Y cawr yn swnfawr y sydd, Ail i fôr ei leferydd. Dyfal draethai ei dafawd Greulon fygythion a gwawd. Wele! medd yr Israeliaid, Bob dydd, i'n c'wilydd, y caid Gwr diddawn i'n gw'radwyddo, Ein llin, ein brenin, a'n bro. Y gwr a ddaeth o gariad At feibion ei dirion dad; Mewn nefawl ryfeddawl fodd Yn union yr ennynnodd;
Pwy yw'r andras, drygwas draw, Heb ludded, sydd yn bloeddiaw Caeth w'radwydd ac athrodion Cyhoedd i fyddinoedd Ion?
Ei wladwyr anwyl odiaeth, Yn brudd gan gystudd yn gaeth, A dd'wedent, Oh Dduw Awdwr! Ein Ceidwad, ein Tad a'n Tŵr! Y mawr gawr am ragoriaeth, Garw fraw, i'n gw'radwyddaw daeth: Gw'radwyddwr, bradwr ein bro, Llwyddiant i'r sawl a'i lladdo.
Pa wobr addas gaiff gwas gwych A guro'r cawr rhagorwych? Yn rhwydd a hael wna 'n rhyddhâu O ddidawl w'radwyddiadau?
Attebent hwy, Gwobrwy gwych; Y gwr gaiff ferch ragorwych Y brenin o bur rinwedd, Yn hyfryd i gyd ei gwedd. Tŷ ei dad, sef holl hâd hwn, Yn rhydd nyni a'i rhoddwn. Y gwron wnelo'n gwared Dyna'i fael, ac nid gwael gêd.
Mi wn, drwy gymmorth Duw mâd, Mi awn, pe cawn ond cennad, Er arfau'r gwr gweryrfawr, Mi wn y cwympwn y cawr. Cennad lon yn union aeth A'i siriol negeswriaeth At Saul, ac yntau y sydd Galonnog o lawenydd: Yno deisyfai 'n union Y gwr ar frys ger ei fron.
Yn awr drwy'r fyddin fawr faith Yr hanes ae ar unwaith; Odiaeth o newydd ydoedd, Y llu 'n wir yn llawen oedd. Golygan' yr eirian wr, Nerthol rinweddol noddwr, Helaeth ydoedd ei hoywlun, A pherffaith lanwaith ei lun. Tew i'w iâd ei wallt ydoedd, Modrwyawg ac eurawg oedd. Ei wyneb hardd, pan wenai, Oedd lanach mwynach na Mai; Os baccru, ennynnu wna, Un ffunud â'r Gorphenna'.
Y gelynion trawsion trwch, Blin oeddynt heb lonyddwch : Terfysgent, gwaeddent, Mae'r gwr? Mae'r eres a'r mawr arwr?
Os ydych heb arswydo,
Dewiswch, anfonwch fo.
Y cawr, drwy'r dyffryn mawr maith,
Bloeddiodd ynfyd gableddiaith,
D'wedodd eiriau nad ydyn' Oddefol i dduwiol ddyn.
Y siriolwawr Israeliad, A'i fonwes am les ei wlad, Llanwyd ef o ddigllonedd, Ennynnai, newidiai 'i wedd.
Yr anwyl fwynwr union, Gwâr bryd, pan ddaeth ef ger bron, Yn dêg, mewn parchedigaeth, Ymgrymmu, dan wenu, wnaeth: O frenin o fawr rinwedd! Yn hir boed it' fyw mewn hedd! Na lwfrhâed, ac na wnaed neb Grynu rhag ei hagr wyneb; Dy was a â, dewis waith, At y gwr taeog araith, Er geiriau'r gorwag arwr, Mi âf, mi gwympaf y gwr.
Saul, dros ennyd, a sylwodd Ei faint, os caid wrth ei fodd, Yr wyf yn gwel'd, wr ifangc Glwys lun, nad wyt ond glas langc: Dy 'wyllys, mae'n hyspys hyn, O'r gwawl yw curo 'r gelyn. Tydi ni's gelli; mae'r gwr Mawr ei fawl, mae'n rhyfelwr O'i febyd; ni chaf obaith;
Hawdd gwybod gormod yw 'r gwaith. Y mawrion enwogion wŷr, Gwrawl ardderchog arwyr, Dïystyrent was tirion Yr enwog drugarog Ion, Gan draethu, os gallu gwr A gurai'r nerthawg arwr, Fod cannyn ganddyn' i'r gwaith, Gwrawl ym mhob rhagorwaith, Filoedd o hen ryfelwyr, Cryfach ac amgenach gwŷr: Di fudd ydyw dy feddwl, Gad ymaith dy obaith dwl.
Y gwr mâd hawddgar a mwyn Iddynt ymgrymmai 'n addwyn: Dy was, bugail defaid oedd Hyd oror uchel-diroedd;
A llew ac arth hyll eu gwedd, Dïau daethant eu deuwedd, Ac o'r praidd, lledradaidd dro, Oenyn aethant oddiyno: Ni's ofnais un o'u safnau, Rhedais, mi ddeliais y ddau, A'r oen gwan, druan, o drais Eu dannedd mi a dynnais.
Y llew, mewn digter a llid, Lladdai fi, oni's lleddid. Er bod eu nerth mor gerthfawr Ag ydyw nerth certh y cawr, Y melynlwyd mileinlew Orchfygais, lleddals y llew. Y gwir i gyd yw'r geiriau, Dy was a'u lladdodd eu dau. Felly 'r cawr, dirfawr ei dyb, Y gau ffwl, fydd gyffelyb. Pa fodd? a gablodd y gwr Di gred lu Duw Greawdwr? Pa fodd rhyfygodd ei fin Feiddiaw 'r ardderchog fyddin? Fy Ion! gaiff ef fyw un awr! Dan nawdd Naf, cwympaf y cawr! O! yr addfwyn wareiddfab! Dos yn ddi 'maros, fy mab! Agwrddawl was y Gwir-Dduw! Yn union dos yn Enw Duw! Y brenin, mewn modd breiniol, Ei nawdd ni 'dawodd yn ôl; Arfogodd, gwisgodd y gwr A'i lurig yn loyw arwr. Pan brofodd, ni fedrodd fo, Was mâd, yn hon symmudo. Diosgodd, d'wedodd, Nid yw Reidiol, gorthrymder ydyw. Duw mawr a fydd blaid i mi, Yn gymmorth enwog immi. Cymm'rai 'r ieuangc geinlange cu Ei ffon i'w amddiffynnu. Cododd, e gymm'rodd y gwr Gwiwlwys, mewn côd bugeilwr, Bum carreg lyfndeg â'i law Hir gadarn i'w hergydiaw. Yr huan eirian eres
Yn llon sy 'n danfon ei dês O entrych y nef wych wèn I luoedd daear lawen. A'i dirion lygad eurwawr Mae 'n canfod, rhyfeddod fawr! Y cawr mewn arfau cywraint, Discleiriol, anferthol faint! Arfogwyd, gwisgwyd y gwr A llurig yn hyll arwr. Tywynbost o bres tanbaid, O bell mal castell y caid. Lawened yw'r gelynion! Plaid y Philistiaid sy lon. Oer wylo mae'r Israeliaid, Hwy 'n bur ddigysur a gaid.
Y cawr, pan welodd y cu Hynawsaidd langc yn nesu, Trodd ddrwg ddau olwg ddilwydd, Megis dyn ar blentyn blwydd: Ai ci ydwyf fi, dy fod, Un difarf, yma'n dyfod Yn fy erbyn â ffyn?-ffo! Wr egwan, rhag dy rwygo!
O Dagon! ai ni's digi! Dy greulon felldithion di Ddelont â chwyrn ddïalau, Annyn, ar ei goryn gau. Tyred, ac mi 'th gwarteraf, Dy ddarnio 'n union a wnaf. Addas oreuwas yr Ion, Heb fraw rhag digiaw Dagon, At yr anferth gydnerth gawr Troe ei wyneb tirionwawr: Hyderu'r wyt ti, 'r diras, Mawr wagedd, yn dy gledd glas, A tharian o waith eurwawr, A'th ffon gywraint, â'i maint mawr; Finnau yn Naf y wiwnef,
Ior a wnaeth ddaear a nef. Duw'r hedd, am dy gabledd gau, Y dwthwn hwn rhydd dithau I'm llaw i; dydi y dyn
Dewrfalch, sy 'mron dy derfyn. Mewn awr, dy lu dirfawr di Aberthaf hwynt i borthi
Adar a llu'r ddaear ddwys,
I'w camwedd mae'n dâl cymmwys. 880
Y dewr gawr hydr ac eirias Ruthrodd, mal llew cefndew cas. Y gwr eirian gwâr arall, Gwas Duw cu, gyfarfu 'r fall. Ar hyn cymm'rai'r gwr hynod Lyfndeg drom garreg o'i gôd: Mewn ffon dafl yr ymaflodd, Yn gyflym ei rym fe rodd; Y garreg yn bur gywrain, Gyd â nerth, o'i law gerth gain, Yn chwern yr aeth, dan chwyrnu, Yn bellen i dalcen du
Yr ynfyd arwr anferth, Cwympodd i lawr y cawr certh. Siriolodd yr Israeliaid;
Eu bloedd ar gyhoedd a gaid; O'r brynniau drwy'r wybrennawl Orawr, mewn rhyfeddfawr fawl. Rhedodd, mewn dirfawr hyder, Calonnog enneiniog Nêr
At y cawr ar lawr, oer loes, Yno ar derfyn einioes;
Tynnodd, e gymm'rodd y gwr Arswydus gleddau'r sawdwr; Trodd yn awr y gloywfawr gledd I deilwng roi'r dïaledd: Hynod fawr arfod fe rodd, A'i derwyn ben a dorrodd. Gwelwyd y fuddygoliaeth; I'r cawr ei ddu awr a ddaeth: Ei fawr ben mewn diferwaed!
Eu bloedd aeth drwy'r cymmoedd certh; Yn ôl dyblid eu dolef,
Yn ôl o'r cymmoedd i nef: Lladdwn, torrwn watwarwyr! Erlidiwn, lladdwn hwy 'n llwyr!
O Dafydd, wr celfydd coeth! Y purddawn brydydd perddoeth! Tydi, drwy Geli, yw 'r gwr, Ti guraist y gau arwr. Ddewrwas, ar orsedd eurwawr, Bydd frenin i'r fyddin fawr! Gwiw fendith! bydd gu fwyndad I'r mwynwawr Fugail mawr mâd! Cysgod hynod o honaw! O'th lwynau dïau y daw! Wr hael, eistedd, rheoli Wna'r Mawredd ar d' orsedd di, Yn Dduw 'n wir, yn Ddyn eirian Y daw o lwyth Juda lân. Difyr im' d' enwi, Dafydd, Difyr, ond rhy fyr a fydd Yr amser-dydd Nêr sy 'n ôl, Dydd mawr fydd, mor ryfeddol, Odiaeth ac annhraethadwy, Yn dragywydd ni fydd fwy. O chaf, o'r goruchafion,
Yn brydferth gu nerth gan Ion, Mae 'mwriad wneud caniad cu I 'Mrenin am fy mhrynu.
E seiliodd ei fab Selef, Wr doethber, i Nêr y Nef, Lwybraidd hardd deml oleubryd, Uwch temlau holl barthau 'r byd: A hon, mewn rhyfeddlon fodd, Wr hoff anwyl, orphennodd. Gogoniant, moliant Duw mawr A lanwodd ei deml wenwawr. Yn oes y brenin nesaf, Dygn waith, achos digio Naf, Am eu drygwaith diffaith du, Am hyn gwnaent ymwahanu. Juda ei lwyth gwiwdda gaid, Mwynwyr, a'r Benjaminiaid, Yn dilyn yr hen deulu, Y lleill aent ymaith yn llu.
Ahab, y drygfab, wnaeth dra Mawrion ddrygau 'n Samaria. Gan ddrygfoes yr oes yr aeth Y byd yn ddi wybodaeth: Aeth o'r genhedlaeth hadlyd Y berffaith gyfraith i gyd. Doeth Lywydd, daeth Elias Yn hyf ac yn gryf mewn gras;
Lloiau oedd eu duwiau diawl! Addoli (Oh warth!) y ddau lo, Rhoi addoliad i'r ddeu-lo! Am ddïelw ddelw addoliaeth Dan gosp fe 'u rhoddwyd yn gaeth: Eu gwlad a'u tref gu lydan, Eu temlau a'u duwiau'n dân! Ar led hwy 'n fawr lu ydynt, Gwasgarwyd a hauwyd hwynt. Hwy ddeuant etto 'n dduwiol, 940 Hwy gesglir yn wir yn ôl.
Sarrug frenin Assyria,
A dwys blaid, arswydus bla, Ddifrododd ar fèr adeg Holl wlad dda Judea dêg. Braw i Salem breswylwyr! Dirmygai, bygythiai 'r gwŷr. Fe gablai, rhyfygai 'n faith, Yr Ion a'i bobl ar unwaith.
Was cywir, Hesecïa,
At ei Noddwr a'i Dŵr da Yr aeth, ac fe ro'i weithion Grêd rwydd yn ei Greawdr Ion. Celi, Gwrandawr gweddi'r gwan, I lawr ar ei deml eirian Olygodd, gwelodd mor gaeth Ydoedd ar ei was odiaeth. Anfonai'r Tad Gennad gu,
Gariadus, i'w gwaredu.
Iâs erwin i'r Assyriaid!
Pan oedd gwersyll eu hyll haid
Mewn 'smwythder yn nyfnder nos, Ar adenydd drwy'r dunos
Y nefol Disgleiriol giân
A ddaeth, fe safodd weithian
Ar lwys nèn y deml wèn wych, Ac â'i law ei gledd gloywych A drodd, a'r gwersyll drwyddaw Ddifethwyd, ddistrywiwyd draw. I'r glaerwen Nef ddisgleiriol Gwnai'r Claerwyn esgyn yn ôl. Y brenin o bur rinwedd Ga'dd wynfyd a hyfryd hedd. Yn Ior y Nef rhoes gref grêd, A mawr a fu'r ymwared!
RHAG creulon elynion lu Dewrion yn cyd-ymdyrru, Pan ydoedd y pennadur, Ahas, mewn garw-iâs o gur: Pob calon a bron yn brudd, Yn gostwng dan flin gystudd; Pob graddau, pob gwŷr oeddynt Mal coedydd gelltydd mewn gwynt: Samaria a Syria sydd
Un galon, yn eu gilydd: Gelyniawn chwerwlawn eu chwant, Ddreigiau ymgynddeiriogant. Ynfyd orthrymwyr anferth, Tyngant, bygythiant yn gerth, Ni bydd gan esselltydd sôn Is awyr mwy am Sïon.
Rhwystrodd Duw gwyn hyn yn hawdd: Naf enwog a ddanfonawdd Brophwyd coeth o wr doeth da Duwiol o wlad Judea,
I gyhoeddi 'n gu hyddysg Fendithion mawrion i'w mysg. Yn foddus Oh na feddwn Yspryd i gyrhaeddyd hwn! I'w gyrraedd, wr rhagoraf, Pa lwys iaith gymmwys a gaf? At Ahas ddiras e ddaeth ;
E dd'wedodd, mewn modd odiaeth, Na fydd mor wan o feddwl Rhag d'elyn, mewn dychryn dŵl: Mae'r gyfiawn lawn oleunef, Mae Duw gwyn i'w erbyn ef. Medd Ion, Bydd on, bydd wr; Yr ydwyf Fi'n Waredwr. Hwy dybiant gael eu diben; Dïau byth na's daw i ben. O Juda 'r Messïa sydd I ddyfod, nerthawl Ddofydd! Pob gelynion trawsion trwch, Gau weision, ymwregyswch! I'r unfan dowch, rai ynfyd! Dryllir, gwasgerir chwi i gyd! Pa arwydd fydd a'th foddiai? Medd Duw gwyn, Gofyn, ti gai: Heddyw gofyn hi 'n haddef Y dyfnder, neu 'n uchder nef. E grynodd y gwr annuw, Na wnaf, can's ni ddigiaf Dduw. Gerwin yw brenin heb ras! Yn fud â'r ehud Ahas.
Y gwr enwog o rinwedd Yn daer iawn a droe ei wedd; Ei olwg, mewn gwg, a gaid Weithiau ar y pennaethiaid; Ei hael wyneb i'r loywnef A drodd, ennynnodd o Nef: Blino dynion heb lonydd, Nid digon, ynfydion, fydd?
Raid â balchder, trawsder tra, Hefyd flino Iehofa? Clywed, coelied pob calon Ddïammhur air eglur Ion; Gwâr forwyn, gwyryf arab, Gwawr fwyn a esgor ar Fab: Gwir dïau, geilw Gwawr dawel Y mwyn Ior, Immanu-El. O forwyn (fe lefarawdd) Fe enir yn wir in' Nawdd. D'wedwch, ai anghredadwy? Synnwch a rhyfeddwch fwy! Ganwyd in' Fachgen gwiwnaws, Ysprydol nefol ei naws! O forwyn fwynaf arab, Dymunol ufuddol Fab A anwyd yn Nawdd inni, O Nef a roddwyd i ni!
Ar ei ysgwydd, Arglwydd Ion 20 Daionus, bydd baich dynion. Fe 'i henwir Ef ei hunan, RHYFEDDOL,-disgleiriol glân GYNGHORWR,-cadarn Dŵr da, Hael NODDWR i lin Adda, Trag'wyddol DAD,-mâd a mwyn A gweddus D'wysoG addwyn. Dan lywodraeth helaeth Hwn, A'i lwyddiant, gorfoleddwn: I'th hael frenhiniaeth hylaw, Brenin hedd, diwedd ni's daw: Adeilad glaer a dilyth, Teyrnas fawrglod i fod fyth. Mal cysgodion eigion nos, Y bore f'önt heb aros,
Torf ddiawl yr uffernawl Ffau, Gantoedd, o'i olwg yntau, Filiynau a ddiflannant, Rhag Ion i'r eigion yr ânt. Dychryn i bob gelyn gau,
I'r llawr cwymp yr allorau. Duw 'r gwybed,* pob drwg ebyrth, Hyll amcan Satan a syrth. Cenedl ni wna amcanu Creulonder na digter du.
Ni chyfyd, drwy 'r mawrfyd maith, Chwerw filain groch ryfelwaith. Y dynion a gyd-unant, Heddychu, llonyddu wnant. Curant, newidiant yn awr Eu harfau rhyfel hirfawr Yn sychau, 'n bladuriau da; Dedwyddol fydd hâd Adda. Niferoedd bobloedd y byd A ddeuant oll yn ddiwyd I'w gadarnwych gu deyrnas, Duw 'r hedd, drwy rinwedd ei ras.
* Baal-zebub-Arglwydd y gwybed.
Afonydd, drwy y faenor, Rhedant, cymmysgant â'r môr: Cenhedloedd, yn lluoedd llon, Meddaf, yn yr un moddion, Deuant, dylifant yn lân, Dduw Ior, i'w fynydd eirian; I'w fawrglod, Duw fy Arglwydd,
Y tir a lenwir o lwydd.
Daw 'r oes hon â llon wellhâd, Yn gadarn daw Duw 'n Geidwad. Mudion, deillion, cloffion, claf, Fyddinoedd, fydd ddïanaf. O'r ddaear y meirw ddeuant, O rwymau'r angau yr ânt. O lawn ddedwyddawl eihioes! Addwyn dêg ddiniwaid oes! Y blaidd, fu 'n elyn bloeddig, Gyd â'r oen yn gu a drig. Y mynn a'r llewpard mwynwar, Cyttunant, byddant yn bâr. Y llo a chenau y llew,
Yn wir geir mewn un aerwy,
Yn llondeg ac yn llyfndew,
A bachgen a'u harwen hwy.
Plentyn, mewn rhwymyn, yn rhwydd,
Ar nyth yr asp, ni thry hon
I gyrraedd pigo 'r gwirion. Ac ar ffau'r wiber gau gas, Yn awr heb wenwyn eirias, Maban hoyw-lan, yn hylaw, Heb uno'n, rydd ei lon law. Gwirionedd hawddgar union A dardd o'r ddaear hardd hon; O'r loywnef fawr lawena' Cyfiawnder ddiddigter dda, Gwâr hedd a thrugaredd gu Yn anwyl a wnan' wenu. Dedwydd oes i'r credadyn! O Juda! llawenhâ 'n hyn! Daw'r Gwaredydd dedwydd da, Ion didwyll, ac nid oeda: O yr haelwych Ior hylaw! I Sïon dirion y daw! Llwyr och i'r holl rai uchel ! Gwae'r di ffydd y dydd y dêl! O'r niwl dwys, o'r anial dir, Go lawen lef a glywir;
Parottôwch, dyma'r pryd da Wedi dyfod, hâd Efa!
Parottôwch ffordd, loyw ffordd lan, I'r hael Ior hylaw eirian! Cyfodir y doldir da,
Y duwiol a flodeua:
Y brynniau, mewn bèr ennyd, Gwŷr mawrion, beilchion y byd, Ostyngir, bwrir i bant,
Yn y dydd hwn hwy doddant. Y gwŷr oll fydd gywir iawn. Ion anwyl a'u gwna 'n uniawn.
Anwastad wlad fydd liwdeg, Fydd laswedd wastadedd têg. Rhyfeddir, gwelir gan gant Ei gu enwog Ogoniant: O degwch glân dïogel! Yr holl fyd i gyd a'i gwel! Cu Ior Nef, cywir ei nawdd,
Duw Awdwr, Ef a'i d'wedawdd. Cyfod, Sïon geinlon, gu Fanon, a dring i fynu
I hyfryd uchel hoywfryn, Nac ofna, cyhoedda hyn; Dywed wrth holl Judea, Wele dy Dduw, y wlad dda! Duw Ior a ddaw, nid erys, A'i fraich Fe ddïal ar frys Elynion blinion ei blant, Yn hwyr hwy lwyr alarant. A'i wobr Fe ddaw yn ebrwydd, Fe ddaw, yn ei law Fe lwydd Ei waith; y diffaith a'r da
Dilys Fe a'u didola.
I'w gail mal Bugail y bydd,
Dug ei ŵyn i'w fwyn fonwes Rhag poethder toster y tês.
Oh Arglwydd Dduw y duwiau! Pwy gredodd f' ymadrodd mau? Y Gwr megis blaguryn
A geir y' ngolwg Duw gwŷn. Mal gwreiddyn o sychfryn serth E gyfyd, ni bydd gwiwferth I'n golwg pan ei gwelom, Gan waeledd ei lwydwedd lom. Gwr cynnefin o gerydd, Trallodus, gofidus fydd. Caled weled ei waeledd! Oddiwrtho gwnaem guddio 'n gwedd: Gwawdiasom, ni wnaethom ni O'n Gwiw-Frawd uniawn gyfri', Cymmerth lid ein gwendid gau, E lwyr ddug ein doluriau. Gwelsom, cyfrifasom Fo, Diweir-Was, wedi'i daro, A'i fod mewn blin ofidion, Gwaraidd Wr, dan gerydd Ion. Onid Ef, Enaid ufudd, Gai wael barch i ni gael budd. Archollwyd, drylliwyd e 'n drwch, A'i haeddiant prynodd heddwch. Dygodd ein cospedigaeth, Dwyn trom farn erom a wnaeth. Drwy gleisiau, drwy friwiau 'i fron, O'n gofid gwnaed ni'n gyfion. Crwydrasom, troisom, modd trwch, I'r niwl a'r mawr anialwch. Ar Arglwydd yr arglwyddi Duw 'r hedd ro'i 'n hanwiredd ni. E rwymwyd dros rai ammhur Dan farwol angerddol gur.
« PoprzedniaDalej » |