Obrazy na stronie
PDF
ePub

dra gwahanol pan y mae "da dyrfa ddiderfyn" yn cydesgyn â Machniydd y ddynoliaeth "i lawenydd y loywnef," a'n "Iesu mawr' yn teyrnasu,

Ior enwog, yn eirianwawr
Frenin ar fyddin Nef fawr!

ac yn enwedig gan iddo benderfynu teithio pob cam o'r daith hon yn llyffetheiriau y mesurau caethion. Ond, er ein bod yn dywedyd fel hyn, chwareu têg i'r Bardd ieuanc am wneud ymgais mor anturiaethus,-am osod ei lygad ar nôd mor uchel. Cawn luaws o engreifftiau o'r dewrder rhyfygus hwn yn nghroniclau hanesyddiaeth, ond golygfa annghyffredin a hynod iawn oedd gweled Bardd Cymraeg yn llygadu ar nôd rhy uchel, yn ymgeisio at fwy nag a allai gyflawni. Er mor ddiarebol ydym fel cenedl wedi bod am ein harchwaeth farddonol, er mor enwog am ein Derwyddon, ein Beirdd, a'n Heisteddfodau, yr ydym wedi ein tyngedu i fyw ar friwsion o farddoniaeth ar yr englyn, yr emyn, y toddaid, y faled, a'r "fer Awdl." Y mae rhan fawr o'r briwsion hyn a gawsom oddiar fyrddau ein meistriaid barddonol o'r gwenith gwynaf, mae yn wir; ond briwsion ydynt, dyna'r drwg; a gwaeth na hynny fod ein hir gynnefindra â'r briwsion hyn wedi ein gwneud yn hoffach o friwsion nac o dorthau cyfain. Yr oedd Awdl o gylch mil o linellau yn dafell lawer iawn rhy fawr gan yr oes ddiweddaf hyd yn oed o fara gwyn iachus o law Dewi Wyn ei hun. Am y dorth anferth o dros 10,000 o linellau yr anrhegodd Awdwr Cywydd y Drindod y genedl â hi, edrychid ar hon yn wrthddrych gwir arswydlawn, a gwatworid y gwr a aeth i'r fath drafferth dirfawr ac ofer i'w pharotôi iddynt. Da genym weled fod y genhedlaeth Lilliputiaidd hon a ddychrynent mor ofnadwy rhag ein Gulliver barddonol o Feirion yn darfod o'n gwlad. Arwydd o eneidiau corachaidd ydyw rhyw chwaeth fel hyn at friwsion o gyfansoddiadau. Clywir etto rai yn achwyn yn erwin ar ein Bardd am ganu ar fesur mor undonaidd â Chywydd, ac yn enwedig am ganu mor faith arno. Nis gallwn feddwl yn awr am un atteb gwell na'r un a rydd y Bardd ei hun i'r dosbarth achwyngar hwn o'i gydoeswyr,-"Gallwch ei leihâu i'r maintioli a fynnoch,-i'r nifer o linellau y dylasai, yn ol eich barn chwi, fod, neu i lai na hynny, os mynnwch, trwy beidio darllen dim o hono; nid i chwi y cyfansoddwyd ef." Y gwir eglur yw, os ydyw Awdwr Cywydd y Drindod yn feius, yn newisiad cynllun mor eang a chynhwysfawr y mae i'w feio, nid am y dull a gymmerodd i'w weithio allan. I wneud cyfiawnder â'r fath gynllun dylasai fod ganwaith yn hwy nag ydyw; ac, yn ol ein syniad ni, nid oedd un o'r 24 mesur yn gydweddol â natur a meithder y Gwaith ond y mesur undonaidd a ddewisodd. Paham y rhaid grwgnach yn erbyn y Bardd Cymraeg am feithder ac undoneidd-dra ei Waith mwy nag yn erbyn Milton, neu Young, neu Pollock, neu Wordsworth, os bydd ei gynllun neu ei destun yn gofyn hynny? O'n rhan ni buasai yn dda genym pe buasai mwy o'n gwroniaid barddonol, megys Dafydd ap Gwilym, Goronwy Owen, Iorwerth Rhisiart, Ieuan Brydydd Hir, Dafydd Ddu o Eryri, Dewi Wyn, &c. yn teimlo yr aiddgarwch uchel, y cyfrifoldeb dwys, a'r penderfynolrwydd arwrol a'u cynhyrfasai hwythau i gyfansoddi rhyw WAITH yn eu bywyd a fuasai yn gymunrodd deilwng o'u galluoedd i'w gwlad ar eu hol. Yn hyn y mae Awdwr Cywydd y Drindod yn rhagori ar ein holl Feirdd Cymraeg hen a diweddar.

Mewn perthynas i'r cyhuddiad a ddygir yn erbyn y Bardd o efelychu Milton yn y rhanau dechreuol o'r Cywydd, yr ydym yn deall yr addefai yn rhwydd iddo ddilyn Milton mewn amryw amgylchiadau lle y barnai ef fod Milton yn dilyn natur, gan fod Milton wedi darlunio prif amgylchiadau hanes ein cynrïaint mor berffaith uno! â rheswm ac â natur ei hunan fel y rhaid i bawb a driniant yr un pynciau âg ef ei ddilyn ef i ryw raddau, neu eu trin yn hollol annaturiol ac anfarddonol. Dywedai mai yn y prif amgylchiadau mwyaf naturiol a tharawiadol hyn yn ei gynllun yn unig y dilynodd ef, ond iddo weithio y rhai hynny allan, fel y rhanau eraill o'r Gwaith, yn hollol yn ol ei farn a'i deimlad ei hun am nad oedd yn cymmeradwyo rhoddi cymmaint o le i'r dychymyg a'r classics wrth drin pwnc ysgrythyrol a difrifol fel Coll Gwynfa. Ond rhaid i ni yn awr ddychwelyd at yr hanes.

Yr oedd mam y Bardd yn awr yn ei bedd, a'i dad yn byw etto yn Nglanymorfa, ond wedi marwolaeth Mrs. Richards rhoddasai y tir a'i ofalon i fyny, a gosodasai ef i denant, a thrigai yn y tŷ fel boneddwr annybynol ar ei arian. Soddodd yn llawer îs nac o'r blaen i drolyn llygredigaeth. Ymroddai yn fwy nag erioed i gydredeg â'i gyfaill Mr. Corbet yn ei fuchedd anllad, a bu ganddo ddau blentyn annghyfreithlon. Gwnai y Bardd ei gartref yn Nglanymorfa am yspaid byr wedi cael yr ysgol rad yn Nhowyn, ond daeth ei dad âg un o'i ferched ordderch yno i fyw atto, yr hyn a barodd i David ymadael, ac ni welwyd ef yno byth mwy. Wrth ymadael ceisiodd gan ei dad roddi arian iddo ar gyfrif ffarm Glanymorfa, yr hon oedd yn awr yn eiddo iddo ef, tuag at argraffu y Cywydd oedd ganddo erbyn hyn yn barod i'r wasg. Ond, fel y gallasai ddysgwyl, gwrthododd roddi y gwrandawiad lleiaf i'r fath gais. Cefnogwyd Richards yn ei ymddygiad dibris tuag atto gan Mr. Corbet, a mynych y byddai y "prydydd" yn destun melus eu gwatwargerdd. Mynnai Mr. Corbet gamgymmeriad rhywfodd gymmeryd lle yn amser genedigaeth David;-iddo gael ei eni dri mis cyn ei amser,-mai ar y dydd cyntaf o Ebrill y dylasai y fath "wl” gael ei eni, ac mai Dafydd Ebrill, ac nid Dafydd Ionawr, a ddylasai gael ei alw. Pa

fath raid fod teimladau mynwes y Bardd yn troi allan o'r tŷ y tro hwn, wedi ei wrthod mewn cais oedd yn annhraethol nes at ei galon nag unrhyw wrthddrych daearol, a hynny gan yr unig un yn y byd y gallai efe y pryd hwnnw ddysgwyl cynnorthwy ganddo-ei dad ei hun? Y mae ganddo yn naturiol syniadau uchel nodedig am deilyngdod ei gyfansoddiad; y mae ei dynged yn agos iawn at ei galon; dysgwylia lawer o enw iddo ei hun ac o les i'w wlad trwy ei gyhoeddi. Bwriadasai pan etto yn ieuanc gyflwyno "gwawd" mor deilwng âg a allai ei Awen gyfansoddi yn deyrnged o fawl"i diriondeb y Drindawd." Cysegrodd flodau ei ddyddiau a'i nerth at y gwaith; costiodd ynghylch deunaw mlynedd o lafur a phryder i'w barotôi, a hynny dan anfanteision a chyfyngderau mawrion a lluosog. Y mae o'r diwedd wedi dyfod trwy ei holl lafur a'i ludded yn llwyddiannus, a'r Gwaith yn barod i'w gyflwyno i'r byd. Ond, wedi y cyfan, dyma ei holl lafur yn ofer-yn waeth nag ofer. Ymddangosai yn awr nad oedd yn ei barotôi ond i fod yn watwargerdd i'w dad cellweirus, ac yna i syrthio i dragwyddol ebargofiant. Ni chaiff byth ei gyhoeddi. Dyma y drymaf etto o'i holl groesau. Dyma ei holl obeithion hyfryd, fel castellau yn yr awyr, yn syrthio ar unwaith yn chwilfriw i'r llawr. Ergyd a drywanodd ei galon oedd y gwrthodiad hwn. Wedi gweled eithaf ei dad chwareuodd yntau ei ran yn yr amgylchiad. Galwodd ar ei Awen i eilio "gwawd" i'w dad, a'i wawdio yn ddiarbed a wnaeth hefyd; ac, ysywaeth, nid oedd ei dad ond testun rhy dda i hynny. Nis gallai ei dad ddysgwyl dim trugaredd, ac ni chafodd ddim. Cynnwysai y gerdd a gyfansoddodd y Bardd iddo ar yr achlysur hwn gasgliad tra chyflawn o'r llysenwau mwyaf isel a gwarthruddol yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd yn llawer mwy o anrhydedd i'w alluoedd fel Bardd ac ieithydd nac i'w deimladau fel mab. Ond mab mewn profedigaeth lem ydoedd.

Pan oedd yn yr amgylchiadau trallodus hyn dygwyddodd adrodd ei ofidiau wrth ei går Mr. Thomas Jones, boneddwr tra pharchus ac arianog oedd y pryd hwnnw yn dwyn ymlaen fasnach helaeth mewn gweoedd, &c. yn y dref hon. Llwyddodd i gael gan Mr. Jones roddi benthyg ynghylch £300 iddo ar gyfrif ei hawl yn Nglanymorfa, etifeddiaeth ei fam. Dyma waredigaeth werthfawr a hollol annysgwyliadwy o'r trallod yr oedd ynddo.

Y mae coffadwriaeth Mr. Jones yn teilyngu y parch mwyaf gan genedl y Cymry, oblegid oni buasai am ei gynnorthwy haelionus a phrydlon ef y mae yn dra annhebygol y buasai y Gwaith barddonol helaethaf a theilyngaf yn ein hiaith byth yn cael ei roddi i'r byd. Nid ydym yn deall fod Mr. Jones yn Fardd nac yn fab i Fardd, na'i fod wedi ffurfio unrhyw syniadau uchel a gobeithiol am deilyngdod cynnwysiad yr ysgrif o'r Gwaith a ddangosai yr Awdwr iddo. Gwnaeth y ffafr hon yn hollol o hoffder o'i gâr ieuanc talentog ac aiddgar, a'i gydymdeimlad ag ef yn ei gyfyngder. Anturiaeth hollol ydoedd iddo roddi benthyg y swm mawr hwn iddo. Yr oedd Mr. Jones, mae yn wir, yn sicr y derbyniai y cyfan yn ol, neu eu gwerth yn eu lle, os byddai David byw ar ol ei dad. Os na byddai, gwyddai yn dda nas gallai byth ddysgwyl dimai o honynt yn ol gan ei dad digllawn. Fel hyn yr oedd y £300 hyn yn hongian yn hollol wrth, edau frau einioes David, a'r tebygolrwydd naturiol y goroesai y mab y tad.

Wedi cael y sicrwydd hwn am fodd i argraffu y Cywydd cychwynodd allan i gasglu enwau tanysgrifwyr. Ymwisgodd i'r daith mewn het â chantel llydan a sporting jacket las laes ac ynddi logell helaeth a wnaed o bwrpas i gadw yr ysgrif o'r Cywydd, yr hwn a ysgrifenasid oll mewn llaw fras deg fel copperplate. Yn ei law yr oedd ffon anferth na buasai neb yn well er teimlo ei phwys. Agwedd eithaf barddonol oddiallan, boed a fynno,-gadawn i'r darllenydd ddychymygu agwedd dumewnol ei enaid,-yn cychwyn ar yr anturiaeth lenyddol gyntaf hon. Teithiodd ar ei draed drwy chwech sir y Gogledd. Ar ei draed y teithiai bob amser; cerddwr rhagorol ydoedd. Holl ffrwyth y daith hirfaith_hon, a'i holl ymdrechiadau i gael tanysgrifwyr at y Gwaith, oedd 52 o enwau am 53 o gopïau! ïe dim ond 13 allan o sir Feirionydd!! Ffaith ydyw hon sydd yn awgrymu Iluaws o bynciau cyssylltiol i'n meddwl "pro. and con." rhwng y Bardd a'i gydwladwyr. Ond cadwyd ef rhag tòri ei galon trwy danysgrifiad haelionus cyfaill hoff a ffyddlon oedd yn byw mewn bro bellenig, y Parch. Thomas Jones o Creaton, swydd Northampton, am 20 copi o hono. Y gwir yw ni wnaed y gwaith i werthu. Ni threuliodd yr Awdwr erioed y filfed ran o eiliad o'r amser y bu yn ei gyfansoddi i ystyried a oedd yn un o nodweddiad poblogaidd, gwerthadwy, unol âg archwaeth ei gydoeswyr ai peidio. Pe buasai yn rhoddi munud o'i amser i gymharu nodweddiad ei waith âg archwaeth foesol a llenyddol y Cymry yn yr oes honno, nis gallasai ddysgwyl iddo gyfarfod â rhyw groesaw gwresog iawn gan ei gydwladwyr. Yr oeddynt yn hollol annghynnefin â Gweithiau mor feithion, ac ar destunau mor uchel â'r "anfarwol sylweddol waith" oedd efe yn ei gynnyg iddynt y pryd hwnnw. Sylwa Mr. Llwyd, Awdwr "Beaumaris Bay" am dano fel hyn,

"Mr. David Richards, a native (of Merioneth) Author of "Cywydd y Drindod," one of the first productions of modern times in this language, and full of the divine Awen;-the vivida vis animi; but, like the admired epic of Milton, the produce of a period unworthy of it, and the author, like him also, may look forward to a day when its merits will doubtless be appreciated."—Llwyd's Works, page 173, note.

Ond heblaw fod testunau ac iaith y Bardd yn llawer rhy uchel i wneud y Gwaith yn boblogaidd a gwerthadwy yn yr oes honno, yr oedd ei ddull uchelfrydig, annybynol yntau o geisio tanysgrifwyr tuag atto yn unrhyw beth ond help iddo lwyddo yn ei anturiaeth. Yn ngwresawgrwydd ieuenctyd a'r "tân awenyddol" nid ystyriai neb yn werth ei sylw ond pendefigion y bobl-y boneddigion a'r offeiriaid. Taflu gemau o flaen y moch fuasai cymhell y fath Waith i'r werin gyffredin. Ond wedi nithio y werin fel ûs ymaith yr oedd rhaid nithio llawer ar yr uwchradd drachefn cyn yr ystyriai ef hwynt yn deilwng o gael tanysgrifio at y Gwaith mawr oedd ganddo yn ei logell. Os byddai y boneddwr mor anffodus a bod yn amddifad o archwaeth at farddoniaeth ac o yspryd Cymroaidd, neu os byddai yr offeiriad yn dygwydd bod yn hoffach o'i gŵn hela a'i wydriad nac o'i ddyledswyddau crefyddol, caent ill dau ddyoddef yr unig gosp a allai efe roddi arnynt-colli yr anrhydedd uchel o danysgrifio at ei ganiad anfarwol ef. Yr oedd rhaid i fawr a bychan yr âi attynt weled teilyngdod uchel cynnwysiad ei ysgrif, a chydnabod yn deilwng yr hyfrydwch a'r fraint oruchel oedd iddynt gael rhoddi unrhyw gynnorthwy yn eu gallu i sicrhâu ei ymddangosiad ger bron y byd. Yr oedd gwneud unrhyw joke o hono, pa mor ddiniwaid bynnag y byddai, yn bechod anfaddeuol yn ngolwg yr Awdwr. Galwodd gyda'r Parch. John Lloyd, Periglor Caerwys, a chydymaith Pennant yn ei deithiau. Yr oedd Mr. Lloyd yn enwog am ei ddysgeidiaeth a'i hoffder o lenyddiaeth a hynafiaethau Cymreig. Wedi cymmeryd bras olwg dros yr ysgrif gofynai mewn joke-"A oes yma ddim byd digrif ynddo, Mr. Richards?" Dyna hi drosodd ar Mr. Lloyd. Cynhyrfodd tymherau y Bardd, ac, er iddo gymmeryd enw Mr. Lloyd at y Gwaith, aeth allan yn ddigllawn, dan roddi ochenaid drom, mae yn dra thebygol, uwchben chwaeth llygredig bugeiliaid ysprydol ei wlad. Dygwyddodd anffawd o natur wahanol yn ei ymweliad â'r Esgob Bagot yn St. Asaph. Ni buasai Richards o'r blaen ond unwaith ger bron Esgob, ac ni feddyliodd y deuai yn ffordd unrhyw Barchedig Dad byth ar ol yr hybarch Watson, ac felly ni thrafferthodd ei ymenydd i astudio y deddfau ceremoniol gosodedig mewn palasau esgobawl. Pan alwodd wrth y Palas yn St. Asaph gorchymynodd yr Esgob arwain y gwr dieithr i mewn i ystafell briodol. Yr oedd un o'r gwasanaethddynion yno i'w dderbyn. Tybiai Richards wrth ei olwg trwsiadus a boneddigaidd mai yr Esgob ei hun ydoedd. Wrth fowio, &c. wrth y drws mor unol â'r laws of etiquette ag y goddefai yr arswyd a deimlai ger bron ei arglwyddiaeth y gwas iddo wneud, tarawodd yn erbyn, a sathrodd ar droed gwr arall ag oedd yn dyfod i mewn o'r tu ol iddo-yr Esgob ei hun! tro trwstan a chas dros ben. Yr oedd Bagot, o

Esgob, yn noddwr canmoladwy i'n llenyddiaeth genedlaethol, ond digiodd gymmaint wrth aflerwch yr ymgeisydd newydd presennol am ei nawdd fel y gwrthododd wneud unrhyw sylw o'i gais.

Amgylchiad nodedig arall a ddygwyddodd yn ystod y gylchdaith hon oedd iddo y pryd hwnnw am y tro cyntaf gyfarfod â llythyrau a deall helyntion bywyd yr enwog Oronwy Owen. Cyfarfyddodd â'r ysgrifau hyn yn nhŷ y Parch. Mr. Williams, Llanrwst. Cafodd y darlleniad o honynt argraff ddwfn ac annileadwy ar ei feddwl. Triniaeth eithaf ddiflas a gawsai ei hun yn ei gais am ordeiniad esgobawl, ac yn enwedig yn awr wrth deithio oddiamgylch i geisio tanysgrifwyr tuag at ei Waith mawr Cywydd y Drindod. Teimlai, fel y tystia ei hun, yn siomedig a digofus dros ben tuag at bennaethiaid eglwysig a lleygol Gogledd Cymru oherwydd eu librisdod o hono ef a'i Waith yn ystod y daith hon. Etto addefai mai ymgeisydd newydd hollol anadnabyddus oedd efe am eu nawdd. Ond fod "gwr profedig" fel Goronwy Owen, yr hwn yr oedd ei glod mor uchel o benbwygilydd i Gymru am ei ddoniau awenyddol, ei ddysgeidiaeth, ei wladgarwch, a'i ragoriaethau moesol,-Goronwy Owen, oedd yn fath addurn i'w wlad fel ag y dylasai yr Esgobion fod am y cyntaf i'w ddyrchafu,-"Goronwy Owen, oedd yn werth llon'd waggon o Esgobion," chwedl yntau,-ei fod ef yn cael ei ddibrisio mor gywilyddus, a'i daflu ganddynt o'r naill guradiaeth fechan i'r llall, ïe mewn trafferth flin hyd yn oed i gael hynny, nes oedd efe a'i deulu yn fynych yn dyoddef eisieu eu bara beunyddiol, pryd y dylasai fod yn Esgob ei hun yn derbyn ei filoedd,-ïe neb llai na Goronwy Owen, y Bardd athrylithgar, yr Eglwyswr ffyddlon, y pregethwr hyawdl, a'r dyn rhinweddol a dysgedig, oherwydd y driniaeth galed a ddyoddefai oddiwrth lywodraethwyr yr Eglwys yn ei wlad ei hun, a rhag gweled ei hun a'i deulu yn syrthio yn ysglyfaeth i grafangau tlodi, yn gorfod troi ymaith gyda'i deulu o'i wlad enedigol, a chymmeryd ei daith dros y cefnfor llydan draw i berfeddion Gogleddbarth America, i dreulio gweddill ei oes drallodus yn alltud siomedig ynghanol estroniaid hannerbarbaraidd Virginia, lle nad oedd bron neb i'w barchu na'i brisio, neb i gydymdeimlo âg ef, er ei fod, efallai, mor gyfyng ei enaid ynddo dan bwys ei siomedigaeth chwerw ag un caethwas o fewn y dalaeth, ie, mae yn dra thebygol, yn cael ei lethu o'r diwedd gan ei yspryd siomedig, ei sefyllfa ysgaredig, a'r tlodi y ceisiasai ei osgoi, i lawr i feddrod anamserol;-fod Goronwy Owen yn cael ei drin fel hyn gan Esgobion Cymru, tra y rhoddent fywioliaethau breision i eraill na feddent ddegwm ei rinweddau moesol, na'r filfed ran o'i dalentau,-"O! farbariaid,-O! fileiniaid,-O! lobsters,O lewpardiaid yn nghrwyn dynion,-O!-," byddai ei wybodaeth ieithyddol yn pallu i gael geiriau digon llymion i ddangos llymdra y digofaint a deimlai tuag at yr Esgobion am y weithred annghristionogol, anwladgarol, annynol, hollol anfaddeuol

hon. Nis gallai son am y pwnc hwn heb fyned i nwydau yn ymylu ar gynddeiriogrwydd. Dyma fel y dywed mewn llythyr at gyfaill parchedig rai blynyddau ar ol hyn; "Maddeued Duw immi, os yn chwerwder fy enaid y bu immi felldithio pennaethiaid gwledig ac eglwysig Cymru am fod yn lobsters mor ddireswm, ac mor ddideimlad ag alltudio'r gwr rhagorol yma o'i wlad gynhenid. Pan êl dysg a dawn a moesau da yn ddirmygus yngolwg pennaethiaid unrhyw wlad, diammau fod y wlad honno yn addfedu i ddistryw. Mae Cymru'r dydd heddyw yn dyst galarus o hyn. Gwared ni, Arglwydd daionus!" Nis gallwn weled dim yn annaturiol mewn tybied i'r darganfyddiad newydd hwn o'r camwri a ddyoddefodd y Bardd enwog o Fon, a'r cydymdeimlad naturiol a ennynai hynny yn ei fynwes, ddyrchafu Goronwy Owen yn llawer uwch hyd yn oed fel Bardd yngolwg Richards. Yn wir, gyda phob dymuniad i dalu gwarogaeth deilwng i athrylith naturiol y Bardd clodfawr hwn, yr ydym yn credu fod gan y cydymdeimlad dyngarol, gwladgarol, canmoladwy hwn law bwysig yn creu y swyn a'r soniarusrwydd hwnnw sydd yn amgylchu enw Goronwy Owen, ac yn ei wneud yn favourite ei genedl uwchlaw un arall o'n beirdd hen na diweddar. Pwy a wâd hawl Arglwydd Byron o ran ei ddawn gyuhenid i'w restru yn y dosbarth uwchaf o awenyddion y byd? ac etto, pwy a wâd nad ydyw rhan fawr o'r charm sydd yn ei enw, a'r poblogrwydd rhyfeddol y mae ei Waith wedi ei gyraedd, a'r dylanwad dirfawr y mae wedi ac yn ei gael ymysg ei gydfarw olion yma ar y ddaear, i'w priodoli i'w hunanalltudiaeth o'i wlad enedigol,-i'w helyntion ar hyd wahanol wledydd Ewrop,-i'r ymdrechiadau dyngarol a brwdfrydig i amddiffyn camwri y Groegiaid gorthrymedig, ac i farwolaeth ddisyfyd Missolonghi. Nid ydyw pethau fel hyn ond gweithrediadau deddfau greddfol ein natur nad raid i neb gywilyddio eu haddef. Hoff Fardd Mr. Richards hefyd oedd Goronwy Mon. Efe oedd ei esiampl-fardd. Yr oedd yn fwy hyddysg yn ei Weithiau ef nag yn eiddo unrhyw Fardd Cymraeg arall. Byddai llinell o'i Waith bron fel adnod o'r Bibl ganddo ar bob pwnc-"fel y dywed Goronwy." Ychydig o'i gyfansoddiadau ei hun a anturiodd eu hanfon allan i'r byd heb eu dyogelu dan nawdd rhyw arwyddair o waith Bardd mawr Mon. Siaradai yn llawer mwy canmoliaethol am Robert ab Gwilym Ddu fel Bardd byth wedi iddo weled yr englyn canlynol o'i waith :

Caed blodau gorau ac aeron-gynnau

Yn ein Gwynedd ffrwythlon;
Ganwyd Ionawr mawr Meirion
Yr un mis à G'ronwy Mon.

Efallai na wyddai Bardd Eifionydd hynny pan yn ei gyfansoddi, ond nis gallasai byth roi tamaid mwy blasus i hunan ei frawdfardd o Feirion na'i gyplysu fel hyn gyda "G'ronwy Mon."

Argraffwyd Cywydd y Drindod yn Ngwrecsam yn 1793. Arosai y Bardd yn y dref honno i adolygu y Gwaith tra yr oedd yn cael ei argraffu. Y nifer o gopïau a argraffwyd oedd 300. Gwerthid hwy am 5 swllt yr un. Cydgenid clod yr ymgeisydd newydd hwn am warogaeth ei gydgenedl gyda gwresawgrwydd nodedig pan ymddangosodd y Gwaith gyntaf; ond, oherwydd archwaeth isel yr oes, ac o ddiffyg cymmaint ag un Cylchgrawn Cymraeg fel cyfrwng hysbysiadau ac adolygiadau, ni fanteisiodd llogell yr Awdwr fawr ar yr holl foli oedd arno gan ei gyfeillion. Ychydig o gopïau a werthwyd heblaw y rhai y tanysgrifiesid yn flaenorol am danynt. Cymmerodd amryw o hoffwyr y Gwaith mewn gwahanol siroedd nifer o gopïau on sale, ond cwynai y Bardd yn fawr na chlywodd byth wedi hynny air o son am y llyfrau na'r arian am danynt. Ond, er mor llygredig oedd archwaeth lenyddol a mocsol Cymru, ac er cymmaint oedd yr anfanteision eraill y llafuriai Awdwyr Cymreig danynt yn nghyhoeddiad eu Gweithiau yn y dyddiau hynny, rhaid i ni briodoli aflwyddiant anturiaeth Awdwr Cywydd y Drindod yn bennaf i'w aflerwch ef ei hun. Richards yn ddyn nodedig o gall; ond, fel lluaws o ddynion call eraill, unplyg iawn oedd ei gallineb; call gyda'i bethau ei hun yn unig ydoedd. Yr oedd yn gawr i gyfansoddi llyfr, ond can wirioned a phlentyn blwydd i'w gyhoeddi a'i werthu. Oblegid y diffyg personol hwn bu yn golledwr mawr yn yr anturiaeth gyntaf hon. Rhoddodd nifer mawr o'r copïau oedd ganddo yn dead stock yn anrhegion i wahanol bersonau; ac am y gweddill, gan na fynnai y byd ei oleuo & hwynt mewn unrhyw ffordd arall, difyrodd ei ddigllonedd trwy wneud coelcerth glaerwen o honynt.*

Yr oedd

Yn 1794 daeth y Bardd i fyw i'r dref hon at ei noddwr caredig Mr. Thomas Jones, lle yr arhosodd hyd 1800 yn mwynhâu pob llonyddwch a allai ddymuno i gysegru ei holl amser a'i fyfyrdod i foddhau ei archwaeth farddonol. Gwnaeth y Bardd y defnydd goreu o'i amser wedi dyfod i fyw yma. Dechreuodd yn ddioed "adystyried y portread ammherffaith" a gyhoeddasai o'r Cywydd a addunedodd eilio i'r Drindod, gyda'r bwriad o gyhoeddi ail argraffiad o hono, fel y dengys y rhagymadrodd bwriadedig iddo a welir yn y gyfrol hon. Pa gan belled y "diwyg

Y

Yn 1834 cyhoeddodd Mr. Brigstoke, Caerfyrddin, ail argraffiad o Gywydd y Drindod dan olygiad Gwilym Cawrdaf. Gwnaed amryw newidiadau yn y Gwaith yn yr argraffiad hwn. mwyat pwysig ydyw newidiad yr orgraff trwyddo oll o ddull Dafydd Ionawr yn 1793 i ddull Gwilym Cawrdaf yn 1834. Beïid Cawrdaf yn fawr am hyn.

iodd" ac yr "anghwanegodd" yr argraffiad cyntaf nis gwyddis yn awr, gan ein bod yn deall i sypyn helaeth o'r ychwanegiadau gael ei losgi trwy ddiofalwch y rhai y daeth ysgrifau y Bardd i'w llaw ar ol ei farwolaeth; ac nid ydyw y sypyn sydd yn ein meddiant ninnau ond "pentewyn wedi ei achub o'r gynnau dân.' Cynnwysa hwn yr holl ddiwygiadau hyd hanes y Diluw. Nid ydyw yr ychydig ddiwygiadau a geir yn y rhanau dilynol o'r argraffiad presennol o'r Cywydd ond rhai a ysgrifenodd y Bardd yma a thraw yn ei gopi argraffedig o'r Gwaith. Nid annhebygol ydyw iddo ar ol cyraedd hanes y Diluw ddethol y rhanau a gynnwysent y testunau mwyaf tarawiadol, mwyaf unol â'i chwaeth a nodweddiad ei Awen i'w diwygio a'u helaethu, heb gadw at unrhyw drefn, a'u cyhoeddi yn gyfrolau ar wahan ar ol eu gorphen. Dechreuodd yn agos i'r diwedd, sef gyda'r Milblynyddau. Efallai mai yr hyn a'i cymhellodd i gymmeryd y pwnc hwn mewn llaw yn gyntaf oedd am iddo fyned heibio iddo bron yn hollol ddisylw yn yr argraffiad cyntaf, yn llawer mwy felly nag unrhyw brif bwnc arall a ddaeth dan ei sylw. Cyhoeddodd Gywydd y Milblynyddau yn 1799. Efallai iddo gael ei ddigolledu yn yr ail anturiaeth hon, gan nad argraffodd ond ychydig o'r Cywydd hwn, ac yr oedd enw yr Awdwr yn fwy adnabyddus erbyn hyn nag ydoedd yn ei anturiaeth anffodus flaenorol. Y lleiaf adnabyddus, ac, efallai, y lleiaf teilwng o'i dalentau, o'i holl Weithiau ydyw y Cywydd bychan hwn.

Ionawr 31, 1798, bu farw ei dad yn Nglanymorfa. Yr oedd ymddygiadau annhadol ei dad tuag at y Bardd, ac yn enwedig ei fuchedd lygredig yn niwedd ei oes wedi llwyr ddileu pob serchawgrwydd a pharch mabaidd yn ei fynwes tuag atto,-mor llwyr fel nad oedd yno ddigon hyd yn oed i beri iddo fyned i dalu teyrnged olaf cyfeillion daearol i'w gilydd-i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref; er mae yn dra thebygol y cosbasai gymmaint a hynny ar deimladau tumewnol ei galon fel ag i fyned i'w gladdedigaeth, pe na buasai ond er mwyn gweddeidd-dra ymddangosiadol, oni buasai fod y wraig yr oedd ei dad yn byw mewn cyfeillach annghyfreithlon â hi, a'r ferch a anwyd iddynt, yn byw yn Nglanymorfa ar y pryd yn y modd mwyaf penuchel. Gormod i galon gywir David oedd gallu edrych ar y fath olygfa a honno. Cafodd gan Mr. Thomas Jones a chyfeillion eraill fyned drosto i arolygu y claddedigaeth.

Wedi marwolaeth ei dad daeth holl eiddo ei rïeni yn eiddo iddo ef. Yn fuan wedi hyn gwnaeth gytundeb â Mr. Jones sydd wedi bod yn destun cryn lawer o syndod, ac nid ychydig o waradwydd i'r Bardd. Trosglwyddodd ei hawl yn yr holl etifeddiaeth a ddaethai iddo oddiwrth ei rïeni i Mr. Jones ar y telerau o gael treulio y gweddill o'i oes gydag ef a'i deulu, a mwynhâu holl angenrheidiau bywyd heb orfod trafferthu na gofalu dim ei hun yn eu cylch. Cynnwysid hefyd yn y cytundeb yr arian a gafodd gan Mr. Jones at gyhoeddi Cywydd y Drindod. Nis gall gwaith Mr. Jones yn cydsynio â chais hwn y Bardd fod yn achos o syndod na gwaradwydd. Ni wnaeth ddim ond a wnai pob dyn call yn yr un amgylchiadau, er nad pawb a fuasent yn cadw at y cytundeb mor anrhydeddus iddo ei hun ac mor foddhaol i Mr. Richards âg y gwnaeth ef. Rhaid i'n holl syndod a'n gwaradwydd gyfeirio yn unig at y rhan a gyflawnodd y Bardd yn y cytundeb hwn. Yr oedd gweled dyn yn aberthu etifeddiaeth deg er mwyn pleserau meddyliol llenyddiaeth yn beth lled ddyeithriol ar y ddaear. Nid ydym yn cofio yn awr am un engraifft arall o hyn yn hanes llenyddwyr Cymru. Yr oedd ei syniadau am drigolion y byd a'u harferion yn eithaf annheg ac afresymol. Ond yr oedd i'w yspryd dyfu i fyny mor afrywiog yn ganlyniad tra naturiol o'r driniaeth a gawsai yn moreu ei oes. Gadawyd ef yn ieuanc yn unig blentyn ei rieni. Nid mynych y gwelwyd yr unigrwydd hwn yn troi allan yn fanteisiol i dyfiant naturiol yr enaid. Ond yr hyn oedd yn mwyhâu yr anfantais hon iddo ef oedd y gwahaniaeth dirfawr oedd yn ymddygiadau ei dad a'i fam tuag atto. Canwyll llygad ei fam ydoedd, canolbwynt holl wresawgrwydd ei serchiadau. Ond yr oedd "dan sen sur ei dad yn barhaus. Nid oedd dim a wnai yn tycio yngolwg ei dad tra y syfrdanai ei ymenydd gyda phrydyddiaeth. Yr oedd triniaethau mor wrthdarawiadol yn rhwym o effeithio yn niweidiol ar dymherau tyner y llanc. Hefyd yr oedd ei adael nes oedd tua 13 mlwydd oed heb roi diwrnod o ysgol iddo yn gam gresynol âg ef. Ychwanegwyd llawer iawn at ei brofedigaethau wedi ei ymadawiad â thý ei dad. Tra chwerwon oedd y cwpaneidiau a yfodd y byd atto yn ystod y 24 mlynedd ar ol ei ymadawiad âg Ystradmeurig hyd ei ddyfodiad i fyw i'r dref hon at Mr. Thomas Jones. Nid mor ryfedd oedd iddo ddiflasu a blino ar y fath fyd, a dymuno troi ymaith yn hollol oddiwrtho. Yr oedd erbyn hyn yn "hen lanc" hefyd, ac wedi penderfynu parhâu felly tra byddai byw. Yr oedd yn hen lanc heb na mam na chwaer nac un perthynas arall y teimlai ddim serch tuag atti i fod yn ymgeledd iddo. Yr oedd wedi ymserchu cymmaint yn ei Awen, 'pêr odiaeth ferch Paradwys," fel nas gallwn gredu y buasai yn gydymaith diddan yn y byd i un o ferched y ddaear pe buasai yn priodi un o honynt. Hefyd cyn dechreu ar Gywydd y Drindod credai fod yr Awen oedd ganddo yn rhodd arbenig iddo ef oddiwrth ei Greawdwr (gwel Maw! i'r Creawdwr, Il. 35-44). Yr oedd y gwaith a osodai iddo ei hun hefyd yn gofyn ei holl fyfyrdodau trwy holl oriau ei oes i wneud dim tebyg i gyfiawnder âg ef. Rheswm arall a roddai dros hyn oedd ymddygiad Beirdd blaenorol Cymru. gwroniaid pennaf fel y clerfeirdd gwaelaf yn chwareu â'r dalent a roddasid iddynt.

66

Y

« PoprzedniaDalej »