Obrazy na stronie
PDF
ePub

gogoniant yn ei brif Weithiau. Ychydig o foddhad a gawn i'r chwilfrydedd hwn gyda gwrthddrych y cofiant presennol. Yr ydym yn ei gael ar unwaith, fel Adda, yn ei gyflawn faintioli yn Nghywydd y Daran-yn ddyn mewn awen pan nad oedd ond bachgen mewn oedran.

Nid ydym yn cael ond dau gyfansoddiad arall o'i eiddo heblaw yr “Atteb” uchod yn yr Eurgrawạ. Ceir y ddau hynny yn y casgliad presennol. Y cyntaf yw " Atteb i Ddifregawd Ieuan Fardd Du," prif Olygydd yr Eurgrawn. Yr oedd cydnabyddiaeth Richards â'r gymmydogaeth hon yn dra manteisiol iddo lwyddo i gael allan ddirgelwch y Difregawd hwn.

Y cyfansoddiad nesaf, a'r olaf a ddanfonodd i'r Eurgrawn, oedd llythyr at y Golygwyr “Ynghylch cyfansoddi yn Gymraeg," llythyr a fuasai yn anrhydedd i gallineb a gwybodaeth lenyddol unrhyw lanc 19 mlwydd oed mewn gwlad ac oes lawer helaethach ei manteision nag oedd Cymru y pryd hwnnw. Yn marwolaeth ddisyfyd yr Eurgrawn, collodd yr unig gyfrwng cyhoeddus y gallai llenyddwr ieuanc ei gael yn Nghymru y pryd hwnnw i arfer ei dalentau. Nid ydym yn gwybod i un cylchgrawn arall ymddangos hyd gychwyniad y “Cylchgrawn Cynmraeg” gan Morgan ap Ioan Rhys yn 1793.

Yn 1774, ymadawodd yr Usher a Mr. Tisdale, ac ar ddechreu yr Easter Term, aeth yn efrydydd i Jesus College, Rhydychain, gyda'r bwriad'i gymmeryd urddau a chymhwyso ei hun yn fwy trwyadl at ddyledswyddau yr offeiriadaeth. Ond nid ymddengys iddo aros yno yn hwy nag un term. Parodd dygn anwybodaeth yr athrawon o wirioneddau yr efengyl, a'u hollol ddibrisdod o bob rhinweddau crefyddol, ynghyd â llygredigaeth gresynol yr efrydwyr, iddo ffieiddio y lle yn fuan, a da oedd ganddo ddianc oddiyno, a dychwelyd drachefn i'w le blaenorol fel Is-athraw i'w hen gyfaill Mr. Tisdale, yr hwn a ddyrchafesid erbyn hyn i'r swydd o Brif Athraw Grammar School dra chyfrifol yn Nghroesogwallt..

Yn ystod ei arosiad yn Nghroesoswallt dygwyddodd amgylchiad a roddodd gryn dipyn o amrywiaeth i'w fyfyrdodau. Syrthiodd yn ddwfn mewn cariad at ferch i'r Parch. Mr. Roberts, Periglor y dref gymmydogaethol Whittington. Nis gwyddom ddim am rinweddau y ferch ieuanc, ond ymddengys ei fod ef yn nodedig o "glaf o gariad” tuag atti, ac yn fwy felly, yn ddiammau, am ei fod ef, fel yr ydym yn deall, yn gorfod caru y cwbl ei hun, o leiaf felly yr oedd er dim a wyddai ef. Ni chafodd unwaith le i gredu ei bod hi yn ei garu ef. Pa ryfedd ? Fel llawer un arall nis gallodd unwaith gasglu digon o wroldeb i anturio cyffesu ei deimladau wrthi; ac felly, pa fath bynnag oedd teimladau dirgelaidd y foneddiges ieuanc, yr oedd ei bod yn gwrthod amlygu yr un teimladau tuag atto ef ar unrhyw delerau eraill yn un prawf eglur ei bod yn ferch ieuanc gall, ac yn deilwng o'i serch. Fel canlyniad naturiol o'r esgeulusdra hwn o astudio, neu, o leiaf, o ymarfer egwyddorion v gangen honno o athroniaeth naturiol-carwriaeth yn well, trodd yr anturiaeth garuol hon yn hollol siomedig, a siomedigaeth ddirfawr a fu iddo ef. Bu y trafiwnc chwerw hwn yn feddyginiaeth mor effeithiol i'r clefyd poeth yr oedd ynddo fel na flinwyd ef ganddo byth ar ol hynny. Ni leibaodd ddim ar ei barch i'r “rbyw dêg,” ond diffoddodd bob gwreichionen o ffydd oedd ganddo ef yn ei alluoedd caruol, a chwbl gredodd o hynny allan mai nid un o honynt hwy a ragluniesid i fod yn gydmares a chysur ei fywyd ef. Ond pell iawn er hyn oedd oddiwrth dybied iddo gael ei adael heb unrhyw gydmares, a honno yn wir gysur iddo hefyd. Ni raid hysbysu i neb a ddarllenodd ei waith pwy neu pa beth oedd y gwrthddrych hwnnw.

• miraia
Gydmares ei fywyd
Oedd ei Awen dda ddiwyd,
Cai hon ei galon i gyd.

Ynghylch 40 mlynedd ar ol y siomedigaeth hon, gofynai boneddwraig iddo,-“Mr. Richards, a fuoch chwi erioed mewn cariad?“Do, Ma'm, unwaith.” “Dear me, Mr. Richards, ni fuaswn byth yn meddwl fod un ferch yn y byd yma yn ddigon perffaith i ennill eich serch chwi.” “0, Mrs. Jones bach, yr oeddwn yn ei gweled fel angyles y pryd hwnnw.” “Yn wir, Mr. Richards, digon tebyg ei bod yn angyles.” “O, nac oedd mwy na chwithau, Ma’m; ond yr oeddwn i yn meddwl felly y pryd hwnnw, ac yr oedd hynny yn ddigon i mi ei charu." Nid cyfrol annyddorol mewn un modd fuasai honno ar “Garwriaethau Beirdd." Nid ydym yn tybied y byddai yn unrhyw anrhydedd i'w talentau caruol. Ai ymhell i brofi mai y Beirdd goreu oedd y carwyr salaf. Cafodd eu siomedigaeth yn y pwnc hwn ddylanwad nid bychan ar fywyd lluaws o honynt. Cyssegrodd llawer o brif-feirdd y byd holl alluoedd eu Hawen i hynodi eu carwriaethau. Pwy na chlywodd am Dante a'i Beatrice, Petrarch â'i Laura, Swift a'i Stella, Dafydd ab Gwilym â'i Forfudd, &c. Yr oedd cariad ein Bardd ninnau o feirion tuag at Miss Roberts, yn ol pob hanes, mor angerddol a'i siomedigaeth mor lem âg, un o'r Beirdd clodfawr hyn; ond ni chawn un gair yn ei chylch drwy ei holl Weithiau, dim cymmaint a'i henw. Yn hyn yr oedd efe yn gwahaniaethu yn ei garwriaeth oddiwrth y frawdol. iaeth farddol yn gyffredin. Yr oedd Richards cyn hyn wedi addunedu adduned ddifrifol na chai ei Awen ef byth ganu ar destun o'r fath; a dengys ei waith mor llythyrenol y cadwodd at ei addewid. Ond ni's gallwn gredu ei fod yn dweyd yr holl wir” pan briodolai ei ddystawrwydd perffaith hwn ar destunau caruol i'r Iduned foreuol ganmoladwy hon. Os oedd yn gwahaniaethu oddiwrth yr enwogion chod yn ei egwyddorion moesol, felly yr oedd hefyd yn ei dymer naturiol. Y lae ein hymddygiad yn wyneb siomedigaethau yn amrywio yn ol ein tymerau,a ol y sect o athronwyr y perthynom iddi. Cunics oedd Dante a'i gyfeillion, yn arnu nad “waeth dweyd peth Da'i feddwl." Stoic oedd Richards, yn proffesu cryn wer o ddibrisdod o deimladau naturiol dynoliaeth. Tra y parai siomedigaeth iddynt wy dori allan mewn cwynfanau didaw, fel y durtur, par iddo ef droi mewn dystawwydd sarug i fewn iddo ei hun, fel y falwoden i'w chragen. Wedi gwasanaethu Mr. Tisdale drachefn ynghylch tair blynedd cyfarfyddodd å hrofedigaeth lem arall a'i taflodd yn ddisyfyd o'r lle cysurus hwn. Gwyddel oedd Ir. Tisdale : daethai drosodd i'r wlad hon yn proffesu ei hun yn offeiriad urddedig, a hrwy ryw ystryw Jesuitaidd llwyddodd i weithio ei ffordd trwy ei oes hyd yn yn fel y cyfryw. Yr oedd erbyn hyn yn hen, ac, o gydymdeimlad â'i henaint, ddawodd Dr. Horsley, Esgob St. Asaph, roddi bywioliaeth (living) iddo, i'w yddhau yn hollol oddiwrth yr angenrheidrwydd o weinyddu y swydd drafferthus o sgolfeistr. Anfonodd am ei certificate of orders, ond, oblegid y goreu o resymau, iš gallodd eu dwyn ymlaen, ac felly daeth ei ystryw dwyllodrus i'r golau, a iswyddwyd ef yn ddioed: ac oherwydd fod rhyw favourite arall mewn golwg, neu yw achos anhysbys yn awr, collodd yr Usher hefyd ei swydd gyda'r Athraw.

Bu Richards am ryw hyd etto yn byw fel crwydryn digartref. Yr oedd Glanymorfa, aae yn wir, etto yn drigsa ei rieni, ond ni feiddiai David ei alw yn gartref. Yr edd ei dad yn fyw, ond nid oedd efe yn “fab i'w dad;" ac er ei fod etto “yn lyner ac yn anwyl yngolwg ei fam,” nis gallai ei hanwyldeb tuag atto fod o fawr o vasanaeth gweithredol iddo yn yr amgylchiadau yr oedd efe ynddynt yn awr, oddi. ithr yn unig fel adgof melus i liniaru yr arteithiau meddyliol a ddyoddefai oddiwrth iron bob ystyriaeth ddaearol arall. Tystiai y Bardd yn fynych y rhoddai yr adgof hwn -"y mae gen yf fam etto yn fy ngharu”-adfywiad i'w feddwl dan lawer cwmmwl du ta's gallai neb ond a fu yn yr un amgylchiadau ei amgyffred, Ond er ei fod yn forfod ymddybynu ar yr ychydig a ennillai ei hun, ac, efallai, ambell bresent dirgelLidd oddiwrth ei fam, llwyddodd, drwy fyw yn gynnil ar yr egwyddor anffaeledig o 'hwda i ti a moes i minnau," i gynnal ei hun yn anrhydeddus yn ystod yr holl imgylchiadau gwasgedig yr aeth trwyddynt. 'Ychydig a ennillai,-ychydig a :hwennycbai,-ýchydig a wariai.

Yn 1779 cawn ef mewn lle drachefn yn Nghaerfyrddin, fel Is-athraw Grammar School, dan Mr. Barker, Periglor y lle. Yn Ngbaerfyrddin, ail ymddangosodd ger pron y byd fel Awdwr. Yn y Awyddyn uchod bu farw Mr. Richard Morris, brawd Mr. Lewis Morris o Fon, a llywydd brwdfrydig Cymdeithas Cymrodorion Llundain. Amlygodd y Gymdeithas ei pharch i'w goffadwriaeth trwy gynnyg ariandlws am yr Awdl farwnadol oreu iddo, ond heb nodi a ydoedd i fod yn un gynghaneddol ai peidio. Y beirniaid oeddynt Mr. Robert Hughes (Robin Ddu o Fon) a Mr. Owen Tones (Owain Myfyr). Yr oedd lluaws o brif-feirdd Cymru ymysg yr ymgeisyddion. Sydfarnodd y beirniaid Awdl gynghaneddol Richard Jones o Drefdraeth yn oreu. Ond pan gyfarfyddodd y Gymdeithas ar yr achos, a gwrando darlleniad yr amrywiol Awdlau a dderbyniesid, gwrthryfelasant yn erbyn dedryd y beirniaid, a mynnent nai Awdl "benrhydd," h. y. anghynghaneddol Eos Ceiriog (John Edwards, Dyffryn Ceiriog) oedd yr oreu, ac mai Awdl gynghaneddol “Dafydd Rhisiart o'r Tywyn, yr iwn y pryd hwnnw oedd yn Athraw ysgol yn Nghaerfyrddin,” oedd yr ail. Felly :hoddai y Gymdeithas i Richards yr anrhydedd o sefyll yn uwchaf yn rhestr amddifynwyr y mesurau caethion. Safai y ddau feirniaid yn eiddigus dros ein mesurau enedlaethol; safai y Gymdeithas yr un mor eiddigus dros ragoroldeb drychfeddyliol,

dadl frwd rhwng pleidwyr y llythyren” a'r “ysbryd" a fu y canlyniad. Er nwyn cael y ddadl anorphen hon i benderfyniad heddychol cydsyniwyd i roddi triandlws i bob un o ddau wron yr ymrysonfa, i Richard Jones a John Edwards. Dyma Gymdeithas y Cymrodorion fel hyn yn hanner noddi Awdl angbynghaneddol Sos Ceiriog; ïe, oni buasai am eiddigedd gwladgorol y ddau feirniaid, rhoddasent u nawdd yn hollol iddi. Cymdeithas glodfawra dylanwadol Cymrodorion Llundain, orif noddwyr llenyddiaeth Gymreig yn y byd, yn rhoddi eu llais a'u dylanwad yn Erbyn y mesurau sydd yn cyfansoddi neillduolrwydd cenedlaethol barddoniaeth y Cymry! Dyma wrthryfel cyhoeddus yn erbyn mawrhydi y mesurau caethion na's gallai ysgolfeistr eiddigus Caerfyrddin ei faddeu. Digiodd yn erwin, digiodd am pyth. Penderfynodd nad ymgeisiai byth mwy mewn cystadleuaeth farddonol o un path, ac fel y gwnaeth yn achos y siomedigaeth a ddyoddefasai yn ei ymgais blaenorol am ariandlws o fath arall yn Whittington, safodd yn ddiysgog at y penlerfyniad hwn hefyd. Y tro cyntaf hwn oedd y tro diweddaf hefyd iddo ymyraeth lim ag unrhyw gystadleuaeth farddonol.

Yr oedd Richards trwy ei oes yn amddiffynwr gwresog i'r ffydd gynghaneddol. Yn nl ei farn ef, fod gwaith barddonol wedi ei gyfansoddi yn ol rheolau y 24ain mesur Dedd yn ei wneud yn un Cymreig, fel yr oedd y pentameters a'r hexameters, yn narddoniaeth y Rhufeiniaid yn gwneud un Rufeinig. Gallai y gwaith fod yn un Cymraeg, ond nid yn un Cymreig, heb fod yn un cynghaneddol. Hynny oedd yn :yfansoddi ei neillduolrwydd cenedlaethol. Hawdd, fel hyn, ydyw gweled pa fodd y

[graphic]

o "air of respectabilityi'w hymddangosiad yn nby y boneddwr yr arosai David gydag ef y pryd hwnnw, rhag i David ddigio wrthi am ddyfod yno! Cyrhaeddant Gaerfyrddin yn ddïogel, a chyfeiriant eu camrau at dy Mr. Barker. “Er mwyn daioni, Mrs. , cerddwch chwi at y drws yn gyntaf, yr wyf yn ofni y bydd David yn bur ddig wrthyf am ddyfod yma." Rhydd Mrs. knock ar y drws ;-wele y forwyn yno yn y fan. A ydyw David Richards i mewn ?" gofynai Mrs. — i'r forwyn. “David Richards ?-0, Mr. Richards yr Usher ydych yn feddwl, mae yn debyg; a welwch chwi yn dda ddyfod i mewn, Ma'm ?” “Mrs. -, a glywsoch chwi! Mr. Richards meddai yr eneth am Dafydd ni. O! sut y deuaf i fewn? ni fynnai mo'r byd, yr wyf yn sicr, â gweled hen greadures fel y fi ymysg teulu mor barchus. Cerddwch chwi i mewn yn gyntaf.” Dacw ddrws y parlwr, lle y mae Mr. Barker a'r teulu, a'r Usher, yn agor;-& Mrs. i fewn yn gyntaf, adnebydd David y foneddwraig,-cyfyd i fyny i'w chyfarch. Dacw rhywun arall yn sefyll yn nghil y drws—hen wraig-ei hen fam! Heibio i'r foneddwraig a phawb arall ag ef, a'i freichiau am wddf yr hen wraig, a chofleidiai hi gyda theimladau nad waeth heb geisio eu dysgrifio. Yn unig gallwn ddweyd mai ychydig iawn o “gywilydd arddel ei fam” oedd ar “Mr. Richards” yn eu gwydd hwynt oil. Gwelodd yr hen wraig yn fuan mai Dafydd oedd Dafydd etto, ac mai afreidiol iawn oedd presennoldeb Mrs. - yno. Wylent yn hidl yn bir ym mreichiau eu gilydd, ac ni's gallwn gredu fod neb yno yn beio arnynt. “Trech natur na dysgeidiaeth.” Plentyn yn cofleidio ei fam! Pa beth oedd yn isel, anpysgedig, neu anfoneddigaidd yn hyn? Pa olygfa fwy prydferth, fwy gorlawn o wir athroniaeth, tu yma i'r drydedd Nef? Cadwed y Nef fechgyn Cymru rhag y coethder goruwchnaturiol hwnnw a'u hattaliai | i wneud yn hollol yr un modd yn yr un amgylchiadau. Wedi treulio rhyw yspaid gyda David dychwelodd Mrs. Richards adref, byth i'w weled mwy. Awst 20, 1783, tra yr oedd David etto yn Nghaerfyrddin, bu farw ei fam yn 69 mlwydd oed, a chladdwyd hi yo mynwent Towyn, a chyda hi bob swyn oedd yn y gair "cartref” i'w mab David.

Yn ol pob adgofion a allasom gasglu am Mrs. Richards ymddengys ei bod yn engraifft ddymunol o'r nodweddiad menywaidd. Dynes wylaidd, ddistaw, bwyllog, ofalus, gartrefol, o naws tra chrefyddol ydoedd. Ei thy a'i theulu oedd ei phob peth. Dywedai rhai o'i chymmydogesau mai "dynes gysetlyd” oedd hi. Ond gwyddom mai nid yn ol yr ystyr a roddir iddo yn Johnson's Dictionary y dylem gymmeryd y gair "conceit" bob amser pan gymhwysir ef gan gymmydogesau at eu gilydd, yn enwedig os bydd y gwrthddrych yn “hen ferch." Yr oedd Anne Dafydd yn neshau yn gyflym i dir y gwynfyd unigol annaturiol hwnw pan gafodd John Richards afael ynddi. Yr oedd yn 35 mlwydd oed; ac felly, dylid maddeu iddi os oedd mwy o'r* conceit” henferchedaidd o lanweithdra, trefnusrwydd personol a theuluol, pobpeth fel pin mewn papur, wedi magu ynddi yn fwy na'r cyffredin o'i chymmydogesau. Bu yn wraig dda i John Richards, ac yn fam dda i David, er y rhaid fod hynny yn eithaf anhawdd yn fynych, os ystyriwn nodweddiad anystyriol y tad, a'i gasineb tuag at ei fab. Heblaw ei hyfforddi yn mhen y ffordd " mewn egwyddorion crefyddol, rhoddai tra y bu byw bob cefn aeth i David wneud ei oreu o'r dalent farddonol oedd ganddo. Arferai ddweyd y blynyddau olaf o'i bywyd ei bod yn credu i David gael y dalent o'r Nef, ac y byddai yn sicr o hynodi ei hun, os cai fyw, fel Bardd Cymreig. Fel hyn, fel lluaws o "rai rhagorol y ddaear" o'i flaen yn mhob oes, er dyddiau Abel gyfiawn (gwel CYWYDD Y DRINDOD, t. d. 77, 11. 2380-2), yr oedd gan y Bardd clod wiw hwn fam nodedig, deilwng o'r plentyn a roddwyd iddi i'w fagu i'r « Drindod;" a hi trwy ei hesiampl a'i haddysgiadau oedd y prif weithredydd yn ffurfiad ei nodweddiad dyfodol. Mynwesai y Bardd yr adgofion tyneraf a melusaf am ei fam tra y bu byw. Ond, yr hyn sydd yn dra syn, yr unig goffadwriaeth a eiliodd ei Awen iddi ydyw pedair llinell ei Beddargraff. Yn Nghaerfyrddin hefyd y cyfansoddodd y rhan fwyaf o'i "gampwaith, y mydrwaith mawr,”--CYWYDD Y DRINDOD.

Yo nechreu 1790 daeth yn ol i'w fro enedigol, a chafodd y swydd o Athraw yr ysgol rad yn Nhowyn. Arosodd yno ynghylch dwy flynedd. Yr oedd yr ysgol yn dra blodeuog tra bu dan ei ofal ef. Parodd dysgeidiaeth ac enwogrwydd yr Athraw i luaws mawr o ysgolheigion ddyfod i'w ysgol o'r gwahanol drefi amgylchynol. Ond, er mor gysurus y rhaid fod ei amgylchiadau yn y lle hwn, yr oedd ei galon o byd ar ei “ waith,” ac yma y gorphenodd ef.

Ffurfiesid y drychfeddwl a'r bwriad o “eilio gwawd” o ryw fath i "diriondeb y Drindawd,” yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun yn y “ Preface" i'r argraffiad cyntaf o'r Cywydd, pan oedd etto yn ieuanc. Nid ydyw mewn un modd yn annhebygol mai ei fam rinweddol a awgrymodd y drychfeddwl mawreddog hwn gyntaf iddo, ac a'i hargraffodd ar ei feddwl; a dangosodd y canlyniad mor ddwfn y gwreiddiodd yn ei enaid. Wedi i'w lygad ymsefydlu arno yn ei ieuenctyd ni thynodd ei olwg oddiarno byth mwy. Treuliodd ei holl alluoedd, ei feddiannau, a'i oes yn ei weithio allan. Os bu "dyn o un drychfeddwl" erioed ar y ddaear, Awdwr CYWYDD Y DRINDOD oedd hwnnw. Pa bryd y penderfynodd ar y cynllun hanesiol cynnwysfawr, yn ol yr hwn y gweithiodd ei fwriad allan, nis gwyddom. Ond gallwo gasglu oddiwrth sylwadau a arferai wneud wedi hynny ynghylch dull cyfansoddiad y Cywydd, iddo ddechreu cyfansoddi rhyw fras arlun o hono cyn hir ar ol ei ymadawiad ag Ystradmeurig, a'i fod yn gweithio arno yn achlysurol, fel y goddefai amgylchiadau, yn ystod yr holl

gyfnewidiadau trallodus yr aeth trwyddynt wedi hynny hyd ei ddychweliad i'w fro enedigol yn 1790. Arferai ddweyd fod y Cywydd yn dra ammherffaith, ac ymhell iawn oddiwrth fod yr hyn a fwriadai ef iddo fod pe buasai ei amgylchiadau yn caniatau :-fod ei wahanol ranau gwych a gwael yn bortreiad cywir o'i deimladau cyfnewidiol pan yn ei gyfansoddi ;-ei fod yn cyfansoddi llawer rhan o hono dan bwys teimladau pruddglwyfus oherwydd cyfyngderau amgylchiadol nas gallai neb ond yr Hollwybodol ei hun cu hamgyffred. Cyfansoddi y Cywydd hwn a ystyriai ef fel ei waith drwy yr holl flynyddau hynny, pan y caniatai ei ddyledswyddau ysgolfeistriaidd. Pan y gwenai Rhagluniaeth ychydig arno ymwregysai at y gwaith hwn gyda'r awyddfryd mwyaf; pan y gwgai, fel y gwnai y rhan fynychaf y pryd hwnnw, nychai ei yspryd, digalonai yr Awen, byddai ei lamp, fel “llin yn mygu,” bron a diffodd. Ymafiai yn ei ysgrifbin gyda mwy o boen nac o bleser;-cydwybod, nid ysprydoliaeth awenyddol, á barai iddo wneud hynny, Cyfeiria yn dra theimladwy at hyn yn y Preface" i'r Cywydd. Unwaith gwasgwyd ef i'r fath gyfyngder yspryd nes y rhoddodd ei ysgrifau heibio yn hollol, a phob meddwl am fyned yn mhellach. Nis gallasom sicrhau ei breswylfod ar y pryd, a'r amgylchiadau pennodol v cyfeiriai attynt pan weithiwyd ei yspryd i'r iselder torcalonus hwn. Ond yr adeg ar ei waith oedd ar ol gorpheniad hanes yr Hen Destament (gwel t. d. 117, 11. 617). Bu cyhyd heb allu casglu digon o wroldeb i ail gynnyg ar y gwaith nes yr ail ddechreuai gyda bron yr un teimladau a phe buasai yn ymgyonyg arno y pryd hwnnw am y waith gyntaf. Fel y wenol o flaen y gwlaw, y mae ei Awen am rai ugeiniau o linellau yn ehedeg yn wibiog yn agos i'r ddaear, fel pe buasai yn ofni fod rhyw ystorm etto i ddyfod a ddyrysai ei holl ehediadau. Ond y mae o'r diwedd (gwel i. d. 118, 11. 739_-756) yn difiasu ar droi mewn amheron o amgylch y testun. Llidia yn gynddeiriog wrth y rhwystrau a'i hattaliai ymlaen, a llefa ailan,

Depu mae'r byd i Annwo,
Ni wiw i mi hoffi hwn;
Di fudd bod rhwng dau feddwl,
Hwy rhyngddyn' waan' ddyn yn ddwl.
Ymaith bob araith orwag!
Ymaith â phob gobaith gwag!
Dy fwyn glod weuaf yn glau,
Ni oedaf f'adducedau.
Ior anwyl, af ar unwaith,
Drwy rus, o gwmpas y gwaith, &c.

Ac er mai o'r un nodweddiad amrywiol â'r rhan flaenorol ydyw y rhan ddiweddaf o daith ei Awen, nid ydym yn cael iddo “orphwys" llawer ar ol ail gychwyn nes cyraedd yn iach a diogel i'r “tir pell” yr oedd llygad ei Awen arno. Esbonia ei helyntion amgylchiadol nodweddiad tra amrywiol gwahanol ranau o'r Cywydd. Tra y mae ynddo rai engreifftiau o'r arddunol a'r prydferth y gallasai Milton ei hun ymfalchio o fod yn Awdwr o honynt, y mae ynddo eraill drachefn, fel, yn wir, y mae yn “Ngholl Gwynfa” hefyd, heb unrhyw ragoroldeb barddonol ynddynt. I ffurfio barn děg a chywir am deilyngdod gwaith o'r fath eangder rhaid ei farnu, fel pob gwaith daearoi, ar y cyfan.

Nis gallwn ymadael å hanes ei gyfansoddiad heb dalu ein gwarogaeth gwresog i'r mawredd meddyliol a moesol a amlygir yn y cynllun a osodasai y Bardd ieuanc hwn iddo ei hun. I'n golwg ni y mae rhywbeth gwir arddunol ynddo. Ni buasai ond enaid gwir fawr yn meddwl y fath feddwl, nac ond yspryd gwir arwrol yn anturio i ei weithio allan. Anturiodd ar daith farddonol na chynnygiasai neb o'i flaen, nac ond un, hyd y gwyddom ni, ar ei ol. Yr oedd y ddau Fardd hyn yn ieuanc pan ymgymmerasant â'r gwaith Cymmerasant ddau lwybr hollol wahanol i gyraedd y tir pell y cyrchent atto. Cymmerodd y naill lwybr yr hanesydd a'r darluniedydd, a'r llall lwybr y darfelyddwr a'r athronydd Llwybr y cyntaf yw y mwyaf naturiol, trefnus, a syml; llwybr y diweddaf ydyw y mwyaf barddonol. Ychydig o addurniadau darfelydd a geir yn “Nghywydd y Drindod," a llai na hynny o symlrwydd a threfn a geir yn y “Course of Time.” Cawn y ddau lwybr hyn wedi eu huno yn “Ngholl Gwynfa,” a hyn sydd yn gwneud Milton y beau ideale perffeithiaf o wir Fardd a ymddangosodd etto yn y byd. Yn ol ein barn ni, gwnaeth y Bardd Cymraeg lawer mwy o gyfiawnder â'r cynllun na'r Bardd Albanaidd. Ond er i David Richards a Robert Pollock gyflawni gorchestion a barbânt yn anrhydedd oesol i'w talentau a'u llafur, nid ydynt yn brofion amlycach o ddim nag iddynt benderfynu ar gynllun annhraethol rhygynnwysfawr i alluoedd dynol mewn oes ddynol wneud cyfiawnder âg ef. Beth pe buasai Awdwr Cywydd y Drindod yn cymmeryd hamdden i eistedd i lawer gerllaw pob llanerch wyrddlas, pob dyffryn ffrwythlon, pob afon risialaidd ac adfywiol, pob mynydd mawreddog, pob golygfa brydferth a deniadol a welai ar ei daith hirfaith, ac yn eu dysgrifio mor fanwl, ni ddywedwn mor fedrus, ag y dysgrifiodd Milton un o honynt-Coll Gwynfa, prin y buasai tragwyddoldeb ei hun yn ddigon hir iddo gyraedd pen ei daith, gan ei bod yn dechreu draw yn ol pan oedd Duw Tad-yn Awdwr di newidiad” yn "preswylio tragwyddoldeb mewn unigrwydd anamgyffredadwy, ac yn cyraedd trwy holl oesoedd ac amgylchiadau amser, hyd nes y mae yn cael yr hyfrydwch o syllú ar olygfa

B .

« PoprzedniaDalej »