Obrazy na stronie
PDF
ePub

Gwaeth na'i chuddio, ei chamddefnyddio yn alarus, cellwair â hi, a'i darostwng yn gywilyddus, a wnaethant. Llawer wedi canu yn gampus, ond neb o ddifrif, neb yn teimlo gwir“ fonedd yr Awen,” ac urddas cysegredig y nodweddiad barddol. Canent i foddhau eu tueddiadau eu hunain, ac i ddifyru nwydau eu cydfarwolion, heb roddi ond ychydig le i gredu fod ganddynt unrhyw nôd uwch i'w caniadau, na'u bod yn teimlo tarddiad a natur urddasol yr Awen, a'i dyben uchel a phwysig yn ngwareiddiad ac efengyleiddiad y byd. Yn y “ Preface" i'r argraffiad cyntaf o Gywydd y Drindod cawn ef yn dwyn rheswm uwch etto dros y penderfyniad o wneud barddoniaeth Gristionogol yn unig nôd a neges ei yrfa ddaearol, “My motive to write was a very strong impression made upon my mind very early in life, which would not suffer my thoughts to rest, and which I regarded as a CALL FROM HEAVEN.” Gellid tybio oddiwrth ei iaith a'i ymddygiadau yn fynych yr ystyriai ei hun yn “Poet Laureate" i'r Goruchaf yn Nghymru yn ei oes. Yr oedd ganddo syniadau uchel nodedig ar y pynciau hyn. Nid oedd un o ddoniau naturiol Duw mor odidog â'r ddawn farddonol,-un nodweddiad daearol mor urddasol â'r Bardd,dim pleserau mor wirioneddol, mor goethedig, mor deilwng o fôd rhesymol, anfarwol, â phleserau yr Awen, nac un offeryn daearol mor nerthol ac addas i argraffu egwyddorion o bob math ar y meddwl dynol; fel y dywed y Bardd Seisnig, “ Let me make a nation's ballads, who will may make its laws." Gani Mr. Richards gael ei weithio gan amgylchiadau allanol a thueddiadau tumewnol i ffurfio y fath syniadau a hyn nid oedd mewn un modd yn syn, nac, yn ol ein tyb ni, yn feius ynddo i ymryddhâu mor llwyr oddiwrth y byd, gan fod amgylchiadau yn caniatau. Nid treulio ei ddyddiau i ddilyn meluschwant neu i bydru mewn diogi oedd ei amcan yn gwneud hyn. Yn ol ei syniadau ef am weithio, yr oedd yn un o'r gweithwyr mwyaf dygn ar y ddaear. Ystyriai fod ei waith mor anghenrheidiol mewn ystyr foesol âg ydoedd gwaith unrhyw fath o lafurwr, a'i fod yn cyflawni rhan mor bwysig ac anrhydeddus tuag at lesoli y byd a'r pregethwr yn ei bulpud, yr areithydd yn y Senedd, y celfyddydwr yn ei weithdy, neu yr amaethydd ar ei ifarm: “Poetry should be no more neglected than agriculture," meddai mewn un man; a phe buasai pob llafurwr crefyddol neu fydol mor gydwybodol ac ymroddgar yn ei ddydd i wellhâu cyflwr ei gyd-ddynion â'r llafurwr barddonol hwn buasai y ddaear wedi ei dwyn i agwedd lawer iawn mwy paradwysaidd nag ydyw yn awr.

Yn 1800 bu farw prif Athraw yr ysgol rad yn y dref hon, a nodai ei ddysgeidiaeth a'i hir ymarferiad â'r gwaith Mr. Richards allan fel y gwr i gymmeryd ei le. Ymgymmerodd â'r swydd hon yn fwy er boddhâu ei gyfeillion nac oddiar unrhyw awydd personol tuag atti. Yn wir nid unrhyw hoffder at y gwaith a barasai iddo erioed ymgymmeryd ag ef. Angen, nid awydd, a barai iddo erioed ymyraeth âg unrhyw alwedigaeth fydol. Erbyn hyn hefyd yr oedd y byd wedi darfod â'i wg, ac angen ddu â'i gorfodaeth. Yr oedd mewn amgylchiadau i allu cysegru ei holl amser at wahoddiadau yr Awen. Fel hyn, heb nac awydd nac angenrhaid yn ei argymhell, nis gellid dysgwyl iddo wneud unrhyw orchestwaith mwy fel ysgolfeistr. Ac etto pan edrychom ar ffeithiau, gallem enwi lluaws a addysgwyd gan Dafydd Ionawr yn Ysgol rad Dolgellau a gyrhaeddasant sefyllfaoedd ucher ac enwogrwydd nid bychan yn eu hoes wedi hypny, a rhai o honynt etto yn gofgolofnau byw ac anrhydeddus o fedrusrwydd eu hen Athraw. Athraw manwl a llym oedd Mr. Richards. Ychydig iawn o gydymdeimlad a gai y gwr nad allai ddweyd ei wers yn gywir. Costiai iddo lawer ergyd dost å hen ruler anferth yr Athraw, neu, efallai, y bernid yn oreu i ohirio gweinyddiad y cerydd dyledus nes y byddai troseddwr arall yn galw am gosb; yna cymmerai afael yn ngwarau y ddau droseddwr, a churai eu penglogau yn eu gilydd yn "gas ofnadwy” (medd un a'i teimlodd); Now, my boys," ebai y meistr didrugaredd wrth weinyddu y gosb, “let us see who has the thickest skull.'' Ond, er mor llym ydoedd, parchai ei ysgolheigion ef yn fawr, a dysgent yn rhagorol dano, yn enwedig mewn rhifyddiaeth ac ysgrifenyddiaeth. Yr oedd ef ei hun yn ddiarhebol am brydferthwch ei lawy sgrifen, a llwyddodd amryw o'i ysgol. heigion i'w efelychu yn hyn. Arferai hefyd roddi gwers achlysurol iddynt yn narlleniad y Bibl Cymraeg ; nid yn gymmaint er mwyn yr argraff foesol a allai hynny gael ar eu meddyliau, ond mynnai ef fod rheswm a gwladgarwch yn galw am i'n hiaith enedigol fod yn un o ganghenau addysgiant yn holl sefydliadau addysgiadol y Dywysogaeth; ac ystyriai y Bibl Cymraeg yn cynnwys yr engreifftiau perffeithiaf o amrywiol nodweddau a galluoedd yr Omeriaith o unrhyw lyfr yn yr iaith. Anhawdd, os nad ammhosibl, fuasai i'r ysgolheigion gael trwy holl Gymru ragorach siampl o'r hyfforddiadau a roddai eu hathraw iddynt mewn darllenydd. iaeth ar yr adegau hynny nag ef ei hun. Mor rymus oedd ymresymiadau Job, mor beraidd oedd caniadau Dafydd, mor gall a tharawiadol oedd Diarhebion Solomon, mor arddunol oedd Esay a Paul o enau Dafydd Ionawr! Pan ddarllenai ef y Bibl ymddangosai mor ddigyffelyb fel cyfansoddiad llenyddol ag ydyw fel datguddiad dwyfol. Lladratai yr Awen hefyd ei rhan o oriau yr ysgol.

Yn ystod y 7 mlynedd y bu "Mr. Richards yn Athraw yr ysgol hon yr oedd yn gwneud ei gartref mewn tafarndy o'r enw Blue Lion. Yr oedd ganddo ystafell yno iddo ei hun, ac nid ymgymmysgai un amser â'r cwmpeini a ddeuent yno i yfed. Yr oedd yn hollol foddlon ar gymdeithas hyfryd ei" Awen lawen lwys," a mynych y gwnai ef a hithau fwy o swn na'r dwsin a fyddent yn yfed i lawr yn y gegin.

[ocr errors]

Ond yr oedd pawb yn gallu esbonio y neidio a'r curo dwylaw a'r hearty laugh uchel a glywid yn fynych yn yr ystafell uwchben,-yn well, mae yn debygol, nag y gallent gyd-ddwyn â hwynt. Ond y gwaethaf o'r cwbl oedd nid anfynych y parhậi y cynhyrfiadau hyn trwy y nos, fel y byddai yn annichonadwy i'r teulu gysgu. Dygai hen wraig onest y tŷ y ffeithiau hyn ymlaen yn fynych i geisio argyhoeddi Mr. Richards ei fod weithiau “o'i go'." Yr oedd gan y Bardd barch mawr i'r “hen Marged.” Ystyriai hi yr hen wraig “glyfra yn y deyrnas.” AC un "glyfer," gall, onest, wreiddiol dros ben oedd yr hen lady hefyd o ran hynny; -un o'r antique specimens o'n hen famau pur, annghaboledig yn Nghymru gynt, sydd yn myned yn brinach brinach yn ein mysg yn awr bob dydd. Yr oedd ganddi ddylanwad mawr ar y Bardd. Mynych y byddai witticisms gwreiddiol yr hen wraig yn wledd i'w yspryd. Nid oedd Marged byth yn "gwirioni ei phen” å rhyw "nonsense" fel yr oedd Mr. Richards, ac etto nid ystyriai neb dan y nefoedd mor gall ac mor "glyfer" à Mr. Richards. Cai ddweyd pa beth bynnag a feddyliai ei chalon wrtho, boed felus, boed chwerw,- pethau na feiddiasai neb arall ar y ddaear eu dweyd. Gwyddai fod yr holl ddarlithiau tanbaid a draddodai iddo yn tarddu o galon onest, os nad o farn gywir. Taniai yspryd yr hen wraig, fel lucifer match, yn y fan, a diffoddai yn y fan. Treuliodd y Bardd rai o oriau hapusaf ei oes gyda hen landlady y Blue Lion. Un noswaith dymunodd arni ddarllen pennod o'r Bibl. Nid oedd yr hen wraig yn gallu darllen yn rhy dda; a'r tro hwn bu yn ddigon anffodus yn y bennod a ddygwyddodd daro arni,-pennod yn un o Jyfrau y "Cronicl." Yr oedd y bennod yn "dechrau yn right dda, chwedl hithau, ond cyn hir daeth ar draws “haid arswydus" o frenhinoedd Israel a Juda. Diammau fod yr hen wraig yn dyfod â'r holl Hebraeg oedd ganddi i ymarferiad ar y pryd, ond profai yn llawer rhy fach i atteb i'r amgylchiad y noswaith hopno. Wedi gorphen y bennod gofynai yn eithaf gonest, -"Wel, Mr. Richards, a ddarllenais i mo'r bennod yna yn o dda, meddwch chwi?“Marged bach, mae yn dda i chwi nad oedd y gwŷr mawr yna ddim yma yn eich clywed, onide buasent mewn perygl o dynnu eich clustiau o'r gwraidd, yr oeddych yn eu llysenwi oll mor gywilyddus.Yr oedd yr hen wraig yn ol i'r Bardd mewn glanweithdra hefyd yn gystal ag mewn darllenyddiaeth. Yr oedd Mr. Richards yn hoff iawn “o dattw o'r lludw a llaeth " i'w giniaw, ac yn gyffredin parotoai ei hen goges hwynt wrth ei fodd. Ond rhywfodd un diwrnod yr oedd llawer mwy o'r “lludw” wedi glynu wrth y “tattw" nag a farnai Mr. Richards yn llesol. “Marged, y gallaf byth fwyta y pytatws yma, y maent yn lludw i gyd." "Pw! 'na hidiwch am dipyn o ludw, rhaid i chwi fwyta peciad cyn marw." "le, ond nid ar unwaith, nid ar unwaith, fel hyn, 'does bosibl, Marged.”

Y Gwaith oedd ganddo yn ei gyfansoddi yn ystod yr amser y bu yn cadw yr ysgol rad ac yn cartrefu yn y Blue Lion oedd Cywydd Joseph. Argraffwyd y gwaith hwn yn y dref hon, a thrwy nawdd dylanwadol Baron Richards o Gaerynwch yn bennaf, a'i ymdrech caredig yn casglu enwau tuag at y Gwaith, cafodd werthiant llawer helaethach na Gweithiau blaenorol yr Awdwr; a meddwl yr ydym y dwg lawn cyminaint o anrhydedd i'r Awdwr ag un o'i Weithiau. Tra y mae yn tystio mor uchel ag un o honynt ei fod yn Fardd, y mae yn tystio yn llawer uwch na hwynt oll ynghyd ei fod yn ddyn hefyd. Prin y mae digon o deimladau hawddgaraf dynoliaeth yn y Gweithiau eraill genym i'w dderbyn i'n mysg fel dyn,-fel “un o honom ni.” Ond pan ddarllenom “gathl Ioseph gu ei thlysau” yr ydym yn ei groesawu â breichiau agored fel “asgwrn o'n hasgwrn ni, a chnawd o'n cnawd ni.” Dengys yma ei fod yn teimlo fel dynion eraill, er ei fod yn ymddwyn yn dra gwahanol. Yma cawn ef yn chwareu tannau mwyaf typer, teimladau mwyaf cysegredig y galon ddynol. Y mae i'r hen lanc stoicaidd Dafydd Ionawr gyfansoddi Cywydd Joseph yn llawn mor ryfedd ag i fardd pruddglwyfus Olney gyfansoddi “ The diverting history of John Gilpin."

Rhaid i ni yn awr gofnodi amgylchiad a barodd fwy o ofid i feddwl Mr. Richards nag efallai un amgylchiad arall yn ei oes,-ei ymrafael à Dafydd Ddu o Eryri, Clywsai i Dafydd Thomas wneud sylwadau tra sarhaol ar Gywydd y Drindod. Yr oedd hyn yn ergyd at ran dyneraf calon Richards. Nis gallai ei oddef. Yn nghynhyrfiad y brofedigaeth galwodd am gynnorthwy ei Awen. Cymmerodd “Adgyfodiad Awen,” attebiad campus y Bardd Du i Twm o'r Nant, fel achlysur, a chyfansoddodd gan yn cynnwys ymadroddion a lwyddasant yn rhy dda i bigo ei frawdfardd croendenau o Arfon hyd yr enaid. Cynghorai amryw gyfeillion parchus ni i adael y gân hon, yr unig un annheilwng o'i nodweddiad dysglair fel Bardd Cristionogol a gyhoeddodd yn ei oes, allan o'r casgliad hwo, ac i syrthio i dir anghof. Ond yr ydyin yn credu y teimla y cyffredin o'n darllenwyr y buasai yn bity" ei gadael allan. Têg oedd i ni ddwyn yr holl ddyn ger bron ei gydgebedi, fel y gallent gael golwg syflawn a chywir arno. Nid ydym yn ei hystyried mor iselhaol i'w nodweddiad moesol, yr ydym yn sicr nad ydyw i'w dalentau awenyddol, fel y dylasem ei gadael allan. Y mae yn ddigon i ddangos y gallasai chwareu telynau eraill heblaw telyn Seion ped ymostyngasai i hynny, -y gallasai fod yn Twm o'r Nant oni buasai ei fod yn dewis bod yn Ddafydd Ionawr; ac eithaf peth oedd cael cyfleusdra i weled hynny, i weled mai hunanymwadiad y Cristion, ac nid unplugrwydd athrylith y Bardd, a barai iddo ganu ar destunau 'mor uchel ac adeiladol, ac mewn iaith mor

bur trwy ei oes faith, oddieithr ar yr achlysur anffodus hwn yn unig. Cyn diwedd yr un flwyddyn cyhoeddodd Bardd Eryri ddau atteb yn fuan ar ol en gilydd i'r gabl-gân hon,-attebion, yn enwedig yr olaf, sydd yn llawer mwy o anrhydedd i'w ddoniau awenyddol nag i'w chwaeth. Mae yn debygol iddo gyhoeddi yr ail attebiad am nad ystyriai y cyntaf yn ddigon helaeth, na digon llym. Y pennill cyntaf o'r ail gân sydd fel hyn

Ai Awdwr Cerdd y Drindod, ffrwyth ddwys fyfyrdod faith,
A droes yn gas i erlid, gan newid ei hen waith,
Gan arfer rhyw freuddwydion yu ail i goelion gau,
A geiriau ffol plentynaidd, rhy fiaidd i'w coffân!

yn llwyr gan whom yr ymdda

Yn 1802 win myfyrdod dau yn syntyfyriol

[ocr errors]

Cyrhaeddodd y gofyniad hwn eigion enaid Dafydd Ionawr, nid i gael yr effaith a amcanai y Bardd digllon o Arfon, ond i'w ddwyn yn hollol "atto ei hun,” i gofio o ba le ac i ba le y syrthiasai. Dafydd Ionawr, “Awdwr Cerdd y Drindod” yn ymostwng i erlid ac enllibio brawd barddonol ;-y gwr a gyhoeddasai yn ddiweddar gân mor faith ar weithredoedd goruchel y Drindod yn canu yn awr ar gastiau gwaelaf un o'i gydfarwolion ; nid ydyw hyn ddim yn deilwng o'i nodweddiad ef;y mae yn anghyssondeb i'r eithaf; os gwnaeth yr anwiredd hwn unwaith nis gwna hynny byth mwy; pa beth bynnag à ddysgwylir gan bencampwr Eisteddfodau Cymru, dysgwylia ei wlad, dysgwylia y Nefoedd rywbeth yn amgen gan Awdwr “Cywydd y Drindod.” Gwnaeth yr ystyriaethau hyn ei fraich mor analluog i estyn at ei ysgrif bin i atteb y caneuon llymion byn â phe buasai wedi ei tharo yn ddiffrwyth gan y parlys. Nid ynganodd air mwy ynghylch yr ymrafael ffol hon ond i ofidio o'i herwydd. Dywedai mai sylwadau cenfigenllyd D. Ddu a'i cynhyrfasai, ond beiai ei hun yn fawr na buasai yn eu pasio heibio fel islaw ei sylw, yn hytrach na'u cymmeryd, fel y gwnaeth, yn achlysur i ddatguddio ei noethni ei hun a'i gydfardd gerbron y byd. Ond “ni fachludodd yr haul ar eu digofaint.” Terfynodd yr ymrafael yn dra dymunol,-mewn cymmod hollol. Pan ddaeth David Thomas i'r dref hon yn 1810 i gyhoeddi “Corph y Gainge” daeth Mr. Richards, yr hwn oedd y pryd hwnnw wedi symud i Ynysfaig, yma i ymweled ag ef; addefodd mai arno ef ei hun yr oedd y bai, ac erfyniodd am faddeuant David Thomas, a rhoddodd ei enw fel tanysgrifiwr at Gorphy Gaingc, a pharhasant yn gyfeillion ffyddlon hyd farwolaeth D. Thomas yn 1822. Dywed y cyfaill a hysbysodd Mr. Richards gyntaf am ddiwedd galarus D. Ddu trwy foddi wrthym yr ymddangosai fel pe buasai ei deimladau wedi eu gorchfygu yn llwyr gan y newydd syn,-yn barod i syrthio i lesmair. Safai yn synfyfyriol am ennyd, -dadliwiai ei wedd, a throai

Yn 1807 rhoddodd Mr. Thomas Jones ei fasnach i fyny, a symudodd gyda'i deulu o'r dref hon i fyw i Ynysfaig, ffarm yn sefyll ar ochr bryn bychan yn agos i lan yr afon Mawddach, gyferbyn â'r Abermaw. 'Rhoddodd Mr. Richards hefyd yr ysgol rad i fyny, a symudodd yno gyda Mr. Jones.

Anhawdd fuasai cael cymmydogaeth fwy iachusol a hyfryd i gorph ac enaid, a mwy cypbyrfiol i ysprydoliaeth yr Awen, nag Ynysfaig a'i hamgylchoedd. Mae prydferthwch y golygfeydd o bob tu i afon Mawddach yn ddiarhebol. Haera Justice Taulford yn ei “Vacation Rambleseu bod yn rhagori ar holl olygfeydd mwyaf clodfawr y Cyfandir. Treuliai y Bardd y rhan fwyaf o'i amser yn crwydro mewn unigrwydd ar hyd y meusydd agored rhwng Ynysfaig a'r afon Mawddach.' Y Gwaith a gyfansoddodd yn ystod ei arosiad yn Ynysfaig oedd y “Barddoniaeth Gristionogawl," yr hwn a gyhoeddwyd yn y dref hon yn 1815. Y mae y Gwaith hwn yn cynnwys dysgrifiadau helaethach a rhagorach o amrywiol olygfeydd y Greadigaeth o'i amgylch nag un o'i Weithiau eraill. Gemau tlysion o farddoniaeth ddarluniadol ydyw y ddau gyfansoddiad cyntaf yn y Gwaith hwn. Ni welsom eu cydradd yn ngwaith unrhyw Fardd Cymreig. Arterai Dewi Wyn ddweyd fod “Barddoniaeth Gristionogol" Dafydd Ionawr yn rhagori ar unrhyw Waith sydd genym yn yr iaith Gymraeg, ac oni buasai i'r Awdwr gyfansoddi Gweithiau eraill lai gorchestol yr ystyriasai ef y Bardd mwyaf yn y byd. Fel y dengys y Preface” nid ydyw y

ol fechan hon ond pigion dewisol o'r diwygiadau a wnaeth yn Nghywydd y Drindod. Cafodd dderbyniad tra boddhaol gan y wlad.

Yn ystod ei arosiad yn Ynysfaig dygwyddodd amgylchiad na buasem yn ei ystyried yn werth ei gofnodi oni b'ai ei fod yn ddangoseg eglur i nodweddiad meddyliol y Bardd. Ymwelodd Mr. John Jones Glanygors, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn byw yn Llundain, ag ef. Daethai i lawr yma, dros 200 milldir o ffordd, heb bron unrhyw neges arall ond boddio ei chwilfrydedd o gael gweled ac ymddyddan â'r hyglod Fardd Dafydd Ionawr. Eu holl gydnabyddiaeth â'u gilydd oedd trwy gyfrwng y gwahanol Weithiau a gyhoeddasent. Galwodd yn Ynysfaig. Hyspyswyd Mr. Richards fod gwr dyeithr wrth y drws yn dymuno ei weled. At y drws âg ef. “Wel, Mr. Richards, pa fodd yr ydych chwi?“Yn bur iach, diolch i chwi.” “Mae yn debyg nad ydych yn fy adnabod, ond efallai i chwi glywed son am John Jones o Lanygors.” “0, John Jones o Lanygors ydych chwi, aie; boreu da i chwi John Jones Glanygors :” ac ymaith ag ef yn ol i'r ty heb ychwanegu gair, gan adael Jones wrth y drws ei hun mewn tymer na raid ei dysgrifio. Tal rhyfedd, onide, am

ddyfod yr holl ffordd o'r brifddinas yno bron o bwrpas i dalu ymweliad cyfeillgar âg ef,-ïe, rhyfedd dros ben hefyd, ac etto, dyma Dafydd Ionawr. Yr oedd i ddyn chwareu a chellwair gyda'r Awen fel y gwnai Awdwr ffraeth “ Sessiwn yn Nghymru," &c. yn bechod anfaddeuol yn ngolwg ein Bardd difrifol o Feirion.

Yn 1819 bu ei hoff gyfaill a'i noddwr ffyddlon Mr. Thomas Jones farw; a dychwelodd Mr. Richards yn ol i'r dref hon i fyw at ei fab, Mr. G. Jones, Banker, Bryntirion, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Cafodd fab teilwng o'i dad yn Mr. G. Jones, ac yn Mrs. Jones foneddwraig ddysyml, bwyllog, gall, a gofalus. Ychydig o archwaeth oedd ganddynt at y pethau yr ymhyfrydai yr hen Fardd fwyaf ynddynt, - beirdd a barddoniaeth Gymraeg. Ond nid oedd hynny yn lleihau dim ar eu parch tuag atto. Cai bob parch heb ddim gweniaith na rhodres, pob ymgeledd heb ddim trafferth, a phob llonyddwch heb ddim esgeulusdra, a'i “hynod ffordd ei hunan" yn mhob peth. Yr oedd yntau yn hawdd iawn ei foddhâu â bwydydd, gwisgoedd, a phob angenrheidiau corphorol, ond iddo gael llonyddwch i ddarllen a phrydyddu. Yr oedd am bobpeth mor blaen a didrafferth ag oedd modd iddo ei hun ac i'r teulu, fel y gallai gysegru ei holl amser a'i fyfyrdod i lenyddiaeth, yr hyn oedd ei holl hyfrydwch. Ystyriai angenrheidiau y corph yn rhy ddibwys i deilyngu llawer o sylw bôd rhesymol, anfarwol, fel efe. Gadawai ofal ei gorph ‘i Mrs. Jones, a gofalai ei hun am ei enaid. Cai y bwyd a fynnai y pryd y mynnai. Cai hefyd fyned i'w orweddfa a chodi y pryd y mynnai. Gwnai ddefnydd helaeth o'r rhagorfraint olaf hon. Byddai yn gyffredin yn ganol dydd cyn y codai o'i wely; weithiau cai ei giniaw yno; ar rai adegau pan ar ganol cyfansoddi rhai o'i Weithiau, a'i enaid yn eirias gan y “tân barddonawl” arosai yn ei wely trwy y dydd heb gymmeryd bron ddim lluniaeth. Nis gallasom gael allan ond un eithriad i'r drefn hon o gydsynio â dymuniadau y Bardd ymhob peth. Darn byr o ganwyll a gai gan Mrs. Jones i fyned i'w wely. Yr oedd yr eithriad unigol hwn mor angenrheidiol iddo ag un rhan o'r drefn. Nid ai byth i'w wely tra parhai y ganwyll, pe cawsai un lathen o hyd. Yr oedd bob amser yn dra dibris o gymhelliadau tynerach natur ei hunan i fyned i'w orweddfa. Gorfodai y corph i ymostwng yn mhob peth i alwadau yr enaid. Ond gan y cyd-dystiai ei gydwybod â Mrs. Jones fod treisio ei natur fel hyn yn dra beius ynddo, yn enwedig gan ei fod yn awr mewn gwth o oedran, ymostyngai yn ddiddig i'r llyffethair angenrheidiol hon ar ryddid yr ewyllys, pan y gelwid ef i'w dwyn. Ni chlywyd sill o'i enau erioed yn rhoddi lle i dybied ei fod yn teimlo yn y gradd lleiaf yn edifeiriol iddo drosglwyddo ei hun fel ag y gwnaeth i ofal teulu Mr. Jones. "Cydoabyddai law ddwyfol yn ei ddygiad i gyssylltiad â'r teulu anrhy d. eddus hwn.

Mai 12, 1821, sefydlwyd Cymdeithas y Cymreigyddion yn y dref hon, yr hon a ddaeth yn fuan yn un o'r Cymdeithasau mwyaf brwdfrydig a chlodfawr yn y Dywysogaeth. Ei sefydlydd a'i llywydd am amryw flynyddau oedd Mr. Lewis Humphreys (Llewelyn Idris) o'r dref hón, a phriodolid y brwdfrydigrwydd a'r trefnusrwydd á hynodar ei chyfarfodydd yn bennaf i'w lywyddiaeth gampus ef. Cyfnod auraidd y dref hon oedd y blynyddau hynny. Tybied yr ydym y buasai yn anbawdd cael un dref arall o'r un boblogaeth yn Nghymru y pryd hwnnw a allasai ffurfio Cymdeithas o ddynion mwy athrylithgar, gwybodus, å brwdfrydig, na'r 70 a gyfansoddent Gymdeithas Cymreigyddion Dolgellau. Ei hislywydd oedd Mr. J. A. Owen (Bardd Meirion), ei Bardd, Gwilym Cawrdaf, ac ymysg ei haelodau yr oedd Ieuan Awst, Meurig Ebrill, Dewi Wnion, y Parch. Cadwalader Jones, ei harchdderwydd, y Parch. W. Hughes, Gweinidog y Wesleyaid, Idrisyn, &c. Ymysg ei haelodau gohebol yr oedd Bardd Nantglyn, Dewi Wyn, Gwilym Padarn, ac enwogion eraill. Cynhaliai ei gorseddau blynyddol i urddo beirdd, ofyddion, &c. gyda holl ceremonïau rhwysgfawr ein hen Feirdd yn y dyddiau gynt. Bu yn foddion effeithiol i ddwyn allan a diwyllio athrylith gynhenid llawer un o'i haelodau trwy yr areithiau a draddodent ac & wrandawent ar wahanol destunau buddiol yn ei chyfarfodydd misol, ac i greu gradd helaeth o ddyddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg trwy y gymmydogaeth yn gyffredinol. Ond ni bu Dafydd Ionawr crioed meron cymmäint ag un o gyfarfodydd y Gymdeithas hon yn ystod y blynyddau y bu mewn bodolaeth! Ni buasem yn son am y Gymdeithas ganmoladwy hón yn hanes ei fywyd ef oni bai fod y ffaith nacäol hynod hon yn dangos y dyn yn amlycach na mil o dystiolaethau cadarnhäol. Nid ydym yn gwybod fod ganddo unrhyw wrthwynebiad iddynt hwy ddifyru eu hunain felly yn chwareu y beirdd a'r areithwyr, ond nid oedd yn lle iddo ef. Buasai yn ddarostyngiad i Fardd o'i urddas ef ymgymmysgu â dynion pell islaw iddo fel Llewelyn Idris, Cawrdaf, Ieuan Awst, a'u cydaelodau, Yr oedd y pynciau cyffredin yr ymddify rent yn eu trafod islaw ei sylw ef. Ni feiddiai ef gellwair felly â'r Awen a roddasid iddo, ac â'r gwaith dirfawr oedd ganddo i'w gyflawni â hi yn ei oes, ac â'r cyfrifoldeb cysegredig oedd yn gorphwys arno oherwydd hynny. Os gallent hwy chwareu a chwerthin, rhaid iddo ef fod o ddifrif. Ac, heblaw hynny, pa ddifyrwch allai hen wr 70 mlwydd oed gael ynghanol dynion ieuainc a chanol oed, llawn o fywiogrwydd a brwdfrydedd blodau eu hoes;-dyn hefyd oedd yn byw yn barhaus yn nghyfeillach Job, Dafydd, ac Isaiah, Beirdd mawrion ysprydoledig y Bibl; Homer, Virgil, Shakespear, a Milton ; Goronwy Owen, a phrif- feirdd ymadawedig Cymru ;-dyn oedd yn treulio cymmaint o'i amser yn treiddio i mewn i bropbwydoliaethau a phynciau dyfnaf y Gyfrol ddwyfol :-pa allai dyn felly ddysgwyl yn nghyfeillach dynion cyffredin fel aelodau y Gymdeithas hon? Dim, yn oi ei farn ef; ac felly gwell ganddo gyfeillachu gyda'r meirwon anfarwol blaenorol a'u cyffelyb yn ei fyfyrgell gartref, neu gydag ef ei hun mewn rhyw le unig allan. Ychydig iawn o'i gyd-ddynion a ystyriai yn gyfeillion priodol iddo. Ei gyfaill pennaf oedd Mr. John Pugh, Argraffydd a Chyfreithiwr yn y dref hon. Dyn nodedig oedd Mr. Pugh. Ganesid ef yn Bryncrug, hen gymmydogaeth y Bardd ei hun. Daeth i fyny yn hollol trwy ei dalentau cynhenid ei hun. Yr oedd leuan Awst yn Nghymdeithas Cymreigyddion y dref hon fel Saul ymysg ei luoedd, yn uwch o'i ysgwyddau na hwynt oll. Efe oedd ei phrif golofn a'i haddurn. Yr oedd yn ddyn o gynneddfau naturiol cryfion nodedig, ac o wybodaeth gyffredinol helaeth, yn Fardd rhagorol, ac ystyriai Dr. W. 0. Pughe ef yn un o'r Cymreigwyr goreu yn ei oes. Parchai Mr. Richards ef yn fawr; rhoddai ymddiried mawr yn ei olygiadau a'i awgrymiadau ar bynciau llenyddol. Bu gwybodaeth a gofal Mr. Pugh fel argraffydd ei ddau waith olaf, y “Barddoniaeth Gristionogawl" a "Chywydd y Viluw," yn dra gwasanaethgar i'r hen Fardd yn eu dygiad trwy y wasg. Yr oedd gan Mr. Pugh o'r ochr arall y syniadau uwchaf am Mr. Richards fel Bardd. Nid ystyriai un Bardd Cymraeg hen na diweddar yn gydradd yn mhob ystyriaeth â Dafydd Ionawr. Ni hynododd Mr. Pugh ei hun yn fwy mewn dim ymysg ei gyd-drefwyr nag yn ei adroddiad o Gywydd y Daran. 'Yr oedd ei adroddiad o'r Cywydd bychan ond gwir arddunol hwn yn hollol anefelychadwy. I ddefnyddio geiriau Golygydd hybarch y gyfrol bresennol, yr hwn a'i clywodd, “Yr oedd yn werth myned ugain milldir i'w glywed.”

Ond nid llawer o'i amser a dreuliai Mr. Richards mewn cyfeillachau. Barddoniaeth a llenyddiaeth gyffredinol a gai y rhan fwyaf o'i amser ef trwy ei oes. Crwydrai wrtho ei hun ar hyd y caeau a'r lleoedd mwyaf unigol o amgylch y dref i gael llonydd i fyfyrio. Ei favourite haunt oedd marian mawr y dref. Nis gwyddom paham y dewisai y lle amlwg hwn yn hytrach na lleoedd mwy neillduedig a dirgel i fyfyrio ynddo, os nad oherwydd rhagoriaeth y golygfeydd a'i hamgylchent yn y marian hwn uwchlaw pob man arall yn y gymmydogaeth. Ymddengys mai ei arferiad trwy ei oes oedd ceisio pob cynnorthwy a allai dylanwadau uniongyrchol amrywiol wrthddrychau ac agweddau Anian roddi i'w Awen, yn enwedig pan fyddai galwad arni i ddarlunio rhai o'r gwrthddrychau hynny eu hunain. Mynnai, hyd y byddai modd, bob argraff, cynhyrfiad, a darluniad, oddiwrth weithrediad digyfrwng y gwrthddrychau eu hunain ar ei synwyrau. Nid ystyriai ddim yn yr Ysgrythyr ysprydolediğ ei hunan yn fwy gwir na'r hen Driad Cymraeg mai “tri pheth anhebgor Awen” ydyw 'Llygad yn gweled Anian, calon yn teimlo Anian, a glewder a faidd gydfyned âg Anian. Å llygad Bardd yr edrychai ar bob peth. Ond yn y mawreddog mewn Anian yr ymhyfrydai ei Awen fwyaf. Dyna, mae yn debygol, pabam y teimlai ei hun yn fwy gartref yn y “marian mawr” nag un man arall yn y gymmydogaeth hon, oblegid nid oes yma un man lle y cyferfydd cymmaiot o brif nodwedd hwn ei Awen ar bob llaw iddo â'r gwastadedd eang a hyfryd hwn a'r mynyddoedd o'i amgylch. I'r dwyrain iddo, dacw yr Aran fawr a'r Arenig yn derfynau i olygfa o ddolydd gwyrddion a bryniau coediog prydferth dros ben. I'r gogledd, dacw lechweddau têg amryliw o gaeau a choedydd yn esgyn yn raddol ond nid yn uchel,--digon uchel yn unig i gadw creigiau llawer llai dymunol i'r llygad sydd o'r tu cefn iddynt o'r golwg. I'r debau, dyma y dref yn llechu trwy yr oesoedd, rhag y dryghinoedd a ymosodant arni mor fyných, yn nghysgod grisiau o fynyddoedd yn ymddyrchafu y naill tu ol i'r llall, a'r "Gader fawr” yn gefn cadarn i'r cyfan; tua'r gorllewin drachefn, dacw y marian mawr yn cyfeirio ein golwg draw tua'r mynyddoedd cribog o bob tu i'r afon Mawddach. Wele hithau, yr Wnion lyfndeg sydd yn llifo mor arafaidd a distaw trwy y ddôl gan roddi rhyw amrywiaeth, iachusrwydd, a thawelwch hyfryd i'r holl olygfa. Dyma y lle yr hoffai yr hen Richards rodio a myfyrio ynddo. Nid oedd ei fod yn lle mor amlwg o un pwys yn ei olwg ef. Ymddangosai wedi ei lyncu i fypy mor hollol gan destunau ei fyfyrdod, fel nad ydym yn tybied y meddyliai am funud a oedd rhywun yn edrych arno ai peidio; a phe meddyliasai hynny, yr olaf ar y ddaear i ystyried ei hun yn wrthddrych tosturi neu ddiystyrwch ei gyd-ddynion oedd Dafydd Ionawr. Yn wir, pe buasai o'r pwys lleiaf ganddo gael ei farpu gan farn dyn yr ydym yn sicr y buasai ei ymddygiadau yn y marian hwn yn dra gwahanol i'r hyn oeddynt. Rhaid i ni addef nad oeddynt yn tueddu mewn un modd i ddyrchafu syniadau yr edrychwyr, yn enwedig dieithriaid, am gynnwysiad ei ymenydd. Dywed D. Ddu:

Bydd gwyr Dolgellau'n synnu, a'r gwaith yn ffynnu'n ffol
Wrth wel'd y Bardd yn pwyntio ei ddwy lo ar y ddol;
A thyma ran ar unwaith o'u baraith hirfaith hwy ;-
Pwy ydyw'r dyn penchwiban, pwy ydyw'r penwan, pwy!
Pwy ydyw'r dyn penchwiban sydd ar y marian mawr
Yn chwerthin, siarad, neidio, a'i bwys yn llwytho'r llawr?

Edryched y darllenydd arno yn myned tua'r marian. Dyn tàl, syth, lled deneu, esgyrnog, ydyw. Dacw fo yn ei het ffelt â chantel llydan, a'r hen spencer las laes dros ei goat, a'i glos velvet à byclau arian dysglaer yn cau ei liniau, rhai cyffelyb hefud vn ei esgidian-ai wunahneud yn llwed illum mufvraar a difrifol v mae vn

« PoprzedniaDalej »