen a myfyrio yn ei fyfyrgell. Ni ddarllenodd fwy yn ystod unrhyw ran o'i oes nag a wnaeth y blynyddau hyn.

Mai 11, 1827, yr oedd yr hen Fardd mor iach a siriol ag un amser; bwytaodd ei swper, ac aeth i'w wely fel arferol, heb unrhyw anhwyldeb pennodol. Gwahoddesid ef i fyned y dydd canlynol i giniawa at Mr. a Mrs. Williams, Fronwnion. Merch hynaf Mr. Jones, Bryntirion, ydyw Mrs. Williams; hi hefyd oedd favourite yr hen Fardd; ac ychydig cyn hyn y llwyddasai Mr. Williams i'w ymddifadu o'i chymdeithas gartref. Arferai yr hen foneddwr, fel y nodasom yn flaenorol, aros yn lled hir yn ei wely y boreu. Gadawai y teulu iddo gael ei amser ei hun i ddyfod i lawr i gael ei foreufwyd. Ond gan ei bod y diwrnod hwnnw yn agos i bryd ciniaw cyn iddo ddyfod i lawr o'i ystafell, ofnid ei fod wedi anghofio ei ymrwymiad i fyned i'r Fronwnion. Anfonwyd un o'r morwynion (o enau yr hon y cawsom yr hanes) i fyny i'w adgoffa o hynny. Galwai wrth ddrws ei ystafell, ond nid oedd neb yn atteb; curai y drws, ond nid oedd yr un arwydd fod Mr. Richards yn clywed; agorai y drws, a galwai arno wrth ei enw, ond yr un mor aflwyddiannus. Yr oedd yn gorwedd yn dawel yn ei wely ar ei ochr, a'i law dan ei ben, a "Telemachus," gwaith y duwiol a'r doniol Fenelon, Archesgob Cambray, yn agored a'i wyneb i lawr ar y gobenydd yn ei ymyl. Ymddangosai yn cysgu yn drwm. Wrth graffu gwelai liw ei wynebpryd yn llawer gwynach nag arferol,-ei lygaid wedi cilio i mewn,-dim swn anadliad, pa ryfedd?-nid oedd yno ddim anadliad,-yr oedd y peiriant wedi sefyll, -yr oedd yr hen foneddwr wedi marw!-wedi marw yn hollol fel y clywsid ef yn fynych fynych yn dweyd y dymunai farw,-yn ddisymwth ac heb ddim poen. Gallesid tybied oddiwrth ffurf ei wynebpryd ac ystum naturiol ei gorph na bu yn y poen na'r cynnwrf lleiaf yn awr ymddattodiad yr enaid a'r corph oddiwrth eu gilydd. Fel Pedr gynt, ymryddhasai yr yspryd carcharedig o'i lyffetheiriau, a diangasai yn ddistaw o'i garchar tra yr oedd y ceidwaid yn cysgu. Cynnaliwyd trengholiad ar y corph, a'r rheithfarn oedd, "Bu farw trwy ymweliad Duw." Hebryngwyd ef i'r bedd gan nifer o foneddigion gwahoddedig. Gorwedda hyd "y dydd hwnnw" yn Mynwent Newydd y dref hon.

Yn 1849 cyfodwyd cofgolofn hardd, gwerth ynghylch £30, o barch i'w goffadwriaeth, gan ei gyfaill, y Parch. John Jones, Borthwnog. Pe cawsai y Bardd ei ddymuniad

ni welsid byth gymmaint â chareg i nodi allan "y gweryd lle mae'n gorwedd." Ni fynnai i neb eilio cofadail i gadw ei enw ef mewn coffadwriaeth, ond yr un a eiliasai ef ei hun yn ei fywyd-ei Waith.

"Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd, rhodd ei farble yn ei le;
A 'sgrifenodd arno'i enw â llyth'renau pur y Ne'."

Yr oedd hyn oll yn berffaith nodweddiadol (characteristic) o hono ef. Ond er fod y golofn hon wedi ei chyfodi yn groes i egwyddorion a dymuniad yr hen Fardd ei hun, teilynga gwladgarwch a haelioni Mr. Jones ein cymmeradwyaeth gwresocaf fel cenedl am roddi y deyrnged hardd hon o warogaeth deilyngdod llenyddol uchel Mr. Richards fel Prif-fardd ei oes, ac o barch i'w goffadwriaeth fel ei gyfaill personol. Y mae y golofn ynghylch 5 llath o uchder. Ar un ochr iddi y mae "BEDD DAFYDD IONAWR. BU FARW MAI 12, 1827. EI OEDRAN 76." Ar ochr arall ceir "M. S. BARDI CHRISTIANI MERVINIENSIS. OB. A. D. 1827. ÆTAT. SUE 76." Ac ar ochr arall, "REVD. J. JONES, A. M. DE YNYSFAIG POSUIT."

Yma rhaid i ni derfynu ein Cofiant. Ceir yn y gyfrol hon autobiography cyflawn o weithrediadau ei feddwl yn ystod y 60 mlynedd diweddaf o'i oes; a hyderwn yr erys ei Waith yn Gofiant oesol i'w gydwladwyr o'i dalentau ysplenydd, ei egwyddorion cywir, ei yspryd duwiolfrydig, a'i hunangysegriad llwyr i wasanaeth ei Greawdwr a'i gydgenedl fel BARDD CRISTIONOGOL CYMREIG.

DAFYDD IONAWR.

PENNOD I.

ATHRY LITH A

NID gorchwyl hawdd ydyw darlunio athrylith bardd, gan nad ydyw llênorion yn gyffredin yn cytuno am natur barddoniaeth nac athrylith. Ymddangosant fel yn bethau rhy ysbrydol i'w dadchwilio -fel edafedd gwawn yn nhês Gorphenaf, yn brydferth iawn, ond yn hollol annichonadwy i ymaflyd ynddynt, a'u darlunio yn fanwl. Haws yw rhoddi darluniad nacaol o honynt na dywedyd dim yn gadarnhaol. Yn gyffredin, y darnodiad goreu a ellir roddi o honynt ydyw rhywbeth annarluniadwy. Edrychai y paentiwr enwog, Syr Josuah Reynolds, unwaith ar ddarlun, ac wedi iddo syllu arno am ychydig, gofynwyd ei farn am dano, "O," meddai, "y mae yn dda iawn, y ffurf yn dda iawn, y lliwiau yn dda iawn, ac nis gellir ei feio; ond y mae arno eisieu-y mae arno eisieu-y mae arno eisieu hyna," gan glecian ei fys a'i fawd uwch ei ben. Yr oedd y darlun yn amddifad o athrylith, ac o ganlyniad yr oedd arno eisieu yr hyna nas gallai Syr Josuah gael gair priodol i'w ddysgrifio. Yr oedd medr a chelfyddyd ynddo, ond yr oedd hyna ar ol; ac felly yr oedd yn ddiffygiol. Gellir cyfarfod â gweithiau yn meddu medrusrwydd, talent, chwaeth, dychymyg, a brwdfrydedd, ond eto yn amddifad o athrylith. Gall medrusrwydd ddeongli dychymygion, rheoli rhifyddiaeth, a chofio darnau eang o ddyfyniadau o wahanol natur, neu ddirwyn rhimynau annherfynol o fydriadau, dynwared gwahanol awdwyr, gwlawio cawodydd o frawddegau poblogaidd, a gwneuthur pob peth mewn gwirionedd na fydd yn gofyn am galon i'w wneuthur. Athrylith yn unig a all lefaru o'r galon. Gallu i feddwl yn fanwl a grymus drachefn ydyw talent. Y mae talent yn gyffredin naill ai yn digaregu y ffordd o flaen athrylith, neu yn ei ddilyn er gweini iddo ar ei holl deithiau. "Medrusrwydd," fel y dywed Gilfillan, "sydd yn gwneuthur y dychymyg a'r digrifwch a'r chwerthiniad; talent sydd yn cyfansoddi y feirniadaeth; ond athrylith sydd yn creu cyndybiad (hypothesis) a barddoniaeth. Mae medrusrwydd yn efelychu, talent yn barnu, ac athrylith yn creu. Y mae medrusrwydd yn swyno y lluaws, talent yn rheoli yr annysgedig, ond y mae athrylith naill ai yn hyfrydwch neu ddychryn cyffredinol." Gall y dyn medrus weithio yn mhob tywydd, gall y talentawg fod bob amser yn barod, ond y mae i'r athrylithgar ei amserau a'i dymorau.

BARDDONIAETH.

Chwaeth ydyw y gynneddf sydd yn ein galluogi i ganfod mân feiau, a manylion prydferthwch. Y mae chwaeth yn dal canwyll i ddangos prydferthwch darlun ; y mae athrylith yn rhuthro â fflamen yn ei law i ddangos gogoniant natur. Gall dychymyg fod yn fywiog, a chyflym, a chraffus, ond yn ddiamcan a diaddysg. Y mae athrylith ar y llaw arall yn llawn o addysg, ac yn meddu cyflawnder. Nid brwdfrydedd ychwaith ydyw athrylith. Gall yr ymladdwr a'r penboethddyn fod yn eithaf brwdfrydig, ond ni's gall ond athrylith ysgwyd anian gyda llef ddystaw fain. "Athrylith ydyw llef gerddorol yr enaid grymus a charuaidd ; Ilais ydyw o eigionau ysbryd dyn; lleferydd naturiol ac anwrthwynebol un sydd wedi ei ddylanwadu gan gynhyrfiad tebyg i'r gwynt, yr hwn sydd yn chwythu lle y myno ydyw; ni ŵyr "o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned." Llinyn dirgelaidd ydyw i gyrhaedd y galon-ysgrifell a gyfarwyddir gan law oruwchnaturiol;-udgorn, yr hwn sydd yn seinio fel "swn dyfroedd lawer." edrychir arno mewn ystyr feddyliol, syniad gwreiddiol ydyw; os edrychir arno fel elfen feirniadol, gallu cynhyrfiol a dylanwadol ydyw; ac mewn ystyr foesol, rhaid ei olygu fel prydferthwch a phurdeb ysbrydol. Efe ydyw y ffynon o'r hon y tarddodd pob peth mawr; efe ydyw y wreichionen a gynyrchodd ser a heuliau. Efe ydyw gwreiddyn gwyddor, a chrëydd celfyddyd. Nid ydyw byth yn huno nac yn hepian, ond y mae yn rhodio y ddaear yn barhaus, ac nid oes gan nerth marwolaeth awdurdod arno. Unwaith y genir ef ni's gall beidio a byw, ymsymud, a bod.

Os

Y darluniad mwyaf cyffredin o farddoniaeth ydyw,-iaith y dychymyg wedi ei fywiogi a'i gynhyrfu gan deimlad, ac wedi ei gwisgo mewn mesur priodol;math o gelfyddyd greadigol yn rhoddi ffurf a bywyd i ansoddau. Celfyddyd ydyw sydd yn troi pethau yn bersonau. Nid ydyw mesur yn hanfodol iddi, ond yn gyffredin y mae, fel gwas y gôg, yn ei dilyn. Fel addurniadau priodferch, y mae yn ei phrydferthu, ac yn ei gwneud yn llawer mwy rheoledig i'r cof. Y mae fel cerddoriaeth yn melysu cân, ac am hyny arferir ef yn gyffredinol. edrychir ar farddoniaeth mewn cymhariaeth â gwyddorion eraill, dichon y gellir ei dysgrifio megys math o undeb rhwng priforchestion ymarferol celfyddyd âg addurniadau gwyddor. Ymwnâ â'r syn

Os

ddangos yno. Gwaherddir corph o dduwinyddiaeth mewn cân, a gwgir ar athroniaeth mewn cerdd. Y mae i bob peth ei le priodol, ond ni ddylid gwneud duwinyddiaeth ac athroniaeth yn ffrwythau gwaharddedig i'r awen.

wyrau, y deall, y teimlad, a'r dychymyg; a geilw i weithrediad y priodoleddau mwyaf dyrchafedig ac ysbrydol mewn dyn. Cyfyd ysbrydolrwydd ei natur yn mhell uwchlaw amgylchiadau cyffredin, a dyry i bob peth y cyffyrddo âg ef afael ddwysach nag a allai gael mewn un ffordd Hwyrach nad oes o fewn cylch llenyddarall. Mae yn wir y gall y dylanwad hwn iaeth y byd ddysgrifiad mwy prydferth a fod er drwg neu er da, eithr nid yw hyn gwirioneddol o elfenau athrylith farddond prawf pellach o'i gysylltiad â natur onol nag a gynwys yr hen Driad Cyysbrydol dyn. Ni byddai swynion anghymreig ;"Tri phrif anhebgor Awen: medroldeb yn gyflawn heb "gân y meddwon," ac ni byddai hyfrydwch crefydd yn berffaith heb "salmau, hymnau, ac odlau ysbrydol." Gwna y bardd waith tebyg, ond mwy gorchestol, i'r meddwl, i'r hyn a wna yr ardebydd i'r llygad. Gall y darluniwr roddi ffurf a lliw ar ei waith, ond gall y bardd roddi bywyd yn ei gân. Gall yr ardebydd roddi lliw coch ar y lliain gwyn, ond rhaid cael y bardd i ddangos mai

[blocks in formation]
[ocr errors]

llygad yn gweled anian; calon yn teimlo anian; a glewder a faidd gydfyned âg anian.' Athrylith bardd ydyw teithi neu nodwedd ei awen. Yn ol y graddau y byddo yn gweled, yn teimlo, ac yn cydfyned âg anian, can belled a hyny y bydd yn athrylithgar. Ei weithiau ydyw yr amlygiadau o'i athrylith. Hwy sydd yn dangos "dirgel ddyn y galon." AmÏygiadau anian sydd yn dangos ei hansawdd: ymddangosiadau bodau neu ansoddau ysbrydol sydd yn egluro eu natur. Felly hefyd cynyrchion athrylith sydd yn esbonio ei nodweddiad. Amlyga Pont Britannia athrylith Stephenson, dengys yr agerddbeiriant athrylith Watt, cyhoedda y Palas Grisial athrylith Paxton, ac esbonia "Coll Gwynfa "athrylith Milton. Bytholir athrylith Demosthenes yn ei areithiau, Plato yn ei draethodau a'i ymddyddanion, Euclid yn ei ddaearfesureg, Shakspeare yn ei chwareuon, Ellis Wyn yn ei "Fardd Cwsg," a Dafydd Ionawr yn "Nghywydd y Drindod." Rhaid i ni, gan hyny, ddynesu yn wylaidd i bresenoldeb yr oracl, a gwrando yn ofalus ar ei gwersi. Nid ydym mewn lle cyffredin, ond yn un o gelloedd mwyaf cysegredig athrylith, ar furiau yr hon y mae yn ddarluniedig fawrion weithredoedd y Drindod, ar allor yr hon y llosga marwor y Nefoedd, ac yn yr hon y llafara y lleferydd anfarwol.

[blocks in formation]

YN lle dilyn y dull cyffredin o wneuthur nodiadau ar athrylith yn gyntaf, ac yna dadchwilio ei gweithiau, ni a edrychwn dros weithiau Dafydd Ionawr, ac ar ol eu chwilio a'u rhanu er dangos eu neillduolion a'u prydferthwch, ni a ymdrechwn alw sylw at nodweddau pennodol ei athrylith. Yr ydym wedi dywedyd yn barod mai drwy ei weithiau y mae adnabod athrylith y bardd, a da y gallwn ddywedyd wrth y sawl a ymofyno am brofion o athrylith awdwr Cywydd y Drindod a Chywydd y Diluw," Edrych o'th amgylch," oblegid os na chanfyddir ef yn ei weithiau, ofnwn mai gwaith ofer fydd i ni ymdrechu ei ddangos.

IONAWR.

Cynwysa y rhestr ganlynol holl weithiau y bardd, yn nghyd â lle ac amser eu cyhoeddiad :

Cywydd y Drindod......... Gwrecsham, 1793.
Y Mil Blynyddau ......... Dolgellau, 1799.
Cywydd Ioseph.
Dolgellau, 1809.
Barddoniaeth Gristionogawl, Dolgellau, 1815.
Cywydd y Diluw..... Dolgellau, 1821.

Heblaw y cyfansoddiadau uchod, ysgrif-
enodd amryw ddarnau byrion eraill, y
rhai ni alwant am sylw yn bresenol.
tri gwaith ar y rhai y gorphwys ei enwog-
rwydd yn benaf ydynt Gywydd y Drin-
dod, Cywydd Ioseph, a Chywydd y
Diluw.

« PoprzedniaDalej »