Obrazy na stronie
PDF
ePub

gogoniant yn ei brif Weithiau. Ychydig o foddhâd a gawn i'r chwilfrydedd hwn gyda gwrthddrych y cofiant presennol. Yr ydym yn ei gael ar unwaith, fel Adda, yn ei gyflawn faintioli yn Nghywydd y Daran-yn ddyn mewn awen pan nad oedd ond bachgen mewn oedran.

Nid ydym yn cael ond dau gyfansoddiad arall o'i eiddo heblaw yr "Atteb" uchod yn yr Eurgrawn. Ceir y ddau hynny yn y casgliad presennol. Y cyntaf yw "Atteb i Ddifregawd Ieuan Fardd Du," prif Olygydd yr Eurgrawn. Yr oedd cydnabyddiaeth Richards â'r gymmydogaeth hon yn dra manteisiol iddo lwyddo i gael allan ddirgelwch y Difregawd hwn.

Y cyfansoddiad nesaf, a'r olaf a ddanfonodd i'r Eurgrawn, oedd llythyr at y Golygwyr "Ynghylch cyfansoddi yn Gymraeg,"-llythyr a fuasai yn anrhydedd i gallineb a gwybodaeth lenyddol unrhyw lane 19 mlwydd oed mewn gwlad ac oes lawer helaethach ei manteision nag oedd Cymru y pryd hwnnw. Yn marwolaeth ddisyfyd yr Eurgrawn, collodd yr unig gyfrwng cyhoeddus y gallai llenyddwr ieuanc ei gael yn Nghymru y pryd hwnnw i arfer ei dalentau. Nid ydym yn gwybod i un cylchgrawn arall ymddangos hyd gychwyniad y "Cylchgrawn Cynmraeg" gan Morgan ap Ioan Rhys yn 1793.

Yn 1774, ymadawodd yr Usher & Mr. Tisdale, ac ar ddechreu yr Easter Term, aeth yn efrydydd i Jesus College, Rhydychain, gyda'r bwriad i gymmeryd urddau a chymhwyso ei hun yn fwy trwyadl at ddyledswyddau yr offeiriadaeth. Ond nid ymddengys iddo aros yno yn hwy nag un term. Parodd dygn anwybodaeth yr athrawon o wirioneddau yr efengyl, a'u hollol ddibrisdod o bob rhinweddau crefyddol, ynghyd â llygredigaeth gresynol yr efrydwyr, iddo ffieiddio y lle yn fuan, a da oedd ganddo ddianc oddiyno, a dychwelyd drachefn i'w le blaenorol fel Is-athraw i'w hen gyfaill Mr. Tisdale, yr hwn a ddyrchafesid erbyn hyn i'r swydd o Brif Athraw Grammar School dra chyfrifol yn Nghroesoswallt.

Yn ystod ei arosiad yn Nghroesoswallt dygwyddodd amgylchiad a roddodd gryn dipyn o amrywiaeth i'w fyfyrdodau. Syrthiodd yn ddwfn mewn cariad at ferch i'r Parch. Mr. Roberts, Periglor y dref gymmydogaethol Whittington. Nis gwyddom ddim am rinweddau y ferch ieuanc, ond ymddengys ei fod ef yn nodedig o "glaf o gariad" tuag atti, ac yn fwy felly, yn ddiammau, am ei fod ef, fel yr ydym yn deall, yn gorfod caru y cwbl ei hun, o leiaf felly yr oedd er dim a wyddai ef. Ni chafodd unwaith le i gredu ei bod hi yn ei garu ef. Pa ryfedd? Fel llawer un arall nis gallodd unwaith gasglu digon o wroldeb i anturio cyffesu ei deimladau wrthi; ac felly, pa fath bynnag oedd teimladau dirgelaidd y foneddiges ieuanc, yr oedd ei bod yn gwrthod amlygu yr un teimladau tuag atto ef ar unrhyw delerau eraill yn un prawf eglur ei bod yn ferch ieuanc gall, ac yn deilwng o'i serch. Fel canlyniad naturiol o'r esgeulusdra hwn o astudio, neu, o leiaf, o ymarfer egwyddorion y gangen honno o athroniaeth naturiol-carwriaeth-yn well, trodd yr anturiaeth garuol hon yn hollol siomedig, a siomedigaeth ddirfawr a fu iddo ef. Bu y trafiwne chwerw hwn yn feddyginiaeth mor effeithiol i'r clefyd poeth yr oedd ynddo fel na flinwyd ef ganddo byth ar ol hynny. Ni leihaodd ddim ar ei barch i'r "rhyw dêg," ond diffoddodd bob gwreichionen o ffydd oedd ganddo ef yn ei alluoedd caruol, a chwbl gredodd o hynny allan mai nid un o honynt hwy a ragluniesid i fod yn gydmares a chysur ei fywyd ef. Ond pell iawn er hyn oedd oddiwrth dybied iddo gael ei adael heb unrhyw gydmares, a honno yn wir gysur iddo hefyd. Ni raid hysbysu i neb a ddarllenodd ei waith pwy neu pa beth oedd y gwrthddrych hwnnw.

* mirain
Gydmares ei fywyd
Oedd ei Awen dda ddiwyd,
Cai hon ei galon i gyd."

Ynghylch 40 mlynedd ar ol y siomedigaeth hon, gofynai boneddwraig iddo,-" Mr. Richards, a fuoch chwi erioed mewn cariad?" "Do, Ma'm, unwaith." "Dear me, Mr. Richards, ni fuaswn byth yn meddwl fod un ferch yn y byd yma yn ddigon perffaith i ennill eich serch chwi." "O, Mrs. Jones bach, yr oeddwn yn ei gweled fel angyles y pryd hwnnw." "Yn wir, Mr. Richards, digon tebyg ei bod yn

angyles." nac oedd mwy na chwithau, Ma'm; ond yr oeddwn i yn meddwl felly y pryd hwnnw, ac yr oedd hynny yn ddigon i mi ei charu." Nid cyfrol annyNid ydym yn

ddorol mewn un modd fuasai honno ar "Garwriaethau Beirdd." tybied y byddai yn unrhyw anrhydedd i'w talentau caruol. Ai ymhell i brofi mai y Beirdd goreu oedd y carwyr salaf. Cafodd eu siomedigaeth yn y pwnc hwn ddylanwad nid bychan ar fywyd lluaws o honynt. Cyssegrodd llawer o brif-feirdd y byd holl alluoedd eu Hawen i hynodi eu carwriaethau. Pwy na chlywodd am Dante â'i Beatrice, Petrarch â'i Laura, Swift â'i Stella, Dafydd ab Gwilym â'i Forfudd, &c. Yr oedd cariad ein Bardd ninnau o Feirion tuag at Miss Roberts, yn ol pob hanes, mor angerddol a'i siomedigaeth mor lem âg un o'r Beirdd clodfawr hyn; ond ni chawn un gair yn ei chylch drwy ei holl Weithiau, dim cymmaint â'i henw. Yn hyn yr oedd efe yn gwahaniaethu yn ei garwriaeth oddiwrth y frawdoliaeth farddol yn gyffredin. Yr oedd Richards cyn hyn wedi addunedu adduned ddifrifol na chai ei Awen ef byth ganu ar destun o'r fath; a dengys ei waith mor llythyrenol y cadwodd at ei addewid. Ond ni's gallwn gredu ei fod yn dweyd yr

"holl wir" pan briodolai ei ddystawrwydd perffaith hwn ar destunau caruol i'r adduned foreuol ganmoladwy hon. Os oedd yn gwahaniaethu oddiwrth yr enwogion uchod yn ei egwyddorion moesol, felly yr oedd hefyd yn ei dymer naturiol." Y mae ein hymddygiad yn wyneb siomedigaethau yn amrywio yn ol ein tymerau,yn ol y sect o athronwyr y perthynom iddi. Cunics oedd Dante a'i gyfeillion, yn barnu nad "waeth dweyd peth na'i feddwl." Stoic oedd Richards, yn proffesu cryn lawer o ddibrisdod o deimladau naturiol dynoliaeth. Tra y parai siomedigaeth iddynt hwy dori allan mewn cwynfanau didaw, fel y durtur, pâr iddo ef droi mewn dystawrwydd sarug i fewn iddo ei hun, fel y falwoden i'w chragen.

Wedi gwasanaethu Mr. Tisdale drachefn ynghylch tair blynedd cyfarfyddodd â phrofedigaeth lem arall a'i taflodd yn ddisyfyd o'r lle cysurus hwn. Gwyddel oedd Mr. Tisdale: daethai drosodd i'r wlad hon yn proffesu ei hun yn offeiriad urddedig, a thrwy ryw ystryw Jesuitaidd llwyddodd i weithio ei ffordd trwy ei oes hyd yn hyn fel y cyfryw. Yr oedd erbyn hyn yn hen, ac, o gydymdeimlad â'i henaint, addawodd Dr. Horsley, Esgob St. Asaph, roddi bywioliaeth (living) iddo, i'w ryddhau yn hollol oddiwrth yr angenrheidrwydd o weinyddu y swydd drafferthus o ysgolfeistr. Anfonodd am ei certificate of orders, ond, oblegid y goreu o resymau, nis gallodd eu dwyn ymlaen, ac felly daeth ei ystryw dwyllodrus i'r golau, à diswyddwyd ef yn ddioed: ac oherwydd fod rhyw favourite arall mewn golwg, neu ryw achos anhysbys yn awr, collodd yr Usher hefyd ei swydd gyda'r Athraw.

Yr

Bu Richards am ryw hyd etto yn byw fel crwydryn digartref. Yr oedd Glanymorfa, mae yn wir, etto yn drigfa ei rieni, ond ni feiddiai David ei alw yn gartref. oedd ei dad yn fyw, ond nid oedd efe yn "fab i'w dad;" ac er ei fod etto "yn dyner ac yn anwyl yngolwg ei fam," nis gallai ei hanwyldeb tuag atto fod o fawr o wasanaeth gweithredol iddo yn yr amgylchiadau yr oedd efe ynddynt yn awr, oddieithr yn unig fel adgof melus i liniaru yr arteithiau meddyliol a ddyoddefai oddiwrth bron bob ystyriaeth ddaearol arall. Tystiai y Bardd yn fynych y rhoddai yr adgof hwn -"y mae genyf fam etto yn fy ngharu"-adfywiad i'w feddwl dan lawer cwmmwl du na's gallai neb ond a fu yn yr un amgylchiadau ei amgyffred, Ond er ei fod yn gorfod ymddybynu ar yr ychydig a ennillai ei hun, ac, efallai, ambell bresent dirgelaidd oddiwrth ei fam, llwyddodd, drwy fyw yn gynnil ar yr egwyddor anffaeledig o "hwda i ti a moes i minnau," i gynnal ei hun yn anrhydeddus yn ystod yr holl amgylchiadau gwasgedig yr aeth trwyddynt. Ychydig a ennillai,-ychydig a chwennychai,-ychydig a wariai.

Yn 1779 cawn ef mewn lle drachefn yn Nghaerfyrddin, fel Is-athraw Grammar School, dan Mr. Barker, Periglor y lle. Yn Nghaerfyrddin, ail ymddangosodd ger bron y byd fel Awdwr. Yn y flwyddyn uchod bu farw Mr. Richard Morris, brawd Mr. Lewis Morris o Fon, a llywydd brwdfrydig Cymdeithas Cymrodorion Llundain. Amlygodd y Gymdeithas ei pharch i'w goffadwriaeth trwy gynnyg ariandlws am yr Awdl farwnadol oreu iddo, ond heb nodi a ydoedd i fod yn un gynghaneddol ai peidio. Y beirniaid oeddynt Mr. Robert Hughes (Robin Ddu o Fon) a Mr. Owen Jones (Owain Myfyr). Yr oedd lluaws o brif-feirdd Cymru ymysg yr ymgeisyddion. Cydfarnodd y beirniaid Awdl gynghaneddol Richard Jones o Drefdraeth yn oreu. Ond pan gyfarfyddodd y Gymdeithas ar yr achos, a gwrando darlleniad yr amrywiol Awdlau a dderbyniesid, gwrthryfelasant yn erbyn dedryd y beirniaid, a mynnent mai Awdl "benrhydd," h. y. anghynghaneddol Eos Ceiriog (John Edwards, Dyffryn Ceiriog) oedd yr oreu, ac mai Awdl gynghaneddol "Dafydd Rhisiart o'r Tywyn, yr hwn y pryd hwnnw oedd yn Athraw ysgol yn Nghaerfyrddin," oedd yr ail. Felly rhoddai y Gymdeithas i Richards yr anrhydedd o sefyll yn uwchaf yn rhestr amddiffynwyr y mesurau caethion. Safai y ddau feirniaid yn eiddigus dros ein mesurau cenedlaethol; safai y Gymdeithas yr un mor eiddigus dros ragoroldeb drychfeddyliol, a dadl frwd rhwng pleidwyr y llythyren" a'r "ysbryd a fu y canlyniad. mwyn cael y ddadl anorphen hon i benderfyniad heddychol cydsyniwyd i roddi ariandlws i bob un o ddau wron yr ymrysonfa, i Richard Jones a John Edwards. Dyma Gymdeithas y Cymrodorion fel hyn yn hanner noddi Awdl anghynghaneddol Eos Ceiriog; ie, oni buasai am eiddigedd gwladgorol y ddau feirniaid, rhoddasent eu nawdd yn hollol iddi. Cymdeithas glodfawr a dylanwadol Cymrodorion Llundain, prif noddwyr llenyddiaeth Gymreig yn y byd, yn rhoddi eu llais a'u dylanwad yn erbyn y mesurau sydd yn cyfansoddi neillduolrwydd cenedlaethol barddoniaeth y Cymry! Dyma wrthryfel cyhoeddus yn erbyn mawrhydi y mesurau caethion na's gallai ysgolfeistr eiddigus Caerfyrddin ei faddeu. Digiodd yn erwin, digiodd am byth. Penderfynodd nad ymgeisiai byth mwy mewn cystadleuaeth farddonol o un math, ac fel y gwnaeth yn achos y siomedigaeth a ddyoddefasai yn ei ymgais blaenorol am ariandlws o fath arall yn Whittington, safodd yn ddiysgog at y penderfyniad hwn hefyd. Y tro cyntaf hwn oedd y tro diweddaf hefyd iddo ymyraeth dim âg unrhyw gystadleuaeth farddonol.

Er

Yr oedd Richards trwy ei oes yn amddiffynwr gwresog i'r ffydd gynghaneddol. Yn ol ei farn ef, fod gwaith barddonol wedi ei gyfansoddi yn ol rheolau y 24ain mesur oedd yn ei wneud yn un Cymreig, fel yr oedd y pentameters a'r hexameters, yn marddoniaeth y Rhufeiniaid yn gwneud un Rufeinig. Gallai y gwaith fod yn un Cymraeg, ond nid yn un Cymreig, heb fod yn un cynghaneddol. Hynny oedd yn eyfansoddi ei neillduolrwydd cenedlaethol. Hawdd, fel hyn, ydyw gweled pa fodd y

penderfynasai ef y ddadl bresennol rhwng y "Bryddest a'r Awdl." Gallai Pryddest ddiawdl fod yn un Gymraeg, ac yn un mor farddonol ei drychfeddyliau â Choll Gwynfa" ei hun, ond nid ydyw yn un o fesurau cenedlaethol y Cymry; o ganlyniad cadeirier Pryddest, dyna ergyd marwol i genedlaetholrwydd ein hen sefydliadau Cymreig-yr Eisteddfodau. Buasai yn crynhôi y ddadl fawr hon i un gofyniad syml- A ydyw cenedlaetholrwydd ein barddoniaeth a'n Heisteddfodau yn werth ei gadw i fyny ai peidio?" Mynnai ef fod y gynghanedd a'i gwraidd yn natur-yn nghyfansoddiad geiriol, yr iaith Gymraeg, ac mai cam annaturiol ac anfaddeuol a'r iaith,-ei hymddifadu o "guddiad ei chryfder" oedd ei diosg o'r gynghanedd, ac mai bradwr iddi oedd y Bardd a wnai hynny. Siaradai gyda'r dirmyg mwyaf am gyfieithiad annghynghaneddol Dr. Pughe o "Goll Gwynfa." Nis gallodd byth gyfeillachu yn rhydd âg ef ar ol i'r Doctor gyflawni y pechod ieithyddol hwnnw. Ei "iaith fastardaidd" a'i rhoddai o'i hwyl gyda'n Harchemynydd seraphaidd o Bantycelyn, er y siaradai yn dra pharchus am alluoedd cynhenid ei Awen.

Arferasom bob moddion yn ein gallu i gael copi o'r Awdl flaenorol tuag at ei chyhoeddi yn y gyfrol bresennol, oblegid nid y cyfansoddiad lleiaf dyddorol ynddi fuasai hwnnw a ddygodd y Bardd gyntaf i sylw ei gydgenedl. Pan yn Llundain yn ddiweddar chwiliasom holl hen ysgrifau y Cymrodorion yn y British Museum ac yn llyfrgell yr Ysgol rad Gymraeg yn Gray's Inn Lane yn ofalus, ond er ein siomedigaeth a'n gofid dwys, bu ein holl lafur yn ofer. Y mae, fel lluaws eraill o drysorau llenyddol hen Gymdeithasau Cymroaidd y Brif-ddinas, wedi myned i ddifancoll anadferadwy. Y cam i'r ris uchel y safai ynddi yn y gystadleuaeth gynhyrfus uchod oedd y cyntaf a roddodd tua'r lle uchel y saif ynddo yn awr yn nheml enwogrwydd" cenedl y Cymry.

Un o'r enwogion llenyddol y daeth yn gydnabyddus â hwynt mewn canlyniad i'r rhan a gymmerodd yn y gystadleuaeth hon oedd y Parch. John Walters, Periglor Cowbridge. Yr oedd Mr. Walters y pryd hwn ar ganol ei lafur dirfawr o gyfansoddi ei Eirlyfr Dwyieithawg. Canfyddodd dalentau llenyddol ei gyfaill newydd, a gwnaeth ddefnydd helaeth o honynt. Bu cynnorthwy cyfeillgar Richards o wasanaeth pwysig iddo. Ond ymddengys fod callineb Mr. Walters yn fwy amlwg yn yr achos hwn na'i anrhydeddusrwydd. Buasai ychydig o gydnabyddiaeth arianol yn dra gwasanaethgar i'w gyfaill ieuanc yn ei amgylchiadau y pryd hwnnw; ond ni dderbyniodd ddim. Gallem feddwl fod Mr. Walters yn gâr agos i'r Offeiriad Pabaidd hwnnw gynt yr oedd yn haws ganddo roddi ei fendith na'i ddimai i'r Gwyddel tlawd, er nad ydym am brisio substitute Mr. Walters yn hollol ar yr un egwyddor ag y prisiai y llanc pert hwnnw fendith y Pabydd. Ond y mae yn eithaf gwir fod "aderyn mewn llaw yn werth dau mewn llwyn." Buasai ychydig o arian mewn llogell yn llawer mwy pwrpasol i Richards y pryd hwnnw na llawer mewn addewid. Yr hyn a roddodd Mr. Walters iddo yn lle arian oedd titl i fyned at Esgob Llandaff i gael ei ordeinio i fywioliaeth oedd ganddo ef mewn golwg iddo o ynghylch £15 (1) yn y flwyddyn. Y gwr a ddygwyddai fod yn eistedd yn nghadair esgobawl Llandaff y pryd hwnnw oedd yr hyglod Richard Watson, Awdwr "An apology for the Bible." Wrth holi yr ymgeisydd newydd hoffodd Watson ei gallineb, ei symlrwydd, a'i dalentau, ac am fod y cyflog a addewid iddo mor annheilwng o'i gymhwysderau, o barch tuag atto gwrthododd ei gais. Y chwedl gyffredin ydyw mai ei waith ef yn gwrthod cymmeryd y "llw" arferol ei fod yn cael ei gymhell i'r gwaith gan yr Yspryd Glan a achosodd I'w gais am ordeiniad esgobawl fyned yn fethiant. Ar ba sail y ffurfiwyd y chwedl hon ni's gwyddom. Yr achos a roddai yr ymgeisydd ei hun oedd yr un a nodasom. Gwyddai wrth wneud y fath gais fod y llw hwnnw yn ammod arferol ordeiniad gweinidogaethol yn yr Eglwys Sefydledig, ac nid allai ddysgwyl y cai ef, mwy nag eraill mor deilwng ag yntau o'i flaen, ei esgusodi yn y pwnc hwn. Yr oedd yn iawn, Os nad oedd yn foddlon i'r ammod hwn, rhesymol neu beidio, paham y gwnai y fath ymgais? Ond fel y gwelsom ef yn gwneud mewn dau amgylchiad pwysig o'r blaen, cymmerodd lw arall,-na thrafferthai ei hun byth mwy ynghylch urddiad eglwysig.

Yn ystod ei arosiad yn Nghaerfyrddin ymwelodd ei fam âg ef. Yn ei fywyd ef yr oedd hyn yn ddygwyddiad pwysig, a'r amgylchiadau, fel yr adroddwyd hwynt i ni, yn dra dyddorol. Yr oedd blynyddau meithion wedi myned heibio er pan welsant eu gilydd ddiweddaf pan yn ffarwelio ar gychwyniad David i Ysgol Ystradmeurig. Llawer diwrnod cymmylog a welodd David yn ystod y blynyddau hynny, ac felly y gwelodd hithau, yn ddiammau, yn ei achos. Ond o'r diwedd, trwy fodd neu anfodd John Richards, penderfynodd fynnu gweled ei phlentyn cyn ei marw; ac yr oedd yn ffodus iddi fyned y pryd hwnnw, oblegid ymhen ychydig o amser wedi hyn aeth y wraig rinweddol hon i ffordd yr holl ddaear. Yr oedd absennoldeb maith David oddicartref wedi magu teimladau go ddyeithrol yn ei mynwes tuag atto. gwyddai yn sicr pa fath fachgen ydoedd erbyn hyn. Gwyddai ei fod yn ystod y blynyddau a aethent heibio yn byw mewn cylchoedd lled "respectable," ac, erbyn hyn, wedi cyraedd gradd o enwogrwydd ei hun hefyd, ac ofnai fod hyn wedi ei bensyfrdanu, fel llawer hogyn penwan o'i flaen, ac, o ganlyniad, y byddai arno gywilydd arddel ei hen fam wladaidd a hen-ffasiwn. Parai yr anwybodaeth hon iddi deimlo pryder nid bychan ynghylch anturio i ymweled âg ef. Sicrhêir i ni iddi fynnu gan foneddwraig o'r gymmydogaeth fyned gyda hi, er mwyn rhoddi mwy

Ni's

[ocr errors]

o "air of respectability" i'w hymddangosiad yn nhŷ y boneddwr yr arosai David gydag ef y pryd hwnnw, rhag i David ddigio wrthi am ddyfod yno! Cyrhaeddant Gaerfyrddin yn ddïogel, a chyfeiriant eu camrau at dŷ Mr. Barker. Er mwyn daioni, Mrs. cerddwch chwi at y drws yn gyntaf, yr wyf yn ofni y bydd David yn bur ddig wrthyf am ddyfod yma." Rhydd Mrs. knock ar y drws ;-wele y forwyn yno yn y fan. "A ydyw David Richards i mewn?" gofynai Mrs. i'r forwyn. "David Richards?-O, Mr. Richards yr Usher ydych yn feddwl, mae yn debyg; a welwch chwi yn dda ddyfod i mewn, Ma'm ?" "Mrs., a glywsoch chwi! Mr. Richards meddai yr eneth am Dafydd ni. O! sut y deuaf i fewn? ni fynnai mo'r byd, yr wyf yn sicr, â gweled hen greadures fel y fi ymysg teulu mor barchus. Cerddwch chwi i mewn yn gyntaf." Dacw ddrws y parlwr, lle y mae Mr. Barker a'r teulu, a'r Usher, yn agor;-& Mrs. — i fewn yn gyntaf, adnebydd David y foneddwraig,-cyfyd i fyny i'w chyfarch. Dacw rhywun arall yn sefyll yn nghil y drws-hen wraig-ei hen fam! Heibio i'r foneddwraig a phawb arall âg ef, a'i freichiau am wddf yr hen wraig, a chofleidiai hi gyda theimladau nad waeth heb geisio eu dysgrifio. Yn unig gallwn ddweyd mai ychydig iawn o "gywilydd arddel ei fam" oedd ar "Mr. Richards" yn eu gwydd hwynt oll. Gwelodd yr hen wraig yn fuan mai Dafydd oedd Dafydd etto, ac mai afreidiol iawn oedd presennoldeb Mrs. yno. Wylent yn hidl yn hir ym mreichiau eu gilydd, ac ni's gallwn gredu fod neb yno yn beio arnynt. "Trech natur na dysgeidiaeth." Plentyn yn coffeidio ei fam! Pa beth oedd yn isel, annysgedig, neu anfoneddigaidd yn hyn? olygfa fwy prydferth, fwy gorlawn o wir athroniaeth, tu yma i'r drydedd Nef? Cadwed y Nef fechgyn Cymru rhag y coethder goruwchnaturiol hwnnw a'u hattaliai i wneud yn hollol yr un modd yn yr un amgylchiadau. Wedi treulio rhyw yspaid gyda David dychwelodd Mrs. Richards adref, byth i'w weled mwy. Awst 20, 1783, tra yr oedd David etto yn Nghaerfyrddin, bu farw ei fam yn 69 mlwydd oed, a chladdwyd hi yn mynwent Towyn, a chyda hi bob swyn oedd yn y gair "cartref "

i'w mab David.

Pa

Yn ol pob adgofion a allasom gasglu am Mrs. Richards ymddengys ei bod yn engraifft ddymunol o'r nodweddiad menywaidd. Dynes wylaidd, ddistaw, bwyllog, ofalus, gartrefol, o naws tra chrefyddol ydoedd. Ei thy a'i theulu oedd ei phob peth. Dywedai rhai o'i chymmydogesau mai "dynes gysetlyd" oedd hi. Ond gwyddom mai nid yn ol yr ystyr a roddir iddo yn Johnson's Dictionary y dylem gymmeryd y gair "conceit" bob amser pan gymhwysir ef gan gymmydogesau at eu gilydd, yn enwedig os bydd y gwrthddrych yn "hen ferch." Yr oedd Anne Dafydd yn neshau yn gyflym i dir y gwynfyd unigol annaturiol hwnw pan gafodd John Richards afael ynddi. Yr oedd yn 35 mlwydd oed; ac felly, dylid maddeu iddi os oedd mwy o'r " conceit" henferchedaidd o lanweithdra, trefnusrwydd personol a theuluol, pobpeth fel pin mewn papur, wedi magu ynddi yn fwy na'r cyffredin o'i chymmydogesau. Bu yn wraig dda i John Richards, ac yn fam dda i David, er y rhaid fod hynny yn eithaf anhawdd yn fynych, os ystyriwn nodweddiad anystyriol y tad, a'i gasineb tuag at ei fab. Heblaw ei "hyfforddi yn mhen y ffordd " mewn egwyddorion crefyddol, rhoddai tra y bu byw bob cefnogaeth i David wneud ei oreu o'r dalent farddonol oedd ganddo. Arferai ddweyd y blynyddau olaf o'i bywyd ei bod yn credu i David gael y dalent o'r Nef, ac y byddai yn sicr o hynodi ei hun, os cai fyw, fel Bardd Cymreig. Fel hyn, fel lluaws o "rai rhagorol y ddaear" o'i flaen yn mhob oes, er dyddiau Abel gyfiawn (gwel CYWYDD Y DRINDOD, t. d. 77, 11. 2380-2), yr oedd gan y Bardd clodwiw hwn fam nodedig, deilwng o'r plentyn a roddwyd iddi i'w fagu i'r "Drindod; "a hi trwy ei hesiampl a'i haddysgiadau oedd y prif weithredydd yn ffurfiad ei nodweddiad dyfodol. Mynwesai y Bardd yr adgofion tyneraf a melusaf am ei fam tra y bu byw. Ond, yr hyn sydd yn dra syn, yr unig goffadwriaeth a eiliodd ei Awen iddi ydyw pedair llinell ei Beddargraff. Yn Nghaerfyrddin hefyd y cyfansoddodd y rhan fwyaf o'i "gampwaith, y mydrwaith mawr,"-CYWYDD Y DRINDOD.

Yn nechreu 1790 daeth yn ol i'w fro enedigol, a chafodd y swydd o Athraw yr ysgol rad yn Nhowyn. Arosodd yno ynghylch dwy flynedd. Yr oedd yr ysgol yn dra blodeuog tra bu dan ei ofal ef. Parodd dysgeidiaeth ac enwogrwydd yr Athraw i luaws mawr o ysgolheigion ddyfod i'w ysgol o'r gwahanol drefi amgylchynol. Ond, er mor gysurus y rhaid fod ei amgylchiadau yn y lle hwn, yr oedd ei galon o hyd ar ei "waith," ac yma y gorphenodd ef.

Ffurfiesid y drychfeddwl a'r bwriad o "eilio gwawd" o ryw fath i "diriondeb y Drindawd," yn ol ei dystiolaeth ef ei hun yn y "Preface" i'r argraffiad cyntaf o'r Cywydd, pan oedd etto yn ieuanc. Nid ydyw mewn un modd yn annhebygol mai ei fam rinweddol a awgrymodd y drychfeddwl mawreddog hwn gyntaf iddo, ac a'i hargraffodd ar ei feddwl; a dangosodd y canlyniad mor ddwfn y gwreiddiodd yn ei enaid. Wedi i'w lygad ymsefydlu arno yn ei ieuenctyd ni thynodd ei olwg oddiarno byth mwy. Treuliodd ei holl alluoedd, ei feddiannau, a'i oes yn ei weithio allan. Os bu "dyn o un drychfeddwl" erioed ar y ddaear, Awdwr CYWYDD Y DRINDOD oedd hwnnw. Pa bryd y penderfynodd ar y cynllun hanesiol cynnwysfawr, yn ol yr hwn y gweithiodd ei fwriad allan, nis gwyddom. Ond gallwn gasglu oddiwrth sylwadau a arferai wneud wedi hynny ynghylch dull cyfansoddiad y Cywydd, iddo ddechreu cyfansoddi rhyw fras arlun o hono cyn hir ar ol ei ymadawiad âg Ystradmeurig, a'i fod yn gweithio arno yn achlysurol, fel y goddefai amgylchiadau, yn ystod yr holl

gyfnewidiadau trallodus yr aeth trwyddynt wedi hynny hyd ei ddychweliad i'w fro enedigol yn 1790. Arferai ddweyd fod y Cywydd yn dra ammherffaith, ac ymhell iawn oddiwrth fod yr hyn a fwriadai ef iddo fod pe buasai ei amgylchiadau yn caniatau;-fod ei wahanol ranau gwych a gwael yn bortreiad cywir o'i deimladau cyfnewidiol pan yn ei gyfansoddi;-ei fod yn cyfansoddi llawer rhan o hono dan bwys teimladau pruddglwyfus oherwydd cyfyngderau amgylchiadol nas gallai neb ond yr Hollwybodol ei hun eu hamgyffred. Cyfansoddi y Cywydd hwn a ystyriai ef fel ei waith drwy yr holl flynyddau hynny, pan y caniatai ei ddyledswyddau ysgolfeistriaidd. Pan y gwenai Rhagluniaeth ychydig arno ymwregysai at y gwaith hwn gyda'r awyddfryd mwyaf; pan y gwgai, fel y gwnai y rhan fynychaf y pryd hwnnw, nychai ei yspryd, digalonai yr Awen, byddai ei lamp, fel "llin yn mygu," bron a diffodd. Ymaflai yn ei ysgrifbin gyda mwy o boen nac o bleser;-cydwybod, nid ysprydoliaeth awenyddol, a barai iddo wneud hynny, Cyfeiria yn dra theimladwy at hyn yn y "Preface" i'r Cywydd. Unwaith gwasgwyd ef i'r fath gyfyngder yspryd nes y rhoddodd ei ysgrifau heibio yn hollol, a phob meddwl am fyned yn mhellach. Nis gallasom sicrhâu ei breswylfod ar y pryd, a'r amgylchiadau pennodol y cyfeiriai attynt pan weithiwyd ei yspryd i'r iselder torcalonus hwn. Ond yr adeg ar ei waith oedd ar ol gorpheniad hanes yr Hen Destament (gwel t. d. 117, il. 617). Bu cyhyd heb allu casglu digon o wroldeb i ail gynnyg ar y gwaith nes yr ail ddechreuai gyda bron yr un teimladau a phe buasai yn ymgynnyg arno y pryd hwnnw am y waith gyntaf. Fel y wenol o flaen y gwlaw, y mae ei Awen am rai ugeiniau o linellau yn ehedeg yn wibiog yn agos i'r ddaear, fel pe buasai yn ofni fod rhyw ystorm etto i ddyfod a ddyrysai ei holl ehediadau. Ond y mae o'r diwedd (gwel t. d. 118, 11. 739-756) yn diflasu ar droi mewn amhenon o amgylch y testun. Llidia yn gynddeiriog wrth y rhwystrau a'i hattaliai ymlaen, a llefa ailan,

[ocr errors][merged small]

Ac er mai o'r un nodweddiad amrywiol â'r rhan flaenorol ydyw y rhan ddiweddaf o daith ei Awen, nid ydym yn cael iddo "orphwys" llawer ar ol ail gychwyn nes cyraedd yn iach a diogel i'r "tir pell" yr oedd llygad ei Awen arno. Esbonia ei helyntion amgylchiadol nodweddiad tra amrywiol gwahanol ranau o'r Cywydd. Tra y mae ynddo rai engreifftiau o'r arddunol a'r prydferth y gallasai Milton ei hun ymfalchio o fod yn Awdwr o honynt, y mae ynddo eraill drachefn, fel, yn wir, y mae yn "Ngholl Gwynfa" hefyd, heb unrhyw ragoroldeb barddonol ynddynt. I ffurfio barn deg a chywir am deilyngdod gwaith o'r fath eangder rhaid ei farnu, fel pob gwaith daearol, ar y cyfan.

Nis gallwn ymadael a hanes ei gyfansoddiad heb dalu ein gwarogaeth gwresog i'r mawredd meddyliol a moesol a amlygir yn y cynllun a osodasai y Bardd ieuanc hwn iddo ei hun. I'n golwg ni y mae rhywbeth gwir arddunol ynddo. Ni buasai ond enaid gwir fawr yn meddwl y fath feddwl, nac ond yspryd gwir arwrol yn anturio ei weithio allan. Anturiodd ar daith farddonol na chynnygiasai neb o'i flaen, nac ond un, hyd y gwyddom ni, ar ei ol. Yr oedd y ddau Fardd hyn yn ieuanc pan ymgymmerasant a'r gwaith. Cymmerasant ddau lwybr hollol wahanol i gyraedd y tir pell y cyrchent atto. Cymmerodd y naill lwybr yr hanesydd a'r darluniedydd, a'r llall lwybr y darfelyddwr a'r athronydd. Llwybr y cyntaf yw y mwyaf naturiol, trefnus, a syml; llwybr y diweddaf ydyw y mwyaf barddonol. Ychydig o addurniadau darfelydd a geir yn "Nghywydd y Drindod," a llai na hynny o symlrwydd a threfn a geir yn y "Course of Time." Cawn y ddau lwybr hyn wedi eu huno yn "Ngholl Gwynfa," a hyn sydd yn gwneud Milton y beau ideale perffeithiaf o wir Fardd a ymddangosodd etto yn y byd. Yn ol ein barn ni, gwnaeth y Bardd Cymraeg lawer mwy o gyfiawnder a'r cynllun na'r Bardd Albanaidd. Ond er i David Richards a Robert Pollock gyflawni gorchestion a barhânt yn anrhydedd oesol i'w talentau a'u llafur, nid ydynt yn brofion amlycach o ddim nag iddynt benderfynu ar gynllun annhraethol rhy gynnwysfawr i alluoedd dynol mewn oes ddynol wneud cyfiawnder âg ef. Beth pe buasai Awdwr Cywydd y Drindod yn cymmeryd hamdden i eistedd i lawer gerllaw pob llanerch wyrddlas, pob dyffryn ffrwythlon, pob afon risialaidd ac adfywiol, pob mynydd mawreddog, pob golygfa brydferth a deniadol a welai ar ei daith hirfaith, ac yn eu dysgrifio mor fanwl, ni ddywedwn mor fedrus, ag y dysgrifiodd Milton un o honynt-Coll Gwynfa, prin y buasai tragwyddoldeb ei hun yn ddigon hir iddo gyraedd pen ei daith, gan ei bod yn dechreu draw yn ol pan oedd "Duw Tad-yn Awdwr di newidiad” yn "preswylio tragwyddoldeb mewn unigrwydd anamgyffredadwy, ac yn cyraedd trwy holl oesoedd ac amgylchiadau amser, hyd nes y mae yn cael yr hyfrydwch o syllu ar olygfa

B

« PoprzedniaDalej »