Ac a ddaeth â'r fammaeth fwyn A moddus, ei fam addwyn.
Eb y fun wâr yn arab, Cymmer di, mâg i mi'r mab, Am gu ammod mâg immi, A gwiw dâl gennyf gei di. Ei dderbyn wed'yn yn wyl I'w monwes wnai'i fam anwyl. Afieuthus aeth i faethu
Ei llon fab, a llawen fu. Hwnnw Moesen a henwyd, Am ei godi o'r lli' llwyd. Wedi'r fammaeth geinffraeth gu Ei ddwyn e'n fwyn i fynu, Fe aeth ei ufuddgaeth fam Dyner â'i mebyn dinam I'r glân a'r goreurawg lys; E ddaliwyd yno 'n ddilys. Breiniol hardd fab eirianwawr Thermutis o Femphis fawr,
Gwiw lwyddodd mewn goleuddysg, Ac enw mawr a gai 'n eu mysg. O herwydd mor ddihareb
Ddewr iawn oedd, ddoeth oddiar neb, 100 Rho'i Pharao ei hoff fawredd
I Foesen addien ei wedd.
Rhagluniaeth ehelaeth, hi A luniodd fwy haelioni: Gwaredwr, arweiniwr oedd, Llawen, i blant Duw 'r lluoedd. Pan ddaeth i faintiolaeth têg, Wrth rodio aeth ryw adeg At ei frodyr, gwladwyr glân, Di nawdd, mewn byd anniddan: Gwelai Aiphtwr, gwr gerwin, Yn atgas, mal bleiddwas blin, Yn taraw gwr mwyn tirion, Ei gywir frawd, ger ei fron : Llidiodd wrth yr hyll adyn, Trywanodd, holltodd am hyn.
E ffodd y gwr hoff addwyn Rhag tramgwydd, rhag digwydd dwyn Ei santaidd einioes yntau Gan greulon wŷr geirwon gau. Teithiodd, trafaeliodd o'r fan
Moesen gu, bugail fu fo Mewn hawddfyd ennyd yno. Plant Israel, gan drafael draw, Wŷr gweinion, wnaen' oer gwynaw: Dda hil, mawr oedd eu halaeth, Eu llef i'r wiwnef yr aeth. Yn glau yr Ion a glywodd, Gwrandawiad, o'i râd, a rodd. Ar siriol hyfrydol fryn, Fe, y gwylddoeth fugeilddyn, A welai lasberth wiwlwys Yn fflam dân goleulan glwys. Y loyw dêg weledigaeth Ei dirion wedd i droi wnaeth.
Gweuedig dân gwiw ydoedd, Heb ail, difa 'r dail nid oedd, Tra bu 'n rhyfeddu yn fawr Yr olwg lwys areulwawr, O'r danllyd berth, yn gerth gu, Haelaf Ior wnaeth lefaru; D'wedodd, Duw dy dad ydwyf, O'r fflam, sef Duw Abra'm wyf. Y dedwydd wr mâd odiaeth Rhag Celi dwfn-ofni wnaeth: E guddiai 'i rywiogeiddiaf Wedd gu rhag wynebu Naf.
Fy ngweision gwaelion gwelais, Caled yw lludded eu llais : Du gerydd meistriaid geirwon Sy 'n gystudd rhy brudd i'w bron.
I dêg rydid gwaredaf,
A'r Aipht yn engraifft a wnaf. Dygaf i le dïogel,
I wlad llaeth a mammaeth mêl,
I le o fawr lifeiriant;
Mewn hedd digonedd a gânt. Tyred, y mwynwr tirion, Gwnaf di, eleni, i lon Ryddhâu o'u cadwynau dwys Y cu wâr-lu cywirlwys.
Yna Moesen addien wr
A dd'wedodd, O Dduw Awdwr! Gwaela' ydwyf drwy 'r gwledydd, Pwy wyf fi i'w rhoddi 'n rhydd?
Yn union yr Ion, o'i râd, Wir Dduw, a ro 'i addawiad ; Yr ydwyf Fi 'n Waredydd, Gyd â thi Myfi a fydd.
O'm Creawdwr! ni'm credant; Yr wyf fi 'n ofni na wnant. Tafl i'r ddaear liwgar lân Yn awr dy wialen eirian.
Fe wnaeth; yn sarph aeth; fe ffodd; Ei safn echrys a ofnodd.
Ebe Nêr, Cymmer, wr cu,
Yn y fan, hon i fynu.
Ar air Dofydd, ddedwydd ddyn, Yn ystig fe wnai estyn
Ei llosgwrn â'i ddwrn; hi ddaeth
Yn hoywliw wialen helaeth. Rhoi'r Arglwydd arwydd arall I sefydlu'r gwr cu call. Ond, er hyn, ni fŷn fyned, Naws rhwydd ei dafod ni's rhed. Dduw Ior, anfonodd Aaron, Ei eirian frawd o'r un fron, Pur wiwdlws wr parodlef, I eglurhâu 'i eiriau ef. Cymmer â'th law dyner di Y wialen hon a weli; A hon i'r llaw dirion dau Yn nerthol ti wnei wyrthiau. A hwythau, yn hy' weithian, I'r Aipht eu deuwedd yr an'.
Ger bron, heb galon, a gaid; Aaron a draethodd eiriau Mawrbwys yr Ion glwys yn glau: 200 E roddodd yr arwyddiawn, Gorfoleddu wnai'r llu llawn: Gwelent, ac yn un galon Molent, mawrygent yr Ion.
Pa wledydd y sydd heb sôn Am eres wyrthiau mawrion Moesen a'i frawd cymmen cu; Hanes byth ni wna henu.
Y gwr llon yn ëon aeth A'i dirion gennadwriaeth At y brenin blin i'w blas; Y balch, y dewrwalch diras, D'wedodd, Pwy yw y Duwdawd? Holodd a gwenodd mewn gwawd. Y gwr ni ro'i 'n ddigerydd Hâd Israel, wr hael, yn rhydd.
Ger eu bron Aaron eirioes Cyflawn arwyddiawn a roes: Tra enwog wr tirionwawr, Ei wialen laswen i lawr A daflodd; hi drodd drwyddi Yn sarph echryslawn ei si.
Galwai'r brenin blin am blaid Hudolion; hwy a diawliaid Annwn yn hyn a unant, Seirph brithion ëon a wnant: Sïent, dolennent hyd lawr O fysg fath derfysg dirfawr, Diawlig, ffoi wnai'r hudolion, A braw yn brydiaw 'n eu bron. Sarph Aaron y seirph eraill Orchfygodd, llyngcodd y lleill.
Y brenin, rheibiwr annuw, Ni chred weision doethion Duw: Mewn mawr lid rhyddid ni's rhodd, Gwael adyn, ymgaledodd.
Daeth y gwŷr odiaeth eu gwedd Drannoeth at y dirinwedd. Wŷr mâd, ar archiad yr Ion Hwy roddent eu harwyddion :
Drwy'r Aipht yr holl ddwr a drodd,
Yn waed yr ymnewidiodd.
Daeth cenfaint llyffaint a llau O fewn eu holl derfynau.
Yn blauau daeth heidiau hyll, Oerchwith gymmysgbla erchyll. Haint ar 'nifeiliaid hwyntau, Cornwydion i'r gweision gau. Ar ol hyn daeth dychryn dwys, Agwrddawl gerydd garwddwys; Cenllysg, terfysg y tyrfau, Mellt cochion gwylltion yn gwau. Ar archiad yr Ion mâd mawr, Ei gu rwyddwas gwareiddwawr Eilwaith a drodd ei wialen
Wyrthiawg, modd bywiawg, uwch ben:
Y dwyreinwynt ar unwaith, O bob goror o'r môr maith, Ddaeth â haid locustiaid certh, Bradfawr, drwy'r awyr brydferth, Drwy wlad Ham ar led a hyd, Yn unllu mawr newynllyd: O ryboeth wlad Arabia Yn dryfrith i'w plith daeth pla. Golwg o'r wlad ni's gwelir, Cuddiasant, toisant y tir. Ei wialen fe drodd eilwaith; O ffwrn o fwg Uffern faith Anferth dewdrwch d'w'llwch du Am y wlad wnai ymledu: Gau dorf ddoi'n y mwg dirfawr, Llu pygddu y Fagddu fawr. Yn d'w'llwch du y bu 'n bad, Drwy y deyrnas, dri diwrnod. Dudew garchariad ydoedd, A du gylch teimledig oedd. Ni welai neb un olwg,
Nid ânt, nis meiddiant, drwy'r mwg. Ellyllon creulon eu cri,
Yr oeddynt yn chwerw waeddi. I'r dynion dybryd enwir Buont hwy 'n ofnadwy 'n wir. Y brenin mewn goflin gur, Rhywioglon awyr eglur Ddeisyfodd:-galwodd y gwr Dedwydd ar enw Duw Awdwr; Ae'r ffyrnig dorf uffernol, Chwerw nâd, i'w carchar yn ôl. Hael fwyndeg hil y fendith, Wŷr da, ni bu pla i'w plith. Yr hyfr anwar o frenin, Ei ryddhâu o'i blauau blin Pan gafai, rhyfygai 'n faith, Swydd wael, droseddu eilwaith. Ebr Ion wrth ei union was, Iddynt rhoddaf gosp addas; Dilys Myfi a dalaf,
Rhoi barn faith un waith a wnaf.
A Moesen, wr grymmusawl,
O wrol wych wŷr ei wlad, A meirch dihefeirch eu hynt O'i gaerau;-mal chwyrn gorwynt, Cerbydau ac arfau gànt Drwy'r awyr draw a ruant; Torf wasgar yn terfysgu, Cynddeiriawg olwynawg lu. Sur olwg i'r Israeliaid Pan ddaeth yr anhyfaeth haid! O'u blaen y môr heb lonydd Yn ymchwyddaw, 'n swniaw sydd; Ar eu dwy law draw yn drwch Niwlog anferth anialwch; Du ing, heb le dïangol!
A phlaid yr Aiphtiaid o'r ôl. Rhwng geirwon wylltion elltydd,
Hagr yw 'r daith! Oh gwae o'r dydd! 360 Rhag y môr coch chwerw-roch chwyrn, Rhag rhuad câd y cedyrn, Bu'r dyrfa mewn braw dirfawr;
B' le 'r ânt? beth a wnant yn awr? Daeth Moesen o Nen â nawdd, Cu was Ior, fe 'u cysurawdd, Ymneillduai, galwai'r gwr Odiaeth ar Dduw Waredwr.
Arnaf Fi, ebre Nef Ion, Yr anwyl fwynwr union, Pa'm y gwaeddi, sefi yn syn? Dod addysg, dywaid iddyn' Yn Nuw am fyn'd yn on At y dorchawg dyrfawg dòn: Ac â'th wialen geinwen gu Yn hynod gwna wahanu
Y tonnau 'n rhestrau; ar hynt Treiddied f' anwyliaid trwyddynt. Arweinydd, llywydd eu llu, I'w gwiwlawn ddïogelu, Goleunawdd (da ragluniaeth) I wahanu 'r ddeulu ddaeth. Didawl ryfeddod ydoedd!
I blaid yr Aiphtiaid yr oedd Yn gwmmwl dyfnddwl a du, Yn d'w'llwch blin i'w dallu: Er hyn, liw nos, wrth eu rhaid, Rho'i olau i'r Israeliaid.
Moesen, â'i wialen, wnai wyrth, Nerthol anfarwol fawrwyrth. Fôr ufuddol, i'r fyddin Egor, O fôr, egor in'!
Ar unwaith y dwyreinwynt A glywodd, hedodd ar hynt, A thrwy rym gwynt aruthr Ion Holltwyd y dyfroedd heilltion. Ar eu dwy law draw fe drodd, Ar unwaith yr ymrannodd
Y môr coch mal muriau certh; Y nefol fyddin wiwferth, Gwarddoeth feibion y Gwir-Dduw, Aethon' hyd ffyrdd dyfnion Duw. Drwy for aeth y dorf wiwras, Yn hoyw, mal hyd ddôl loyw las. Dewr fryd, ae 'r dorf ruadwy Mewn llawn llid i'w herlid hwy. Liw nos hwy erlyniasant; Trwy'r nos ddu nesu ni wnant. E lynodd eu holwyniawn
Yn nyfnder y lleithder llawn.
A charnau meirch, chwyrn eu modd, Y tir danynt y torrodd.
Llu'r Un-Duw, yn llwyr iawndeg, A ddaeth yn wir i'r tir têg. Lwysdeg dorf, hyd wyrdd-lasdir Rhwng rhestrau 'r tonnau, i'r tir Y daethant, gan ymdeithiaw Heb ddychryn, heb ronyn braw. I ddiwallu 'r llu llawn Iawnfad Ior, o'r nef diriawn, Wledd fwyn, a wlawiodd fanna Lawnder yn weddus-ber dda. Glân odiaeth, gloyw-wyn ydoedd, Mêl têr, mal coriander oedd.
Gan yr oriau dorau 'r dydd Egorwyd, a thrwy geurydd Y dwyrain gywrain y gwawl A fwriwyd yn llifeiriawl. Moesen, â'i wialen wiwlwys, I dorfoedd y dyfroedd dwys Rhoes arwydd ;-O f' Arglwydd, faint Yw 'th lawn gyfiawn ddigofaint! Y muriau dwr mawr a dorrant! Ymaith ar unwaith yr ânt! Rheieidr fyrddiwn yn rhuaw Yn eirwon, drymmion draw!
Gwae'r Aiphtiaid! eu henaid hwynt Anhwyliodd yn eu helynt! Weithion o'r eigion b' le 'r ânt? Chwerw nos! hwy ddychrynasant! P' le ffoant? yr ânt o rym Y dwr, erlidwyr dirym? Du ofnent ferw y dyfnfor, Derfysgoedd mawrfloedd y môr. Gan y swn, eu gwan synwyr Y llu a gollodd yn llwyr: Duodd ael nef yn dywyll Uwch y môr coch hagrgroch hyll. Digllon fellt gwylltion yn gwau, Trinawg egni taranau
Ar unwaith a ddychrynawdd Y cyndyn elyn dinawdd. Tonnau'r môr coch, croch eu cri, Yn yrroedd, yn aneiri', Mal gerwin ddwy fyddin fawr Mewn cynnwrf o dwrf dirfawr, Isod hwy orchuddiasan'
Pharao a'i lu wrth ffoi i'r lan. Ae'r dorf i'w chartre' dirfawr, Gàn' myrdd, yn yr eigion mawr. Ar ol y fuddugoliaeth, I'r Duw mawr yn awr e wnaeth Moesen ganiad grymmusawl, I'r Nef aeth mwynlef eu mawl. Ond hwy, er cynnorthwy Naf, A'i hir gariad rhagoraf, Er hyn yn erbyn ei was Hyll dyrrant yn llu diras, Y cyfion Dduw ni 's cofiant, Terfysgu, grwgnachu wnant. Wylant yn yr anialwch
Am gennin, fyd trablin trwch!
Drwy feithrin eu chwerwflin chwant,
Y manna ni ddymunant.
Blysiant, ni pheidiant goff hâu, A chwynant am grochanau
A winiwn y wlad anwyl,
Yr Aipht laith, ddydd gwaith a gŵyl. Doi'r dorf at odre dirfawr,
Yn eu taith, Sinai faith fawr.
I Foesen fâd archiad oedd
I'r llu ofalu 'n filoedd Dyfod i gwrdd â Dofydd, Pennodai, d'wedai y dydd. Odiaeth was Duw Bennadur, Er pan ddaeth o dan gaeth gur, Deg o ddyddiau a deugain Ydoedd rhif y dyddiau rhai 'n. Bu'r dorf, am eu bâr dirfawr, Mewn syndod, rhyfeddod fawr, Hwy welent Sinai wiwlan Yn llosgfa, 'n difa gan dân! Cau wnai cymmylau y mwg Y gwawl a'r nef o'u golwg! Mellt tanbaid a gaid yn gwau Ar unwaith â tharanau!
Sain yr udgorn ar Sinai Y nef i grynu a wnai! Y seiliau mawr iselaf, Crynent, a dwfn-ofnent Naf! Y fyddin wnai ryfeddu, Ofn gerwin i'r fyddin fu. Hwythau glybuont weithian Eiriau, mewn tyrfau, o'r tân. Gorch'mynion cyfion Duw cu, Tra ethol, gaent eu traethu. Israeliaid ansiriolwawr, Rhag tân amlwg, rhag mwg mawr, Rhag bolltau taranau'r Ion, Cilient, mewn dychryn calon. Mewn crynfâu ac ofnau gànt, Ar Foesen hwy grefasant, Wrth eu llu, lefaru 'n fâd Wir enwog eiriau'r Ynad. I'w Dofydd, rhag eu difa, Rhag llid, gwnant addewid dda. Neshâu wnai yntau yn awr, Diweirfab, i'r mwg dirfawr. I fwynlef ei gyfiawn-lu Yr Ion yn foddlon a fu. Tyred, ebe'r Ior tirion, I fynu 'n hyf i'r fan hon. Dwys ofnai'r gwr dewisaf Burdeb presennoldeb Naf. Helaeth orch'mynion hylaw Ar ddwy lech ro'i Dduw o'i law I'r didwyll fwynwr dedwydd Yn gain ym mhen deugain dydd. Cyfreithiau a deddfau da Cyfion ro'es Ion ar Sina',
A llun y babell anwyl,
Gywir a gwych, i'r gwr gŵyl.
O luniaeth plant y loywnef
Fe 'u porthawdd, o'i nawdd, o Nef. Er i Dduw Nef roddi 'n awr
I'w dyrfa roddion dirfawr,
Y dyrys bechaduriaid Er hyn, yn gyndyn a gaid; Ni chredan' cânt Ganaan gu Ddaionus, i'w meddiannu. Eu hannedwydd genhadon Ro'ent air anfad i'r wlad lon. A'u trwm groesineb tramawr Hwy dynnan' lid Ion i lawr. D'wedodd y barnwr didwyll, Eisiau ffydd addas a phwyll. Ni welwch, ni chefwch chwi Ganaan, am eich drygioni. Y geiriau a gywiriwyd Drwy'r anialwch llymdrwch llwyr, Ddigoll flynyddau ddeugain, Crwydro a rhwystro bu'r rhai'n. Traws oedd tyrfa 'r troseddwyr, Diflannu wnaeth eu llu'n llwyr. Moesen, 'min diben ei daith, I'r gwŷr d'wedai ragorwaith
Yr Ion a'i orch'mynion mâd, Mawr gerydd, amryw gariad. E ddiweddodd yn ddiddan Ei fywyd i gyd ar gân. Canfu'r gwr mâd y wlad lwys Buredig, ail Baradwys. Wr glân, dan law Rhagluniaeth, Huno ar Nebo a wnaeth.
Wel, daccw y wlad fâd fawr Gywrain enwog ei gorawr; Y loywdeg afon lydan, Ddofn lif, yw 'r Iorddonen lân. Dan Josua, dawnus wr, Cariadus lu 'r Creawdwr Ant weithian i Ganaan gu, " Fro odiaeth, dan hyfrydu. O flaen y dorf lawenaf, Eurwych nawdd, yr aeth arch Naf. Iorddonen ffraw draw a drodd, Ei hunan ymwahanodd.
Y fyddin a ryfeddant;
Drwy barch gyd â'r arch yr ânt. Aeth i'r làn, drwy lydan lif, Fannerawg dorf aneirif. Caerawg drefydd y cawri,
Er cymmaint eu braint a'u bri,
Wrth floedd da luoedd Duw lwyd Fythol hwy a ddifethwyd.
Y ddiwael wlad addawodd I'w weision, yr Ion a rodd.
Aeth Josua, wr da doeth, Yn fwyngu i'r Nef wengoeth. Wedi hwn, gwas Duw hynod, Y gwŷr is barnwyr fu 'n bod. Nid i'w graslon dirion Dad, I ddelwau rhônt addoliad. Dwl ddilyn delw addoliaeth, Gwnai hyn i'w gelyn hwy 'n gaeth, Yn weision truenusaf
Ar ydoedd dan nefoedd Naf. O'u poen ddwys, pan waeddasant, Rhyddhau eu gyddfau a gânt. Aent yn ddyrys, mewn blys blin, Heb rinwedd, eisieu brenin.
Duw a lawn anfodlonant,
Yn ddygn iawn ei ddigio wnant.
Ynfydion dewrion dyrys, Cai'r fyddin frenin ar frys. Er bod eu mawr bechodau,
Eu ffyrdd diffaith, a'u gwaith gau, Ni wedir, yn ofnadwy; Ond, er hyn, o honyn' hwy Codai Nêr, i'w fwynber fawl, Rai gwŷr o ddawn ragorawl. Un oedd yn ol calon Naf, Am hynny mi a'i henwaf.
Pan ydoedd byddinoedd Ion, Filoedd mewn mawr ryfelon, O gylch ar eu hamgylchu Gan greulon elynion lu :
Mewn mawrchwydd llidiawgrwydd dig, On'd gweision anëo'n y'ch? Sal wladwyr i Saul ydych? Glywodd neb am Golïath? Myfi wyf o gawri Gath. Ac yna od oes gennych Wr nerthol gwrol a gwych, Anfonwch; ef a m' finnau Yn dêg ymladdwn ein dau. Y gwr mewn arfau a gyll Yr orchest a'r frwydr erchyll, Ei genedl fyth fo'n gweini Y llall a'i hennillo hi. Gwrid yw iddynt, gwaradwyddais Eu llu â tharan fy llais : Mawr fawl gaf am ryfelu, Neb ail mewn arfau ni bu. Wrth glywed, gweled y gwr, Wrth eiriau'r anferth arwr, Y brenin a'i fyddin fawr A darfwyd mewn ofn dirfawr. Trwy eu miloedd nid oedd dyn I'w gael wynebai'r gelyn; Hir g'wilydd (chwarddai 'r gelyn) I holl wŷr Israel yw hyn. Mal hyn y bu 'r gelyn gau, Wedd addig, amryw ddyddiau. Ymlonnant, lu melynwawr, Mewn gwledd a gorfoledd fawr. Ennyd credai'r dorf annuw Mai nid Ion, Dagon yw Duw. Diwegi mawr yw Dagon, Digymmar uwch daear dòn.
Er trwst blin y fyddin fall, Duw Ior ni âd i arall
Ei gu Enw a'i ogoniant; I'w syndod gwybod a gânt.
Hawddgar fugail gwâr gwraw], A'i gain wedd fal y gwyn wawl, Trwy wres a thrwy dês y dydd Odiaethawl gu ymdeithydd
A ddaeth; pan gyrhaeddawdd o, Gwas Ion, yn agos yno; Yno rhwng y byddinoedd, Bloeddiadau, trwst arfau oedd. Y duwiolaf wr dilys Gyffrôdd, fe redodd ar frys; Fe redai at ei frodyr,
Drwy barch i gyfarch y gwŷr. Arswyd oedd drwy 'r holl wersyll Rhag y cawr hagrwawr a hyll;
« PoprzedniaDalej » |